Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Iselder ôl-enedigol ac iechyd meddwl amenedigol

Yn egluro iselder ôl-enedigol a phroblemau iechyd meddwl amenedigol eraill, gan gynnwys achosion posibl, triniaethau ac opsiynau ar gyfer cefnogaeth. Hefyd yn cynnwys gwybodaeth i ffrindiau a theulu, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i bartneriaid.

Arwyddion a symptomau OCD amenedigol

Mae gan OCD ddwy brif ran: obsesiynau a gorfodaeth.

  • Obsesiynau – meddyliau, delweddau, awydd, pryderon neu amheuon digroeso sy’n codi yn eich meddwl drosodd a throsodd. Gallant wneud i chi deimlo’n orbryderus iawn, er bod rhai pobl yn ei ddisgrifio fel 'anesmwythyd meddyliol' yn hytrach na gorbryder.
  • Gorfodaeth – ysgogiad i ailadrodd gweithgareddau er mwyn lleihau’r gofid a’r gorbryder sy’n cael ei achosi gan obsesiynau. Gallai fod yn rhywbeth fel gwneud yn siŵr eich bod wedi cloi drws fwy nag unwaith, neu ailadrodd ymadrodd penodol yn eich pen. Mae gorfodi eich hun i ailadrodd gweithgaredd yn cymryd amser, ac fel arfer nid yw’r rhyddhad y mae’n ei roi yn para’n hir iawn.

Mae’n normal i chi boeni am les eich plentyn, a bod eisiau amddiffyn eich babi tra rydych yn feichiog ac ar ôl rhoi genedigaeth. Ond os ydych yn dechrau cael symptomau obsesiynol a gorfodol sy’n effeithio ar eich bywyd bob dydd a’ch lles, efallai fod gennych OCD amenedigol.

Mae’n debyg y bydd yr obsesiynau a’r orfodaeth rydych chi’n ei theimlo yn gysylltiedig â theimladau am fod yn rhiant a theimladau am eich babi.

Obsesiynau cyffredin

Dyma rai enghreifftiau o obsesiynau amenedigol cyffredin:

  • meddyliau ymwthiol am frifo eich babi, yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl hynny
  • meddyliau annifyr am gam-drin eich plentyn yn rhywiol
  • ofn bod yn gyfrifol am roi clefyd difrifol i blentyn
  • ofn gwneud y penderfyniad anghywir – er enghraifft, am frechu neu driniaeth feddygol.

Gall y meddyliau dychrynllyd hyn achosi llawer iawn o ofid. Mae’n bwysig cofio nad arnoch chi mae’r bai. Nid yw cael meddyliau ymwthiol yn golygu bod arnoch chi eisiau gweithredu ar sail y meddyliau hyn, nac ychwaith y byddwch yn gwneud hynny.

Gorfodaeth gyffredin

Mae enghreifftiau o orfodaeth amenedigol gyffredin yn cynnwys:

  • bod yn eithafol ynglŷn â golchi dillad, teganau neu boteli
  • osgoi newid clytiau budr/cewynnau brwnt oherwydd eich bod yn poeni ynglŷn â chyffwrdd eich babi yn amhriodol yn ddamweiniol
  • cadw eich babi oddi wrth bobl eraill rhag ofn iddyn nhw ei frifo neu achosi niwed iddo
  • mynd i edrych ydy’r babi’n iawn o hyd ac o hyd – er enghraifft, deffro’r babi pan mae’n cysgu i wneud yn siŵr ei fod yn iawn
  • gofyn dro ar ôl tro i bobl o’ch cwmpas am sicrwydd nad yw eich babi wedi cael ei frifo neu ei gam-drin
  • mynd dros yr hyn sydd wedi digwydd bob diwrnod er mwyn sicrhau eich hun nad ydych wedi niweidio eich babi.

Gall fod yn anodd iawn i fod yn agored a siarad gyda rhywun am obsesiynau neu orfodaeth. Ond mae triniaethau ac opsiynau cymorth a allai helpu.

Mi wnes i dreulio misoedd cyntaf bywyd fy merch yn llawn gorbryder y byddwn i rywsut neu’i gilydd yn achosi iddi gael niwed. Roedd golwg mawr ar fy nwylo i achos mod i’n eu golchi nhw o hyd ac o hyd. Cefais yr help ro’n i ei angen ac o’r diwedd rydw i’n mwynhau bod yn fam.

Triniaethau ar gyfer OCD amenedigol

Mae triniaethau amrywiol y gallech gael eu cynnig ar gyfer OCD amenedigol. Dylai eich meddyg drafod yr opsiynau hyn gyda chi, er mwyn i chi allu gwneud penderfyniad gyda’ch gilydd am y driniaeth orau i chi:

Therapi siarad

Y prif fathau o therapi siarad sy’n cael eu cynnig ar gyfer OCD ydy:

Mae therapi siarad ERP yn eich helpu i ddeall sut mae eich OCD yn gweithio a beth mae arnoch ei angen er mwyn ei oresgyn. Bydd eich therapydd yn gallu eich helpu i wynebu eich obsesiynau a dysgu sut i wrthsefyll yr awydd i orfodi eich hun i ailadrodd gweithgareddau.

Dim ond mewn rhai rhannau o’r wlad y mae ERP ar gael. 

Meddyginiaeth

Efallai hefyd y byddwch yn cael cynnig meddyginiaeth i drin symptomau eich gorbryder. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â chymryd meddyginiaeth, gallwch siarad gyda’ch meddyg neu fferyllydd. Mae hyn yn cynnwys trafod unrhyw bryderon ynglŷn â chymryd meddyginiaeth tra rydych yn disgwyl babi neu pan fyddwch yn bwydo ar y fron.

Edrychwch ar ein tudalen am siarad gyda’ch meddyg teulu os ydych yn poeni ynglŷn â chael y sgwrs hon. 

Cyfuniad o therapi siarad a meddyginiaeth

Mae rhai pobl yn gweld bod cymryd meddyginiaeth ar y cyd â therapi siarad yn gallu eu helpu i gael y budd mwyaf o’u therapi.

Os oes rhestrau aros hir ar gyfer therapïau siarad yn eich ardal chi, efallai y bydd eich meddyg yn argymell eich bod yn ystyried dewis arall yn lle therapi. Gall y dewisiadau hyn eich helpu i reoli eich iechyd meddwl tra rydych ar y rhestr aros.

Edrychwch ar ein tudalen am driniaethau ar gyfer OCD i gael mwy o wybodaeth.

Pan o’n i’n disgwyl fy ail blentyn, mi ges i brofiad o weld gwaed ar y sêt mewn toiledau cyhoeddus ac arweiniodd hynny at obsesiwn difrifol a’r syniad afresymol mod i wedi dal HIV. Mi wnaeth y syniad afresymol yma gymryd fy mywyd i drosodd. Ro’n i’n teimlo ei fod wedi troi yn rhyw fath o anghenfil mawr.

Hunanofal ar gyfer OCD amenedigol

Gall OCD amenedigol fod yn brofiad anodd iawn, ond mae camau y gallwch eu cymryd i’ch helpu i ymdopi. Dyma rai syniadau i’ch helpu i reoli eich OCD:

Cysylltu â sefydliadau arbenigol

Mae gan elusennau fel OCD UK ac OCD Action adnoddau i’ch helpu i ddeall ac ymdopi â’ch OCD. Maen nhw hefyd yn rhedeg grwpiau cefnogi a fforymau ar-lein lle gallwch siarad gyda phobl eraill sy’n byw gydag OCD. Mae Maternal OCD hefyd yn cynnig cefnogaeth benodol ar gyfer OCD amenedigol.

Trio adnoddau hunangymorth

Edrychwch ar ein tudalen am hunanofal ar gyfer OCD i weld rhestr o adnoddau hunangymorth a allai fod o fudd i chi.

Siarad gyda rhywun rydych yn ei drystio

Gall cael cefnogaeth gan bobl o’ch cwmpas wneud byd o wahaniaeth i’r graddau rydych yn teimlo eich bod yn gallu ymdopi â’ch obsesiynau a’ch gorfodaeth i ailadrodd gweithgareddau. 

Os ydych yn teimlo’n gyfforddus, gallech siarad gyda nhw am eich obsesiynau a’ch gorfodaeth i ailadrodd gweithgareddau. A gallech siarad ynglŷn â sut y byddech yn hoffi iddyn nhw ymateb a’ch cefnogi.

I gael mwy o syniadau, edrychwch ar ein tudalen am ffyrdd o ofalu am eich iechyd meddwl pan fyddwch yn dod yn rhiant.

Ro’n i’n meddwl mod i’n fethiant … Byddwn yn cynhyrfu wrth feddwl eu bod nhw’n meddwl y byddwn i’n ei frifo fo ac y bydden nhw’n mynd â fo oddi arna i. Ar ôl hyn roedd gen i gymaint o obsesiwn y bydden nhw’n gwneud hynny, nes y byddwn i’n ei wylio fo ddydd a nos, ac yn peidio â chysgu er mwyn gwneud yn siŵr bod dim byd yn digwydd iddo fo.

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yn Ebrill 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig