Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Deall eiriolaeth – ar gyfer pobl ifanc

Gwybodaeth i bobl ifanc yn egluro eiriolaeth a sut y gall eiriolwyr eich helpu i godi’ch llais. Mae’r dudalen hon hefyd yn egluro sut y gallwch chi eirioli drosoch chi eich hun.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Sut i eirioli drosoch chi'ch hun

Mae eirioli drosoch chi’ch hun yn golygu codi llais am y pethau sy’n bwysig i chi. Efallai byddwch chi’n clywed hyn yn cael ei alw’n ‘hunan-eiriolaeth’.

Disgrifiodd pobl ifanc y siaradom â nhw hyn fel a ganlyn:

  • “Mae’n golygu gallu siarad ar gyfer eich hun yn hytrach na dibynnu ar eraill - cael yr hyder i ddweud pan fyddwch chi’n credu nad yw rhywbeth yn iawn.”
  • “Mae’n golygu lleisio eich barn yn hytrach nag eistedd yn ôl a gadael i weithwyr proffesiynol wneud y penderfyniadau ar eich rhan.”
  • “Mae’n golygu gallu egluro’r hyn yr ydych yn ei deimlo ac yn ei feddwl eich hun, a gallu gweithio trwy’r hyn rydych yn ei feddwl amdano ac yn teimlo am benderfyniadau penodol.”

Mae’r dudalen hon yn trafod:

A yw hunan-eiriolaeth yn iawn i mi?

Mae gallu siarad ar gyfer eich hun yn bwysig iawn, ond nid yw bob amser yn hawdd. Er enghraifft:

  • Efallai byddwch chi’n teimlo nad ydych chi’n gwybod digon am eich problem iechyd meddwl, eich hawliau a’r opsiynau sydd ar gael i eirioli drosoch chi’ch hun.
  • Efallai na fyddwch chi’n teimlo’n gyfforddus neu’n ddigon iach i leisio eich barn a chwestiynau ar eich pen eich hun.

Efallai bydd rhai sefyllfaodd lle y byddwch chi’n teimlo’n fwy cyfforddus i eirioli drosoch chi’ch hun, ac eraill lle y bydd hi’n anoddach i chi.

Cofiwch: ni ddylech roi unrhyw bwysau ar eich hun i hunan-eirioli, ond os allwch chi, gallwch ddarllen ein awgrymiadau am sut i eirioli drosoch chi’ch hun ac ymarfer technegau.

Awgrymiadau ar gyfer eirioli drosoch chi'ch hun

Rydym wedi rhestru awgrymiadau isod, y gallwch chi eu defnyddio:

  • Ar eich pen eich hun
  • Gyda chefnogaeth teulu, gofalwyr, ffrindiau neu bartneriaid
  • Gyda chefnogaeth eiriolwr proffesiynol

Adeiladu eich hyder a hunan-barch

Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu ac adeiladu eich hyder a hunan-barch, fel:

  • Bod yn garedig i’ch hun
  • Gofalu am eich lles a iechyd corfforol
  • Canolbwyntio ar y pethau cadarnhaol
  • Treulio amser gyda phobl
  • Dysgu sut i fynnu’ch hawliau

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen am hyder a hunan-barch.

Paratoi ar gyfer apwyntiadau a chyfarfodydd

Gallwch anghofio’r pethau rydych eisiau eu dweud mewn apwyntiadau a chyfarfodydd yn hawdd. Mae paratoi’ch hun yn gallu eich helpu i fanteisio arnynt i’r eithaf.

Gallech:

  • Ysgrifennu’r hyn rydych am ei ddweud ymlaen llaw.
  • Ymarfer yr hyn y gallech ei ddweud yn eich pen neu gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt. Gall hyn fod yn eiriolwr proffesiynol, aelod o’r teulu, gofalwr, ffrind neu bartner.
  • Dod ag unrhyw wybodaeth sy’n egluro’r hyn yr ydych eisiau ei ddweud.
  • Ysgrifennu rhestr o gwestiynau i fynd â nhw gyda chi.
  • Ysgrifennu sut aeth y cyfarfod neu apwyntiad, a sut oeddech chi’n teimlo wedi hynny.

“Mae’n golygu peidio bod ofn dweud wrth bwy bynnag rwy’n siarad â nhw fy mod wedi darllen am hyn ac yn gwybod beth rwy’n siarad amdano. Mae’n golygu bod yn hyderus yn eich gwybodaeth.”

Dod o hyd i wybodaeth

Bydd y math o wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn dibynnu ar eich sefyllfa a’r hyn sy’n mynd ymlaen i chi.

Dyma rai llefydd y gallwch chi chwilio am wybodaeth:

“Oherwydd bod gen i ddiddordeb yn fy ngofal, rwy’n hoffi cael cymaint o wybodaeth ag y gallaf.”

Meddwl am yr hyn yr ydych chi'n teimlo sy'n anghywir a sut y gall fod yn well

Treuliwch amser yn meddwl am yr hyn sy’n teimlo’n anghywir a sut y mae hyn yn effeithio arnoch, yna meddyliwch am sut y gall y sefyllfa fod yn well, neu ba newid yr ydych chi eisiau ei weld.

Gallech ysgrifennu hwn petai hynny’n ddefnyddiol i chi.

“Os nad ydych chi’n cytuno â rhywbeth, gallwch ddweud hynny.”

Meddwl am bobl sydd angen i chi siarad â nhw

Ysgrifennwch restr o’r bobl sydd angen i chi siarad â nhw am yr hyn sy’n digwydd i chi.

Os nad ydych chi’n gwybod pwy ydyn nhw, gallech ofyn i’ch cydlynydd gofal os ydych chi’n cael triniaeth a chefnogaeth drwy CAMHS, neu nyrs os ydych chi yn yr ysbyty.

Gofyn am gymorth

Oherwydd eich bod chi’n eirioli drosoch chi’ch hun, nid yw hynny’n golygu na allwch chi gael cefnogaeth ychwanegol gan eiriolwr proffesiynol.

Gallai eiriolwr eich helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am hunan-eiriolaeth, neu gallant eich helpu â sefyllfaoedd sy’n anodd i chi.

Gallwch hefyd gael cefnogaeth gan aelodau o’r teulu, gofalwyr, ffrindiau neu bartneriaid.

Cofiwch: nid ydych chi ar eich pen eich hun.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen am eiriolaeth ac iechyd meddwl.

“Dysgais sut i ddatrys problem [gyda fy eiriolwr]. Sylwais y byddem yn defnyddio’r un camau a’r un ffordd resymegol o feddwl ar gyfer pob problem. Rwy’n dal i wneud hynny nawr.”

Ceisiwch beidio â digalonni os ydych chi’n llithro’n ôl

Hyd yn oed os oes syniad eglur gennych chi am yr hyn sydd o’i le a sut i’w wneud yn well, efallai bydd hi’n anodd i chi wneud eraill i ddeall.

Ni allwch reoli’r hyn y mae pobl eraill yn ei wneud ac ni ddylech adael i’w gweithredoedd eich atal rhag rhoi cynnig arni.

“Weithiau mae’r ffordd y mae gweithwyr meddygol proffesiynol yn siarad â chi’n gallu bod ychydig yn nawddoglyd. Os yw hynny’n digwydd neu’ch bod chi’n teimlo nad ydynt yn eich ystyried o ddifrif, peidiwch â gadael hynny eich digalonni. Parhewch.”

Argymhellion gan bobl ifanc y gwnaethom siarad â nhw

  • “Credwch ynoch chi’ch hun. Chi sy’n gwybod eich meddwl a’ch corff orau.”
  • “Byddwch yn ddyfalbarhaus a sicrhewch fod cynnydd yn cael ei wneud.”
  • “Gwnewch amser i gael gofal personol.”
  • “Ysgrifennwch ddyddiadur i gadw trefn ar eich meddyliau.”
  • “Cadwch yn gryf a pharhewch i frwydro! Efallai byddwch chi’n dod ar draws rhwystrau ar hyd y ffordd, ond peidiwch ag anghofio’r hyn rydych chi’n brwydro drosto.”

Gall eirioli drosoch chi’ch hun fod yn anodd, felly mae’n bwysig gofalu am eich hun.

Gweler ein tudalen am ofalu am eich lles i gael rhagor o wybodaeth.

“Nawr, rwy’n teimlo y gallaf fod yn eiriolwr drosof i fy hun oherwydd rwy’n teimlo llawer yn fwy hyderus ac annibynnol. Er hynny, pan fyddwch chi’n teimlo’n fwy bregus, gall fod yn anodd gwneud hyn.”

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2022. Byddwn yn ei diwygio yn 2025.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os hoffech chi ail-gynhyrchu unrhyw ran o'r wybodaeth hon, gweler ein tudalen am hawliau a thrwyddedu.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig