Mae'n esbonio beth yw PMDD, gan gynnwys achosion posibl, symptomau a sut i gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau hunanofal ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.
Os ydych chi'n helpu ffrind neu berthynas sydd â PMDD, weithiau, gall fod yn anodd gwybod beth y gallwch chi ei wneud i helpu. Mae'r dudalen hon yn rhestru rhai pethau y gallech chi roi cynnig arnyn nhw.
Bydd rhai pobl sydd â PMDD yn ei chael hi'n anodd esbonio beth maen nhw'n ei wynebu, ac mae'n arbennig o anodd pan fydd eraill yn diystyru eu profiadau drwy ddweud “dim ond yr adeg o'r mis yw hyn” neu “mae pob menyw yn wynebu hyn”.
Nid yw'r camsyniadau hyn yn wir, ond gall ei gwneud hi'n anodd iawn i unrhyw un sydd â PMDD rannu ei deimladau'n agored. Mae'n bwysig deall y gall PMDD effeithio'n sylweddol ar fywyd rhywun. Mae'r symptomau'n real iawn, a gall fod yn anodd iawn ymdopi â nhw.
"Dwi dal ddim yn gallu dweud wrth lawer o ffrindiau a chydweithwyr beth sydd wedi digwydd, oherwydd yr agwedd gyffredinol, sef ‘problemau menywod/dim ond y mislif yw hyn’."
"Mae fy mherthynas â'm ffrindiau a theulu wedi dioddef hefyd. Mae gen i berthynas ofnadwy â'm chwaer am ei bod yn gwrthod deall na chydnabod fy PMDD. Rwy'n ffodus bod fy rhieni yn deall hyn, ond mae'n anodd iawn i rywun ddeall os nad oes ganddo PMDD."
Gall PMDD effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol, felly mae'n bwysig gofyn beth fyddai fwyaf defnyddiol iddyn nhw. Efallai y byddan nhw am gael cymorth emosiynol gennych chi neu efallai y gallech chi wneud pethau ymarferol penodol i'w helpu i ymdopi. Er enghraifft, efallai y bydd yn helpu os byddwch chi'n cymryd rhywfaint o'r pwysau oddi ar eu hysgwyddau drwy helpu â thasgau pob dydd fel tasgau o amgylch y tŷ neu siopa am fwyd.
Hyd yn oed gyda chymorth, gall rhywun sydd â PMDD fod yn bigog ar adegau ac ymddwyn yn wahanol i'r arfer. Gall fod yn anodd cefnogi rhywun os nad yw'n ymddangos ei fod yn gwerthfawrogi'r help rydych yn ceisio ei gynnig. Nid yw'n hawdd, ond efallai y byddwch chi'n gweld bod yn rhaid i chi fod ychydig yn fwy amyneddgar nag arfer. Cofiwch na fydd hyn yn para am byth ac y dylai'r symptomau wella o fewn ychydig ddiwrnodau.
Pan fydd symptomau ganddynt, efallai y byddan nhw'n dweud pethau neu'n gwneud pethau sy'n eich gwneud chi'n anhapus. Os bydd hyn yn digwydd, gall fod yn ddefnyddiol ceisio aros nes bydd y symptomau wedi pasio cyn ei drafod fel eu bod mewn sefyllfa well i allu siarad amdano.
Pan fydd symptomau ganddynt, gallwch geisio rhoi sicrwydd y bydd y symptomau'n pasio'n fuan, eich bod yno i'w cefnogi ac nad ydynt ar eu pen eu hunain. Yn aml, bydd gwybod bod rhywun yno sy'n deall yn help mawr.
Bydd rhai pobl sydd â PMDD yn cael teimladau hunanladdol. Gall fod yn anodd i'r ddau ohonoch chi ymdopi â hyn. Ceir gwybodaeth am sut y gallwch chi helpu yn y sefyllfa hon ar ein tudalennau ar gefnogi rhywun sy'n cael teimladau hunanladdol.
"Mae fy mhartner yn gefnogol iawn ac mae hynny'n help mawr ac yn werth y byd i mi. Mae'n gwneud i mi deimlo'n ddiogel iawn pan fydda i'n teimlo ar goll."
Bydd symptomau PMDD yn dechrau ar adegau penodol yng nghylchred eich mislif. Os gallwch ragweld pryd mae'r symptomau'n debygol o ddechrau, efallai y byddwch am gynllunio pethau ymlaen llaw a all helpu. Er enghraifft, gallech chi drefnu amser i helpu gyda thasgau dyddiol, cynllunio gweithgareddau a all eu helpu i ymlacio neu sicrhau y bydd pobl o amgylch i gynnig help. Gallai hefyd helpu i osgoi cynllunio unrhyw weithgareddau yn ystod y cyfnod hwnnw a allai wneud pethau'n anodd.
Gall cefnogi eich ffrind neu anwylyn i gael help fod yn bwysig iawn. Gall helpu i'w hatgoffa bod PMDD yn gyflwr cydnabyddedig fel llawer o rai eraill, a'u bod yn haeddu cael triniaeth a chymorth. Gallwch chi ddarllen ein gwybodaeth am driniaethau ar gyfer PMDD a hunanofal, a'u hannog i ofyn am help gan eu meddyg teulu. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar helpu rhywun arall i geisio help.
Nid yw pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn ymwybodol o PMDD nac yn ei ddeall yn llawn, felly, weithiau, gall pobl wynebu rhwystrau i gael y driniaeth a'r cymorth maent yn ei haeddu. Gallai gwybod eich bod chi'n eu cefnogi eu helpu i ddal ati os byddant yn wynebu rhwystrau. Gallech chi hyd yn oed ystyried bod yn eiriolwr iddynt. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar eiriolaeth.
Weithiau, gall fod yn heriol iawn cefnogi rhywun, ac mae'n gyffredin i bopeth deimlo'n ormod i chi weithiau. Mae'n bwysig cofio gofalu am eich iechyd meddwl eich hun hefyd, fel bod gennych chi'r egni, yr amser a'r gofod sydd eu hangen arnoch chi i helpu eich ffrind neu aelod o'r teulu.
Er enghraifft:
Ceir awgrymiadau ar yr hyn y gallwch chi ei wneud, a ble y gallwch chi gael cymorth ar ein tudalennau ar gefnogi eich hun wrth ofalu am rywun.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Awst 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.