Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Rwy'n ymladd dros gael fy nerbyn yn ddiamod

Dydd Mawrth, 11 Mai 2021 Jasmin

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae Jasmin yn blogio i sôn sut mae rhywedd, hil a chrefydd yn effeithio ar eu iechyd meddwl.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Pan ydych chi'n berson brown, Hindŵ, anneuaidd, mae effeithiau rhywedd, hil a chrefydd ar eich iechyd meddwl yn gryfach. Mae yna bethau sy'n eich atgoffa'n gyson sut rydych chi'n wahanol, o ffurflenni monitro cyfleoedd cyfartal i'r ffordd y mae pobl yn edrych arnoch chi ar y stryd.  Yn wir, mae yna adegau pan fydda i’n difaru nad ydw i'n wryw neu fenyw wen, syth, cis, wedyn, fyddwn i ddim yn gymaint o leiafrif.   Yn ôl cyfrifiad 2011, roedd 2.5% o boblogaeth y DU yn Indiaidd ac 1.5% yn ystyried eu hunain fel Hindŵ.  Yn ôl Stonewall, roedd 1% yn ystyried eu hunan yn draws neu'n anneuaidd.  Felly, fel y gallwch ddychmygu, mae fy mywyd yn un unig.  

Roedd rhywbeth yn teimlo o’i le

Roeddwn i wedi fy ngeni'n fenyw ac ar ôl tyfu i fynnu, yn llond fy nghroen, wedi fy nhorri’n feddyliol ond yn fenyw frown hyfryd.  Ond, yng nghefn fy meddwl, roeddwn i’n gwybod fod rhywbeth bach o’i le gyda’r label “menyw”.  Rwy’n ffeminydd falch, fyd-eang, ac wedi ffieiddio erioed bod yn rhaid i 50% o’r byd brofi cymaint o erchyllterau oherwydd eu rhywedd, ond eto allai ddim galw fy hun yn fenyw.  Nid hyd yn oed mewn undod.

Mae yna eiconau anneuaidd sydd wedi fy helpu i sylweddoli fy hunaniaeth ac wedi fy ysbrydoli i fod yn ddewr wrth fynegi hynny. Ffasiwn Jonathan Van Ness. Ffeministiaeth y frenhines ddrag Hollow Eve. Y sgyrsiau ynghylch trafferthion hunaniaeth rhywedd rhwng y breninesau Bimini a Ginny Lemon ar Rupaul’s Drag Race UK. Nhw ysgogodd fi i ddod allan eleni – yn gyntaf i fy sboner hyfryd, cefnogol, ac yna i’r gweddill o'r teulu roeddwn i wedi'u dewis.  Doeddwn i ddim yn sylweddoli cymaint oedd hyn yn effeithio ar fy iechyd meddwl ac erbyn hyn mae'n teimlo fod hanner y pwysau wedi codi oddi ar fy ysgwyddau.

Sgwrs arall ar Drag Race UK oedd ynghylch diffyg cynrychiolaeth pobl ddu, hoyw, Prydeinig, ar y cyfryngau poblogaidd. Doedd hyn ddim yn drafodaeth oedd yn fy rhyfeddu o gwbl.  I mi, roedd pob un o'm heiconau roeddwn i wedi’u rhestru o'r blaen yn wyn.  Ond pam fod hyn yn cyfrif?  Mae’n cyfrif oherwydd, weithiau, rwy’n teimlo mor ofnadwy o isel ac unig. Dydw i erioed wedi cyfarfod na chlywed am unrhyw un fel fi, rhywun sy’n deall mewn gwirionedd fy holl brofiadau.  Mae gan fy holl eiconau anneuaidd y fraint o fod yn wyn.  Rwy’n gweld sut mae pobl yn edrych arna i oherwydd fod fy nghroen yn frown.  Rwy’n teimlo beirniadaeth y gymuned Indiaidd Brydeinig am nad ydw i’n “gonfensiynol”. Rwy’n clywed tôn y llais wrth ofyn y cwestiynau, yn amrywio mewn angerdd rhwng “O ble wyt ti’n dod?”  a “pam nad ei di'n ôl i lle dylet ti fod?”

Ar ben bod yn Hindŵ Indiaidd, rhaid cofio am fy nghyflyrau iechyd meddwl: anhwylder personoliaeth ffiniol ac iselder, Rwy wedi sôn am yr unigrwydd a’r iselder, ond hefyd mae yna ofn.  Rwy’n fenyw o ran corff ac enw, ac felly’n agored i’r holl drais a’r casineb at wragedd sy’n wynebu merched, eto rwy’n mynnu fod fy rhagenw'n ‘nhw’.  

Rwy’n mynnu fy mod yn wahanol ac yn fwriadol yn sefyll allan hyd yn oed fwy nag ar hyn o bryd.  Mae yna gywilydd mewn bod yn ddafad ddu (neu frown) fy nheulu, yr unig un ‘cwiar', yr unig un sydd wedi gwrthod ei rhywedd, felly mae yna berygl y gallai pob sgwrs gyda nhw wneud i mi lefain mewn rhwystredigaeth nad ydyn nhw'n fy neall, neu boeni y byddan nhw'n fy ngwrthod oherwydd fy mod i'n ormod a ddim digon yr un pryd.  Pan ddeuais i allan i fy mam, eto, fel anneuaidd / panrywiol, fe ddywedodd "cyn belled â dy fod ti'n hapus ac yn iach, dim ond hynna sy'n bwysig." Dydw i byth wedi taclo gweddill fy nheulu.  Efallai ei fod yn rhywbeth na wna i fyth ei rannu.

Y frwydr barhaus

Does gan rai pobl gydag anhwylder personoliaeth ffiniol ddim syniad cryf o'u hunaniaeth ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei amau bob diwrnod.  Efallai y byddai’n haws i mi a ‘nheulu pe byddwn yn ystyried fy hun yn fenyw frown syth? A ydw i’n ceisio bod yn unigryw?  Yn ceisio bod yn ddiddorol? Mae gen i sboner, felly, pam lai? Mae fy sgwrs fewnol yn ceisio llethu fy ngwir hunan, ac mae’n frwydr barhaus rwy’n ofni na fydda i’n ei hennill.

Er fy mod i, yn y pendraw, yn llawer hapusach gyda'm rhagenw bendigedig ‘nhw’, rwy’n dal yn unig iawn.  Mae yna obaith pan mae pobl yn defnyddio’r term “menywod” mewn trafodaethau ffeministaidd sy’n gwneud i mi deimlo fy mod yn cael fy nghynnwys.  Mae yna bobl o liw sy'n fy ysbrydoli a phobl sy'n anneuaidd neu'n agored ynghylch eu problemau iechyd meddwl, ond fe fyddai'n braf iawn pe byddwn i'n adnabod hyd yn oed dim ond un person arall sydd yn cwmpasu pob un o'r agweddau hynny. I rannu fy llais dros fy math i o amrywiaeth.  Ond, wyddoch chi, os nad yw hynny i’w gael, yna efallai mai’r blog hwn yw fi’n camu i’r esgidiau hynny ac yn dechrau eu gwisgo.  Fe fyddaf i'n llais dros bobl fel fi.  Fe fydda i'n ymladd dros gael fy nerbyn yn ddiamod. Ac efallai, rhyw ddiwrnod, y byddaf i’n canfod rhywun brown, Hindŵ ac anneuaidd i ymladd gyda mi.  

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig