Anhwylder gorfodaeth-obsesiynol (OCD)
Mae’r dudalen hon yn esbonio anhwylder gorfodaeth-obsesiynol (OCD), gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael mynediad at driniaeth a chymorth. Mae’n cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.
Beth sy'n achosi OCD?
Mae yna wahanol ddamcaniaethau ynghylch pam bod rhywun yn datblygu OCD. Ni all unrhyw ddamcaniaeth esbonio profiad pob person yn llawn. Ond mae ymchwil yn awgrymu y gallai'r rhain fod yn gysylltiedig ag achosi OCD:
Er nad ydym yn deall yn iawn beth sy'n achosi OCD, gellir ei drin yn llwyddiannus. Gweler ein tudalen ar driniaeth OCD am ragor o wybodaeth.
Profiad personol
Mae rhai damcaniaethau yn awgrymu bod OCD yn cael ei achosi gan brofiad personol. Er enghraifft:
- Os ydych chi wedi cael profiad poenus yn ystod plentyndod, neu wedi dioddef trawma, cam-drin, gwahaniaethu neu fwlio, efallai y byddwch chi'n dysgu defnyddio obsesiynau a gorfodaeth i ymdopi â gorbryder.
- Os oedd gan eich rhieni bryderon tebyg ac yn dangos mathau tebyg o ymddygiad gorfodol, efallai eich bod wedi dysgu ymddygiadau OCD fel techneg ymdopi.
- Gallai gorbryder neu straen parhaus ysgogi OCD neu ei gwneud yn anoddach i'w reoli.
- Gall beichiogrwydd neu roi genedigaeth weithiau achosi OCD amenedigol. Darllenwch ragor am OCD amenedigol.
Ffactorau biolegol
Mae rhai damcaniaethau yn awgrymu y gall OCD gael ei achosi gan rywbeth corfforol yn ein corff neu ymennydd. Weithiau gelwir y rhain yn ffactorau biolegol.
Mae rhai damcaniaethau biolegol yn awgrymu y gallai diffyg cemegyn yr ymennydd serotonin fod â rôl mewn OCD. Fodd bynnag, nid yw'n glir a yw hyn yn achos neu'n effaith i'r cyflwr.
Mae astudiaethau hefyd wedi edrych ar ffactorau genetig a sut y gallai gwahanol rannau o'r ymennydd fod yn gysylltiedig ag achosi OCD. Ond nid ydynt wedi dod o hyd i unrhyw beth pendant.
Gallwch ddarllen rhagor am achosion OCD ar wefan OCD-UK.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Tachwedd 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.
