Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Straen

Yn esbonio beth yw straen, beth allai ei achosi a sut y gall effeithio arnoch chi. Yn cynnwys gwybodaeth am sut y gallwch chi helpu eich hun a sut i gael cymorth.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw straen?

Straen yw'r ffordd rydyn ni'n ymateb pan fyddwn ni'n teimlo dan bwysau neu dan fygythiad. Fe arfer mae'n digwydd pan fyddwn ni mewn sefyllfa sydd y tu hwnt i'n rheolaeth.

Pan fyddwn ni'n teimlo dan straen, gall hynny fod:

  • Fel unigolyn, er enghraifft os oes gennych chi lawer o gyfrifoldebau rydych chi'n ei chael hi'n anodd eu rheoli
  • Fel rhan o grŵp, er enghraifft os ydych chi'n wynebu cyfnod anodd fel teulu, fel profedigaeth neu broblemau ariannol
  • Fel rhan o gymuned, er enghraifft os ydych chi'n perthyn i grŵp crefyddol sy'n wynebu gwahaniaethu
  • Fel aelod o gymdeithas, er enghraifft yn ystod trychinebau naturiol neu ddigwyddiadau fel pandemig y coronafeirws

Os byddwch chi'n teimlo dan straen fel rhan o grŵp mwy, efallai y bydd pob un ohonoch chi'n ei deimlo mewn ffyrdd gwahanol. Gall hyn ddigwydd hyd yn oed os yw'r hyn sy'n achosi'r straen yr un peth.

Mae'n eich llethu. Weithiau allwch chi ddim gweld drwy'r cwmwl du.

Pryd y mae straen yn broblem?

Weithiau, gall ychydig bach o straen ein helpu ni i gwblhau tasgau a theimlo'n fwy egnïol. Ond gall straen ddod yn broblem os bydd yn ddwys iawn neu'n para am amser hir. Mewn rhai achosion, gall straen effeithio ar ein hiechyd corfforol a'n hiechyd meddwl. 

Efallai y byddwch chi'n clywed rhai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cyfeirio at rai mathau o straen fel rhai 'cronig' neu 'acíwt':

  • Mae straen acíwt yn digwydd o fewn ychydig funudau i ychydig oriau i ddigwyddiad. Mae'n para am gyfnod byr, fel arfer am lai nag ychydig wythnosau, ac mae'n ddwys iawn. Gall ddigwydd ar ôl digwyddiad annisgwyl sy'n peri gofid. Er enghraifft, profedigaeth sydyn, ymosodiad neu drychineb naturiol.
  • Mae straen cronig yn para am gyfnod hir neu'n codi dro ar ôl tro. Efallai y byddwch chi'n dioddef o'r math hwn o straen os ydych chi'n teimlo dan bwysau mawr yn aml. Efallai y byddwch chi hefyd yn dioddef o straen cronig os yw eich bywyd bob dydd yn anodd, er enghraifft os ydych chi'n ofalwr neu'n byw mewn tlodi.

Ces i amser i ffwrdd o'r gwaith oherwydd problemau straen a gorbryder. Roedd pethau'n edrych yn dywyll iawn ac roeddwn i'n mynd o ddrwg i waeth yn gyflym. Roedd arna i ofn.

A yw straen yn broblem iechyd meddwl?

Nid yw straen fel arfer yn cael ei ystyried yn broblem iechyd meddwl. Ond mae'n gysylltiedig â'n hiechyd meddwl mewn sawl ffordd:

  • Gall straen achosi problemau iechyd meddwl. A gall waethygu problemau sy'n bodoli'n barod. Er enghraifft, os ydych chi'n teimlo dan straen yn aml, gallai hyn arwain at broblem iechyd meddwl fel gorbryder neu iselder. Neu gallai cyfnod trawmatig o straen arwain at anhwylder straen wedi trawma.
  • Gall problemau iechyd meddwl beri straen.  Efallai y byddwch chi'n ei chael h'n anodd ymdopi â symptomau eich problem iechyd meddwl o ddydd i ddydd. Efallai y bydd rheoli meddyginiaeth, apwyntiadau gofal iechyd neu driniaethau eraill yn peri
  • Efallai y byddwch chi'n defnyddio cyffuriau hamdden neu alcohol i ymdopi â straen. Gallai hyn hefyd effeithio ar eich iechyd meddwl, ac achosi rhagor o straen.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Mawrth 2022. Byddwn ni'n ei diwygio yn 2025.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig