Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder gorfodaeth-obsesiynol (OCD)

Mae’r dudalen hon yn esbonio anhwylder gorfodaeth-obsesiynol (OCD), gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael mynediad at driniaeth a chymorth. Mae’n cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer ffrindiau a theulu sydd eisiau cefnogi rhywun sydd ag anhwylder gorfodaeth-obsesiynol (OCD).

Gall cefnogi rhywun ag OCD fod yn llethol ac yn ddryslyd ar adegau. Efallai y byddwch yn cael trafferth deall eu profiadau.

Ond gall eich cefnogaeth a'ch dealltwriaeth wneud gwahaniaeth mawr. Gall gymryd ymarfer ac amynedd i weithio allan y ffordd orau i helpu. Mae'r dudalen hon yn ymdrin â rhai o'r pethau y gallech roi cynnig arnynt:

Mae gwybodaeth hefyd am beth i'w wneud os yw eu hobsesiynau neu orfodaeth yn ymwneud â chi.

Dysgu rhagor am OCD

  • Dysgwch gymaint ag y gallwch am OCD. Gall hyn eich helpu i ddeall beth mae eich ffrind neu aelod o'ch teulu yn mynd drwyddo. Gallwch ddarllen rhagor ar ein tudalennau Beth yw OCD? a symptomau OCD. Neu darllenwch wybodaeth gan elusennau eraill, fel OCD-UK ac OCD Action.
  • Edrychwch ar flogiau, fideos neu bostiadau gan bobl ag OCD. Er enghraifft, gallwch chwilio am straeon am OCD ar ein tudalennau Eich Straeon.
  • Cofiwch fod profiadau pawb yn wahanol. Gall profiad un person o OCD fod yn wahanol iawn i'r hyn y mae'r person rydych chi'n ei adnabod yn mynd drwyddo.
  • Ceisiwch siarad â'r person am ei OCD. Ni fydd unrhyw wybodaeth yn gallu esbonio'n llawn yr hyn y maent yn mynd drwyddo yn yr un ffordd.
  • Ceisiwch gadw meddwl agored. Gall OCD fod yn gymhleth ac yn ddryslyd. Efallai y bydd eich ffrind neu aelod o'ch teulu yn dweud wrthych bethau sy'n eich poeni neu nad ydynt yn gwneud synnwyr i chi. Ceisiwch gofio efallai eu bod wedi cadw eu profiadau yn gyfrinachol ers amser maith. Efallai eu bod yn poeni am eich ymatebion. Ceisiwch wrando heb farnu a rhowch wybod iddynt y byddwch yno i'w cefnogi.
  • Heriwch stigma os gallwch chi. Mae llawer o stigma am OCD o hyd. Os ydych chi'n clywed neu'n gweld rhywun yn siarad am OCD mewn ffordd sy'n stigmateiddio, yn stereoteipio neu'n bychanu OCD, ceisiwch herio hyn. Gallai hyn fod trwy egluro eich profiadau neu rannu ein gwybodaeth am stigma OCD. Nid yw bob amser yn hawdd nac yn ddiogel herio pobl, felly os nad ydych yn teimlo y gallwch wneud hyn, mae hynny'n iawn hefyd.

Roedd mor anodd, yn lle siarad ar lafar, dangosais y straeon a'r disgrifiadau o'r salwch a ddarganfyddais ar Google iddynt a dweud mai dyma sydd gennyf. Dyma lle dechreuodd fy adferiad.

Adnabod a deall gorfodaeth

Mae gan OCD ddwy brif ran sy'n gysylltiedig, obsesiynau a gorfodaeth. Gall gorfodaeth wneud i bobl deimlo'n well ar y dechrau. Ond yn y tymor hir, mae gorfodaeth yn gwaethygu symptomau OCD.

Un o'r pethau anoddaf am gefnogi rhywun ag OCD yw gweithio allan sut i'w helpu i wrthsefyll gorfodaeth. Efallai y byddwch yn eu helpu gyda'u gorfodaeth yn ddiarwybod. Weithiau gelwir hyn yn lletya.

Er enghraifft, fe allech chi:

  • Gwirio rhywbeth drostynt, gan eu helpu gyda'u gorfodaeth
  • Rhoi sicrwydd iddynt trwy ateb cwestiynau am eu pryderon a'u hamheuon dro ar ôl tro
  • Eu helpu i osgoi pethau sy'n eu gwneud yn ofidus neu'n bryderus

Mae'n naturiol eisiau ceisio helpu rhywun. Yn enwedig os ydyn nhw'n ofidus ac maen nhw'n gofyn i chi am help. Efallai y byddwch chi'n teimlo'n euog am beidio â'u helpu neu efallai nad ydych chi'n gwybod sut arall i'w cefnogi.

Ond po fwyaf y byddwch chi'n helpu rhywun gyda'u gorfodaeth OCD, y mwyaf y byddan nhw'n teimlo bod angen yr help hwn arnyn nhw dro ar ôl tro. A gall hyn wneud eu hobsesiynau a'u gorfodaeth yn gryfach dros amser. Mae gennym ragor o wybodaeth am y gylchred OCD.

Cam cyntaf pwysig yn aml yw cydnabod gorfodaeth mewn rhywun sy’n agos atoch. Gall unrhyw beth ddod yn orfodol. Efallai bod ganddyn nhw un prif orfodaeth, neu lawer o rai gwahanol. Gall y rhain newid dros amser.

Gallwch ddarllen rhai enghreifftiau o orfodaeth ar ein tudalen symptomau OCD. Mae rhai arwyddion y gallai rhywun fod yn cael trafferth gyda gorfodaeth yn cynnwys:

  • Bod yn ofidus neu'n gynhyrfus os na allant wneud rhywbeth
  • Angen gwneud rhywbeth eto, ond po fwyaf y maent yn gwneud rhywbeth, y mwyaf y mae'n ymddangos bod angen iddynt ei wneud eto
  • Treulio mwy a mwy o amser yn gwneud rhywbeth
  • Cael yr un sgyrsiau gyda chi, dro ar ôl tro
  • Methu ymddangos i adael fynd neu symud ymlaen o sefyllfaoedd neu deimladau anodd
  • Angen gwneud pethau nad ydynt yn gwneud synnwyr i chi
  • Ymddwyn yn wahanol i’w cymeriad neu yn erbyn eu gwerthoedd
  • Cadw gofyn i chi am sicrwydd, ymddiheuro neu ofyn a ydych chi'n siŵr am rywbeth
  • Gofyn i chi wirio rhywbeth dro ar ôl tro
  • Ymddangos fel petai eu sylw wedi cael ei dynnu neu ymddangos yn fwy pell nag arfer ar adegau
  • Osgoi pethau penodol
  • Cael trafferth rheoli cyfrifoldebau bob dydd ar adegau

Mae fy ngŵr yn gwybod bod yn rhaid iddo ddweud wrthyf pan fyddaf yn dechrau casglu pethau a bydd fy merch yn fy atgoffa trwy ofyn a ydw i eisiau gwneud hyn neu a yw’n broblem OCD.

Eu helpu i reoli gorfodaeth

Gall rheoli gorfodaeth fod yn beth cymhleth ac anodd iawn i'w wneud. Ond mae'n rhan bwysig o reoli OCD. Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i geisio helpu:

