Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT)

Mae’r dudalen hon yn esbonio beth yw CBT, yr hyn mae’n ei drin a sut i ddod o hyd i therapydd. Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ynghylch sut i roi cynnig ar CBT ar eich pen eich hun.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw CBT?

Math o therapi siarad yw Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT). Mae’n driniaeth gyffredin ar gyfer amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl.

Mae CBT yn dysgu sgiliau ymdopi i chi ddelio â gwahanol broblemau. Mae’n canolbwyntio ar sut mae eich meddyliau, credoau ac agweddau’n effeithio ar eich teimladau a gweithredoedd.

"Mae CBT yn dda iawn i fy helpu i beidio â gwrando ar fy llais hunan-feirniadol, sydd mor niweidiol."

Sut mae CBT yn gweithio?

Gwyliwch ein fideo i ddysgu rhagor am sut mae CBT yn gweithio, ac i weld a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Beth yw'r theori y tu ôl i CBT?

Mae CBT yn seiliedig ar y syniad y gall sut rydym yn meddwl am sefyllfaoedd effeithio ar y ffordd yr ydym yn teimlo ac yn ymddwyn. Er enghraifft, os ydych chi’n dehongli sefyllfa’n negyddol, mae’n bosibl y byddwch yn profi emosiynau negyddol. Gall y teimladau gwael hynny eich arwain i ymddwyn mewn ffordd benodol.

Mae CBT yn cyfuno dau fath o therapi i’ch helpu i ddelio â’r meddyliau ac ymddygiadau hyn:

  • therapi gwybyddol, sy'n edrych ar y pethau rydych chi'n eu meddwl
  • therapi ymddygiadol, sy’n edrych ar y pethau rydych chi’n eu gwneud

"Fe wnaeth CBT fy helpu yn ystod cyfnod anodd iawn, o deimlo'n hunanladdol ac i ffwrdd o'r gwaith yn sâl yn hirdymor, weithredu'n hollol eto a bod mewn gyrfa lwyddiannus. Fe wnaeth fy nhynnu'n ôl o le tywyll iawn ac ailgyflwyno strwythur i fy mywyd pan oeddwn wedi rhoi'r gorau iddi."

Beth mae CBT yn ei drin?

Mae CBT yn driniaeth gyffredin ar gyfer sawl problem a phrofiad iechyd meddwl, gan gynnwys:

Efallai bydd addasiad o CBT yn cael ei gynnig i chi i drin problem iechyd meddwl. Gallai fod gan rai addasiadau o CBT ar gyfer problemau penodol enw ychydig yn wahanol.

Er enghraifft, efallai bydd CBT sy’n canolbwyntio ar drawma (TF-CBT) yn cael ei gynnig i chi i drin anhwylder straen wedi trawma (PTSD).

Efallai bydd CBT hefyd yn cael ei gynnig i chi ar gyfer problemau iechyd corfforol. Mae hyn yn cynnwys os ydych chi’n profi problem iechyd meddwl ar y cyd â phroblem iechyd corfforol.

Gofal mewn camau

Os yw triniaeth ar gyfer eich iechyd meddwl gan y GIG yn cael ei gynnig i chi ar gyfer eich iechyd meddwl, efallai byddant yn cynnig CBT i chi fel y driniaeth gyntaf. Os nad yw CBT yn gweithio, efallai byddant yn cynnig mathau gwahanol o therapi siarad neu gwnsela i chi.

Gelwir y dull hwn yn ofal mewn camau. Gall olygu bod angen i chi roi cynnig ar CBT cyn i chi allu cael triniaethau eraill.

"Dysgu sut i stopio'r patrwm o feddwl negyddol yw CBT. Rwy'n dal i gael cyfnodau o ailwaelu nawr a dyma'r un dull rwy'n ei ddefnyddio i fy helpu drwy'r cyfnodau gwirioneddol dywyll."

Sut beth yw sesiynau CBT?

Mewn sesiynau CBT, rydych chi’n gweithio gyda therapydd i adnabod a herio patrymau meddwl ac ymddygiad negyddol.

Efallai byddwch chi a’ch therapydd yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd yn eich bywyd nawr. Efallai byddwch hefyd yn siarad am sut mae eich profiadau yn y gorffennol wedi effeithio arnoch chi.

Triniaeth tymor byr yw CBT fel arfer, lle rydych yn cael nifer penodedig o sesiynau. Gall hyn amrywio yn dibynnu ar eich ardal leol neu wasanaeth therapi, a’r rheswm yr ydych chi’n cael CBT.

"Gall fod yn frawychus i wynebu rhestr o bethau na allwch chi eu gwneud, ond helpodd CBT i mi dorri fy amcanion i rannau haws."

Yn ystod y sesiynau

Gallai sesiwn CBT nodweddiadol gynnwys:

  • gweithio drwy ymarferion gyda’ch therapydd i archwilio eich meddyliau, teimladau ac ymddygiad
  • cytuno ar rai gweithgareddau i weithio arnynt yn ystod eich amser eich hun
  • trafod yr hyn a wnaethoch yn ystod sesiynau blaenorol a’r cynnydd yr ydych wedi’i wneud.

Y tu allan i'r sesiynau

Gall CBT gynnwys gweithgareddau i chi eu gwneud y tu allan i’ch sesiynau gyda therapydd. Gall hyn gynnwys cwblhau taflenni gwaith neu gadw dyddiadur.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi ymrwymo amser eich hun i gwblhau’r gwaith yn ystod cyfnod y driniaeth. Mae’n bosibl hefyd y bydd angen i chi barhau â hyn ar ôl i’r driniaeth ddod i ben.

Mae gan ein hadnodd am beth sy'n digwydd yn ystod therapi ragor o wybodaeth am sesiynau therapi. Gallwch hefyd ddysgu rhagor am sut mae CBT yn gweithio ar wefan British Association for Behavioural & Cognitive Psychotherapies (BABCP), gan gynnwys gwybodaeth mewn gwahanol ieithoedd.

"Fe wnaeth CBT fy helpu drwy fy anhwylder gorbryder iechyd cronig. Roedd hi'n chwe mis anodd, ond rwy'n dal i ddefnyddio'r sgiliau y dysgais dros 10 mlynedd yn ôl i resymoli gyda fi fy hun."

Sut alla i gael CBT?

Mae’n bosibl y gallwch chi gael mynediad at CBT drwy’r GIG, elusennau, eich gweithle neu sefydliad addysg, neu’r sector preifat.

Dod o hyd i therapydd

"Rwy'n dal i deimlo gorbryder, ond helpodd CBT i mi gael mewnwelediad a phersbectif. Dyma oedd dechrau fy nhaith i adfer, ond nid yr unig ran."

CBT ar gyfer iselder a gorbryder

"Rwyf wedi sylwi fy mod i'n cyfeirio'n ôl at bethau a ddysgais yn ystod sesiynau CBT."

Alla i wneud CBT ar fy mhen fy hun?

Efallai byddwch chi’n gallu gwneud CBT ar eich pen eich hun, gan gynnwys ar gyfrifiadur neu lyfr gwaith. Er enghraifft, mae llyfrgell apiau'r GIG yn rhestru rhai apiau iechyd meddwl y gallent fod o gymorth.

Gallai hyn fod yn ddefnyddiol os ydych chi’n aros am driniaeth, neu gall eich atgoffa am rai technegau da os ydych chi wedi cael CBT yn y gorffennol.

Nid yw rhai triniaethau CBT yn addas i chi roi cynnig arnynt ar eich pen eich hun. Yn benodol, mae National Institute for Health and Care Excellence (NICE) yn argymell na ddylid defnyddio CBT cyfrifiadurol fel mater o drefn i drin ffobiâu penodol.

Gallwch hefyd siarad â’ch meddyg neu dîm gofal iechyd ynghylch a allai rhoi cynnig ar CBT ar eich pen eich hun fod o gymorth. Efallai gallant:

"Roeddwn wedi rhoi cynnig ar CBT o'r blaen pan gefais y diagnosis am y tro cyntaf, ac nid oedd yn ddefnyddiol iawn i mi. Ond yr ail dro, fe wnaeth newid fy mywyd yn hollol."

Beth os nad yw CBT yn gweithio i mi?

Er bod CBT yn ddefnyddiol i rai pobl, nid yw hynny’n wir i bawb. Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar rywbeth ac nid yw wedi helpu, mae’n bwysig peidio â beio eich hun. Gweler ein gwybodaeth am beth i'w wneud os nad yw therapi'n helpu ac opsiynau amgen i therapi ar gyfer pethau eraill y gallwch chi roi cynnig arnynt.

"Cefais fy annog i roi cynnig ar CBT eto gyda therapydd gwahanol. Rwy'n hoffi'r un yma ac rwy'n dod ymlaen llawer yn well. Mae'r therapydd sydd gennych yn gwneud gwahaniaeth mawr!"

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig