Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Mis Hanes LHDT+

Beth bynnag yw eich hunaniaeth, rydym ni yma i’ch dathlu chi. Ac i frwydro dros eich iechyd meddwl.

Dyna pam ein bod yn nodi Mis Hanes LGBT+. Mae’n digwydd bob mis Chwefror yn y DU.

Dyma’r mis pryd rydym ni’n dathlu hanes cymunedau LGBTQIA+. Y cynnydd sydd wedi’i wneud. Straeon pobl. A llawer o hunaniaethau cwbl wahanol.

Neidiwch i gefnogaeth

Trigger Warning: on this page, we mention hate crimes committed against LGBTIQ+ communities

Pam mae Mis Hanes LGBT+ yn bwysig

Mae Mis Hanes LGBT+ yn fis sy’n bwysig i ni. Mae dathlu pob rhan o bwy ydym ni yn hanfodol i’r frwydr dros iechyd meddwl. A’r mis hwn, rydym ni’n gwneud hynny!

Mae’n fis lle gall pob un ohonom gofio’r bobl a frwydrodd dros hawliau LGBTQIA+ yn y gorffennol. Mae’n gyfle i bobl o bob oed ddysgu mwy am hanes cyfoethog cymunedau LGBTQIA+. Ac mae’n gyfle i gofio pa mor bell rydym ni wedi dod dros y blynyddoedd.

Iechyd meddwl LHDT+

Mae Mis Hanes LGBTQIA+ hefyd yn gyfle i roi sylw i straeon pobl am eu hiechyd meddwl.

Nid yw bod yn LGBTQIA+ yn achosi problemau iechyd meddwl. Ond mae rhai pethau y gallech chi eu profi fel unigolyn LGBTQIA+ yn gallu eich gwneud chi’n fwy tebygol o gael problemau iechyd meddwl.

Dyma rai o'r pethau y gallech chi brofi os ydych chi’n LGBTQIA+:

  • Homoffobia, deuffobia a thrawsffobia
  • Profiadau o stigma a gwahaniaethu
  • Profiadau anodd o ran dod allan
  • Arwahanrwydd cymdeithasol, allgáu a chael eich gwrthod
  • ‘Therapi trosi’
  • Anawsterau wrth gael y gofal iechyd sydd ei angen arnoch am resymau megis gwahaniaethu, neu restrau aros hir ar gyfer triniaeth rhywedd os ydych chi'n drawsryweddol

Yn wir, oherwydd y materion hyn, mae pobl LGBTQIA+ rhwng 2 a 3 gwaith yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl.

Ac mae llawer o bobl ifanc yn profi diffyg amgylcheddau cynhwysol – o’r cartref i’r ysgol a’r tu hwnt. Mae bron i chwarter y bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn dweud eu bod yn LGBTQIA+.

Mae’r effaith y mae gwahaniaethu ac ynysu’n eu cael ar iechyd meddwl pobl LGBTQIA+ yn glir, ac yn bosibl eu hosgoi. Dyna pam mae angen i ni i gyd wneud mwy i sicrhau bod pethau’n newid – er gwell.

Cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun.

Os ydych chi’n LGBTQIA+ ac yn ei chael hi’n anodd ymdopi, mae gennym wybodaeth ac awgrymiadau i chi ar ein gwefan.

Two-thirds (64%) of respondents had experienced anti-LGBT+ violence or abuse in Galop’s 2021 Hate Crime report

Two in five transgender people have experienced a hate crime or incident because of their gender identity

Participants from Galop’s study indicated that they developed mental health issues such as depression and anxiety

Edrych yn ôl ar gerrig milltir

Dros amser, mae’r heriau iechyd meddwl y mae pobl LGBTQIA+ wedi eu hwynebu wedi bod yn enfawr. Ac mae llawer yn parhau heddiw.

Dyma rai o’r cerrig milltir a’r adegau o gynnydd, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u rhestru ar wefan Stonewall.

Sefydliad Iechyd y Byd yn dad-ddosbarthu atyniad o’r un rhyw fel salwch meddwl.

Diddymu Adran 28 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, sy'n golygu nad yw ysgolion a gynhelir wedi’u gwahardd rhag addysgu bod cyfunrhywiaeth yn dderbyniol.

Mae’r Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) yn dod yn gyfraith yn y DU, sy’n ei gwneud yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn lesbiaid, hoywon a phobl ddeurywiol yn y gweithle.

Pasiwyd Deddf Partneriaeth Sifil 2004 sy’n cyfreithloni partneriaethau sifil yn y Deyrnas Unedig. Mae’r Ddeddf yn rhoi’r un hawliau a chyfrifoldebau i gyplau o’r un rhyw â chyplau priod heterorywiol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Pasiwyd Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 sy’n rhoi cydnabyddiaeth gyfreithiol lawn i bobl drawsrywiol yn eu rhywedd priodol. Mae’r Ddeddf yn caniatáu i bobl trawsryweddol gael tystysgrif geni newydd, er bod opsiynau rhywedd yn dal wedi’u cyfyngu i ‘gwryw’ neu ‘benyw’.

Roedd Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2007 yn gwahardd gwahaniaethu wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau, gwasanaethau, addysg a swyddogaethau cyhoeddus ar sail cyfeiriadedd rhywiol.

Mae Deddf Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol 2008 yn cydnabod cyplau o’r un rhyw fel rhieni cyfreithiol i blant a genhedlwyd drwy ddefnyddio sberm, wyau neu embryonau a roddwyd.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ychwanegu ‘ailbennu rhywedd’ yn swyddogol fel nodwedd warchodedig.

Daw trosedd newydd o ‘ysgogi casineb homoffobig’ i rym yn y DU.

Pasiwyd Deddf Diogelu Rhyddidau yn y DU sy’n caniatáu i euogfarnau hanesyddol am ryw cydsyniol rhwng dynion gael eu diddymu o gofnodion troseddol.

Mae cyfeiriad clir at fwlio homoffobaidd mewn ysgolion yn cael ei gyflwyno i fframwaith arolygu Ofsted yn y DU.

Pasiwyd Deddf Priodas (Cyplau o’r un Rhyw) yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r Llywodraeth yn rhoi maddeuant ar ôl marwolaeth i ddynion hoyw a deurywiol a gafwyd yn euog dan gyfreithiau troseddau rhywiol y ganrif ddiwethaf, a alluogodd yr heddlu i wneud pobl yn droseddwyr am fod yn hoyw neu’n ddeurywiol.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn rhoi’r gorau i gategoreiddio bod yn drawsryweddol fel ‘anhwylder meddwl’ yn ei ganllawiau iechyd.

Cyflwynir cwricwlwm newydd ar gyfer Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd yn Lloegr, sy’n ei gwneud yn ofynnol bod gwersi’n cynnwys cydnabyddiaeth o hawliau LGBTQIA+ a bod lles corfforol a meddyliol plant LGBTQIA+ yn cael eu diogelu.

Mae priodas rhwng cyplau o’r un rhyw yn dod yn gyfraith yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer deddfwriaeth i wahardd 'therapi trosi’, a chynyddu’r cymorth sydd ar gael i oroeswyr.

Mae cyfrifiad 2021 yn gofyn i bobl am eu cyfeiriadedd rhywiol a’u hunaniaeth o ran rhywedd am y tro cyntaf.

2023

Yn 2023, mae Llywodraeth y DU yn cynnig gwahardd therapi trosi ar gyfer plant ond nid ar gyfer oedolion sy’n ‘cydsynio’ o’u gwirfodd. Dydy hyn ddim yn mynd yn ddigon pell.

 

Nid therapi yw ‘therapi trosi’.

 

Mae’n niweidiol ac mae’n rhoi pobl mewn perygl o ddioddef iechyd meddwl gwael.

 

Rhaid i Lywodraeth y DU wahardd ‘therapi trosi’ i bawb.

 

Mae’n rhaid i hyn gynnwys yr holl gymuned LGBTQIA+, gan gynnwys y rheini ohonom sy’n ddeurywiol, anrhywiol, rhyngrywiol, trawsrywiol neu anneuaidd.

Ble i gael rhagor o gymorth iechyd meddwl

Llinell Wybodaeth Mind

Os oes angen cymorth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â’n Llinell Wybodaeth dros y ffôn, e-bost neu drwy’r post. Gallwn roi gwybodaeth i chi am gymorth iechyd meddwl a’ch cyfeirio at gymorth yn eich ardal. Mae ein llinellau ar agor rhwng 9am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio ar wyliau banc).

Gallwch siarad â ni am bethau fel:

  • problemau iechyd meddwl a lles
  • sut y gallwch ofalu am eich iechyd meddwl eich hun
  • gwasanaethau cymorth sydd ar gael yn eich ardal chi
  • dewisiadau triniaeth, fel meddyginiaeth a chwnsela
  • gwasanaethau eiriolaeth (mae rhagor o wybodaeth am eiriolaeth ar gael fan hyn).

Os na allwn ni eich helpu chi, gallwn eich cyfeirio at wasanaethau a chymorth amgen.

Gallwch gysylltu â’n Llinell Wybodaeth drwy:

Ffôn: 0300 123 3393

E-bost: [email protected]

Post: Mind Infoline, PO Box 75225, London, E15 9FS

Side by Side 

Mae Side by Side yn gymuned ar-lein gefnogol. Mae’n lle i ni siarad yn agored am ein hiechyd meddwl a chysylltu ag eraill sy’n deall beth rydym ni’n mynd drwyddo.

Mae’n lle diogel i wrando, rhannu a chael eich clywed. Mae’r gymuned ar gael 24 awr y dydd, ac mae croeso i bawb.

Rhagor o wybodaeth am Side by Side

Mind lleol

Mae ein rhwydwaith o ganghennau Mind lleol yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth iechyd meddwl i gymunedau lleol ledled Cymru a Lloegr. Maen nhw’n llefydd diogel lle gallwn ni siarad â phobl sy’n deall problemau iechyd meddwl a’r heriau rydym ni’n eu hwynebu bob dydd.

Dyma rai o’r gwasanaethau y gallai eich cangen Mind leol eu darparu:

  • cwnsela cost isel
  • grwpiau cefnogaeth gan gymheiriaid
  • eiriolaeth - hynny yw, cefnogaeth gan rywun arall i’ch helpu i fynegi eich barn, a’ch helpu i sefyll dros eich hawliau.
  • gwasanaethau cymorth arall, yn dibynnu ar y lleoliad.

Defnyddiwch y map ar ein tudalen dod o hyd i’ch cangen Mind leol i ddod o hyd i’ch cangen Mind leol.

Opsiynau cymorth LGBTQIA+ eraill

Sut i gyfrannu at Fis Hanes LGBTQIA+ ar y cyfryngau cymdeithasol

Byddwn ni’n siarad am fis hanes LGBTQIA+ ar gyfryngau cymdeithasol drwy gydol mis Chwefror. Dilynwch i ddysgu mwy am iechyd meddwl LGBTQIA+ a chlywed am brofiadau aelodau o’r cymunedau.

Instagram

Facebook

Twitter

How you can help LGBTIQ+ communities by becoming a Mind member

Our members are at the heart of everything we do. They give a voice to the millions of us in England and Wales who live with mental health problems. Our members are pushing for change and sharing their experiences to help shape our work. We would love to recruit a more diverse range of members to better serve those of us with mental health problems. 

When you become a member we treat you to loads of benefits including:

  • our quarterly magazine
  • regular email newsletters featuring opportunities to get involved in Mind’s work
  • a chance to vote for our board of trustees
  • the opportunity to become a trustee yourself where you can help shape the issues we focus on. 

And that’s not all! There are even more exciting extras like our Book Club, giveaways, and creative competitions. 

We’re always on the lookout for new members. Everyone is welcome to join our community.

Find out more about Mind membership

References

¹Bachmann, C. and Gooch, B., 2017, LGBT in Britain - Hate Crimes and Discrimination, YouGov and Stonewall

arrow_upwardYn ôl i'r brig