Pam ddringais i fynydd uchaf Cymru dros Mind

Clear all

Filter

Filter by categories

Clear Blogs
Clear News topics
Clear Location
Clear Event Type

Posted on 29/10/2019 by Jo |

Dyma Jo yn rhannu ei phrofiadau ynghylch sut roedd taclo’r Wyddfa gyda’r nos yn cyd-fynd â hi’n taclo iselder

“Beth ar wyneb y ddaear ydw i’n gwneud?” Dyma oedd y peth cyntaf ddaeth i fy meddwl ar ôl cyrraedd pentref bach Llanberis wedi siwrne hir. Wrth gamu o’r trên, gwelwn gysgodion y mynyddoedd o’m blaen. Roeddwn wedi bod yn disgwyl y noson hon ers misoedd, ond doedd y peth ddim yn teimlo’n real nes i fi weld mawredd y mynyddoedd gyda fy llygaid fy hun – roedd fy nghalon yn curo’n gyflym, ac roeddwn i’n teimlo’n fach fel morgrugyn. Wrth i ganol nos nesáu, roeddwn i’n mynd yn fwy a mwy nerfus, felly i gadw fy hun yn brysur rhag fy ngorbryder, gwisgais fy nghit ymarfer Mind. Roeddwn ni i gyd fel milwyr yn mynd i frwydr – roeddwn i’n teimlo’n gryfach yn fy nghit glas tywyll.

Doedd y peth ddim yn teimlo’n real nes i fi weld mawredd y mynyddoedd gyda fy llygaid fy hun 

Cefais y syniad o wneud taith gerdded ‘Yr Wyddfa gyda’r Nos’ ar ôl mynychu cyfarfod yn swyddfeydd Mind yn Llundain fel ‘Arbenigwr o Brofiad’. Roeddwn i’n teimlo’n arbennig ar ôl cael fy nhrin fel VIP gan dîm Mind. Roeddent wedi gwerthfawrogi fy ngwybodaeth a fy mhrofiad, ac roedd yn wych cael teimlo bod fy adborth wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar adolygiad o’r llyfrynnau gwybodaeth maen nhw’n eu cyhoeddi ynghylch problemau iechyd meddwl amrywiol.


Dim ond wedi dechrau gwella ar ôl cyfnod o iselder difrifol iawn oeddwn i, ac roeddwn i wedi cymryd blwyddyn allan o fy nghwrs prifysgol gan fy mod i’n rhy sâl i astudio. Roedd lefel fy hunanhyder yn is nag erioed. Roedd y flwyddyn honno a’r profiad o fod yn sâl wedi achosi cymaint o drawma i mi nes fy mod i wedi cael fy anablu gan iselder. Doedd gen i ddim ffydd yn fy ngallu i wneud unrhyw beth, gan fy mod i wedi dod mor gyfarwydd â blinder eithriadol a diffyg cymhelliant llwyr. Doedd dim un o’r triniaethau niferus roeddwn i wedi rhoi tro arnynt wedi helpu digon i roi gobaith i mi. Roeddwn i wedi derbyn mwy nag un diagnosis o broblemau iechyd meddwl a chorfforol gwahanol – doedd neb yn gallu cytuno ar beth oedd yn bod arnaf i hyd yn oed, gan fod fy mhroblemau mor gymhleth. Roedd fel petai popeth yn fy erbyn i. Un mynydd mawr o arbenigwyr meddygol, asesiadau a moddion oedd fy mywyd erbyn hynny.

Doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n gallu cynllunio unrhyw beth, gan fy mod i’n treulio fy egni i gyd yn ceisio ymladd fy salwch

Bellach, doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n gallu cynllunio unrhyw beth, gan fy mod i’n treulio fy egni i gyd yn ceisio ymladd fy salwch, ond cefais sbarc bach o ddewrder ac ysbrydoliaeth gan Mind i glicio’r botwm ‘Cymryd Rhan’ ar gyfer taith gerdded Mind. Diwrnod y daith oedd dyddiad fy mhen-blwydd hefyd, felly roedd hyn i fod i ddigwydd! Mae’n rhyfedd cymaint o effaith cafodd yr un weithred fach, ddewr arnaf i, gan fy mod yn teimlo fy mod yn gallu gwneud rhywbeth cadarnhaol drosof i fy hun, yn hytrach na cheisio brwydro yn erbyn yr holl bethau roedd bywyd yn eu taflu ataf. Roedd gen i rywbeth i edrych ymlaen ato ac i ddal ymlaen ato.


Ond yn naturiol, roeddwn yn teimlo’n ofnadwy o bryderus hefyd, yn pendroni a oeddwn i wedi gwneud y penderfyniad cywir. Yn aml, mae’n bosib iawn na fyddai gen i’r egni i godi yn y bore, neu gael sgwrs heb ddechrau crïo, heb sôn am ddringo mynydd. Diolch i’r drefn, roedd gen i gefnogaeth fy ffrind gorau, oedd wedi cytuno i gymryd rhan gyda fi. Yr arwyddair y defnyddion ni i godi arian oedd ‘Dylai neb orfod dringo mynyddoedd ar eu pennau eu hunain’. Roedd cymryd rhan gyda’n gilydd yn symbol o deyrngarwch fy ffrind tuag ataf i, ei bod hi yno bob cam o’r ffordd, ac roedd y ffaith ein bod ni’n gwneud hyn dros Mind yn ddatganiad bod pawb sy’n dioddef o broblem iechyd meddwl yn haeddu cefnogaeth.

Cawsom y syniad o werthu pecynnau bach iechyd meddwl yn y brifysgol

Cawsom y syniad o werthu pecynnau bach iechyd meddwl yn y brifysgol, gyda negeseuon bach wedi eu hysgrifennu â llaw i annog pobl, y gallai pobl anfon at eu ffrindiau. Y bwriad oedd codi ymwybyddiaeth am Mind, gan godi calonnau wrth godi arian. Roedd y daith yn brofiad arbennig. Doedd gen i ddim syniad sut fyddai’r daith pan ddechreuom am ganol nos, ond yr un peth roeddwn yn gwybod na fyddwn yn rhoi’r gorau iddi nes cyrraedd y copa – dyna oedd yn fy nghadw i fynd yn fy amser tywyllaf.


Y peth mwyaf arbennig oedd y golygfeydd anhygoel o’r copa wrth i’r haul godi dros y mynyddoedd. Doeddwn i erioed wedi gweld yr haul yn codi yn y fath fodd o’r blaen – roedd yn brydferth tu hwnt. Roeddwn i’n teimlo’n llawn egni, heb fod wedi blino o gwbl. Roedd popeth arall ar waelod y mynydd, fy mhroblemau a fy atgofion, i gyd yn edrych yn hynod o fach o gymharu â’r cawr mawr roeddem ni gyd yn sefyll arno. Roeddwn i’n teimlo mor bwerus i fyny ar y mynydd. Ac roeddwn yn gwybod bod pobl dros y wlad i gyd yn hynod o falch ohonof i.

Cyrhaeddom ni i gyd yn ôl ar ôl taith o 8 awr, gan deimlo ein bod ni wedi cyflawni cymaint.

Roedd dringo i fyny’r mynydd yn anodd, ond roedd dringo i lawr hyd yn oed yn waeth gan fod ein pennau gliniau yn brifo cymaint o fynd yr holl ffordd lawr. Erbyn 6 y bore roedden ni wedi blino’n lân ac roedd ein morâl yn disgyn ar ôl yr ewfforia o gyrraedd y copa, ond gyda’n gilydd, cyrhaeddom ni i gyd yn ôl ar ôl taith o 8 awr, gan deimlo ein bod ni wedi cyflawni cymaint.

Roedd y syniad o ddringo mynydd yn bwysig iawn i mi yn symbolaidd, yn enwedig gan ein bod ni wedi gwneud y peth dros nos. I mi, roedd yn brawf o’r ffaith bod fy mhroblemau iechyd meddwl yn gallu cael eu taclo gam wrth gam, hyd yn oed os oeddent yn edrych yn amhosib o anferth. Y peth pwysicaf oedd cadw  i fynd, waeth pa mor araf roedd rhaid i mi gerdded. Roedd yn dangos bod y nosweithiau hiraf, mwyaf blinedig, a thywyllaf yn dod i ben (ac roedd hi’n dywyll iawn ar y copa!). Mae’r haul bob amser yn codi eto – dyma ddelwedd oedd o gymorth i mi trwy fy nghyfnodau tywyllaf o iselder.

Dydw i ddim yn gallu meddwl am ffordd well o ddathlu fy mhen-blwydd yn 21 oed na dechrau ar gyfnod o wella.

Cefais negeseuon o gefnogaeth gan ffrindiau a gododd fy nghalon am wythnosau. Roeddwn i’n gwybod nad oedd pobl yn fy llongyfarch i am lwyddo yn y daith gerdded yn unig – roedden nhw’n ymwybodol o fy ‘nhaith’ arall hefyd. Dydw i ddim yn gallu meddwl am ffordd well o ddathlu fy mhen-blwydd yn 21 oed na dechrau ar gyfnod o wella.

If you're feeling inspired, sign up for your own challenge. 

Categories: Fundraising | Depression

Group

Jo

Mae Jo yn fyfyrwraig ieithoedd sy’n mwynhau seicoleg, cacennau, cefn gwlad ac ysgrifennu barddoniaeth.

comments powered by Disqus

Mental Health A-Z

Information and advice on a huge range of mental health topics

> Read our A-Z

Training

Helping you to better understand and support people with mental health problems

> Find out more

Special offers

Check out our promotional offers on print and digital booklets, for a limited time only

> Visit our shop today

Jo shares her experience of how tackling Snowdon at Night coincided with tackling her depression.