Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Fy nhad a fy iechyd meddwl

Dydd Iau, 18 Mehefin 2020 Catrin

Ar Sul y Tadau, dyma flog gan Catrin* o’r Gorllewin sy’n sôn am y ffordd roedd ei thad yn ei chefnogi hi gyda'i hiechyd meddwl, a sut mae hi’n ymdopi ers iddo farw.

 

Rhybudd cynnwys: Mae'r blog yma'n trafod cam-drin.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Drwy gydol fy mywyd, mae fy nhad wedi bod yn arwr i fi. Yn blentyn, cefais fy ngham-drin gan bartner fy mam. Doeddwn i ddim yn teimlo bod fy mam yn fy ngharu i a doeddwn i ddim eisiau unrhyw beth oddi wrth unrhyw un heblaw am dad.  Cwtsh, cariad, teimlo fel plentyn nad oedd yn gorfod ymdopi gyda chael ei cham-drin. Fy nhad oedd yr unig berson oedd yn gallu rhoi hyn i fi.

Fel arddegwr, roeddwn i’n llawn atgasedd tuag at fy mam. Doeddwn i ddim yn gwrando arni bellach, a dyna pryd oedd rhaid i fi fynd i weld seicotherapydd i blant i gael cymorth a chefnogaeth, ac i siarad â rhywun oedd yn deall ac yn credu pobl oedd wedi cael eu cam-drin. Roedd rhaid i fi siarad â rhywun. Roeddwn i’n llawn casineb a dicter, ac roeddwn i wedi blino o gael fy anwybyddu a chael y bai am bethau. Roedd yn hen bryd i fi gael dweud fy nweud. Soniais i wrth fy nhad am y peth, ac roedd e’n fy nghredu i. Roeddwn i’n gallu siarad ag e am y peth, felly es i i fyw gyda fe.  Roeddwn i’n dal yn ofnus bod partner fy mam dal i fod allan yno’n rhywle, a doeddwn i byth yn gwybod ble oedd e. Roeddwn i’n cael pyliau o banig a hunllefau amdano. Cefais sesiynau cwnsela, ac er ei fod yn brofiad trawmatig siarad amdano, roedd yn teimlo’n beth da cael cymorth a chefnogaeth.  Roedd Dad bob amser yno i fy nghefnogi i.

Byddai Dad bob amser yn rhoi cwtsh i fi a siarad am y peth i helpu fi i ymlacio.

Pan roedd fy ngorbryder yn wael iawn, neu’ pan oeddwn i’n dioddef pyliau o banig, byddai Dad bob amser yn rhoi cwtsh i fi a siarad am y peth i helpu fi i ymlacio. Roedd ganddo ffordd o fy nghysuro i a sicrhau nad oedd unrhyw beth tebyg yn mynd i ddigwydd i fi eto.  Byddai bob amser yn gwybod sut i wneud i fi wenu a chwerthin eto. Byddai’n dweud jôc, ac yna fy ngoglais i nes bod gwên ar fy wyneb eto. Ei hoff bethau i goginio oedd brecwast llawn blasus neu Spaghetti Bolognese, gyda pheli cig cartref. Ambell waith, roedden ni’n mynd i’r dref i brynu pethau, cael tecawê a gwylio ffilmiau. Roedden ni arfer mwynhau cwtsio ar y soffa a chofio’r amseroedd da gyda’n gilydd.

Yn 2006, bu farw fy nhad. Bu’n brofiad mor erchyll i fi golli’r unig berson oedd yn fy amddiffyn i. Roeddwn i wir yn caru Dad. Pan mae pen-blwyddi, Sul y Tadau a’r Nadolig yn dod, mae’n brifo gan ei fod e ddim yma i ddathlu gyda fi mwyach. Rwy’ bob amser wedi teimlo’n euog na es i gyda fe pan fu e farw, ond rwy’n gwybod na fyddai e wedi eisiau hynny.  Rwy’n gwybod y byddai e eisiau i fi fod yn hapus. Rwy’ bob amser wedi troi ato am gymorth neu gyngor. Ar Sul y Tadau, fel bob blwyddyn, byddaf yn ymweld â’r bedd ac yn dweud wrtho fe fy mod yn ei garu a fy mod yn gweld ei eisiau e’n fawr. Pan fyddaf ar lan y bedd rwy’n siarad gyda fe, yn dweud wrtho fe beth sydd ar fy meddwl a beth rydw i wedi bod yn gwneud.

Ar ôl marwolaeth fy nhad, es i i weld cwnselydd oedd yn arbenigo mewn ymdopi â galar a loes. Bu hyn o gymorth i fi ddechrau ymdopi â’r emosiynau roeddwn i’n eu teimlo.  Dywedodd y cwnselydd galar wrtho fi ei fod yn gyffredin teimlo mor grac a thrist, a’i fod yn gysylltiedig â’r hyn a ddigwyddodd i fi dros gyfnod o flynyddoedd.  Y cyngor gorau y cefais i oddi wrth fy nghwnselydd galar oedd cofio Dad a’r holl atgofion da sydd gen i o dreulio amser gyda’n gilydd. Meddwl am yr holl gyngor da a’r help y cefais i ganddo. Pan rwy’n cofio’r adegau da, mae gwên ar fy wyneb a theimlad cynnes yn fy nghalon. Weithiau, rwy’ hyd yn oed yn chwerthin yn uchel. Dywedodd fy nghwnselydd wrthyf i am gredu bod fy nhad wedi fy ngharu i, ac yn dal i fy ngharu, a thrio gwneud e’n falch ohonof i.

Nawr, pan mae fy iechyd meddwl yn dioddef, rwy’n trio cofio’r cyngor rhoddodd Dad i fi.

Nawr, pan mae fy iechyd meddwl yn dioddef, rwy’n trio cofio’r cyngor rhoddodd Dad i fi. Dywedodd y dylwn i geisio bod yn hapus bob amser, a pheidio gadael i unrhyw un dynnu’r wên oddi ar fy wyneb. Roedd e bob amser yn credu ynof i ac roedd e arfer dweud fy mod i’n berson arbennig, gyda chalon fawr. Rwy’n ceisio cadw’r geiriau hynny yn fy meddwl pan fo pethau’n mynd yn anodd iawn, ac maen nhw wedi bod yn anodd iawn.

Saith mlynedd yn ôl, cefais drawiad ar fy nghalon a threulio deufis a hanner yn yr ysbyty. Cefais ddiagnosis o left-ventricular non compaction cardiomyopathy (LVNC) felly roedd rhaid i fi gymryd pethau’n araf deg.  Dechreuais deimlo’n bryderus am ddechrau byw eto, gan achosi gorbryder ac iselder gwael. Roeddwn i’n bryderus iawn ynghylch mynd adref, ac yn poeni y byddai’n digwydd eto. Roeddwn i’n teimlo’n unig, yn isel ac yn bryderus. Weithiau, roeddwn i hyd yn oed yn ei chael yn anodd anadlu. Hyd yn oed bryd hynny, roeddwn i’n ceisio meddwl am Dad yn edrych drosof i ac yn gofalu amdanaf i. Mae’n deimlad cysurus iawn. Rwy’n gwybod bod siarad am hyn i gyd yn swnio’n rhyfedd, ac weithiau’n peri tristwch, ond rwy’n gwybod ei fod e gyda fi a’i fod e eisiau i fi deimlo’n hapus.  

Rwy’ wedi derbyn gymaint o gymorth a chefnogaeth i gyrraedd lle’r ydw i heddiw, ac rwy’n hynod hapus ac yn ddiolchgar am hynny, ond dydw i ddim 100% yno eto. Rwy’n cyrraedd yn araf deg. Mae gen i bartner sydd fel yr aur - mae’n gallu fy helpu i ac mae’n dweud y pethau cywir pan rwy’n cael diwrnodau isel iawn. Mae’n haeddu medal. Mae’n mynd i fod yn daith hir, ond rwy’n gwybod bod fy nhad yno gyda fi bob cam o’r ffordd. Ar Sul y Tadau, byddaf yn meddwl yn arbennig am fy nhad cariadus, gofalgar gyda gwên ar fy wyneb, gan godi gwydryn er cof amdano.

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig