Awgrymiadau ymarferol ar gyfer rheoli eich arian a gwella eich iechyd meddwl.
View this information as a PDF (new window)
Efallai y bydd dysgu am y cysylltiad rhwng iechyd meddwl ac arian yn helpu os byddwch chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi. Gallai rhoi trefn ar bethau deimlo fel tasg lethol. Ac efallai fod llawer o bethau y tu hwnt i'ch rheolaeth. Ond ceisiwch gymryd un cam ar y tro. Mae'r awgrymiadau ar y dudalen hon yma i'ch helpu i ddechrau arni.
Mae pandemig y coronafeirws yn achosi pryderon ariannol i lawer o bobl. Os bydd gennych chi bryderon ariannol, efallai y bydd y wybodaeth hon yn helpu:
Dyma rai ffyrdd cyffredin y gall eich iechyd meddwl effeithio ar y ffordd rydych chi'n delio ag arian:
"Doeddwn i ddim yn ateb y ffôn a doeddwn i ddim yn agor y post, ac roedd dyled ar ôl dyled yn cynyddu."
Dyma rai ffyrdd cyffredin y gall arian effeithio ar eich iechyd meddwl:
"Pan roeddwn i'n gwyro i ffwrdd o'm cynlluniau, hyd yn oed drwy brynu rhywbeth bach, roeddwn i'n dueddol o deimlo'n euog a theimlo cywilydd."
Gall meddwl am arian fod yn emosiynol, ac efallai y bydd gennych deimladau gwahanol am arian. Dyma rai o'r teimladau cyffredin y gallai fod gennych:
Gallai dod i adnabod y teimladau a'r emosiynau sydd gennych am arian eich helpu i nodi patrymau yn eich ymddygiad, a theimlo bod mwy o reolaeth gennych.
Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi dreulio ychydig o amser yn meddwl am sut rydych chi'n teimlo am arian a pham. Er enghraifft, os ydych chi wedi cael trafferth ag arian yn y gorffennol neu os nad oedd gennych chi lawer o arian pan oeddech chi'n tyfu i fyny, gallai hyn effeithio ar y ffordd rydych chi'n teimlo am arian nawr. Gallech chi geisio ateb y cwestiynau hyn:
Gallai helpu i gadw dyddiadur o'ch gwariant a'ch hwyliau, i gofnodi faint rydych chi'n ei wario a pham. Gallech chi gofnodi sut roeddech chi'n teimlo cyn ac ar ôl hynny hefyd.
Unwaith y byddwch chi wedi gwneud hyn, efallai y byddwch chi'n dechrau teimlo fel petaech chi'n deall eich arferion a'ch patrymau mewn perthynas ag arian ychydig yn well. Gallai gwybod y rhain eich helpu i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer adegau anodd. Darllenwch ein gwybodaeth am gynllunio ymlaen llaw â'ch arian.
"Doeddwn i ddim yn sylweddoli'r effaith roedd fy iechyd meddwl yn ei chael ar fy ngallu i reoli arian, na'r effaith roedd rheolaeth wael o arian yn ei chael ar fy iechyd meddwl."
Pan fyddwch chi'n sâl, efallai y byddwch chi'n gwario mwy o arian nag yr hoffech chi ei wneud, neu fwy nag y gallwch chi ei fforddio. Gall gorwario ddigwydd am resymau gwahanol, fel:
"Byddwn i'n prynu pa bynnag anrhegion bach roeddwn i eisiau i mi fy hun. Byddai hynny'n teimlo'n wych ar y pryd, ond byddwn i'n dihuno'r diwrnod wedyn gyda theimladau dwys o euogrwydd, cywilydd a dicter."
Dyma rai awgrymiadau a allai eich stopio rhag gorwario:
"Daeth gwario arian yn fath o therapi..."
Gall gamblo fynd yn gaethiwed. Os byddwch chi'n poeni am gamblo, mae pethau y gallwch chi eu gwneud:
"Mae gallu dweud wrth rywun rwy'n ymddiried ynddo yn helpu. Os bydd pethau'n wael, mae fy Mam yn cadw fy nghardiau."
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon fis Awst 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.