Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Dod yn rhiant ar ôl colli babi

Dydd Iau, 05 Mai 2022 Vicki

Ar gyfer Wythnos Iechyd Meddwl Mamau, mae Vicki yn blogio am ei hiechyd meddwl ar ôl colli gefeilliaid yn 20 wythnos oed a mynd ymlaen i gael dau blentyn arall.

Rhybudd cynnwys: Mae'r blog hwn yn cynnwys disgrifiadau o golli babi a phrofiad geni trawmatig.

 

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Roedd colli fy ngefeilliaid, dwy ferch, pan oeddwn i 20 wythnos yn feichiog, wedi effeithio arna i yn fwy nag unrhyw beth alla i ei ddisgrifio. Roedd yn rhaid i mi, yn gorfforol, eu geni, mynd trwy’r esgor ac yna ffarwelio â nhw. Roedd yn dor-calonus.  Felly, pan feichiogais i gyda fy mab Louis, roeddwn i’n esgus nad oeddwn yn disgwyl. Roeddwn i’n gwneud y pethau amlwg fel peidio â smocio, yfed, bwyta sushi ayb. Ond, at ei gilydd, fe fyddwn i’n ceisio byw fy niwrnod gan ymdrechu i beidio â chael unrhyw deimladau dros y babi oedd yn tyfu y tu fewn i mi. Roeddwn i’n dal i alaru dros fy merched a doeddwn i ddim yn gadael i mi fy hun gredu y byddai’r beichiogrwydd hwn yn mynd i fod yn wahanol. Doeddwn i ddim yn gallu meddwl am ddarllen unrhyw lyfrau na llawrlwytho unrhyw apiau beichiogrwydd. Gyda’r merched, roeddwn wedi’u defnyddio'n ddeddfol ac wedi dilyn pob cam o’u datblygiad. Ond gyda Louis, doeddwn i ddim yn gallu. Roeddwn i’n mynd i ddosbarthiadau NCT, ond heb dalu unrhyw sylw. Roeddwn i'n byw o ddydd i ddydd, o sgan i sgan ac yn ceisio cau allan gyffro pobl drosof.  

Pan ddaeth dyddiad geni Louis, roedd yr esgor, yn anffodus, yn fyr ac yn drawmatig. Cafodd ei gipio i ofal dwys newydd-anedig (NICU) cyn i mi hyd yn oed ei weld, ac yn llythrennol, roeddwn i'n meddwl ei fod wedi marw. Am eiliad, roeddwn yn credu gyda'm holl galon fod y peth yr oeddwn yn ei ofni fwyaf wedi digwydd, yn y pen draw un. Felly, tua 5am y diwrnod nesaf, ar ôl mynd i’r NICU i weld fy machgen bach, doeddwn i'n teimlo dim byd. Dyma’r babi roeddwn i wedi hiraethu amdano ar ôl popeth yr oedd wedi digwydd, ond pan oeddwn i’n edrych arno, doeddwn i ddim yn gwybod sut oeddwn i’n teimlo. Wrth edrych ar y babi bychan, bach mewn crud cynnal, roeddwn i’n ddi-deimlad. Yna, cymerodd yr euogrwydd a’r sioc drosodd yn dawel.

Ble roedd y cariad ysol roedd pobl yn sôn amdano?

Roeddwn i’n teimlo’n sâl. Wyddwn i ddim beth i’w wneud. Ar yr un pryd, roeddwn i’n teimlo cymaint o gywilydd.

Cafodd Louis a minnau fynd adref ychydig ddyddiau wedyn a doedd gen i ddim mo'r syniad lleiaf ble i ddechrau. Doedden ni ddim wedi paratoi dim iddo oherwydd fy mod i’n argyhoeddedig na fyddai hyn yn digwydd mewn gwirionedd.  Roedd yn gymaint o sioc cael babi bach yn fy mreichiau’n sydyn. Doeddwn i ddim yn ymestyn allan am gymorth oherwydd roeddwn i’n teimlo mor euog fy mod i heb baratoi. Doedd gen i ddim syniad am fwydo ar y fron ac roedd hynny’n frwydr i Louis. Roeddwn i’n cofnodi ei fwydo, clytiau a chwsg yn obsesiynol ac yn poeni os nad oedden nhw’n union yr un fath ag yr oedd y canllawiau’n awgrymu. Doeddwn i ddim yn cysgu ac roeddwn i ofn ar hyd yr adeg y byddai’r gwaethaf yn digwydd. Ond wrth i hyn i gyd fynd ymlaen yn fy mhen, roeddwn i eisiau ymddangos i eraill fy mod i’n gwneud yn iawn. Onid yw’r ychydig fisoedd cyntaf yn emosiynol ac yn lladdfa i bob rhiant newydd? Ar ôl popeth roeddwn i wedi mynd trwyddi gyda’r merched, doeddwn i ddim eisiau drama arall. Roedd gen i’r babi yr oeddwn yn hiraethu amdano.

Oni ddylwn i fod yn hapus?

Wrth edrych yn ôl, fe fyddai’n dda gen i petawn i heb deimlo cymaint o gywilydd. Dydw i ddim yn meddwl fy mod wedi cyfaddef i mi fy hun mewn gwirionedd, fy mod i angen help. Hyd yn oed pan oedd pobl yn ceisio helpu, roeddwn i’n teimlo fy mod yn cael fy meirniadu. Doeddwn i ddim yn siarad gyda ffrindiau. Roeddwn i’n gwrthod cefnogaeth iechyd meddwl newydd-anedig. Er i mi gael presgripsiwn am dabledi gwrth iselder, doeddwn i ddim yn eu cymryd oherwydd fy mod yn poeni sut y byddai hynny’n effeithio ar Louis. Yr unig help gefais i oedd yn ddi-enw ar lein. Rwy’n teimlo fod llawer mwy o stwff iechyd meddwl i famau allan yna ar y cyfryngau cymdeithasol erbyn hyn, sy’n beth gwirioneddol dda. Mae’n dal i fy helpu a dyma beth sydd wedi fy nghadw i fynd mewn gwirionedd, cysylltu â phobl mewn grwpiau ar lein a darllen cyngor. Felly, dyna symud ymlaen fel yna, pethau’n gwella gan bwyll bach wrth i Louis ddod yn hŷn a chefais ail fab.  Pan anwyd Albie, roedd y c-section wedi’i gynllunio heb unrhyw syrpreis. Roeddwn i’n cael ei weld. Roeddwn i’n cael ei gyffwrdd. Roedd yn cael dod i’r ystafell adfer gyda mi. Fe fwydodd ar y fron ar unwaith. Roedd yn brofiad gwbl wahanol ac fe wnaeth y dyddiau tawel hyfryd ar ôl geni (er yn dal yn lladdfa) i mi sylweddoli o dan gymaint o straen ac mor bryderus roeddwn i wedi bod o'r blaen. Felly, ar ôl mynd yn ôl i’r gwaith ar ôl cyfnod mamolaeth, fe ddechreuais gael ychydig o help.

Rwy’n dal i ddod i delerau gyda phopeth sydd wedi digwydd i mi dros y blynyddoedd diwethaf. Mae yna rywbeth bob amser sy’n teimlo’n bwysicach na fy iechyd meddwl. Ond fe ddechreuais ar feddyginiaeth ac rwy’n derbyn therapi siarad, sydd wedi helpu llawer. Rwy’n meddwl, petawn i’n gallu rhoi cyngor i rywun sy'n feichiog neu'n riant newydd, hyd yn oed os nad ydyn nhw wedi profi colled, y byddwn i’n dweud wrthyn nhw am ddweud beth sydd ar eu meddwl.

Peidiwch byth â meddwl fod beth rydych chi’n ei deimlo yn wirion neu'n gywilyddus.

Dywedwch beth bynnag rydych chi eisiau ei ddweud a pheidiwch â phoeni o ble y mae’r help yn dod. Jyst gwnewch hynny. Efallai nad yw eich profiad o famolaeth union yr un peth â’r hyn sy’n cael ei ddangos ar yr apiau babi nac â'r disgwyliadau oedd gennych chi, ond chi piau’r cyfan ac mae gennych chi hawl i gefnogaeth yn union yr un fath a phawb arall.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am PTSD a thrawma geni ar ein gwefan.

Related Topics

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig