Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut daeth Balchder i Bowys

Dydd Mawrth, 14 Chwefror 2023 Jo

Mae Jo, o Mind Canolbarth a Gogledd Powys, yn esbonio sut y daeth y gymuned leol ynghyd ar gyfer parêd Pride cyntaf erioed Powys.

Beth bynnag yw eich hunaniaeth, rydym ni yma i’ch dathlu chi. Ac i frwydro dros eich iechyd meddwl.

Dyna pam rydyn ni’n nodi Mis Hanes LHDT+.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae Mind Canolbarth a Gogledd Powys wedi bod yn rhedeg grŵp cymorth cymheiriaid LHDTC+ ers 2017.  Sefydlwyd y grŵp ar ôl nodi’r angen i ddarparu lle diogel, cefnogol i bobl sy'n ystyried eu bod yn LHDTC+ i gwrdd â chyfoedion, gan alluogi pobl i drafod y materion yr oeddent yn eu hwynebu a oedd yn effeithio ar eu hiechyd meddwl, lleihau unigedd a gwella ymdeimlad o lesiant pobl.  I ddechrau, roedd y grŵp yn cyfarfod yn fisol, gan gynyddu i unwaith bob pythefnos yn eithaf cyflym, ar gais yr aelodau.

"Roedd yr aelodau eisiau codi ymwybyddiaeth o fod yn unigolyn LHDTC+ ym Mhowys a helpu i leihau'r stigma cysylltiedig ac i leddfu effeithiau straen grwpiau lleiafrifol."

Fel grŵp dan arweiniad cyfoedion, roedd yr aelodau eisiau codi ymwybyddiaeth o fod yn unigolyn LHDTC+ ym Mhowys a helpu i leihau'r stigma cysylltiedig ac i leddfu effeithiau straen grwpiau lleiafrifol.  Gwahoddodd y grŵp swyddog cyswllt LHDTC+ yr Heddlu lleol i siarad, a wnaeth greu cysylltiadau da a hyrwyddo diogelwch.  Aeth y grŵp hefyd i ddangosiadau ffilmiau a thrafod pynciau penodol y gofynnwyd amdanynt gan aelodau’r grŵp.  Bu’r grŵp hefyd yn gweithio gyda GIG Cymru i wella gwasanaethau iechyd rhywiol ym Mhowys, drwy ymgynghoriad.  Daeth 46 o bobl i'r grŵp yn ystod yr ychydig flynyddoedd cyntaf.

 

Dan arweiniad gweithiwr LHDTC+ Mind Canolbarth a Gogledd Powys, Shaun, roedd y grŵp yn frwd dros leihau stigma a sicrhau bod y rhai oedd ei angen yn gallu cael cymorth.  Yn 2019, dechreuodd trafodaethau ynghylch cynnal picnic Pride.  Yna, daeth y pandemig!  Er bod yn rhaid i’r picnic gael ei ohirio, yn ystod y flwyddyn ganlynol tyfodd y cynlluniau a chyflogwyd Cydlynydd Pride i weithio ochr yn ochr â’n gweithiwr LHDTC+.  Buom yn llwyddiannus mewn rhai ceisiadau bach am arian i gefnogi’r prosiect a gweithio’n galed i wireddu gweledigaeth y grŵp.

Ar ddydd Sadwrn, 16 Gorffennaf 2022, Llandrindod oedd cartref ein digwyddiad nodedig ym Mhowys wrth i aelodau a chyfeillion y gymuned LHDTC+ orymdeithio i ddathlu digwyddiad agoriadol Powys Pride.  Daeth dros 400 o bobl i ddathlu parêd Pride cyntaf erioed Powys.

 

Dechreuodd y diwrnod am ganol dydd gyda gorymdaith o amgylch y llyn cyn cyrraedd Gerddi'r Deml ar gyfer yr ŵyl. 

Roedd yr ŵyl yng Ngerddi’r Deml yn cynnwys amrywiaeth o berfformiadau, areithiau, stondinau a chefnogaeth o bob cornel o’r gymuned LHDTC+ ym Mhowys.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys nifer o stondinau gan sefydliadau ar draws Powys megis GIG Cymru, Canolfan Argyfwng Teulu Sir Drefaldwyn, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, Geidiaid Sir Drefaldwyn, Umbrella Cymru, a llawer yn cynnig cyngor i fynychwyr ac yn dangos undod â'r gymuned.

Roedd stondinau artistig hefyd yn chwarae rhan, gyda cherddoriaeth, darlleniadau barddoniaeth ac arddangosfa yn croniclo hanes hawliau pobl LHDTC+ ym Mhowys.

Gyda'r nos, symudodd yr adloniant i'r Pafiliwn.  Cynhaliodd y Pafiliwn ddigwyddiad â thocynnau yn cynnwys yr artistiaid drag Polly Amorous a Pixie Perez, teyrnged Britney Spears Absolute Britney, a cherddoriaeth gan y DJ Madame Twisted.

 

"Mae digwyddiadau fel hyn mor hanfodol i gymuned, i glywed lleisiau a safbwyntiau eraill sy’n ein sicrhau nad ydyn ni ar ein pennau ein hunain."

Dywedodd gwirfoddolwr Pride Powys, Ivy : “Mae dweud fy mod i’n falch iawn o sut mae hi wedi mynd yn dweud rhy ychydig, doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl ond allwn i byth fod wedi dychmygu rhywbeth fel hyn.”

“Ces i fy magu ym Mhowys, a threuliais i 15 mlynedd yn ansicr o fy hunaniaeth, gan feddwl mai fi oedd yr unig un oedd yn teimlo fel hyn.  Dyna pam mae digwyddiadau fel hyn mor hanfodol i gymuned, i glywed lleisiau a safbwyntiau eraill sy’n ein sicrhau nad ydyn ni ar ein pennau ein hunain ac sy’n caniatáu i ni fod yn ein plith ein hunain gyda’n gilydd, yn enwedig mewn cymunedau gwledig mwy ynysig.”

"Roedden ni’n gwybod y byddai’n wych, ond mae gweld y cyfan yn dod at ei gilydd fel yna yn syfrdanol.”

“Rydyn ni wedi ein llorio’n llwyr gan ba mor dda yr aeth popeth ar gyfer y Powys Pride cyntaf erioed, pan ddaeth tua 400 o bobl allan i ddangos eu cefnogaeth a chael hwyl.  Roedd yr awyrgylch yn wahanol i unrhyw beth rydw i wedi’i brofi ym Mhowys, a gwn i ei fod yn golygu cymaint i gynifer o bobl eu bod wedi gallu cael digwyddiad fel hwn yn eu sir enedigol.”

“Roedd hefyd yn dynfa fawr i bobl y tu allan i Bowys, gyda phobl yn teithio o bob cornel o Gymru.  Roedden ni’n gwybod y byddai’n wych, ond mae gweld y cyfan yn dod at ei gilydd fel yna yn syfrdanol.”

 

Mae eich Mind lleol yma i chi. Ffeindiwch eich Mind agosaf heddiw. 

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig