Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Iselder ôl-enedigol ac iechyd meddwl amenedigol

Yn egluro iselder ôl-enedigol a phroblemau iechyd meddwl amenedigol eraill, gan gynnwys achosion posibl, triniaethau ac opsiynau ar gyfer cefnogaeth. Hefyd yn cynnwys gwybodaeth i ffrindiau a theulu, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i bartneriaid.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae’r adran hon ar gyfer teulu a ffrindiau sydd eisiau cefnogi rhywun sydd â phroblem iechyd meddwl amenedigol.

Os yw eich partner yn disgwyl babi, neu wedi cael babi yn ddiweddar, a’ch bod yn poeni am eich iechyd meddwl chi yn ystod y cyfnod hwn, edrychwch ar ein tudalen am iechyd meddwl partneriaid.

Gall gwybod bod gan rywun sy’n agos atoch chi broblem iechyd meddwl amenedigol fod yn brofiad digalon a rhwystredig. Ond mae’n bwysig peidio â beio’r person hwnnw am y ffordd y mae’n teimlo.

Efallai na fydd rhai pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl amenedigol eisiau gofyn am help. Gallai hyn fod oherwydd eu bod yn ofni y byddant yn cael eu barnu am fod yn rhiant gwael, neu oherwydd eu bod yn poeni y bydd eu babi’n cael ei gymryd oddi arnyn nhw.

Mae angen i chi eu sicrhau bod llawer o bobl yn cael y profiadau hyn, a bod modd gwella. Dyma rai ffyrdd y gallwch helpu:

Gwneud amser i’r unigolyn

Efallai y byddech yn hoffi cynnig helpu eich ffrind neu aelod o’r teulu, ond eich bod yn poeni y byddech yn ymwthio i’w hamser preifat drwy wneud hynny. Neu efallai eich bod yn poeni nad yw’r unigolyn teimlo y gall ofyn i chi am gefnogaeth.

Ond mae bob amser yn werth cynnig helpu. Gallwch wneud hyn mewn gwahanol ffyrdd:

Cynnig treulio amser hamdden gyda’r unigolyn

Gall cael ychydig o gwmni tra’n gwneud tasgau bob dydd a gofalu am y babi helpu rhywun i deimlo nad yw ar ei ben ei hun.

Gwneud amser i gadw mewn cysylltiad

Os yw eich ffrind neu aelod o’r teulu’n cael trafferth â’i iechyd meddwl, gall wneud gwahaniaeth mawr os yw’n teimlo eich bod yn meddwl amdano ef neu hi a’ch bod eisiau treulio amser gyda’ch gilydd.

Awgrymu gweithgareddau roeddech yn arfer eu gwneud gyda’ch gilydd

Gall dod yn rhiant wneud i rai pobl deimlo fel pe baent yn colli cysylltiad â’u hunaniaeth flaenorol. Meddyliwch am bethau roeddech yn arfer eu gwneud cyn cael plant y gallech eu gwneud eto gyda’ch gilydd.

Cynnig mynd i grwpiau neu weithgareddau rhieni a phlant gyda’ch gilydd

Gall hyn fod o gymorth os yw eich ffrind neu aelod o’r teulu’n teimlo’n nerfus ynglŷn â mynd i grŵp ar ei ben ei hun / ar ei phen ei hun.

Bod yn amyneddgar

Dyma rai syniadau er mwyn helpu eich ffrind neu aelod o’r teulu gyda’i iechyd meddwl, a bod yn amyneddgar os yw’n cael pethau’n anodd:

Rhoi digon o le

Efallai y bydd eich ffrind neu aelod o’r teulu’n teimlo’n euog os nad oes ganddo ef neu hi lawer o amser i’w dreulio gyda phobl eraill, neu os nad yw’n gallu ymateb i negeseuon. Gallech ddweud nad oes rhaid iddo ef neu hi eich gweld chi neu ymateb i chi os nad yw’n teimlo ei fod yn gallu. Neu gallech anfon neges dim ond i ddweud eich bod yn meddwl amdano/amdani, ond nad oes angen iddo/iddi anfon ymateb.

Dysgu am iechyd meddwl amenedigol

Os ydych yn poeni ynglŷn â sut i siarad gyda’ch ffrind neu aelod o’r teulu am ei iechyd meddwl, trïwch ddarllen gweddill y tudalennau hyn i ddysgu mwy. Efallai y byddwch yn teimlo wedyn ei bod yn haws i chi siarad am bethau, yn enwedig os yw’r unigolyn yn cael trafferth i siarad ac egluro sut mae’n teimlo.

Gwrando

Trïwch ganolbwyntio ar eich ffrind neu aelod o’r teulu yn hytrach na dod yn ôl at eich teimladau eich hun. Os nad ydych wedi cael y profiad o fod yn rhiant newydd, efallai nad yw cymharu â’ch profiadau chi’n mynd i helpu llawer.

Peidio â barnu

Os yw’r unigolyn yn siarad am feddyliau sy’n achosi gofid, ceisiwch beidio â’i farnu. Mae’n debygol y bydd hi’n anodd iawn iddo ef neu hi siarad am feddyliau o’r fath. Trïwch wrando a chynnig cefnogaeth lle bo modd.

Fe gymerodd hi flwyddyn o leiaf i mi ddod dros fy iselder ôl-enedigol, a bu bron iawn i’n perthynas ni chwalu.

Cynnig cefnogaeth ymarferol

Y ffordd orau o ddarganfod beth mae ar eich ffrind neu aelod o’r teulu ei angen yw drwy ofyn iddo. Ond os yw’n teimlo’n isel iawn, efallai y bydd yn anodd iddo ef neu hi awgrymu pethau. Efallai y byddech yn hoffi cynnig:

  • helpu i lanhau’r tŷ, golchi dillad a gwneud tasgau eraill o gwmpas y tŷ
  • helpu i goginio a mynd i siopa
  • gofalu am y babi, er mwyn i’ch ffrind neu aelod o’r teulu allu cael ychydig o gwsg neu amser iddo ef neu hi ei hun.

Cefnogi’r unigolyn i gael help

Efallai y bydd gan eich ffrind neu aelod o’r teulu ofn gofyn am help ar gyfer ei iechyd meddwl neu help gyda sgiliau magu plant. Efallai y bydd yn poeni y bydd pobl yn meddwl ei fod yn rhiant gwael. Gallwch helpu gyda hyn mewn ffyrdd amrywiol:

Cynnig ei helpu i drefnu apwyntiad meddyg

Edrychwch ar ein tudalennau am helpu rhywun arall i ofyn am help i gael awgrymiadau ynglŷn â sut i roi’r gefnogaeth hon. 

Mynd i apwyntiadau gyda’r unigolyn

Gallech gynnig gofalu am y babi neu blant hŷn tra mae eich ffrind neu aelod o’r teulu’n mynd i apwyntiadau. Neu gallech ei helpu i gynllunio beth y byddai’n hoffi siarad amdano.

Helpu’r unigolyn i ymchwilio i wahanol opsiynau ar gyfer cefnogaeth

Gallai hyn gynnwys grwpiau cefnogaeth gan gymheiriaid neu grwpiau magu plant. Edrychwch ar ein tudalen am gefnogaeth a gwasanaethau neu gysylltiadau defnyddiol i gael mwy o wybodaeth.

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yn Ebrill 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig