Therapi siarad: Sut y gwnaeth cadair newid fy mywyd
Dyma Beth, o Gaerdydd, yn trafod sut mae therapi siarad wedi ei helpu i reoli ei hemosiynau.
Nodyn oddi wrth Mind Cymru:
Mae nifer ohonoch wedi dweud wrthym fod therapïau siarad fel cwnsela a seicotherapi o gymorth mawr. Ond dydy nifer fawr o bobl o hyd ddim yn derbyn y driniaeth sydd angen arnyn nhw, pan fo angen arnyn nhw.
Mae derbyn y therapi cywir ar yr adeg gywir yn hollbwysig - mae’n gallu helpu rhywun i reoli eu cyflwr yn well, ac mewn nifer o achosion, i wella’n gyfan gwbl. Dylai therapïau siarad fod ar gael i bawb o fewn 28 diwrnod o gael eu cyfeirio, a dylai pawb allu dewis eu therapi.
Rydyn ni’n galw am y canlynol:
• Dewis cyflawn o therapïau seicolegol wedi’u seilio ar dystiolaeth, ar gael i bawb
• Darpariaeth gynyddol o therapïau seicolegol i bawb
• Mwy o ymchwil a thystiolaeth well yn sylfaen i therapïau seicolegol.
Therapi siarad: Sut y gwnaeth cadair newid fy mywyd
Wrth i fi eistedd yn y gadair esmwyth gyferbyn â fy nghwnselydd newydd, roeddwn i’n gwybod y byddai’r sedd yn newid fy mywyd am byth.
Doeddwn i erioed wedi meddwl y bydden i’n berson oedd yn mynd i sesiynau cwnsela i siarad am fy nheimladau. Er bod fy nheulu a fy ffrindiau yn meddwl fy mod i’n methu stopio clebran wrth dyfu i fyny, roeddwn i bob amser yn sôn am bethau hurt, nid pethau oedd o bwys.
Pan oeddwn i yn fy arddegau, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd delio ag emosiynau dwys, amrywiadau yn fy hwyliau, dicter, tristwch, teimlo fy mod i’n cael fy eithrio, a pharanoia bod pobl bob amser yn siarad amdanaf i.
Roeddwn i’n teimlo pethau i’r byw, oedd yn achosi pob rhan o fy nghorff i fynd yn boenus ac yn golygu fy mod i’n cael fy llethu can fy nheimladau. Byddwn i’n mynd mewn i fy ystafell, yn cau’r drws yn glep a chwarae cerddoriaeth roc flin yn uchel wrth i fi grïo yn fy nghlustog. Weithiau, byddwn i’n ceisio rhyddhau fy nheimladau gan ysgrifennu barddoniaeth neu ysgrifennu’n flin yn fy nyddiadur, unrhyw beth i gael y teimladau allan. Doeddwn i ddim yn ymddiried ddigon yn unrhyw un i siarad am y peth yn rhydd.
Yn fy nauddegau cynnar, roeddwn i’n defnyddio’r un dull (cerddoriaeth flin a chrïo yn fy nghlustog) nes i fi symud mewn gyda fy nghariad ar ôl pedair blynedd. Roedden ni’n byw i ffwrdd o adref, mewn swyddi, ac mewn lle gwahanol i’n teuluoedd. Felly pan es i nôl at fy ffordd arferol o ymdopi, roedd y peth yn ddryslyd iddo a dechreuodd boeni amdanaf i. Roedd e’n meddwl fy mod i’n bod yn ddramatig, ac yn y man, dechreuais i deimlo paranoia. Yn y diwedd, aeth y newidiadau yn fy hwyliau, fy mharanoia, fy ansicrwydd a fy ymddygiad anghenus yn ormod iddo, a daeth y berthynas i ben. Fodd bynnag, cyn i ni orffen, ei weithred olaf o garedigrwydd oedd awgrymu y dylwn i fynd i siarad â rhywun ynghylch sut roeddwn i’n teimlo. Roeddwn i’n meddwl ei fod e’n bod yn nawddoglyd ond ei fwriad e oedd ceisio fy helpu i allan o dwll emosiynol.
Yn fuan wedyn, symudais i nôl at fy rheini, cefais i swydd newydd ac yn llawn nerfusrwydd, es i at y meddyg teulu. Gofynnais i weld cwnselydd trwy’r GIG, ond doedd fy meddyg teulu ddim yn rhy obeithiol ac awgrymodd y byddai’n syniad i fi weld rhywun yn breifat, rhag ofn nad oeddwn i’n gallu mynd ar restr aros y GIG. Chefais i byth wybod a oeddwn i ar y rhestr ai peidio.
Felly yn lle aros, penderfynais gymryd y cam cyntaf. Dechreuais i ymchwilio i ambell gwnselydd lleol, ac yn y diwedd des i o hyd i rywun oedd yn apelio ataf i ac fe wnes i apwyntiad.
Cyn mynd am therapi siarad, roeddwn i’n nerfus tu hwnt. Mewn ffilmiau, mae cymeriadau sy’n mynd i weld cwnselydd yn siarad mor huawdl am yr hyn maen nhw’n ei deimlo a pham maen nhw yn yr ystafell.
Doeddwn i ddim yn gallu cysgu yn y diwrnodau cyn yr apwyntiad, yn poeni am fy ateb i’r cwestiwn ‘pam wyt ti yma?’.
Roeddwn i wir eisiau i rywun ddod gyda fi, ond doeddwn i ddim yn ddigon dewr i ofyn. Ddywedais i ddim wrth neb fy mod i’n mynd i sesiwn gwnsela - ddim fy mam, na fy llystad, na fy chwaer. Roedd gormod o gywilydd arnaf i.
Pan gyrhaeddais fy apwyntiad, roeddwn i’n crynu fel deilen. Roeddwn i’n swp sâl ac yn cadw meddwl bod pobl oedd yn llawer gwaeth na fi oedd angen y cwnsela. Pan alwyd fi, eisteddais i wyneb yn wyneb ag Anna. Roedd hi mor garedig a chroesawgar ac roedd ganddi lais melfedaidd! Pan ofynnodd sut roeddwn i’n teimlo, dechreuais i grïo’n ddi-stop.
Roedd clywed bod rhywun eisiau gwybod sut roeddwn i’n teimlo, ac yn fodlon gwrando, yn gymaint o ryddhad.
Mae Anna wedi fy helpu i drwy gymaint yn fy mywyd, ac mae hi’n parhau i wneud hynny. Cefais help ganddi i gael diagnosis o Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (BPD) oedd yn esbonio fy emosiynau dwys, y newidiadau yn fy hwyliau, diffyg hunaniaeth ac ymddygiad cymhellol. Rhoddodd hi weithgareddau i fi gael dilyn er mwyn asesu sut roeddwn i’n meddwl a sut y gallwn i feddwl yn wahanol. Rhoddodd hi'r gallu i fi agor i fyny gyda phobl sy’n agos i fi, a dweud wrthyn nhw beth sydd wir yn mynd ymlaen. Mae hi wedi fy nghefnogi i ar bob cam o’r ffordd, ac yn parhau i fod yno hyd heddiw.
Hyd yn oed yn ystod pandemig COVID19 a'r cyfnod cloi, mae hi wedi bod yno i fy nghefnogi. Roeddwn i’n bryderus tu hwnt pan gyhoeddwyd y cyfnod cloi na fyddwn i’n gallu gweld Anna na siarad â hi. Fodd bynnag, cefais wybod ganddi’n gyflym y byddai hi’n cynnig apwyntiadau dros y ffôn yn hytrach na rhai wyneb yn wyneb. Mae wedi bod yn gymorth mawr trwy’r argyfwng hwn. Mae fy hwyliau wedi bod dros y lle i gyd ac rwy’ wedi bod yn teimlo’n gymharol isel, ond mae cael siarad ag Anna wedi bod o gymorth mawr.
Wyth mlynedd yn ôl, doedd dim syniad gen i y byddai mynd i weld Anna wedi bod yn gymaint o help. Byddwn i’n dweud wrth bawb am beidio â dibrisio gwerth cadair yn eich bywyd.
Mae Beth yn byw yng Nghaerffili gyda'i chariad Karl a'u ci, Maisey. Mae hi’n blogio'n aml am iechyd meddwl at Just A Square Peg (www.happiful.com/a-square-peg-beths-story) ac mae hi'n joio rhedeg gyda chlwb lleol.
Information and support
When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.
Share your story with others
Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.