Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cyngor ar reoli dicter – ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed

Cyngor a syniadau i bobl ifanc ar sut i ymdopi pan deimlwn yn ddig mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Sut i reoli teimladau o ddicter

Gall teimlo’n ddig fod yn anodd. Ond mae llwyth o bethau y gallwn ei wneud i geisio rheoli dicter a gwella sut y teimlwn.

Efallai y gallet ti edrych ar rai o’r syniadau ar y dudalen yma i weld beth sy’n gweithio orau. Mae pawb mor wahanol a gallai rhywbeth sy’n gweithio i ti peidio â gweithio i rywun arall. Gallai gwahanol gyngor hefyd weithio ar wahanol adegau.

Deall dicter a chefnogi eraill

Mae’r dudalen hon yn cynnig  cyngor a syniadau am sut i dy helpu i ymdopi pan wyt ti'n teimlo'n ddig.

Mae gennyn ni dudalen ar wahân ar sut i helpu person ifanc arall pan fyddan nhw’n teimlo’n ddig.

Cyn darllen ein cyngor a syniadau, dysga mwy am beth ydy dicter a beth y mae’n teimlo fel.

Roeddwn yn defnyddio dicter i fygu teimladau eraill. Mae rheoli fy nicter wedi helpu i ddod â’r fersiwn gorau ohonof fy hun allan – Leah, 16

decorative

Mae llawer ohonon ni’n ymateb yn sydyn pan deimlwn yn ddig, felly gallai rhai o’r syniadau hyn deimlo’n anodd i ddechrau.

Ceisia cofio bod newidiadau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Ac mae dysgu rhywbeth newydd yn cymryd amser ac ymarfer.

Cyngor ar reoli dicter yn y foment

Gall fod yn frawychus pan fydd dicter yn cymryd drosodd a theimlo ein bod wedi colli rheolaeth. Ond gallwn ddysgu ffyrdd mwy diogel a buddiol o reoli dicter yn y foment.

Adnabod yr arwyddion

Pan ddechreuwn fynd yn ddig, gallwn deimlo:

  • Tensiwn neu dyndra yn ein cyhyrau
  • Y galon yn curo’n gynt
  • Y corff yn dechrau ysgwyd neu chwysu

Gallwn hefyd brofi teimladau anodd, fel teimlo’n rhwystredig neu’n anniogel.

Mae adnabod yr arwyddion hyn yn rhoi mwy o amser i ni feddwl am sut i ymateb. Cynta’n byd y sylwn ar yr arwyddion, cynta’n byd y gallwn ddechrau rheoli ein dicter.

Am fwy o arwyddion teimlo’n ddig, cer i’n tudalen deall dicter.

Cerdded i ffwrdd

Gall cerdded i ffwrdd o’r sefyllfa, hyd yn oed am ychydig eiliadau, ein helpu i feddwl sut i ymateb.

Pan wyt ti'n teimlo'n ddig, gallet ti ceisio:

  • Mynd am dro y tu allan
  • Gofyn os gallet ti cymryd seibiant a dod yn ôl i’r sefyllfa wedyn

Efallai na allwn gymryd seibiant bob tro, sy’n gallu gwneud i ni deimlo’n rhwystredig. Os nad ydy seibiant yn bosib, gallet ti trio syniadau eraill neu ddilyn cynllun diogelwch wedi’i baratoi ymlaen llaw.

Os rwy'n teimlo’n grac neu'n flin, mae gen i ffyrdd o ymdopi fel fy mod i a phobl eraill yn aros yn ddiogel – Leah, 16

Siarad gyda rhywun

Os gallet ti, ceisia siarad gyda rhywun y gallet ti ymddiried ynddyn nhw a dim i’w wneud gyda dy ddicter. Gall hyn fod yn rhywun yr wyt ti'n ei adnabod yn dda, fel athrawes neu gydweithiwr. Gallai’r bobl hyn dy helpu i ddeall dy deimladau a chynnig cefnogaeth.

Am fwy o fanylion cer i’r adran ar siarad am ddicter.

Os byddai’n well gennyt ti siarad gyda rhywun nad wyt ti'n yn ei adnabod, gallet ti:

Heb siarad gyda rhywun, byddwn yn dal i fod mewn stâd ofnadwy.

Ceisio mynegi dicter mewn ffyrdd buddiol

I fynegi dicter mewn ffyrdd buddiol, gallet ti defnyddio adnoddau ar-lein fel:

  • Adnodd Toolbox Childline. Mae’r adnoddau yma’n cynnig ffyrdd o deimlo’n well, fel gweithgareddau creadigol, gemâu, fideos a chymorth.
  • Mini-weithgareddau Kooth. Gweithgareddau i helpu ti dysgu am reoli emosiynau. Bydd angen i ti creu cyfrif Kooth am ddim i’w defnyddio.

Neu beth am weithgareddau fel:

  • Malu clapiau o rew neu sblashio dŵr oer
  • Tynhau ac yna ymlacio’r un math o gyhyrau’r un pryd, fel eich dyrnau
  • Taro, gwasgu neu sgrechian mewn i obennydd
  • Popio bubble-wrap
  • Sgriblan ar bapur
  • Anadlu’n ddwfn neu anadlu allan am hirach nag wyt ti'n anadlu mewn

Gwylio: Ymarfer anadlu

Gallet ti gwylio ein fideo os hoffet ti trio ymarfer anadlu.

Efallai na fydd ymarferion anadlu’n teimlo’n iawn i bawb, felly gwna hyn dim ond os teimla di yn gyffyrddus.

Dim ond yn Saesneg y mae’r fideo yma ar gael ar y funud.

Siaradon ni gyda phobl ifanc a rannodd eu gweithgareddau ar gyfer mynegi dicter mewn ffyrdd buddiol.

Defnyddio’r egni yn eich corff, er enghraifft:

  • "Mynd i redeg"
  • "Mynd am dro os teimla di yn ddiogel"
  • "Taflu gobennydd neu rywbeth wedi'i stwffio"
  • "Gwneud ymarfer corff"

Gwneud gweithgareddau creadigol, fel:

  • "Ysgrifennu, dwdlan neu ddarlunio"
  • "Dylunio ystafell, dillad neu dreinyrs"
  • "Ysgrifennu cân i guriad syml"
  • "Rhoi eich teimladau mewn dyddiadaur"

Gweithgareddau ymlacio, fel:

  • "Cael cawod neu fath~
  • "Cymryd napan fach"
  • "Gwrando ar fiwsig drwy glustffonau"
  • "Ymarfer meddylgarwch neu ddwfn-fyfyrio"

Gweithgareddau synhwyraidd fel:

  • "Coginio neu dylino toes"
  • "Anadlu'n ddwfn a chyflym"
  • "Bwyta losin sur"
  • "Gwasgu neu fownsio pêl straen"

Gweithgareddau cymdeithasol fel:

  • "Treulio amser gydag anifeiliaid anwes"
  • "Dod o hyd i rywbeth i chwerthin amdano"
  • "Siarad am dy hoff bwnc"
  • "Ymuno gyda dosbarth neu ddechrau hobi newydd"

Cyngor ar reoli dicter yn yr ysgol, coleg neu’r gwaith

Rhaid i ni gyd wynebu teimladau a sefyllfaoedd anodd yn yr ysgol, coleg neu’r gwaith. Gall deimlo’n straen treulio amser gyda llawer o bobl, dilyn cyfarwyddiadau a rheoli gwahanol weithgareddau.

Os wyt ti'n ddig yn yr ysgol, coleg neu’r gwaith, ceisia:

  • Egluro sut wyt ti'n teimlo a beth sydd ei angen arno ti. Gallet ti dweud rhywbeth fel ‘Rwy'n teimlo’n grac ac angen cael seibiant’. Ceisia wneud hyn mewn ffordd bendant.
  • Defnyddio dy amser egwyl. Os oes ystafell dawel neu rywle diogel lle gallet ti mynd yn ystod egwyl, gallai dy helpu i ymdopi’n well â bod yn ddig. Os nad wyt ti'n siŵr beth sydd ar gael, gallet ti siarad ag athro neu gydweithiwr dibynadwy.
  • Siarad ag athro/athrawes, cydweithiwr neu reolwr. Eglura wrthyn nhw sut wyt ti'n teimlo cyn gynted â phosib. Bydd hyn yn eu helpu i helpu ti yn y foment. Pan fyddi di yn teimlo’n well, ceisia egluro sut fedran nhw dy helpu yn y dyfodol drwy ddilyn cynllun diogelwch.
  • Gwahana dy hun oddi wrth bobl sy’n gwneud i ti teimlo'n ddig. Yn yr ysgol neu’r coleg, gallet ti gofyn am gael newid sêt yn y dosbarth neu ymuno â dosbarth gwahanol, os ydy hynny'n bosib. Yn y gwaith, gallet ti gofyn am newid shifft neu weithio mewn rôl arall os wyt ti'n teimlo bod angen i ti osgoi rhai pobl.
decorative

Ni fydd y pethau rwyt ti'n gofyn amdanyn nhw’n bosib bob tro, sy’n gallu teimlo’n rhwystredig. Gallet ti trïo syniadau eraill ar gyfer rheoli dicter.

Ond beth bynnag rwyt ti'n dewis, bydd gofyn yn helpu i ddechrau sgwrs am sut orau i dy gefnogi pan wyt ti'n teimlo’n ddig.

Weithiau os wyt ti'n grac yn yr ysgol, efallai na fyddet ti yn gallu gadael a chymryd seibiant, fel y gallet ti adre.

Addasiadau rhesymol

Os ydy dicter wedi’i gysylltu i broblem iechyd meddwl neu gyflwr arall, dylai dy ysgol, coleg neu weithle wneud addasiadau rhesymol ar dy gyfer.

Mae hyn yn golygu os ydy dy broblem iechyd meddwl yn cyfrif fel anabledd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, y gallet ti gofyn i’r ysgol, coleg neu gyflogwr:

  • Gadael i ti gymryd seibiant pan fyddet ti yn teimlo’n ddig, heb orfod gofyn
  • Darparu rhywle tawel a llonydd i ti fynd ar gyfer amser egwyl
  • Gadael i ti fynd adre’n gynt er mwyn osgoi rhai sefyllfaoedd neu bobl

I ddysgu mwy am addasiadau rhesymol, cer i’r dudalen deall dy hawliau.

Cyngor ar ymdopi gyda ffraeo

Gall ffraeo fod yn anodd ymdopi gyda. Ond gall fod yn anoddach fyth pan deimlwn yn ddig neu’n rhwystredig neu os ydy’r person arall yn y ffrae’n teimlo felly.

Er mwyn ymdopi’n well yn ystod ffrae pan wyt ti'n teimlo’n ddig:

  • Ceisia oedi cyn ymateb. Gallai hyn fod yn ddigon i adael i dy feddwl setlo a dewis beth wyt ti eisiau dweud. Gallet ti hefyd ceisio dweud y frawddeg nesaf yn dy ben cyn ei dweud yn uchel.
  • Gwrando ar eu safbwynt nhw. Gall hyn dy helpu i ddeall pam eu bod yn teimlo felly. Wrth wrando ar y person arall, ceisia peidio â meddwl am beth i’w ddweud nesaf neu siarad ‘drostyn nhw’.

Mae’n well trafod yn lle dadlau’n ymosodol – mae pobl yn fwy tebygol o wrando arno ti. Os bydd y ddau neu ddwy ohonoch yn teimlo’n dawelach, maen nhw’n fwy tebygol o wrando arno ti a dy safbwynt – Keara, 17

  • Meddwl pam dy fod yn teimlo’n ddig. Wyt ti’n ddig gyda’r person rwyt ti'n ffraeo gyda? Neu wyt ti’n ddig am rywbeth arall ac yn ei gymryd allan arnyn nhw?
  • Meddwl am yr effeithiau. A fydd ymateb dig yn effeithio ar dy berthynas gyda nhw? Fydd e’n ypsetio nhw? Fyddet ti’n mynd i helynt? Fyddet ti’n teimlo’n waeth?
  • Meddwl a fyddet ti yn poeni am hyn mewn 6 mis. Os ‘na’ ydy’r ateb, efallai nad ydy e’n werth i ti dal i ffraeo am y peth.
  • Gadael y sefyllfa. Os na allet ti rheoli dy ddicter, ceisia dod yn ôl pan wyt ti'n teimlo’n dawelach. Efallai na fydd hyn yn bosib, sy’n gallu gwneud i ti teimlo’n fwy dig – os felly, gofynna am seibiant yn y sgwrs. Mae llwyth o syniadau ar y dudalen yma rhag ofn na fydd rhai o’r syniadau’n gweithio yn dy sefyllfa di.
  • Ymddiheuro os wyt ti wedi bod yn ddig a brifo rhywunMae'n ocê teimlo'n ddig. Ond os wyt ti wedi brifo rhywun drwy fod yn ddig, gallai fod angen i ti ymddiheuro. Gallet ti hefyd egluro sut wyt ti'n ceisio mynegi dicter mewn ffyrdd gwell – gan egluro rhai o’r syniadau rwyt ti wedi eu trïo o’r dudalen hon.

Cofia: dydy ffraeo ddim yn digwydd oherwydd 1 person yn unig. Bydd ffraeo o hyd yn cynnwys o leiaf 2 berson  gyda gwahanol farn neu safbwynt.

Ac nid oes raid i faddau olygu derbyn na chytuno gyda safbwynt y person arall. Gall fod yn fater o ddeall ein bod i gyd yn gwneud camgymeriadau ac y gallwn hefyd faddau i ni ein hunain.

Gall maddau weithiau ein helpu i ollwng ein dicter.

Helpu person arall gyda dicter

Mae gennyn ni hefyd gyngor ar sut i gefnogi person arall gyda dicter.

Mae’n hawdd iawn mynd yn rhwystredig wrth ffraeo a mynd yn ddig iawn, fydd ddim yn helpu i ddatrys y mater.

Cyngor ar ddelio gyda dicter ar-lein neu mewn negeseuon

Os wyt ti'n cael trafferth delio gyda thecst, sgwrs cyfryngau cymdeithasol, neu mewn fforwm trafod, heb fynd yn ddig, ceisia:

  • Meddwl am bwy wyt ti'n negeseua gyda nhw. Cofia sicrhau dy fod wedi meddwl am bwy arall allai weld y negeseuon rwyt ti'n eu hanfon pan wyt ti'n teimlo’n ddig.
  • Gofynna i dhi dy hun ‘allwn i ddifaru nes ymlaen?’ Os ‘gallwn’ ydy’r ateb, peidia postio nac anfon y neges.
  • Gofynna i dy hun ‘allai ateb wneud pethau’n waeth?’ Wyt ti’n chwilio am wrthdaro ar-lein ar bwrpas? Ydy e’n gwneud i ti teimlo’n waeth ac yn mynd ag amser? Os felly gallai fod yn hunan-niwed digidol.
  • Cymera saib, cer all-lein a dod yn ôl ato nes ymlaen. A allai aros am hanner awr, neu tan yfory? Cym ameraser i feddwl cyn ateb a beth i’w ddweud.

Os wyt ti'n ddig am rywbeth ar-lein, fel gwahaniaethu neu iaith gasineb, gall dicter weithiau deimlo’n ddefnyddiol. Gallet ti teimlo fel defnyddio dy ddicter i:

Mae dicter weithiau’n dod heb rybudd, ond y peth pwysicaf ydy sut rydw i’n ymddwyn ac yn ymateb iddo – Emma, 17

Cyngor ar reoli dicter yn y tymor hir

Pan wyt ti'n teimlo’n dawelach, cymera amser i feddwl sut wyt ti eisiau rheoli dy ddicter yn y dyfodol. Efallai drwy ddeall y rhesymau am dy ddicter, neu wneud cynlluniau i fynegi dicter mewn ffyrdd eraill.

Gwybod beth ydy’r trigyrs

Gallet ti cadw dyddiadur hwyliau i wneud nodiadau ar beth sy’n digwydd cyn, yn ystod ac ar ôl i ti teimlo’n ddig.

Ceisia gofnodi:

  • Y diwrnod neu’r dyddiad a’r amser
  • Y sefyllfa neu ble’r oeddet ti
  • Beth wnaeth i ti teimlo'n ddig?
  • Sut oeddet ti’n teimlo?
  • Sut wnes di ymateb?
  • Sut oeddet ti’n teimlo wedyn?
  • Sut oedd pobl eraill yn teimlo?
  • Beth allet ti fod wedi ei wneud yn wahanol?

Dros gwpwl o fisoedd, gallet ti dechrau sylwi ar batrwm. Gallet ti wedyn feddwl am ffyrdd mwy diogel a buddiol o reoli dicter yn y sefyllfaoedd hyn.

Mae dysgu beth ydy’r trigyrs wedi fy helpu i reoli dicter.

decorative

Gallai pobl eraill adnabod arwyddion ein bod yn mynd yn ddig, er nad ydyn ni.

Gallai gwrando arnyn nhw ein helpu i ddysgu mwy am yr arwyddion cynnar a’r trigyrs. Mewn amser, gallai hyn ein helpu i ddeall dicter a meddwl am ffyrdd mwy diogel i ddelio gydag e.

Creu cynllun diogelwch

Mae cynllun diogelwch yn golygu bod gennyt ti ffordd sydyn o gofio:

  • Beth i’w wneud os oes angen help arno ti
  • Arwyddion rhybuddio dicter
  • Pethau i’w gwneud i helpu ti i ymdawelu

Gallet ti creu cynllun ar ben dy hun neu gyda rhywun arall. Mae gennyn ni hefyd fersiwn i’w rannu gydag oedolyn dibynadwy, fel eu bod yn gwybod beth – a beth ddim – i’w wneud pan rwyt ti'n ddig.

Lawrlwytho templed o gynllun diogelwch

Clicia ar y dolenni isod am gynllun diogelwch i ti neu oedolyn dibynadwy ei lenwi. Dim ond yn Saesneg y maen nhw ar gael ar y funud. Bydd pob dolen yn agor mewn ffenestr newydd.

Os nad wyt ti'n siŵr sut i lenwi cynllun diogelwch, mae enghraifft ar gael.

Young Person Chatting To Teacher Close Up

Ceisio deall dy deimladau

Dydy hi ddim o hyd yn hawdd deall sut y mae sefyllfa’n gwneud i ni deimlo. Gallwn deimlo rhywbeth nad ydyn ni’n ei ddeall, neu heb ei deimlo o’r blaen. Neu deimlo llwyth o bethau gyda’i gilydd, neu ddim byd o gwbl.

Gall ceisio deall ein teimladau ein helpu:

  • I weld pam ein bod yn ymateb yn y ffordd honno
  • I siarad ag eraill am sut y teimlwn

Gallai olwyn emosiynau ein helpu i siarad am deimladau sy’n anodd eu deall. Gallwn hefyd ddysgu sut i adnabod arwyddion, fel newidiadau corfforol, meddwl neu yn ein hymateb i rai teimladau.

Sut i ddeall ein teimladau yn well

Gallet defnyddio olwyn emosiynau neu wybodaeth ar ein tudalen deimladau. 

Dim ond yn Saesneg y mae’r olwyn yma ar gael ar y funud.

Gollwng dy ddicter

Weithiau gall dicter afael ynom ni ac rydyn ni’n dal ein gafael arno’n hir. Ond gall hyn wneud i ni deimlo’n waeth.

Ceisia gollwng dy ddicter drwy:

  • Defnyddio dy ddychymyg. Dalia dy freichiau o dy flaen a dychmygu dy fod yn dal yr holl ddicter rwyt ti'n teimlo. Pan fydd yn teimlo’n drwm, gollynga dy freichiau. Dychmyga bod y dicter yn diflannu, disgyn i’r llawr neu ddiflannu i’r awyr.
  • Edrycha ar ochr arall y stori. A oes ffordd arall o feddwl am beth ddigwyddodd? Ydy o’n bosib nad oedd y person arall yn ceisio dy ypsetio ar bwrpas? Dychmyga sut y maen nhw’n meddwl am beth ddigwyddodd.
  • Meddwl am faddeuant. Gall maddau weithiau ein helpu i ollwng ein dicter. Ond dydy e ddim yn hawdd a does dim angen maddau bob tro os nad ydy e’n teimlo’n ddefnyddiol. Gallet ti hefyd geisio maddau i ti dy hun a thrin dy hun gyda thosturi.

Mae tosturi yn golygu dangos cynhesrwydd, dealltwriaeth a gofal at rywun.

Dyma rai syniadau i’ch helpu i ymarfer hunan-dosturi.

Mae dy brofiad yn gwbl unigol a bydd rhai pethau’n gweithio a rhai ddim – Leah, 16

Meddwl am y canlyniadau

Os wyt ti'n meddwl am fynd yn ddig, gallai helpu i ddychmygu’r canlyniadau drwy ofyn i dy hun:

  • Fydd hyn yn fy helpu i gael beth ydw i eisiau?
  • Oes yna ffordd arall o gael yr un peth?
  • Sut fydd hyn yn effeithio arna i a’r bobl o nghwmpas?
  • Ydy e’n werth mynd yn ddig?
  • Fydda i’n difaru wedyn?
  • Fydd e’n effeithio ar fy mherthynas gyda’r person?
  • Sut allai’r person arall deimlo yn y sefyllfa yma?

Ceisia gwneud hyn pan wyt ti'n dawel, i gael rhywbeth i’w gofio os wyt ti'n teimlo'n ddig yn y dyfodol.

Y pethau y gallwn eu rheoli

Gall rhai pethau sy’n ein gwneud yn ddig fod o fewn ein rheolaeth, fel dewis cywiro camgymeriad neu sut i ymateb pan fydd rhywun yn ein beirniadu. Ond gyda phethau eraill, mae gennyn ni lai o reolaeth.

Gallwn geisio ymateb yn wahanol i bethau y gallwn ac na allwn eu rheoli. Gallai helpu i:

  • Gwneud rhestr o bopeth sy’n dy wneud yn ddig
  • Amlygu neu nodi’r rhai sydd o fewn dy reolaeth
  • Defnyddio lliw neu farc gwahanol am bethau na allet ti eu rheoli

Am bethau y gallwn eu rheoli, gallwn gynllunio sut y byddwn yn delio gyda nhw.

Am bethau na allwn eu rheoli, gallwn ddefnyddio rhai o’r syniadau ar y dudalen hon i fynegi dicter yn ddiogel.

 

Ein cylchoedd rheoli

Mae’r diagram yma’n egluro’r syniad o gylchoedd rheoli. Gall cylchoedd rheoli ein helpu i ddeall pethau:

  • Nad oes gennyn ni reolaeth drostynt
  • Y mae gennyn ni beth rheolaeth drostynt
  • Y mae gennyn ni reolaeth lawn drostynt

Dim ond yn Saesneg y mae’r diagram yma ar gael ar y funud.

Bydd beth sy’n teimlo o fewn ac allan o’n rheolaeth yn wahanol i bawb.

Os ydyn ni wedi cael trawma er enghraifft, gallai ymateb i ddicter deimlo mwy allan o’n rheolaeth. Ond gyda’r cymorth iawn, gallwn ddysgu sut i reoli ymateb yn ddig i bethau.

Os ydyn ni wedi cael ein cam-drin neu fwlio, gall hyn hefyd deimlo allan o’n rheolaeth, ond mae cymorth ar gael drwy:

decorative

Cofia: allwn ni ddim rheoli beth y mae pobl eraill yn ei feddwl, gwneud na dweud. Ond gallwn ddysgu i geisio rheoli a chymryd cyfrifoldeb dros beth a wnawn ni.

Gofalu am dy les

Lles ydy sut y teimlwn a pha mor dda y gallwn ymdopi gyda phethau. Gall gwahanol bethau effeithio ar ein lles, fel:

  • Beth ydyn ni’n ei fwyta ac yfed
  • Pa mor aml a pha mor dda ydyn ni’n cysgu
  • Beth ydyn ni’n ei wneud i ymlacio a chael hwyl

Gall gofalu am ein lles ein helpu i deimlo’n dawelach a llai fel na allet ti ymdopi. Gall hyn ein helpu i reoli dicter. Mae gymaint o ffyrdd o ofalu am ein lles – rydyn ni gyd yn wahanol ac angen meddwl beth sy’n gweithio orau i ni.

Am fwy o wybodaeth cer i’n tudalennau ar deall lles a syniadau lles.

Apps for mental health

Some apps can help us with things like feeling calmer or managing difficult experiences. But with so many apps, it can feel hard to know where to start.

To find safe, trustworthy apps for young people, visit Mind's app library.

Paid â mygu neu wthio dy ddicter i un ochr. Bydd yn mynd yn waeth ac fe wnei di ffrwydro yn y diwedd. Delia gyda dy ddicter bob yn ychydig – ymarferion anadlu, ysgrifennu sut wyt ti'n teimlo, siarad gyda ffrind.

Symud y corff

Gall ymarferion sy’n cael y galon i guro’n gynt ein helpu i ymdawelu. Mae’n gwneud hyn drwy gael gwared ar egni.

Gall ymarferion eraill hefyd helpu i leihau dicter. Gall mynd am dro, yn enwedig yng nghanol natur fel parc neu goed, weithiau ein helpu i deimlo’n llai dig.

Am fideos, syniadau a chyngor ar ymarferion a gweithgareddau, cer i wefan y Gwasanaeth Iechyd.

Gwella hyder a hunan-werth

Gallwn deimlo’n ddig drwy deimlo’n ddi-hyder ynom ein hunain neu ein galluoedd. Gall hyn gynnwys sut y gwelwn ni ein hunain – fel teimlo’n ddig oherwydd delwedd corff.

Gallai gwella hyder a hunan-werth ein helpu i feddwl yn well amdanom ein hunain. Yn ei dro, gall hyn ein helpu i ddeall a rheoli dicter.

Syniadau am wella hyder a hunan-werth

Defnyddia ein syniadau i deimlo’n fwy hyderus amdano dy hun.

Dysgu bod yn bendant

Mae bod yn bendant yn golygu gallu dweud beth y credwn ynddo fe, sut y teimlwn a beth yr ydyn ni ei eisiau a’i angen, mewn ffordd glir, gonest a pharchus. Mae hefyd yn golygu sefyll i fyny drosom ein hunain gan barchu barn a theimladau pobl eraill.

Gall bod yn bendant:

  • Gwneud cyfathrebu’n haws
  • Helpu i greu perthnasoedd iach
  • Cefnogi eraill i’n deall ni

Gallai bod yn bendant deimlo’n anodd i ddechrau. Paid â rhoi pwysau arno dy hun i drio popeth ar unwaith. Pan rwyt ti'n teimlo'n barod, edrycha ar ein syniadau ar sut i fod yn bendant.

Student And Teacher Chatting On Bench

Bydd yn onest a rhannu dy feddyliau os ydy e’n teimlo’n gyffyrddus.

Troi dicter yn weithredu

Gallwn deimlo’n ddig ar ôl profi gwahaniaethu neu gam-drin, neu os gwelwn hyn yn digwydd o’n cwmpas neu yn y newyddion. Mae dicter yn ymateb dilys i’r profiadau hyn.

Os na fyddwn yn gwybod beth i’w wneud gyda’n dicter, a’r rhesymau’n teimlo allan o’n rheolaeth, gallwn weithiau droi dicter yn weithredu.

Trïa'r cyngor a’r syniadau hyn os wyt ti'n teimlo'n ddig am:

Ymuna ag ymgyrchoedd drwy VoiceAbility. Dysga mwy am anabledd ac iechyd meddwl ar wefan YoungMinds.

Llofnoda deiseb neu ymuna â streic hinsawdd fel UK Youth Climate Coalition.

Gallet ti codi arian i helpu pobl LGBTQIA+ a chefnogi ymgyrchoedd drwy fudiadau fel Stonewall Young Futures.

Ymuna ag ymgyrchoedd drwy Action for Race Equality neu godi arian ar gyfer Stand Against Racism & Inequality. Mae gan wefan YoungMinds fwy o wybodaeth am hiliaeth ac iechyd meddwl.

Edrycha ar adnoddau a phrosiectau gan y Faith and Belief Forum. Gallet ti ryportio digwyddiadau gwrth-Fwslemaidd i Tell MAMA neu ddigwyddiadau gwrth-Semitaidd i’r Community Security Trust.

Gallet ti codi arian neu ymuno ag ymgyrchoedd i gefnogi merched ifanc drwy fudiadau fel y Young Women's Trust.

Gallet ti ryportio unrhyw droseddau casineb i Stop Hate UK.

Er bod dicter ac ymddygiad adborth yn gyfrifoldeb personol, weithiau mae’n bwysig deall sut y gall pobl dy bryfocio, neu fod yn rhagfarnllyd neu anwybodus. Gall hyn wneud i ti teimlo nad yw dy farn yn ddilys, ond mewn gwirionedd y dylid rhannu dy farn.

Cafodd y wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Mehefin 2025. Byddwn yn ei diwygio ym mis Mehefin 2028. 

Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalen caniatâd a thrwyddedu.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig