Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Hyder a hunan-barch – ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed

Canllaw i bobl ifanc ar ddeall hyder a hunan-barch, y pethau a allai effeithio arnyn nhw a ble i chwilio am gymorth.

Deall hyder, hunan-barch ac iechyd meddwl

Gall pob un ohonon ni gael trafferth gyda diffyg hyder a hunan-barch weithiau. A gall y ffordd rydyn ni’n teimlo amdanon ni ein hunain a’n galluoedd newid drwy gydol ein bywydau.

Bydd y dudalen hon yn dy helpu i ddeall sut gall gwahanol bethau effeithio ar dy hyder a dy hunan-barch, a sut gall pob un ohonyn nhw ymwneud â dy iechyd meddwl.

Os wyt ti wedi cael trafferth gyda diffyg hyder neu hunan-barch ers tro, mae’n iawn gofyn am help. Rydyn ni i gyd yn haeddu teimlo’n dda amdanon ni ein hunain.

Sut alla i wella fy hyder a fy hunan-barch?

Os wyt ti’n teimlo dy fod yn deall beth yw hyder a hunan-barch yn barod, edrycha ar ein hawgrymiadau ar sut i’w gwella ar dy gyfer dy hun.

Sut i fagu hyder a hunan-barch

Mae gweld pobl eraill yn dewis treulio amser gyda fi wedi fy helpu i sylweddoli bod llawer o bethau rwy’n eu hoffi amdana i fy hun, ac i boeni llai am yr hyn roedden nhw’n ei feddwl amdana i.

Beth yw hyder?

Mae hyder yn golygu credu ac ymddiried ynon ni ein hunain, ein galluoedd a’n syniadau. Gallai gynnwys teimlo ein bod ni’n gallu:

  • Cyfrannu at drafodaethau yn yr ysgol, yn y coleg neu yn y gwaith
  • Ceisio gwneud ffrind newydd, er enghraifft drwy gynnig gwneud rhywbeth gyda’n gilydd
  • Ceisio dysgu sgìl newydd neu ddechrau hobi newydd
  • Goresgyn anawsterau a heriau

Mae hyder hefyd yn golygu ein deall a’n derbyn ni ein hunain am bwy ydyn ni. Gallai hyn gynnwys:

  • Teimlo’n gyfforddus gyda'r ffordd rydyn ni’n edrych
  • Teimlo’n falch o’n rhywioldeb
  • Peidio â cheisio newid pwy ydyn ni er mwyn cyd-fynd â phobl eraill
  • Derbyn ein bod ni i gyd yn unigryw, a bod gan bob un ohonon ni ein cryfderau a’n gwendidau ein hunain

Dydy hyder ddim yn golygu:

  • Meddwl ein bod ni’n well na phobl eraill
  • Meddwl ein bod ni’n dda am wneud popeth
  • Peidio byth â theimlo’n ofnus, yn nerfus nac yn ansicr
  • Bod yn uchel ein cloch ac yn gymdeithasol iawn drwy’r amser

Rwy’n credu bod derbyn pwy wyt ti a bod yn falch o unrhyw beth sy’n dy wneud di’n wahanol yn bwysig iawn. Dim ond un fersiwn ohonot ti dy hun sydd.

Enghraifft: Aneesa yn dod o hyd i’w llais

Roedd Aneesa yn amau ei hun drwy’r amser, yn enwedig yn yr ysgol. Byddai hi’n osgoi codi ei llaw a siarad yn y dosbarth oherwydd am ei bod hi’n teimlo nad oedd ei syniadau hi’n ddigon da. Roedd hi’n ofni y byddai pobl yn chwerthin am ei phen hi.

Un diwrnod, gofynnodd ei hathrawes iddi hi gyflwyno prosiect o flaen y dosbarth – roedd hi wedi gweithio’n galed iawn ar y prosiect hwn. Roedd Aneesa’n teimlo’n nerfus iawn yn sefyll o flaen ei chyd-ddisgyblion ac roedd ei llais yn crynu.

Ond, wrth iddi edrych i fyny, gwelodd ei ffrindiau a chyd-ddisgyblion eraill yn edrych arni, yn gwenu ac yn cymryd diddordeb yn yr hyn roedd hi’n ei ddweud. Erbyn iddi hi orffen, roedd hi wedi ymlacio rhywfaint ac yn credu ‘doedd hynny ddim mor wael’.

Nawr, mae Aneesa’n codi ei llaw yn amlach, hyd yn oed pan fydd hi’n teimlo’n nerfus. Y rheswm dros hyn yw ei bod hi’n teimlo bod ei syniadau a’i meddyliau’n werth eu rhannu. Mae Aneesa’n falch iawn o'r ffordd mae ei hyder wedi tyfu ac mae am barhau i ymarfer siarad yn gyhoeddus. Mae hi’n ystyried ymuno â chlwb dadlau yn y dyfodol.

decorative

Does dim rhaid i rywun sy’n hyderus fod yn allblyg ac yn gymdeithasol. Fe allwn ni fod yn dawel neu’n swil a bod yn hyderus o hyd.

Hyd yn oed os mai ni yw’r person uchaf ei gloch yn yr ystafell, dydy hynny ddim bob amser yn golygu ein bod ni’n teimlo’n hyderus ar y tu mewn.

Beth yw hunan-barch?

Ystyr hunan-barch yw’r ffordd rydyn ni’n gweld ein hunain ac yn teimlo amdanon ni ein hunain.

Os bydd gennyn ni lawer o hunan-barch, mae’n debygol y bydd y ffordd y byddwn ni'n meddwl ac yn teimlo amdanon ni ein hunain yn gadarnhaol. Fe allai hyn gynnwys:

  • Hoffi a gwerthfawrogi ein hunain
  • Credu ynon ni ein hunain a’r pethau y gallwn ni eu gwneud
  • Credu ein bod ni’n haeddu cael ein trin yn dda gan bobl eraill
  • Credu ein bod ni’n haeddu gofalu amdanon ni ein hunain
  • Teimlo ein bod ni’n gallu rhoi cynnig ar bethau newydd neu anodd
  • Credu ein bod ni’n gallu ymdopi â newid a heriau
  • Teimlo ein bod ni’n gallu dadlau droson ni ein hunain
  • Credu ein bod ni'n bwysig ac yn haeddu teimlo’n dda amdanon ni ein hunain

Os bydd gennyn ni ddiffyg hunan-barch, efallai y byddwn ni’n meddwl ac yn teimlo amdanon ni ein hunain mewn ffordd fwy negyddol. Gallai hyn gynnwys:

  • Teimlo’n wael amdanon ni ein hunain a pheidio â hoffi ein hunain
  • Meddwl nad ydyn ni’n dda am wneud dim byd
  • Poeni am y ffordd rydyn ni’n edrych neu'r hyn mae pobl eraill yn ei feddwl amdanon ni
  • Osgoi sefyllfaoedd cymdeithasol a gweithgareddau penodol
  • Teimlo nad ydyn ni’n ddigon da
  • Rhoi amser caled i ni ein hunain

Gall pob un ohonon ni brofi’r meddyliau, y teimladau a’r ymddygiadau hyn weithiau. Ond pan fyddwn ni’n teimlo fel hyn am amser hir, fe allai fod yn arwydd bod angen ychydig o gymorth arnon ni.

Mae hunandderbyn a hunandrugaredd yn rhannau pwysig o hunan-barch:

  • Mae hunandderbyn yn golygu credu bod gan bob un ohonon ni gryfderau a rhinweddau da, gan dderbyn ar yr un pryd fod gan bob un ohonon ni gyfyngiadau ac y byddwn ni’n wynebu heriau. Os gallwn ni ein derbyn ein hunain, byddwn ni’n llai tebygol o gymharu ein hunain â phobl eraill ac yn fwy tebygol o’n dathlu ein hunain.
  • Mae hunandrugaredd yn golygu bod yn garedig â ni ein hunain, hyd yn oed pan fydd pethau’n anodd. Mae’n golygu ceisio cynnig yr un ddealltwriaeth, caredigrwydd a chefnogaeth ag y bydden ni’n eu rhoi i ffrind agos, partner neu aelod o’r teulu.

 

Enghraifft: Taith Matt tuag at hunandderbyn

Pan oedd hunan-barch Matt yn isel, nid oedd yn teimlo ei fod yn glyfar nac yn ddiddorol, ac roedd yn poeni am y ffordd roedd yn edrych. Stopiodd fynd i ddosbarthiadau dawns am ei fod yn credu na fyddai byth yn dda am ddawnsio. Stopiodd wisgo dillad roedd yn eu hoffi hefyd, am ei fod yn credu na fyddai gan neb ddiddordeb yn y ffordd roedd yn edrych.

Wedyn, gwnaeth Matt gwrdd â dau ffrind newydd, sef Yuki a Spencer, a ddangosodd ddealltwriaeth tuag at Matt ac a oedd yn ei hoffi am bwy ydyw. Rhannodd Yuki a Spencer eu trafferthion â Matt, a thros amser teimlai Matt ei fod yn gallu siarad yn agored â nhw hefyd.

Gwnaeth hyn helpu Matt i'w hoffi a’i dderbyn ei hun yn fwy. Stopiodd deimlo’n wael amdano ei hun a dechreuodd ganolbwyntio mwy ar yr hyn roedd yn gallu ei wneud, yn hytrach na’r hyn nad oedd yn gallu ei wneud.

Nawr mae Matt yn gwisgo sut bynnag yr hoffai wisgo ac mae’n teimlo’n wych am y peth. Mae hefyd wedi dechrau mynd yn ôl i wersi dawns. Sylweddolodd nad pa mor dda mae’n dawnsio yw’r peth pwysicaf, ond ei fod yn mwynhau dawnsio a bod yn rhan o grŵp o bobl sydd â’r un hobi.

Mae gen i grŵp anhygoel o ffrindiau nawr ac rwy'n mwynhau mynd i’r ysgol. Dydw i ddim yn hoffi cael diwrnodau salwch mwyach – Isla, 13 oed

Beth sy’n gallu effeithio ar fy hyder a fy hunan-barch?

Gall y ffordd rydyn ni’n teimlo amdanon ni ein hunain a’n galluoedd newid drwy gydol ein bywydau, yn enwedig pan fyddwn ni’n mynd drwy ddigwyddiadau neu newidiadau mawr. Er enghraifft, symud i ardal newydd neu ddechrau mewn ysgol neu goleg newydd.

Gall gwahanol brofiadau effeithio ar ein hyder a’n hunan-barch mewn gwahanol ffyrdd. Er enghraifft, gall mynd drwy dor-perthynas neu glywed sylwadau negyddol amdanon ni ein hunain leihau ein hyder a’n hunan-barch. Ond gallai gwneud yn dda mewn prawf neu wneud ffrind newydd roi hwb i’n hyder a’n hunan-barch hefyd.

Mae’n gallu bod yn anodd deall beth sy’n effeithio ar ein hyder a’n hunan-barch weithiau. Gallai ein magwraeth a’n profiadau cynnar mewn bywyd ddylanwadu arnyn nhw, yn ogystal â’n perthnasoedd a’n hamgylchedd presennol.

decorative

Cofia: mae pob un ohonon ni’n wahanol. Gallai rhywbeth sy’n cael effaith gadarnhaol ar dy hyder a dy hunan-barch di gael effaith negyddol ar hyder a hunan-barch rhywun arall.

Gallai’r profiadau hyn gael effaith gadarnhaol ar ein hyder a’n hunan-barch:

  • Cael ein trin â charedigrwydd a pharch
  • Cael rhwydwaith cymorth cryf
  • Teimlo ein bod ni’n cael ein clywed a’n cefnogi
  • Cael adborth da ar sut rydyn ni’n gwneud yn yr ysgol neu’r coleg, yn y gwaith neu mewn gweithgareddau eraill
  • Dysgu pethau newydd

Rhyngweithio cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol

Un peth sydd wir yn gallu effeithio ar ein hunan-barch a’n hyder yw’r bobl sydd o’n cwmpas, yn enwedig ein ffrindiau.

Gallai’r profiadau hyn gael effaith negyddol ar ein hyder a’n hunan-barch:

  • Problemau gartref, yn yr ysgol neu yn y coleg
  • Problemau yn ein perthnasoedd neu gyda’n ffrindiau
  • Rhyngweithio negyddol ar-lein neu wyneb yn wyneb
  • Poeni am bethau rydyn ni’n eu gweld ar y cyfryngau cymdeithasol neu’r newyddion
  • Pwysau gennyn ni ein hunain neu gan bobl eraill, yn enwedig pethau fel straen arholiadau
  • Cael trafferth gyda’n hiechyd meddwl neu ein teimladau
  • Cael trafferth gyda’n hiechyd corfforol
  • Cael trafferth gyda’r glasoed neu ein cylch mislif
  • Cael ein bwlio
  • Cael ein cam-drin
  • Profi rhywbeth trawmatig neu ddychrynllyd
  • Colli rhywun sy’n bwysig i ni
  • Profi gwahaniaethu
  • Teimladau anodd a phrofiadau o’r pandemig

Efallai y bydd profiadau eraill dydyn ni ddim wedi’u rhestru ar y dudalen hon yn effeithio arnat ti. Neu efallai dy fod wedi profi diffyg hyder neu hunan-barch ers amser hir, sy’n gallu ei gwneud hi’n anoddach gwybod pam rwyt ti’n teimlo fel hyn.

decorative

Os yw dy hyder neu dy hunan-barch wedi bod yn isel ers amser hir, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun ac rwyt ti’n haeddu cymorth.

Sut gall delwedd corff effeithio ar ein hyder a’n hunan-barch?

Ystyr delwedd corff yw’r ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn teimlo am:

  • Ein corff ein hunain
  • Y ffordd rydyn ni'n edrych
  • Sut rydyn ni’n credu bod pobl eraill yn ein gweld ni

Yn aml, gall y bobl yn ein bywydau a’r pethau sy’n digwydd o’n cwmpas ddylanwadu ar ein delwedd corff mewn ffordd dda. Ond, weithiau, fe allan nhw gael effaith negyddol ar ein meddyliau a’n teimladau am ein cyrff, fel:

  • Cyfryngau cymdeithasol sy’n hyrwyddo edrych mewn ffordd arbennig neu gael math penodol o gorff
  • Peidio â gweld llawer o wahanol fathau o gyrff yn y cyfryngau ac ar-lein
  • Sylwadau gan ffrindiau, partneriaid neu deulu am ein maint, ein siâp, ein pwysau neu’r ffordd rydyn ni’n edrych

Os bydd gennyn ni ddiffyg hyder a hunan-barch yn barod am unrhyw reswm arall, efallai y byddwn ni’n teimlo’n fwy negyddol am ein delwedd corff.

Weithiau, pan fydd gen ti deimladau mwy negyddol, fe alli di feddwl mai fel hyn fydd pethau am byth. Ond bydd pethau bob amser yn gwella, hyd yn oed os nad wyt ti bob amser yn teimlo bod hynny'n wir.

Efallai fod yna bethau rydyn ni’n eu hoffi am ein corff neu’r ffordd rydyn ni’n edrych, yn ogystal â phethau dydyn ni ddim yn eu hoffi cymaint. A gall y teimladau hyn newid o un foment i'r llall, o un diwrnod i’r llall neu o un mis i’r llall.

Yn aml, pan fyddwn ni’n teimlo ein bod ni’n cael trafferth gyda delwedd corff, bydd cysylltiad rhwng hynny â’n hyder, ein hunan-barch a’n hiechyd meddwl.

Er enghraifft, os nad ydyn ni’n hoffi ein corff am nad yw’n edrych fel yr hyn rydyn ni’n ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol, gall hyn leihau ein hunan-werth. Gall hyn wneud i ni deimlo’n llai hyderus ac effeithio ar ein hiechyd meddwl, gan wneud i ni deimlo’n isel.

Ble alla i gael rhagor o gymorth?

Gall magu hyder a hunan-barch gymryd amser ac ymarfer. Ond mae llawer o bethau y galli di roi cynnig arnyn nhw er mwyn helpu i wella’r ffordd rwyt ti’n teimlo amdanat ti dy hun a dy alluoedd.

Ein tudalen dod o hyd i gymorth

Rhagor o wybodaeth ar wefan YoungMinds

Sut alla i fagu fy hyder a fy hunan-barch?

Gall magu hyder a hunan-barch gymryd amser ac ymarfer. Ond mae llawer o bethau y galli di roi cynnig arnyn nhw er mwyn helpu i wella’r ffordd rwyt ti’n teimlo amdanat ti dy hun a dy alluoedd.

Mae gennyn ni awgrymiadau, syniadau a chyngor ar gyfer magu hyder a hunan-barch. Dyma grynodeb:

  • Bydd yn garedig â thi dy hun
  • Gofala amdanat ti dy hun
  • Rho gynnig ar hunandrugaredd
  • Meddylia am dy berthnasoedd
  • Cadwa mewn cysylltiad
  • Rho gynnig ar rywbeth newydd
  • Myfyria ar y ffordd rwyt ti’n teimlo am dy gorff
  • Rho gynnig ar fod yn bendant
  • Meddylia am osod nodau

Sut i fagu hyder a hunan-barch

Awgrymiadau ar gyfer magu hyder a hunan-barch

Fe alli di wneud unrhyw beth, a byddi di bob amser yn gallu gwneud popeth rwyt ti am ei wneud os byddi di wir yn dyfalbarhau – Olu, 16 oed

Ble alla i chwilio am help a chefnogaeth?

Os wyt ti’n poeni am y ffordd rwyt ti’n teimlo, neu os yw dy ddiffyg hyder neu hunan-barch yn effeithio ar dy berthnasoedd a dy fywyd o ddydd i ddydd, mae’n iawn gofyn am help.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i ti:

Cyhoeddwyd: Hydref 2024
Adolygiad nesaf: Hydref 2027

Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth 

arrow_upwardYn ôl i'r brig