Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Iselder ôl-enedigol ac iechyd meddwl amenedigol

Yn egluro iselder ôl-enedigol a phroblemau iechyd meddwl amenedigol eraill, gan gynnwys achosion posibl, triniaethau ac opsiynau ar gyfer cefnogaeth. Hefyd yn cynnwys gwybodaeth i ffrindiau a theulu, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i bartneriaid.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Gall siarad gyda rhieni newydd eraill, a gweld eu bod nhw’n rhannu’r gorbryder a’r rhwystredigaeth rydych chi’n ei brofi, roi llawer iawn o gysur i chi.

Gall hefyd roi cyfle i chi rannu sgiliau a phrofiadau, sylweddoli nad ydych ar eich pen eich hun a chael cefnogaeth emosiynol ac ymarferol. Gall eich helpu i deimlo’n fwy hyderus fel rhiant newydd.

Dyma rai syniadau y gallech roi cynnig arnynt:

Mynd i grwpiau lleol ar gyfer rhieni a babanod 

Os ydych yn teimlo’n nerfus ynglŷn â bod o gwmpas pobl newydd, trïwch wneud rhywbeth sy’n seiliedig ar weithgaredd. Efallai y bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i chi ddechrau siarad gyda rhieni eraill. Er enghraifft, gallech drio gwneud cerddoriaeth neu ioga.

Mae yna hefyd grwpiau cynenedigol ar gyfer rhieni sy’n disgwyl babi. Gallwch ofyn i’ch bydwraig neu feddyg am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r rhain.

Cysylltu â sefydliadau arbenigol

Mae sefydliadau fel Home-Start ac NCT yn helpu rhieni newydd i ddatblygu eu rhwydweithiau cefnogi a gofalu am eu hiechyd meddwl.

Defnyddio cefnogaeth ar-lein

Mae llawer o gymunedau ar-lein lle gallwch rannu eich profiadau o fod yn rhiant a byw gyda phroblem iechyd meddwl.

Mae gan wefannau fel netmums fforymau lle gallwch siarad gyda rhieni eraill. Mae gan Mind gymuned cefnogaeth gan gymheiriaid ar-lein o’r enw Elefriends ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cefnogaeth ar gyfer ei iechyd meddwl.

Edrychwch ar ein tudalen am offerynnau iechyd meddwl ar-lein i gael mwy o wybodaeth.

Trio cefnogaeth gan gymheiriaid

Mae cefnogaeth gan gymheiriaid yn dod â phobl sydd â phrofiadau tebyg at ei gilydd, er mwyn iddyn nhw allu rhannu’r profiadau hynny ac awgrymiadau i helpu ei gilydd i ymdopi.

Mae llawer o sefydliadau’n rhedeg rhaglenni cefnogaeth gan gymheiriaid ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl amenedigol. Er enghraifft: 

  • Mae Action Postpartum Psychosis yn rhedeg rhwydwaith cefnogaeth gan gymheiriaid i unrhyw un sydd â phrofiad o seicosis ôl-enedigol. 
  • Mae PANDAS yn rhedeg grwpiau cefnogaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl amenedigol.
  • Neu gallwch gysylltu â’ch cangen leol o Mind i weld a yw’n cynnig unrhyw grwpiau cefnogaeth gan gymheiriaid yn eich ardal chi.

Edrychwch ar ein tudalennau am gefnogaeth gan gymheiriaid i gael mwy o wybodaeth.

"Yn y diwedd cefais nerth i siarad a rhannu fy mhrofiad gyda phobl eraill. Ro’n i’n synnu gweld nad fi oedd yr unig un, ac roedd o’n gysur gwybod bod pobl eraill wedi bod drwy’r un peth. Wnaethon ni ganfod ffyrdd o helpu’n gilydd a goresgyn adegau anodd."

 

Gall ymdopi â thasgau o gwmpas y tŷ tra rydych chi’n disgwyl babi neu wrth ofalu am fabi newydd fod yn her i unrhyw un.

Gall darganfod ffyrdd o reoli tasgau dyddiol helpu i leihau’r pwysau. Gall hefyd wneud i chi deimlo’n fwy abl i ymdopi â symptomau eich problem iechyd meddwl. 

Dyma rai syniadau a allai helpu:

Derbyn help

Os oes gennych bobl agos atoch sydd eisiau gwneud rhywbeth ymarferol i helpu, does dim byd o’i le â derbyn eu cefnogaeth. Er enghraifft, gallent eich helpu i siopa, coginio prydau bwyd neu lanhau’r tŷ.

Coginio prydau bwyd ymlaen llaw

Gallwch wneud y gwaith o gynllunio bwyd yn haws drwy goginio mwy nag un pryd ymlaen llaw a’u rhewi. Manteisiwch ar adegau pan mae gennych fwy o egni i goginio, fel bod gennych brydau cyflym ac iach ar gael pan na fyddwch yn teimlo’n dda.

Cymryd pethau’n araf

Mae’n hawdd teimlo bod pethau’n eich llethu pan fyddwch yn disgwyl babi neu pan fyddwch yn gofalu am fabi newydd.

Trïwch neilltuo 20 munud i wneud cymaint ag y gallwch o dasg benodol. Er enghraifft, taflu dillad i mewn i’r peiriant golchi neu sortio gwaith papur.

Gall cymryd pethau 20 munud ar y tro wneud i dasgau deimlo’n haws i’w rheoli. Gall eich helpu i allu gwneud ychydig bach o bethau pryd bynnag y byddwch yn teimlo eich bod yn gallu gwneud rhywbeth.

Peidio â rhoi eich hun dan bwysau

Efallai y byddwch eisiau dal i fyny â’r holl bethau roeddech yn arfer eu gwneud o gwmpas y tŷ. Ond os ydych yn gofalu am fabi newydd hefyd, mae hyn yn cymryd llawer o amser ac yn effeithio ar faint o gwsg rydych yn ei gael.

Trïwch beidio â gosod safonau afrealistig i chi eich hun a pheidiwch â mynd yn rhy rwystredig os nad ydych yn gwneud y pethau roeddech wedi bwriadu eu gwneud.

Darllenwch flog Selina am ei phrofiad ei hun o iselder ôl-enedigol.

Gall canfod amser i feddwl amdanoch eich hun tra rydych yn disgwyl babi neu’n gofalu am fabi fod yn her. Gall gwneud newidiadau bach eich helpu i ofalu am eich iechyd meddwl.

Dyma ychydig o syniadau i’ch helpu i ofalu amdanoch eich hun:

Gwneud rhywbeth egnïol

Gallai gweithgaredd egnïol gynnwys mynd am dro gyda’r pram, dawnsio i gerddoriaeth gartref neu wneud ychydig o ioga ysgafn. Gall gweithgarwch corfforol helpu i wella eich hwyliau, a’ch helpu i deimlo eich bod yn cael gwneud rhywbeth rydych chi eisiau ei wneud.

Edrychwch ar ein tudalennau am weithgarwch corfforol a’ch iechyd meddwl i gael mwy o wybodaeth.

Trio cael ychydig o gwsg

Efallai fod cael noson dda o gwsg gyda babi newydd yn swnio’n amhosibl. Ond gall canfod amser i orffwys pryd bynnag rydych yn cael y cyfle wneud gwahaniaeth mawr i’ch iechyd meddwl.

Trïwch gysgu pan mae eich babi’n cysgu, neu os gallwch, gofynnwch i’ch partner helpu i fwydo’ch babi yn ystod y nos. 

Edrychwch ar ein tudalennau am ymdopi â phroblemau cysgu i weld ychydig o awgrymiadau a allai helpu.

Cymryd amser i ymlacio

Efallai y byddwch yn teimlo nad ydych yn cael munud i chi eich hun, neu nad ydych chi’n gwneud dim ond eistedd yn y tŷ.

Trïwch neilltuo ychydig o amser i wneud rhywbeth sy’n gwneud i chi deimlo’n dda, hyd yn oed os yw hynny am ychydig funudau yn unig. A meddyliwch beth sy’n eich helpu i ymlacio – darllen llyfr, gwylio’r teledu neu waith llaw.

Edrychwch ar ein tudalennau am ymlacio i gael mwy o syniadau.

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yn Ebrill 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig