Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut cefais i fy mywyd yn ôl diolch i bresgripsiynu cymdeithasol

Dydd Gwener, 27 Tachwedd 2020 Nick

Dyma flog gan Nick o Ystradgynlais ynghylch sut y gwnaeth ein prosiect pregsgripsiynu cymdeithasol ei roi ar y trywydd cywir wedi iddo ddioddef argyfwng iechyd meddwl.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Daeth pethau i fwcl i fi adeg Nadolig 2016. Roeddwn i wedi dioddef tipyn o anlwc, gan gynnwys y DWP yn fy natgan yn ddigon iach i weithio pan nad oeddwn i, a diagnosis o dementia fasgwlaidd yn fy mam. Roedd popeth wedi mynd braidd yn ormod ac roeddwn i wedi cyrraedd y gwaelod, i’r pwynt lle roeddwn i’n ystyried cymryd fy mywyd fy hun.
Diolch i’r drefn, fe es i at y Meddyg Teulu ym mis Ionawr 2017, a chefais ddiagnosis o ordbryder ac iselder. Cefais gyngor gan y doctor i dderbyn cwnsela. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, cefais fanylion Mind Ystradgynlais gan Uned Iechyd Meddwl yn fy ysbyty lleol.
Yno, cefais gwrdd â gweithiwr o’r enw Carol. Roedd hi’n gefnogol iawn, ac fe wrandawodd hi ar bopeth a ddywedais i. Roedd hi’n deall fy mod i’n teimlo’n ofnadwy o bryderus ac esboniodd hi am y cyrsiau a’r rhaglenni gwahanol oedd gan Mind Ystradgynlais i’w cynnig, ac un o’r rhain oedd rhagnodi cymdeithasol.


Ffordd o helpu pobl i ddelio gyda’r pethau mewn bywyd sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n anhapus neu’n bryderus yw rhagnodi cymdeithasol.

Mae mynd i’r afael â’r pethau hyn yn cymryd ychydig o amser a chefnogaeth ychwanegol, felly mae rhagnodi cymdeithasol yn eich helpu chi i ddod o hyd i nifer o weithgareddau a chefnogaeth yn eich cymuned leol er mwyn gwella pethau.
Drwy gydol y prosiect rhagnodi cymdeithasol, cefais fy nghyfeirio at nifer o weithgareddau gwahanol sydd wedi bod o help i fi.


Roedd y Grŵp Dynion yn arbennig o bwysig i fi: nifer o ddynion gwahanol o gefndiroedd amrywiol, o oedrannau gwahanol, yn dod at ei gilydd i wella eu hiechyd meddwl.

Yn y sesiynau hynny, cawsom gyfle i greu, fel gwers gwaith coed, er bod cyfle hefyd i siarad a sgwrio gyda phobl eraill os nad oes awydd gyda chi i ymuno yn y gweithgaredd.
Grŵp arall oedd yn ddefnyddiol iawn i fi oedd y grŵp crefft rheolaidd, oedd yn cael ei arwain gan fyfyriwr celf lleol. Cefais gip ar weithgareddau newydd sbon, fel crochenwaith, gwneud cardiau, a gwaith boglynnu, sef embossing.
Drwy gydol y prosiect, rwy’ wedi gwneud ffrindiau newydd, ac mae hynny’n cynnwys y staff yn fy nghangen leol o Mind. Mae’n fwy nag ail deulu i fi, ac mae eu cefnogaeth wir wedi fy ngalluogi i i flodeuo, sy’n welliant mawr ar y nerfusrwydd roeddwn i’n ei deimlo wrth gyfarfod â phawb am y tro cyntaf. Cyn derbyn eu help a’u cyngor, roeddwn i’n teimlo’n swil ac yn unig, a doedd dim hunanhyder gen i. Roeddwn i wastad yn ceisio rhoi fy hun i lawr. Roedd y prosiect wedi ehangu fy ngorwelion, heb os nag ni bai, ac rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus.
Mae’r pandemig yn amlwg wedi cyfyngu ar yr hyn y gallwn ni wneud erbyn hyn, ond mae’r staff yn Mind Ystradgynlais wedi bod yn arbennig, gan addasu sesiynau i ni allu ymuno o bell, gan gysylltu â phawb.
Rwy’ mor falch fy mod i wedi cymryd y cam o ddechrau rhagnodi cymdeithasol. Does dim syniad gen i ble y bydden i hebddo.

 

Sut mae ein Rhaglen Ragnodi Cymdeithasol yn addasu i argyfwng y coronafeirws

Mae’r ymateb i bandemig y coronafeirws yn golygu ein bod ni gyd yn gorfod byw’n wahanol, ac mae hyn yn arbennig o wir i bobl sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl. Rydych chi’n dweud wrthym fod gennych bryderon ynghylch incwm a bywoliaeth, yn ogystal â phryderu’n arw ynghylch y risg o ddal y coronafeirws. Er nad yw gweithwyr cyswllt yn gallu cyfarfod wyneb yn wyneb ag unrhyw un ar hyn o bryd, maen nhw’n gallu trafod dros y ffôn neu ar lein. Maen nhw’n dal yn gallu helpu darganfod beth sy’n mynd ymlaen yn eich bywyd i wneud i chi deimlo’n isel ac yn bryderus, a chynnig y gefnogaeth a’r strategaethau sydd angen i’ch helpu.


Mwy o wybodaeth.

 

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig