Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Awgrymiadau ar gyfer magu hyder a hunan-barch – ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed

Awgrymiadau a syniadau i bobl ifanc ar sut i deimlo’n fwy hyderus a gwella hunan-barch.

Sut i fagu dy hyder a dy hunan-barch

Efallai y bydd angen amser ac amynedd i fagu dy hyder a dy hunan-barch. Ond mae llawer o bethau y galli di eu gwneud i wella’r ffordd rwyt ti’n teimlo amdanat ti dy hun a dy alluoedd.

Mae gwneud newidiadau’n gallu teimlo fel cam mawr. Dechreua drwy roi cynnig ar un neu ddau beth newydd nes i ti ddod o hyd i’r hyn sy’n gweithio i ti. Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr.

Ar y dudalen hon, mae awgrymiadau a syniadau a allai dy helpu di i deimlo’n fwy hyderus a gwella dy hunan-barch.

Beth yw hyder a hunan-barch?

Os nad wyt ti wedi edrych ar ein tudalen ar ddeall hyder a hunan-barch eto, efallai y byddai’n syniad da gwneud hynny yn gyntaf.

Gwybodaeth ar hyder a hunan-barch

Gwylia bethau ar y cyfryngau cymdeithasol fydd ddim yn dy atgoffa di o’r pethau rwyt ti'n ansicr amdanyn nhw, ond yn dy alluogi di i garu’r pethau hynny – Lilian, 18 oed

Bydd yn garedig â thi dy hun

Mae bod yn garedig â ni ein hunain yn gallu teimlo’n anodd, yn enwedig pan fyddwn ni’n cael trafferth gyda diffyg hyder neu hunan-barch.

Dyma rai awgrymiadau a syniadau y galli di roi cynnig arnyn nhw:

  • Adnabod a herio meddyliau cas. Ceisia siarad â thi dy hun fel y byddet ti’n siarad â ffrind da. Fe allet ti ofyn i ti dy hun ‘Sut fyddwn i’n cysuro rhywun arall pe bai’n teimlo fel fi?’ neu ‘Pa gyngor fyddwn i’n ei roi i rywun pe bai’n teimlo fel fi?’
  • Dathlu ti dy hun. Ceisia ysgrifennu pethau rwyt ti’n eu hoffi amdanat ti dy hun, pethau mae pobl eraill yn eu hoffi amdanat ti, neu dy gryfderau a dy lwyddiannau. Gall gwneud hyn yn rheolaidd ein helpu i deimlo’n fwy hyderus – mae pob un ohonon ni’n haeddu dathlu ni ein hunain.
  • Ailadrodd meddyliau a syniadau cadarnhaol. Efallai y byddai’n ddefnyddiol ailadrodd datganiadau cadarnhaol wrthot ti dy hun. Fe allet ti ddweud ‘Rwy’n ddigon’, ‘Rwy’n werth chweil’ neu ‘Rwy’n haeddu bod yn garedig â fi fy hun’. Neu efallai y byddai’n well gen ti eu hysgrifennu ar ddarn o bapur a’u gosod yn rhywle y byddi di’n ei weld yn aml, fel y tu mewn i dy ddyddiadur neu ar ddrws dy ystafell wely.

Fe wnaethon ni siarad â phobl ifanc a rannodd eu cyngor a’u syniadau ynglŷn â beth mae bod yn garedig â thi dy hun yn ei olygu:

Creu bwrdd ar-lein neu flog o ddyfyniadau a delweddau ysgogol.

Dim ots beth mae pobl yn ei ddweud, dydy hunanofal ddim yn hunanol.

Rwy’n credu bod maddau i ti dy hun yn bwysig iawn.

Bydd yn garedig â thi dy hun, bydd yn ffrind gorau i ti dy hun.

Gofala amdanat ti dy hun

Gall gofalu am ein lles corfforol a meddyliol helpu i fagu ein hyder a’n hunan-barch. A gall teimlo’n hyderus neu fod â llawer o hunan-barch fod yn dda i’n lles.

Gwella dy les

Er mwyn gwella dy les yn y tymor hir, bydd angen i ti wybod yn gyntaf beth mae lles yn ei olygu a sut i ofalu amdano.

Dysgu am les

Darllen ein hawgrymiadau ar gyfer lles

Meddylia am dy berthnasoedd

Gallai meddwl am y ffordd mae rhai perthnasoedd yn gwneud i ni deimlo helpu i wella ein hyder a'n hunan-barch. Ceisia ofyn i ti dy hun, ‘Pwy sy’n gwneud i mi deimlo’n dda amdana i fy hun ac sy’n rhoi hwb i fy hunan-barch?’ neu ‘Oes unrhyw un o fy nghwmpas i’n gwneud i mi deimlo’n wael amdana i fy hun?’

Os galli di, ceisia dreulio mwy o amser gyda phobl sy’n gwneud i ti deimlo’n dda amdanat ti dy hun, a llai o amser gyda phobl sy’n gwneud i ti deimlo’n wael amdanat ti dy hun.

Un peth oedd yn help mawr i mi oedd dod o hyd i fy ‘llwyth’ a phobl sydd â diddordeb yn yr un pethau â fi, sy'n edrych fel fi, ac sy’n siarad fel fi – Sola, 18 oed

Rho gynnig ar hunandrugaredd

Ystyr trugaredd yw dangos cynhesrwydd, dealltwriaeth, gofal a chariad tuag at rywun. Mae hunandrugaredd yn golygu cynnig y rhinweddau hyn i ti dy hun.

Gall ymarfer hunandrugaredd ein helpu i fod yn llai beirniadol ohonon ni ein hunain. Fe allet ti roi cynnig ar y pethau hyn:

  • Defnyddio cyffyrddiad corfforol i dawelu dy hun. Edrycha i weld sut mae’n teimlo i roi cwtsh i ti dy hun pan fyddi di’n teimlo’n ofidus. Neu fe allet ti roi cynnig ar rywbeth arall sy’n helpu dy gorff i deimlo cysur, fel lapio blanced o dy gwmpas dy hun.
  • Cymryd seibiannau hunandrugaredd. Mae’n ddefnyddiol i rai ohonon ni gymryd seibiannau bob dydd i adnabod sut rydyn ni’n teimlo a chynnig geiriau caredig i ni ein hunain. Fe allet ti ddweud ‘Rwy’n gwneud fy ngorau’ neu ‘Rwy’n ddigon’. Neu fe allet ti ddefnyddio’r seibiant i roi cynnig ar gadw dyddlyfr, tynnu lluniau, myfyrio neu weddïo.
  • Ysgrifennu llythyr hunandrugarog. Ysgrifenna pam rwyt ti’n teimlo’n wael amdanat ti dy hun neu unrhyw heriau rwyt ti’n eu hwynebu. Nesaf, dychmyga mai rhywun agos atat ti a ysgrifennodd y pethau hyn amdano ei hun ac ateba drwy ysgrifennu llythyr sy’n cynnig geiriau o gysur a chefnogaeth.

Sut mae ysgrifennu llythyr hunandrugarog?

Yn yr ymarfer hwn, byddi di'n ysgrifennu llythyr atat ti dy hun, sy'n dangos y trugaredd y gallet ti ei gynnig i ffrind agos, partner neu aelod o'r teulu.

Lawrlwytha ein cyfarwyddiadau a’n templed llythyr drwy bwyso’r botwm isod.

Lawrlwytho'r ffeil Word

Cadwa mewn cysylltiad

Gall cysylltu â phobl eraill wneud i ni deimlo’n fwy hyderus. Fe allet ti roi cynnig ar y pethau hyn:

  • Cysylltu â rhywun rwyt ti’n uniaethu ag ef ac yn ymddiried ynddo
  • Gwneud rhywbeth sy'n llawn hwyl gyda theulu, ffrindiau neu bartneriaid
  • Bod yn garedig â phobl eraill
  • Gwirfoddoli
  • Ymuno â chlwb neu ddosbarth newydd

Rho gynnig ar rywbeth newydd

Gall rhoi cynnig ar bethau newydd roi ymdeimlad o lwyddo i ni, a all ein helpu ni i fod â mwy o ffydd ynon ni ein hunain.

Fe allet ti roi cynnig ar y pethau hyn:

  • Dysgu sut i chwarae offeryn
  • Dysgu ymadroddion mewn iaith wahanol
  • Chwarae gêm fideo neu gêm fwrdd newydd
  • Gwneud gweithgaredd creadigol, fel tynnu lluniau, paentio, ysgrifennu, cerddoriaeth neu wneud fideos
  • Gwneud gweithgaredd corfforol, fel chwaraeon, dawnsio neu fath o ioga
  • Tyfu neu gasglu planhigion neu flodau

Rwyf wedi dibynnu ar fy hobïau a fy niddordebau i wneud i mi deimlo’n dda erioed, hyd yn oed ar ddiwrnodau gwael, ac mae dysgu sut i ddeall fy nheimladau wedi fy helpu i ddysgu sut i dreulio mwy o amser ar bethau sy’n fy ngwneud i’n hapus!

decorative

Cofia: rydyn ni i gyd yn wahanol – efallai y bydd yn cymryd amser i ddod o hyd i’r hyn sy’n gweithio orau i ti.

Myfyria ar y ffordd rwyt ti’n teimlo am dy gorff

Mae llawer ohonon ni’n cael trafferth gyda’r ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn teimlo am ein corff a’r ffordd rydyn ni’n edrych, sydd hefyd yn cael ei alw'n ddelwedd corff. Ond mae pob un ohonon ni’n haeddu teimlo’n gadarnhaol, yn hyderus ac yn gyfforddus.

Os wyt ti’n cael trafferth gyda delwedd corff, dyma rai pethau y gallet ti roi cynnig arnyn nhw:

  • Dechrau adnabod sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar y ffordd rwyt ti’n teimlo am dy gorff
  • Dad-ddilyn cyfrifon sy’n gwneud i ti deimlo’n wael am dy gorff neu’r ffordd rwyt ti’n edrych
  • Dilyn cyfrifon sy’n gwneud i ti deimlo’n dda amdanat ti dy hun
  • Siarad am dy gorff gyda thrugaredd a goddefgarwch
  • Ceisia beidio â chymharu dy hun â phobl eraill – cofia nad yw’r cyfryngau cymdeithasol yn aml yn dangos sut mae pobl yn edrych mewn bywyd go iawn
  • Meddylia am bethau am dy gorff rwyt ti’n ddiolchgar amdanyn nhw
  • Bydda’n agored am y ffordd rwyt ti’n teimlo gyda phobl rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw
  • Darllena fwy am ddelwedd corff ar wefan YoungMinds

Paid â bod ofn dad-ddilyn cyfrifon sy’n gwneud i ti deimlo’n wael amdanat ti dy hun, yn hyrwyddo syniadau aniach am fwyd neu sy'n creu delweddau ffug.

Sut gall y cyfryngau cymdeithasol effeithio ar fy lles?

Gwybodaeth am y cyfryngau cymdeithasol

Rho gynnig ar fod yn bendant

Mae bod yn bendant yn golygu siarad droson ni ein hunain mewn ffordd sy’n onest ac yn barchus. Mae hefyd yn golygu rhoi gwybod i bobl beth sydd ei eisiau arnon ni, ond mewn ffordd gadarnhaol.

Er bod gan bob un ohonon ni ffyrdd gwahanol o gyfathrebu, mae syniadau, meddyliau a theimladau pawb yn bwysig. A phan fyddwn ni’n derbyn bod ein rhai ni’n bwysig hefyd, bydd hi’n haws bod yn bendant.

I ymarfer bod yn bendant, efallai y bydd angen i ti ymarfer y pethau hyn:

  • Rhoi dy farn
  • Dweud sut rwyt ti'n teimlo
  • Gofyn am yr hyn sydd ei eisiau neu ei angen arnat ti
  • Anghytuno â phobl eraill mewn ffordd barchus
  • Cynnig syniadau ac awgrymiadau
  • Dweud ‘na’ heb deimlo’n euog
  • Siarad ar ran rhywun arall

Gall bod yn bendant deimlo’n anodd i ddechrau, ac mae’n cymryd amser i deimlo’n gyfforddus yn gwneud hyn. Ceisia fod yn drugarog â thi dy hun drwy’r amser a phaid â rhoi pwysau arnat ti dy hun i roi cynnig ar bopeth ar unwaith.

Meddylia am yr hyn rwyt ti’n ei ddisgwyl gen ti dy hun, nid yr hyn mae pobl eraill yn ei ddisgwyl gen ti.

Dyma rai pethau y gallet ti roi cynnig arnyn nhw:

  • Talu sylw i’r hyn rwyt ti’n ei deimlo a’r hyn sydd ei angen a’i eisiau arnat ti. Gall bod yn ymwybodol o’r rhain dy helpu i’w cyfleu i bobl eraill.
  • Ymarfer rhoi dy farn. Er enghraifft, os bydd rhywun yn gofyn hoffet ti fynd i’r parc neu i’r sinema, yn lle dweud ‘Dydw i ddim yn gwybod’ neu ‘Does dim ots gen i’, dyweda ‘Byddai’n well gen i fynd i’r sinema.’
  • Ymarfer gofyn am bethau. Er enghraifft, gofynna am help os byddi di'n cael trafferth gyda dy waith ysgol neu gofynna i rywun stopio gwneud rhywbeth sy'n dy boeni.
  • Dod o hyd i fodel rôl sy’n dda am fod yn bendant. Meddylia pa ymddygiadau neu ymadroddion mae’n eu defnyddio. Os byddi di'n teimlo’n gyfforddus, rho gynnig ar ymarfer y rhain yn y drych efallai.
  • Dangos parch tuag at eraill. Er enghraifft, ceisia adael i bobl eraill siarad a gorffen yr hyn maen nhw’n ei ddweud cyn rhannu dy farn di. Mae hefyd yn bwysig bod yn garedig a chofio bod gan bobl wahanol arddulliau cyfathrebu.
decorative

Meddylia pa rai o’r awgrymiadau hyn sy’n ddefnyddiol i ti a pha rai nad ydyn nhw'n gweithio i ti. Bydd yn ymwybodol o’r hyn rwyt ti'n gallu ei wneud a bydd yn garedig â thi dy hun – rwyt ti’n gwneud dy orau ac mae hynny’n ddigon yn barod.

Meddylia am osod nodau

Gall magu hyder a hunan-barch deimlo fel taith. Efallai y byddi di’n dysgu pethau newydd amdanat ti dy hun ac yn darganfod beth sy’n gweithio orau i ti.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i ti osod nodau ar gyfer yr hyn rwyt ti am ei wneud. Does dim rhaid i ti gynllunio na chyrraedd dy holl nodau ar unwaith, ond gall camau bach arwain at newidiadau mawr.

Dyma rai awgrymiadau defnyddiol ar gyfer gosod nodau:

  • Rhanna nodau mawr yn dasgau llai sy’n teimlo’n haws eu trin
  • Canolbwyntia ar un neu ddau nod ar y tro fan bellaf
  • Ceisia fod yn benodol ynglŷn â’r hyn rwyt ti am ei wneud
  • Meddylia sut byddi di’n dathlu os byddi di’n cyflawni nod
  • Meddylia sut byddi di’n dangos trugaredd atat ti dy hun os bydd pethau’n mynd o chwith

Sut mae gosod nodau?

Er mwyn dy helpu i osod a rheoli dy nodau’n well, efallai y bydd yn ddefnyddiol i ti ddeall dy lefelau egni a dy gymhellion.

Lawrlwytha ein hadnodd gosod nodau drwy bwyso’r botwm isod.

Lawrlwytho'r ffeil Word

Mae gen i jar llwyddiannau lle rwy’n ysgrifennu o leiaf un peth y gwnes i ei gyflawni y diwrnod hwnnw (a nodi’r dyddiad) a’i roi yn y jar.

Cyhoeddwyd: Hydref 2024
Adolygiad nesaf: Hydref 2027

Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth 

arrow_upwardYn ôl i'r brig