Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl rhwng 15 a 21 Mai 2023. Eleni, rydym yn canolbwyntio ar yr effaith y mae'r argyfwng costau byw yn ei chael ar ein hiechyd meddwl. Darganfyddwch sut y gallwch chi gymryd rhan.
Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar iechyd meddwl miliynau o bobl.
Mae ansicrwydd gorfod gwylio costau’n cynyddu yn gallu bod yn anodd. Mae poeni sut byddwn ni’n ymdopi ac yn cefnogi ein teuluoedd yn cynyddu’r pwysau. Ond i lawer ohonom, gofalu am ein hiechyd meddwl yn aml yw’r peth olaf ar ein rhestr.
Fel unigolion, fel teuluoedd, fel cymunedau – allwn ni ddim fforddio anwybyddu effaith hyn ar ein hiechyd meddwl.
Os yw hyn yn berthnasol i chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, cefnogwch Mind yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni.
Cymerwch ran yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni
Boed hynny drwy godi ymwybyddiaeth neu godi arian, gallwn roi gwybod i’n gilydd bod cymorth ar gael. Helpwch y rheini ohonom sydd ei angen i ddod o hyd i obaith drwy linell wybodaeth, gwefan a chymuned Mind ar-lein – Side by Side. Ni allwn ddatrys yr argyfwng costau byw – ond gallwn helpu ein gilydd i ymdopi.
Os yw hyn yn berthnasol i chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, cefnogwch Mind yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni.
Dod yn ymgyrchydd
Gweithiwch gyda ni er mwyn ymgyrchu ar ran pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Codi arian
O rodd fisol i redeg marathon, mae cymaint o wahanol ffyrdd y gallwch chi wneud gwahaniaeth.
Gwybodaeth
Boed yn ymwneud â deall problemau iechyd meddwl, sut i gefnogi rhywun arall neu awgrymiadau ar gyfer bywyd bob dydd, gall ein gwybodaeth eich helpu.
Cymuned Side by Side
Mae Side by Side yn gymuned gefnogol ar-lein lle gallwch deimlo’n gartrefol wrth siarad am eich iechyd meddwl a chysylltu ag eraill sy’n deall yr hyn rydych chi’n mynd drwyddo.
Cymorth yn lleol
Elusennau annibynnol yw Mind lleol sy’n gweithio ledled Cymru a Lloegr. Maent yn darparu gwasanaethau sydd wedi’u teilwra i’w cymuned leol.
“Er nad yw Mind yn gallu rhoi arian i bobl na datrys problemau tai, gallwn wrando arnynt a’u pwyntio i’r cyfeiriad iawn.”
Mae Sarah yn blogio am ei gwaith yn ateb y ffôn i bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl, a pham mae ein Llinell Wybodaeth yn brysurach nag erioed.