  • Cytunwch ar ddull sy'n teimlo'n iawn i'r ddau ohonoch. Er enghraifft, efallai y byddwch yn penderfynu y byddwch yn dweud "rydym wedi cytuno na fyddaf yn ateb cwestiynau o'r fath i dy helpu i reoli dy OCD".
  • Anogwch nhw i herio gorfodaeth lle bo'n briodol. Er enghraifft, gallech geisio eu hatgoffa nad yw gorfodaeth yn ddefnyddiol yn y tymor hir.
  • Peidiwch â rhoi sicrwydd iddynt. Mae ceisio sicrwydd yn symptom cyffredin iawn o OCD sy'n aml yn cynnwys y rhai o'u cwmpas. Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n gofyn i chi a wnaethant rywbeth o'i le. Neu efallai y byddant yn gofyn i chi gadarnhau bod eu hatgof am ddigwyddiad yn wir. Ceisiwch egluro'n ofalus nad ydych eisiau gwneud eu OCD yn waeth trwy dawelu eu meddwl.
  • Ceisiwch beidio â defnyddio rhesymeg i dawelu eu meddwl. Er enghraifft, os ydyn nhw'n poeni eu bod nhw wedi brifo rhywun, efallai y byddwch chi'n ceisio helpu trwy esbonio'r holl resymau pam mae hyn yn annhebygol o fod yn wir. Gallai hyn roi tawelwch meddwl iddynt yn y tymor byr, ond gall wneud iddynt deimlo'r angen i geisio'r sicrwydd hwn eto.
  • Byddwch yn ofalus ond yn gyson. Ar hyn o bryd, efallai y byddan nhw'n teimlo wedi’u brifo neu wedi’u gwrthod os na fyddwch chi'n helpu gyda'u gorfodaeth. Ceisiwch roi esboniadau gofalus, syml heb ddechrau trafodaethau am eu hobsesiynau. Er enghraifft, fe allech chi ddweud, "Rwy'n dy garu di ond fe wnaethom gytuno na fyddwn i'n helpu gyda hyn" neu "Rwy'n gwybod bod hyn yn anodd, ond rwy'n meddwl y gallai hyn fod yn dy OCD sy’n siarad ar hyn o bryd”.
  • Defnyddiwch eiriau cod neu arwyddion os yw'n helpu. Er enghraifft, fe allech chi gynllunio gair neu symbol rhyngoch chi i symboleiddio OCD. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i'w ddefnyddio ar adeg pan fo rhywun yn ofidus ac yn cael trafferth egluro ei deimladau.
  • Ceisiwch ddilysu eu teimladau, yn hytrach na helpu gyda gorfodaeth. Er enghraifft, fe allech chi ddweud, "Rwy'n deall dy fod yn teimlo'n ofidus iawn ar hyn o bryd".
  • Anogwch nhw. Atgoffwch nhw o adegau pan maen nhw wedi llwyddo i wrthsefyll gorfodaeth yn y gorffennol.
  • Ceisiwch aros yn dawel ac yn amyneddgar. Mae'n ddealladwy teimlo'n ddryslyd, yn ofidus neu'n rhwystredig os ydym yn gweld rhywun sy'n bwysig i ni mewn gofid. Ond cofiwch, trwy beidio ag ymgysylltu â gorfodaeth, rydych chi'n ceisio helpu i'w cefnogi.
  • Cofiwch fod gwrthsefyll gorfodaeth yn gofyn am ymarfer i chi ac iddyn nhw. Cymerwch bethau un cam ar y tro.
  • Helpwch i dynnu eu sylw. Awgrymwch bethau y gallwch chi eu gwneud gyda'ch gilydd i dynnu eu ffocws oddi ar eu OCD. Gallai hyn fod yn bethau fel gwylio ffilm neu fynd am dro. Efallai y byddant yn ei chael yn anodd credu y bydd tynnu sylw yn gweithio yn y foment. Gall fod o gymorth i chi ddechrau gweithgaredd eich hun a gadael iddynt ymuno yn raddol.
  • Cynigiwch gwtsh neu gefnogaeth emosiynol arall yn lle helpu gyda gorfodaeth.
  • Ceisiwch gyfaddawdu â'r gorfodaeth rydych chi'n ei helpu i ddechrau. Er enghraifft, os byddwch yn eu helpu gyda nifer o ymddygiadau gorfodol, efallai y bydd angen i chi leihau hyn yn araf.
  • Helpwch oedi'r orfodaeth. Er enghraifft, yn hytrach na chynnig sicrwydd ar unwaith, gallech ofyn iddynt aros am gyfnod penodol o amser cyn i chi siarad. Ceisiwch gynyddu'r oedi ychydig bob tro.
  • Helpwch nhw i leihau gorfodaeth. Er enghraifft, gallech awgrymu ffyrdd y gallent dreulio llai o amser ar eu gorfodaeth, a'u hannog i'w lleihau’n fwy bob tro.
  • Ceisiwch beidio â barnu eich hun os ydych chi weithiau'n helpu gyda gorfodaeth. Mae'n debygol y bydd hyn yn digwydd ar adegau. Efallai y bydd angen i chi wneud hynny mewn sefyllfa o argyfwng neu gall ddigwydd heb i chi sylweddoli. Ceisiwch feddwl sut y gallech reoli'r sefyllfa honno'n wahanol yn y dyfodol.

Eich meddwl cyntaf yw pam nad ydyn nhw'n fy helpu i wirio... ond os ydych chi'n camu'n ôl, yn anadlu, rydych chi'n sylweddoli nad ydyn nhw'n helpu oherwydd eich bod yn bwysig iddyn nhw.

Cydweithio

  • Pan fyddan nhw'n teimlo'n dda, siaradwch a chynlluniwch ar gyfer adegau pan fyddan nhw'n ei chael hi'n anodd yn y dyfodol. Gallai fod o gymorth i chi ysgrifennu eich cynlluniau cytunedig. Er enghraifft, efallai y byddwch am fynd trwy'r awgrymiadau uchod am wrthsefyll gorfodaeth gyda'ch gilydd a phenderfynu pa rai allai weithio orau.
  • Defnyddiwch ddelweddu. Gall fod yn help meddwl am yr OCD fel rhywbeth neu rywun ar wahân. Gallech awgrymu eu bod yn rhoi enw i'w OCD y mae'r ddau ohonoch yn ei ddefnyddio. Efallai y bydd hyn yn eich helpu i egluro mai'r OCD nad ydych chi eisiau ei helpu yw hwn, nid nhw.
  • Rhannwch eich meddyliau ymwthiol eich hun. Gall pobl ag OCD deimlo cywilydd ac unigrwydd mawr am y meddyliau y maent yn eu profi. Gallai fod o gymorth os byddwch yn rhannu rhai o’ch meddyliau ymwthiol eich hun os ydych yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny. Gallai hyn eu helpu i sylweddoli eu bod yn gyffredin. Dysgwch ragor am feddyliau ymwthiol.
  • Ceisiwch osgoi lleihau eu teimladau neu ddweud pethau fel, "paid â phoeni am y peth". Yn lle hynny, ceisiwch gydnabod eu bod yn cael trafferth ar hyn o bryd.
  • Meddyliwch a ydych chi wedi cymryd gormod o gyfrifoldeb. Os ydych chi'n teimlo eich bod chi'n gwneud gormod iddyn nhw, ceisiwch gymryd cam yn ôl a'u hannog i wneud rhai pethau eu hunain. Efallai y bydd angen i chi wneud hyn mewn camau bach.
  • Ceisiwch eistedd gyda'u gofid. Mae'n ddealladwy eich bod eisiau helpu rhywun i deimlo'n well pan fyddant mewn gofid. Yn enwedig os ydyn nhw'n gofyn yn uniongyrchol i chi am help. Ond mae derbyn meddyliau a theimladau anodd yn rhan fawr o reoli OCD. Yn hytrach na cheisio trwsio eu problem neu wneud i'w gofid ddiflannu, ceisiwch eu helpu i'w dderbyn ac eistedd gyda hi.
  • Ceisiwch weithio gyda'ch gilydd a byddwch yn gyson os ydych chi'n rhan o grŵp sy'n cefnogi rhywun, er enghraifft, teulu neu grŵp o ffrindiau.
  • Cofiwch gynnwys y person rydych chi'n ceisio'i gefnogi bob amser pan fyddwch chi'n gwneud penderfyniadau am y ffordd orau i'w gefnogi.

Eu helpu i gael triniaeth

Gall pobl ei chael hi'n anodd siarad â'u meddyg teulu am eu OCD a cheisio triniaeth. Dyma rai ffyrdd y gallech chi eu cefnogi:

  • Atgoffwch nhw y bydd yr apwyntiad yn gyfrinachol a bod y meddyg teulu yno i'w helpu i gael triniaeth.
  • Helpwch nhw i ymarfer yr hyn maen nhw'n mynd i'w ddweud wrth eu meddyg teulu. Neu helpwch nhw i ysgrifennu nodiadau i fynd gyda nhw i'w hapwyntiad.
  • Cynigiwch fynd gyda nhw i siarad â'u meddyg teulu. Gallwch ddarllen rhagor am gefnogi rhywun i geisio cymorth.
  • Gofynnwch iddyn nhw beth allwch chi ei wneud i wneud pethau'n haws. Gall dysgu rheoli OCD fod yn heriol. Er enghraifft, efallai y byddant yn teimlo'n gynhyrfus, yn flinedig, yn bryderus neu'n isel eu hysbryd cyn neu ar ôl mynychu sesiynau therapi.
  • Ceisiwch gyngor ar sut i helpu. Os ydynt yn cael triniaeth, gallai'r ddau ohonoch siarad â'u meddyg teulu neu therapydd am y ffyrdd gorau y gallwch eu helpu i reoli eu symptomau.
  • Cynigiwch obaith. Efallai y byddant yn teimlo na fydd pethau byth yn gwella, yn enwedig os yw’r triniaeth yn anodd iddynt neu os ydynt yn profi anawsterau. Atgoffwch nhw fod llawer o bobl ag OCD yn cael budd o driniaeth. Efallai y bydd yn helpu darllen am bobl sy'n rheoli eu OCD yn llwyddiannus, neu sydd wedi gwella o OCD, yn Eich Straeon.

Dwi erioed wedi hoffi gofyn am help na dweud wrth bobl, hyd yn oed y rhai sy’n agos ata i, sut rydw i’n teimlo, felly hyd yn oed wrth dyfu i fyny, gwnes i osgoi ceisio cymorth.

Bod yn garedig ac amyneddgar

  • Ceisiwch beidio â barnu. Cofiwch fod eu hofnau yn real iawn iddynt, hyd yn oed os ydynt yn ymddangos yn afrealistig, yn afresymol neu'n eithafol i chi.
  • Dathlwch lwyddiannau gyda nhw, waeth pa mor fach. Os ydych chi wedi sylwi eu bod wedi ymdopi â sefyllfa yn dda, dywedwch wrthynt. Neu fe allech chi ddathlu ffyrdd rydych chi wedi ymdopi'n dda gyda'ch gilydd.
  • Canolbwyntiwch ar y person cyfan. Gall OCD gael effaith fawr ar hunan-barch a chymryd drosodd bywydau pobl. Ceisiwch adnabod a dathlu pethau eraill amdanyn nhw neu eich perthynas.
  • Cofiwch eu bod yn gwneud eu gorau. Nid yw ymdopi ag OCD yn syml. Efallai y bydd rhywun yn rheoli ei symptomau'n dda am amser ac yna'n cael rhwystr. Gall hyn deimlo'n ofidus ac yn rhwystredig i wylio. Ond ceisiwch gofio nad ydyn nhw'n dewis cael trafferth. Ac y gallant fod yn teimlo'n ddryslyd ac yn ofidus iawn hefyd. Ceisiwch eu hatgoffa bod rhwystrau yn rhan arferol o reoli OCD a'u hannog i allu ymdopi.
  • Anogwch nhw i fod yn dosturiol gyda’u hunain. Gall OCD ddod â llawer o euogrwydd a chywilydd. Anogwch nhw i drin eu hunain yn garedig.

Roeddwn i’n gallu teimlo rhwystredigaeth anwyliaid am fy angen i barhau i gyflawni’r gorfodaeth hyn, er bod y ddau ohonom yn gwybod ei fod yn afresymegol.

Bod yn garedig ac amyneddgar gyda'ch hun

  • Cymerwch amser i ofalu amdanoch chi'ch hun hefyd. Gall cefnogi rhywun ag OCD fod yn rhwystredig ac yn ofidus ar adegau.
  • Dysgwch ragor am ofalu amdanoch eich hun ar ein tudalennau ar sut i ymdopi wrth gefnogi rhywun arall a gwella eich lles. Gallwch hefyd ymweld â gwefan Carers UK.
  • Rhannwch brofiadau, gofynnwch gwestiynau a chael cefnogaeth gan bobl eraill yn yr un sefyllfa. Mae gan OCD Action ac OCD-UK adrannau yn eu fforymau ar gyfer teulu, ffrindiau a gofalwyr. Efallai y bydd y rhain yn ddefnyddiol i chi.
  • Meddyliwch am yr hyn y gallwch ac na allwch ei reoli. Gall fod o gymorth i ysgrifennu pethau i lawr. Cyn belled ag y byddwch eisiau helpu, ni allwch fod yn gwbl gyfrifol am iechyd meddwl rhywun arall. Y cyfan y gallwch chi ei wneud yw gwneud eich gorau i'w cefnogi.
  • Gofynnwch am gefnogaeth. Os ydych chi'n cael trafferth, cysylltwch ag eraill a gofynnwch am help. Gallai hyn fod drwy bobl sy'n agos atoch chi, neu drwy eich meddyg teulu neu therapydd.
  • Cymerwch bethau un cam ar y tro. Nid ydych chi bob amser yn mynd i wneud na dweud y peth iawn ac mae hynny'n iawn. Os nad ydych chi'n rheoli sefyllfa cystal ag y gallech chi wedi gwneud, ceisiwch faddau eich hun a symud ymlaen.
  • Ceisiwch fod yn garedig i’ch hun. Gall cefnogi rhywun ag OCD ddod â llawer o euogrwydd. Os byddwch yn gwrthod helpu rhywun gyda gorfodaeth, efallai y byddwch yn teimlo'n euog am eu gofid. Ac os gwnewch chi helpu gyda gorfodaeth, efallai y byddwch chi'n teimlo'n euog am beidio â gwrthsefyll. Gwnewch eich gorau a chofiwch fod rheoli OCD yn cymryd ymarfer ac amynedd, i'r person sy'n ei brofi ac i'r rhai sy'n eu cefnogi.

Cymerodd amser hir i fy ngwraig ddysgu sut i ddelio â fy iechyd meddwl, a gwn ei bod yn anodd iawn deall OCD oni bai eich bod yn byw gydag ef.

Beth os yw eu hobsesiynau neu orfodaeth yn ymwneud â mi?

Gall unrhyw beth ddod yn obsesiynol neu'n orfodol. Ac yn aml gall OCD gysylltu â'r pethau sydd bwysicaf i bobl. Mae hyn yn cynnwys y bobl y maent yn eu caru.

Mae obsesiynau a gorfodaeth am berthnasoedd yn gyffredin iawn. Weithiau gelwir hyn yn 'OCD perthynas'. Gall hyn effeithio ar unrhyw berthynas, gan gynnwys partneriaid, ffrindiau ac aelodau o'r teulu.

Efallai y byddwch weithiau'n gweld bod eu OCD yn dechrau ymwneud â chi, neu'ch perthynas â nhw. Er enghraifft, efallai y byddant yn datblygu pryderon obsesiynol nad ydych yn poeni amdanynt mwyach. Efallai y byddant yn gofyn yn orfodol i chi roi sicrwydd iddynt eu bod yn bwysig i chi. Neu efallai y byddan nhw'n poeni nad ydyn nhw bellach yn poeni amdanoch chi ac efallai'n cyfaddef hyn i chi yn orfodol.

Gall hyn fod yn heriol iawn. Gall fod yn anoddach eu helpu i reoli neu wrthsefyll yr orfodaeth hon. Gall fod yn anodd gweithio allan a yw rhywbeth yn broblem wirioneddol gyda'ch perthynas neu'n symptom o'u OCD. A gall hefyd fod yn anodd peidio â chymryd pethau'n bersonol os yw eu pryderon neu amheuon yn ymwneud â chi.

Ceisiwch beidio â chymryd rhan mewn unrhyw orfodaeth, hyd yn oed os ydynt yn ymwneud â chi. Os ydych chi'n meddwl y gallai OCD achosi gofid rhywun, ceisiwch ohirio unrhyw sgyrsiau neu ddadleuon pwysig nes eu bod yn teimlo'n dawelach eu meddwl. A chymerwch amser allan o'r sefyllfa os oes angen. Cofiwch fod eich teimladau a'ch anghenion yn bwysig hefyd.

Mae yna reswm pam bod OCD yn cael ei adnabod fel 'yr anhwylder cyfrinachol', oherwydd dyna'n union ydyw, ac fe roddodd straen enfawr ar ein perthynas, ond ers hynny rydym wedi gweithio drwy'r materion hyn gyda'n gilydd ac rydym yn symud ymlaen nawr.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Tachwedd 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig