Mae’r dudalen hon yn esbonio sut mae’r coronafeirws yn effeithio ar driniaeth a chymorth iechyd meddwl, gyda chyngor ar sut i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnoch. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am apwyntiadau meddyg teulu, therapïau siarad a chwnsela, a meddyginiaeth seiciatrig.
Mae llawer ohonom yn poeni am sut mae’r pandemig coronafeirws (Covid-19) yn effeithio ar ein hiechyd meddwl. Gallai hyn gynnwys poeni am gael mynediad at driniaeth a chymorth iechyd meddwl yn ystod y pandemig.
Efallai eich bod yn teimlo’n ddryslyd ynglŷn â pha fathau o driniaeth a chymorth sydd ar gael, neu’n euog am ofyn am help pan fydd angen help ar lawer o bobl eraill. Neu efallai eich bod yn ansicr lle i ddechrau chwilio am help.
Mae’r dudalen hon ar gyfer unrhyw un sydd eisiau triniaeth a chymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl yn ystod y coronafeirws.
Mae’n cynnwys gwybodaeth am sut y gallai’r coronafeirws effeithio ar yr opsiynau triniaeth a chymorth hyn.
Efallai y bydd y tudalennau canlynol yn ddefnyddiol i chi hefyd:
Os ydych yn teimlo nad ydych yn gallu cadw eich hun yn ddiogel, mae’n argyfwng iechyd meddwl.
Mae eich meddyg teulu yna i’ch helpu gyda’ch iechyd meddwl, yn ogystal â’ch iechyd corfforol. Yn aml, bydd siarad gyda hwy yn gam cyntaf ar gyfer canfod triniaeth a chymorth a allai eich helpu.
Gall eich meddyg teulu helpu hefyd os ydych eisoes yn defnyddio triniaeth a chymorth a’ch bod eisiau trafod hynny neu roi cynnig ar rywbeth gwahanol.
Efallai nad yw’n bosibl cael apwyntiad wyneb yn wyneb gyda’ch meddyg teulu yn ystod y coronafeirws. Ond gallwch barhau i gysylltu â’ch meddyg teulu mewn nifer o ffyrdd. Mae gan y GIG wybodaeth am gael mynediad at wasanaethau’r GIG ar-lein neu dros y ffôn, gan gynnwys sut i gysylltu â’ch meddyg teulu o bell i drefnu apwyntiad.
Ceisiwch beidio poeni bod eich problem yn rhy fach neu’n ddibwys, neu fod salwch pobl eraill yn bwysicach. Mae pawb yn haeddu help, ac mae eich meddyg teulu yna i’ch cynorthwyo chi.
Gall deimlo’n anodd trafod eich iechyd meddwl gyda’ch meddyg teulu. Gallai deimlo’n anoddach fyth os oes gennych apwyntiad dros y ffôn yn hytrach nag wyneb yn wyneb. Gall yr apwyntiadau fod yn eithaf byr hefyd, a’ch bod yn teimlo’n nerfus y gallech anghofio dweud pethau yr ydych yn credu sy’n bwysig.
Gallai helpu pe byddech yn paratoi ymlaen llaw ar gyfer eich apwyntiad, er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y budd mwyaf o’ch sgwrs gyda’ch meddyg teulu. Dyma rai awgrymiadau ar sut i baratoi:
Gweler ein tudalen ar siarad gyda’ch meddyg teulu i gael cyngor pellach ar gael y budd mwyaf o’r sgwrs hon.
Mae therapïau siarad a chwnsela yn driniaethau sy’n cynnwys siarad gyda gweithiwr proffesiynol hyfforddedig ynghylch eich meddyliau, teimladau ac ymddygiad.
Mae’n annhebygol y bydd sesiynau therapi siarad a chwnsela wyneb yn wyneb ar gael yn ystod y coronafeirws. Mae’n bosibl y bydd rhai therapyddion yn cynnig sesiynau dros y ffôn neu ar-lein yn lle hynny.
Efallai eich bod yn poeni am dderbyn therapi dros y ffôn neu ar-lein yn hytrach nag wyneb yn wyneb. Efallai eich bod yn poeni y bydd yn fwy anodd i chi gael sgwrs agored a gonest.
Dyma rai awgrymiadau i helpu i wneud eich sesiynau deimlo’n fwy cyfforddus:
Cyn y sesiwn, ceisiwch siarad gyda’ch therapydd ynglŷn â:
Os ydych yn ansicr ynglŷn â defnyddio technoleg galwadau fideo, gofynnwch i ffrind, aelod o’r teulu neu rywun arall rydych yn ymddiried ynddynt helpu i drefnu hyn. Mae gan Age UK ganllaw ar sut i ddefnyddio galwadau fideo, a allai fod o gymorth hefyd.
Os yn bosibl, ceisiwch ganfod lle yn eich cartref lle na fydd unrhyw beth yn aflonyddu arnoch. Os ydych yn poeni am gael eich clywed gan bobl sy’n byw gyda chi, gallech roi cynnig ar ddefnyddio clustffonau ar gyfer y sesiwn.
Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol troi unrhyw hysbysiadau digidol i ffwrdd, er enghraifft negeseuon e-bost neu destun, er mwyn osgoi cael eich aflonyddu.
Er enghraifft, gallech afael mewn gwrthrych sy’n rhoi cysur i chi neu gymryd eiliad i ganolbwyntio ar eich anadlu.
Gallai eich sesiwn drafod emosiynau anodd. I’ch helpu i reoli hyn gallech roi cynnig ar weithgarwch ymlaciol, er enghraifft gwrando ar eich hoff ddarn o gerddoriaeth, cyn dychwelyd i’ch trefn arferol.
Efallai y byddwch eisiau dweud wrth rywun rydych yn ymddiried ynddynt eich bod yn cael y sesiwn, er mwyn iddynt allu gwneud yn siŵr eich bod yn iawn wedyn.
Gall gymryd amser i feithrin ymddiriedaeth a theimlo’n gyfforddus gyda’r therapydd. Gallai deimlo’n anoddach fyth pan nad ydych yn eu gweld wyneb yn wyneb.
Ceisiwch fod yn garedig gyda’ch hun os bydd yn cymryd amser i ddod i arfer â chael therapi yn y dull hwn. A chofiwch y gallwch gael sesiynau wyneb yn wyneb eto yn y dyfodol.
Os nad ydych yn siŵr pa therapi neu gwnsela sy’n addas i chi, gweler ein gwybodaeth am beth i’w wneud os nad yw eich therapi yn gweithio.
"Roedd newid o therapi wyneb yn wyneb i therapi dros y ffôn yn newid mawr, ac roeddwn yn nerfus am hyn ar y dechrau. Yr hyn sydd wedi fy helpu yw gwneud yn siŵr fy mod yn dawel, wedi ymlacio ac nad oes unrhyw beth yn aflonyddu arnaf cyn fy ngalwad."
Os ydych yn cymryd meddyginiaeth seiciatrig ar gyfer eich iechyd meddwl, efallai eich bod yn poeni sut mae hyn wedi’i effeithio yn ystod y coronafeirws. Er enghraifft, gallech fod yn poeni am:
Mae gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion dudalen ar gael mynediad at feddyginiaeth iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws, sy’n ateb llawer o gwestiynau a allai fod gennych ynglŷn â’ch meddyginiaeth.
Gallai’r wybodaeth hon helpu hefyd:
Os ydych yn cael apwyntiadau rheolaidd ynglŷn â’ch meddyginiaeth, mae’n bwysig eich bod yn parhau i’w mynychu oni fyddwch yn cael gwybod fel arall. Er enghraifft gallai hyn gynnwys cael pigiadau depo er mwyn cymryd eich meddyginiaeth, neu gael profion gwaed i wneud yn siŵr bod eich dos yn gywir.
Gallwch siarad gyda’ch meddyg os ydych yn poeni am fynychu’r apwyntiadau hyn, neu os bydd angen i chi aros adref am eich bod yn hunanynysu neu’n gwarchod rhag y coronafeirws.
Efallai y gallwch archebu presgripsiynau amlroddadwy dros y ffôn. Neu efallai y gallwch wneud hyn ar-lein gan ddefnyddio ap neu wefan, os bydd eich meddygfa yn cynnig hyn.
Gallwch lawrlwytho ap y GIG, sydd am ddim a chwilio am eich meddygfa, er nad yw rhai meddygfeydd ar yr ap eto. Mae gwybodaeth ar gael ar wefan NHS Health at Home ynglŷn â chael mynediad at wasanaethau’r GIG o’ch cartref, gan gynnwys archebu presgripsiynau amlroddadwy.
Gofynnwch i’ch fferyllydd ynglŷn â threfnu i anfon eich meddyginiaeth atoch neu i rywun arall ei gasglu ar eich rhan. Bydd hyn yn bosibl fel arfer, ond os yw’n gyffur a reolir, gallai’r fferyllfa ofyn am brawf adnabod. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw un sy’n casglu eich meddyginiaeth yn gwybod os bydd angen iddynt dalu amdani.
Mae gan y GIG wybodaeth bellach am gasglu presgripsiynau ar gyfer rhywun arall.
Mae’n bwysig eich bod yn ofalus os byddwch yn prynu meddyginiaeth ar-lein. Dylech eu prynu gan fferyllfeydd cofrestredig yn unig. Gallwch gadarnhau a yw fferyllfa wedi’i chofrestru ar wefan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
Gweler ein tudalen ar brynu meddyginiaeth ar-lein i gael gwybodaeth bellach. Gallwch gysylltu â GIG 111 Cymru neu NHS 111 yn Lloegr os ydych yn poeni am gael gafael ar feddyginiaeth.
Gweler ein tudalen ar coronafeirws a hawliau gofal cymdeithasol i gael gwybodaeth am sut y gallai’r coronafeirws effeithio ar eich hawliau cyfreithiol i dderbyn gofal cymdeithasol.
Gweler ein tudalen ar y coronafeirws a hawliau gofal cymdeithasol i gael gwybodaeth am sut y gallai’r coronafeirws effeithio ar eich hawliau cyfreithiol i dderbyn gofal cymdeithasol.
Dyma rai o’r opsiynau eraill sydd ar gael i chi ar gyfer cefnogi eich iechyd meddwl, a sut maent wedi’u heffeithio yn ystod y coronafeirws. I gael gwybodaeth bellach am yr opsiynau hyn a rhai eraill, gweler ein tudalennau ar geisio cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl.
Yn ystod y coronafeirws, mae’n bosibl nad yw cymorth wyneb yn wyneb gan gyfoedion ar gael, naill ai fel sesiynau un i un neu mewn grwpiau. Efallai y bydd hyn yn anodd i chi os ydych wedi arfer mynychu'r sesiynau hyn er mwyn cefnogi eich iechyd meddwl a rhannu gydag eraill. Ond mae yna ffyrdd eraill i chi dderbyn cymorth gan gyfoedion yn ystod y coronafeirws.
Gallai ymuno â grŵp cymorth gan gyfoedion ar-lein roi’r cyfle i chi rannu eich profiadau gyda phobl a all wrando a deall. Mae Mind yn cynnal cymuned cymorth gan gyfoedion ar-lein lle gallwch rannu profiadau a chlywed gan eraill.
Os ydych yn mynd ar-lein yn amlach nac arfer neu’n chwilio am gymorth gan gyfoedion ar y rhyngrwyd, mae’n bwysig eich bod yn gofalu am eich llesiant ar-lein. Gweler ein tudalennau ar iechyd meddwl ar-lein i gael gwybodaeth bellach.
“Rwyf bob amser yn credu bod siarad gyda phobl sydd yn yr un sefyllfa â chi bob amser yn helpu i chi deimlo nad ydych ar eich pen eich hun ac mae hynny ynddo’i hun yn helpu i wneud i chi deimlo’n well o lawer…"
Os bydd angen i chi siarad gyda rhywun yn awr, mae yna lawer o linellau cymorth a gwasanaethau gwrando y gallwch eu ffonio. Mae gan y llinellau cymorth hyn staff hyfforddedig sy’n barod i wrando. Ni fyddant yn eich barnu a gallant eich helpu i wneud synnwyr o sut rydych yn teimlo.
Mae Llinell Wybodaeth Mind yn darparu gwybodaeth a gwasanaeth cyfeirio dros y ffôn, drwy e-bost, testun a gwe sgwrs. Pe byddai’n well gennych beidio siarad dros y ffôn, mae Shout yn cynnig gwasanaeth cymorth testun y gallech roi cynnig arno.
Mae ein tudalen cysylltiadau defnyddiol coronafeirws hefyd yn darparu dolenni i sefydliadau a all helpu gyda phrofiadau penodol o iechyd meddwl. Neu gweler ein tudalen ar linellau cymorth a gwasanaethau gwrando ar gyfer llawer o opsiynau eraill.
Mae canghennau lleol Mind yn darparu cymorth iechyd meddwl lleol ar hyd a lled Cymru a Lloegr. Nid yw eu gwasanaethau wyneb yn wyneb yn bosibl yn ystod y coronafeirws, ond maent yn parhau i gynnig llinellau cymorth a gwasanaethau ar-lein.
Gweler ein rhestr o ganghennau lleol Mind neu ffoniwch ein llinell wybodaeth i ganfod cangen Mind sy’n lleol i chi, a gwybodaeth am y gwasanaethau maent yn eu darparu.
"Rwyf wedi bod y person sydd angen cymorth ac yn awr rwyf yn gallu bod y person sy’n rhoi cymorth."
Mae’r pandemig coronafeirws yn cael effaith aruthrol ar ein hiechyd meddwl. Gallwch chi ein helpu ni i fod yna i bawb sydd ein hangen ar yr amser tyngedfennol hwn.