Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Gorbryder a phyliau o banig

Mae'n egluro gorbryder a phyliau o banig, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Sut y gall pobl eraill helpu?

Mae'r dudalen hon ar gyfer ffrindiau a theulu sydd am helpu rhywun sy'n profi gorbryder neu byliau o banig.

Gall fod yn anodd iawn pan fydd rhywun sy'n agos atoch yn profi gorbryder neu byliau o banig, ond mae pethau y gallwch eu gwneud i helpu. Dyma rai awgrymiadau:

Peidiwch â rhoi pwysau arnynt

Ceisiwch beidio â rhoi pwysau ar eich ffrind neu aelod o'ch teulu i wneud mwy nag y mae'n teimlo'n gyfforddus yn ei wneud. Mae'n bwysig iawn bod yn amyneddgar, gwrando ar ei ddymuniadau a gwneud pethau ar gyflymder y mae'n gyfforddus ag ef.

Mae'n naturiol eich bod am ei helpu i wynebu ei ofnau neu ddod o hyd i atebion ymarferol, ond gall ei orfodi i wneud rhywbeth cyn ei fod yn teimlo'n barod i wneud hynny achosi llawer o ofid iddo. Gallai hyn wneud ei orbryder yn waeth hyd yn oed.

Ceisiwch gofio bod methu rheoli pryderon yn un o symptomau gorbryder, ac nad yw'n dewis teimlo fel hyn.

Beth sy'n fy helpu i yw llonyddwch, derbyniad – yn hytrach na cheisio ei esbonio drwy ddadl ‘resymegol’.

Helpu rhywun sy'n cael pwl o banig

Mae'n naturiol teimlo'n ofnus os bydd rhywun rydych chi'n gofalu amdano yn cael pwl o banig – yn enwedig os yw'n ymddangos ei fod yn digwydd heb rybudd. Ond gall eich helpu os byddwch:

  • yn ceisio peidio â chynhyrfu
  • yn dweud wrtho'n dawel eich bod chi'n meddwl y gall fod yn cael pwl o banig a'ch bod chi yno iddo
  • yn ei annog i anadlu'n araf ac yn ddwfn – gall helpu i wneud rhywbeth strwythuredig neu ailadroddus y gall ganolbwyntio arno, fel cyfrif yn uchel, neu ofyn iddo eich gwylio wrth i chi symud eich braich i fyny ac i lawr
  • ei annog i guro ei draed yn ei unfan
  • ei annog i eistedd yn rhywle'n dawel lle gall ganolbwyntio ar ei anadl nes ei fod yn teimlo'n well.

Ni ddylech annog rhywun i anadlu i mewn i fag papur pan fydd yn cael pwl o banig. Dyw hyn ddim yn cael ei argymell ac efallai na fydd yn ddiogel.

Mae rhagor o wybodaeth ac awgrymiadau ar sut i ymdopi ar ein tudalen ar byliau o banig.

Ceisiwch ddeall

  • Dysgwch gymaint ag y gallwch am orbryder.Bydd hyn yn eich helpu i ddeall yr hyn y mae'n ei wynebu. Gall darllen straeon personol am orbryder helpu hefyd.
  • Gofynnwch iddo siarad am ei brofiad.Gallech ofyn sut mae gorbryder yn effeithio ar ei fywyd pob dydd, a beth sy'n ei wneud yn well neu'n waeth. Gallai gwrando ar y ffordd y mae'n profi pethau eich helpu chi i uniaethu â'r ffordd y mae'n teimlo​.

Byddwch yn garedig, a pheidiwch â barnu. Gadewch i ni wybod y daw i ben, gadewch i ni wybod eich bod chi yno.

Gofynnwch sut y gallwch chi helpu

Efallai y bydd eich ffrind neu'r aelod o'r teulu yn gwybod yn barod sut y gallwch ei helpu – er enghraifft, ei helpu mewn sefyllfaoedd anodd, siarad ag ef yn dawel neu wneud ymarfer anadlu gydag ef.

Drwy ofyn beth sydd ei angen arno neu sut y gallwch helpu, gallwch ei helpu i deimlo bod ganddo fwy o reolaeth dros bethau.

Gallai gwybod bod rhywun yno sy'n gwybod beth i'w wneud os bydd yn dechrau teimlo'n ofnus neu mewn panig ei helpu i deimlo'n fwy diogel a thawel.

Fy atgoffa i anadlu, gofyn i mi beth sydd ei angen arna i.

Cefnogwch nhw i geisio help

Os byddwch chi'n credu bod gorbryder eich ffrind neu'r aelod o'r teulu yn mynd yn broblem, gallech ei annog i geisio triniaeth drwy siarad â meddyg teulu neu therapydd. Gallech wneud y canlynol:

  • Cynnig helpu i wneud apwyntiad â'r meddyg. Os bydd yn ofni gadael y tŷ, gallech chi awgrymu y dylai ffonio ei feddyg teulu i weld a fydd yn cynnal ymweliadau cartref ac apwyntiadau dros y ffôn.
  • Cynnig cymorth pan fydd yn mynd i apwyntiadau. Gallech gynnig mynd gydag ef i'w apwyntiadau ac aros yn yr ystafell aros. Gallech hefyd ei helpu i gynllunio'r hyn yr hoffai siarad amdano gyda'r meddyg. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar siarad â'ch meddyg teulu.
  • Ei helpu i geisio help gan therapydd. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar sut i ddod o hyd i therapydd.
  • Ei helpu i ymchwilio i opsiynau gwahanol ar gyfer cymorth, fel gwasanaethau cymunedol neu grwpiau cymorth gan gymheiriaid fel y rhai sy'n cael eu rhedeg gan Anxiety UK a No Panic. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar gysylltiadau defnyddiol. Gallech chi hefyd ffonio Llinell Wybodaeth Mind i gael gwybod mwy am wasanaethau lleol.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar helpu rhywun arall i geisio help.

Gofalwch amdanoch chi eich hun

Weithiau, gall fod yn heriol iawn cefnogi rhywun sydd â phroblem iechyd meddwl – dydych chi ddim ar eich pen eich hun os bydd popeth yn teimlo'n ormod i chi weithiau. Mae'n bwysig cofio gofalu am eich iechyd meddwl eich hun hefyd, fel bod gennych chi yr egni, yr amser a'r lle sydd eu hangen arnoch chi i helpu.

Er enghraifft:

  • Gosodwch ffiniau a pheidiwch â chymryd gormod o'r pwysau. Os byddwch chi'n mynd yn sâl eich hun, fyddwch chi ddim yn gallu ei helpu ef na chi eich hun yn yr un ffordd. Mae hefyd yn bwysig penderfynu beth yw eich terfynau a faint rydych chi'n teimlo y gallwch chi helpu.
  • Rhannwch eich rôl ofalu ag eraill os bydd modd gwneud hynny. Yn aml, mae'n haws helpu rhywun os na fyddwch chi'n gwneud hynny ar eich pen eich hun.
  • Siaradwch ag eraill am y ffordd rydych chi'n teimlo. Efallai y byddwch chi am fod yn ofalus ynghylch faint o wybodaeth rydych chi'n ei rhannu am y person rydych chi'n ei helpu, ond gall siarad am eich teimladau chi â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo eich helpu chi i deimlo eich bod chi'n cael eich cefnogi hefyd.
  • Dod o hyd i gymorth i chi eich hun. Mae'r sefydliadau yn cysylltiadau defnyddiol yno i'ch helpu chi hefyd. Efallai y byddwch chi'n gweld bod cymorth gan gymheiriaid neu therapïau yn ffordd dda o rannu eich teimladau.

Mae rhagor o awgrymiadau ar ein tudalennau ar sut i ymdopi wrth roi cymorth i rywun arall, delio â phwysau a sut i wella eich lles meddwl.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig