Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Rhagnodi Cymdeithasol

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae pawb angen help, weithiau. Ffordd yw rhagnodi cymdeithasol o helpu pobl i ymdopi gyda'r pethau yn eu bywydau sy'n gallu eu gwneud yn anhapus neu'n bryderus. Mae talu sylw i bethau fel hyn yn cymryd ychydig yn fwy o amser ac o gefnogaeth. Gall rhagnodi cymdeithasol eich helpu chi i gael amrywiaeth eang o weithgareddau a chefnogaeth yn eich cymuned chi i’ch helpu i droi’r gornel.

Gwyliwch defnyddiwr gwasanaeth David a’i weithiwr cyswllt, Mike, yn trafod buddion rhagnodi cymdeithasol.

Ein prosiect 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ein hariannu'n i weithio gyda phedwar Mind lleol (Cwm Taf Morgannwg, Dyffryn Clwyd, Ystradgynlais ac Aberhonddu) i ganfod sut y mae rhagnodi cymdeithasol yn gallu gwella iechyd meddwl.
Prosiect peilot yng Nghymru yw hwn sydd ar gael yn ardaloedd y pedwar Mind lleol. Mae’r prosiect, erbyn hyn, yn tynnu at ei derfyn. Fodd bynnag, rydyn ni wedi bod yn gwerthuso effeithiau'r gwasanaeth, i gesio dod i ddeall yn well sut mae rhagnodi cymdeithasol yn gallu gwella iechyd meddwl.

Gwyliwch Dr Julie yn trafod effeithiau rhagnodi cymdeithasol ar iechyd meddwl gyda gweithiwr cyswllt, Rhiannon.

Rydyn ni wedi gweithio gyda Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, rhan o Brifysgol De Cymru, i ganfod beth sydd wedi’i ddysgu o gyfnod cyntaf y prosiect. Gallwch weld copi o’r hadroddiad yma.
Yn ystod y pandemig coronafeirws, daliodd y proseict i gefnogi cleientiaid dros y ffôn ac ar lein. Roedden ni dal i gasglu gwybodaeth ynghylch sut y mae'r gwasanaeth wedi helpu pobl gyda phroblemau iechyd meddwl yn yr ardaloedd hyn. Erbyn hyn, rydyn ni’n gallu dweud mwy wrthych chi am y model rhagnodi cymdiethasol a sut y mae wedi helpu pob oedd yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl.

 

Dyma ein model rhagnodi cymdeithasol:

Edrychwch beth sydd gan bobl eraill i’w ddweud ynghylch sut yr helpodd rhagnodi cymdeithasol nhw.

“Mae siarad â’r gweithwyr cyswllt wedi fy helpu i feddwl am y gwahanol ddewisiadau rydw i eisiau eu gwneud yn fy mywyd ac mae wedi fy helpu cymaint”

Rydyn ni hefyd wedi paratoi rhai adroddiadau gyda mwy o fanylion ynghylch sut yr oedd ein prosiect yn gweithio: 


Canfyddiadau gwerthuso Rhagnodi Cymdeithasol
Adroddiad ar gyfer y prosiect cyfan
Crynodeb hawdd ei ddarllen


Gallwch hefyd weld ein digwyddiad dysgu cenedlaethol, Rhagnodi Cymdeithasol ar gyfer Iechyd Meddwl:

Beth sy’n digwydd nawr?


Erbyn hyn, mae ein prosiect yn dod i ben: caeodd y gwasanaethau lleol ddiwedd Tachwedd 2021 a bydd y prosiect yn gorffen yn gyfan gwbl fis Ionawr 2022. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr hyn sydd i’w ddysgu o’n prosiect o help i wasanaethau rhagnodi cymdeithasol eraill i ddarparu’r gefnogaeth iawn i bobl sy’n cael problemau gyda’u hiechyd meddwl.
Ond, mae Mind lleol yn Aberhonddu ac Ystradgynlais yn dal i ddarparu gwasanaeth rhagnodi cymdeithasol. Bydd Mind Dyffryn Clwyd hefyd yn cyflwyno rhagnodi cymdeithasol i ardaloedd gwledig yn eu hardal ar eu bws, DORIS, o fis Ionawr 2022. Ac mae Cwm Taf Morgannwg yn dal i ddefnyddio’r un math o ddulliau i helpu pobl sydd eisiau defnyddio eu gwasanaethau llesiant.
Bydd pob Mind lleol yn gallu darparu amrywiaeth o wasanaethau eraill a fydd yn gallu eich helpu i wella eich llesiant. Os ydych chi â diddordeb yn y gwasanaeth, gallwch ganfod eich Mind lleol yma.

Cymryd rhan

Cysylltwch a’r Mind lleol yn ein prosiect i ganfod sut i gael ein gwasanaethau:


Mind Cwm Taf Morgannwg
Mind Aberhonddu a’r Cylch
Mind Dyffryn Clwyd
Mind Ystradgynlais

I gael gwybodaeth a chefnogaeth ynghylch eich iechyd meddwl nawr, ewch at ein tudalennau gwybodaeth.

Os ydych chi angen help ar frys, cysylltwch â’r Samariaid ar 116 123.

Cysylltwch â ni

I ddarganfod mwy am ragnodi cymdeithasol neu am ein prosiectau eraill, cysylltwch â [email protected] neu eich cangen leol o Mind.

Other ways to get involved

arrow_upwardYn ôl i'r brig