Get help now Make a donation

Mind Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i “gymryd yr awenau” wrth wella gofal ar gyfer cleifion mewnol iechyd meddwl

Monday, 16 September 2024 Mind

Mae adroddiad a lansiwyd gan Mind Cymru heddiw yn codi pryderon am ofal a diogelwch iechyd meddwl cleifion mewnol, ochr yn ochr â chasglu data gwael, yng Nghymru.

Yn ei hadroddiad ‘Codi’r Safon’, mae’r elusen yn tynnu sylw at weithlu dan bwysau, gyda 13 o 18 ysbyty rhwng 2022-23 yn sôn am broblemau sy'n deillio o brinder staff, sy'n effeithio'n negyddol ar y rhai yn eu gofal.

Gan ddefnyddio profiadau gofal cleifion yn ogystal â gwybodaeth Cais Rhyddid Gwybodaeth ac adroddiadau arolygiaethau, mae Codi’r Safon yn nodi nifer o feysydd sydd angen eu gwella. Mae’r rhain yn cynnwys ymrwymiad cryfach i gasglu a chyhoeddi data, yn enwedig am hil a nodweddion gwarchodedig eraill, er mwyn deall a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu yn well.

Yn ogystal, mae'r adroddiad yn amlygu'r angen i ddilyn canllawiau ymarfer cyfyngol i leihau’r niwed i gleifion, a chyflwyno Deddf Unedau Iechyd Meddwl (Defnyddio Grym) 2018, sy’n cael ei alw hefyd yn ‘Gyfraith Seni’ i Gymru. Ar hyn o bryd yn Lloegr, nod y ddeddf yw amddiffyn cleifion iechyd meddwl rhag defnyddio grym anghymesur ac amhriodol mewn unedau iechyd meddwl.

Wynebodd Francesca Murphy, 27, o Sir Benfro nifer o ddulliau cyfyngol wyneb am i lawr a ffarmacolegol fel claf mewnol mewn ysbyty yng Nghymru.

"Ni ddylid byth defnyddio dulliau cyfyngol yn y lle cyntaf. Cyn siarad â fi neu geisio lleddfu'r sefyllfa, dydw i ddim yn credu ei bod yn iawn bod gen i 4 oedolyn yn cydio ym mhob braich a choes ac yn fy nal i lawr. Mae fy mhroblemau iechyd meddwl yn deillio o ddamwain hwylio pan roeddwn yn fy arddegau. Er bod y staff yn gwybod hyn, roedden nhw’n dal i ddefnyddio dulliau cyfyngol wyneb am i lawr arnaf a oedd yn golygu cydio yn fy fferau. Byddai hyn yn sbarduno hen atgofion ac yn fy ngwneud yn fwy anhwylus weithiau.

"Gyda thawelydd meddygol, roedd cael dim llais a chael cyffuriau wedi'u chwistrellu heb hyd yn oed ceisio cael sgwrs neu ffordd arall o dawelu'r sefyllfa yn ofnadwy. Cefais fy ngadael mewn ystafell yn gyfan gwbl ar fy mhen fy hun – ac ambell waith, ni ddaeth unrhyw un i fy ngweld i ar ôl hynny. Cefais fy llusgo i fy ystafell a fy ngadael yno.

“Rwy’n teimlo mai dim ond 1 waith ymhob 10 oedd angen cyfyngu, yn enwedig gan nad ydw i’n berson mawr iawn”.

Mae ymatebion yr arolwg yn yr adroddiad hefyd yn awgrymu mai dim ond 52% o bobl yng Nghymru sy’n teimlo y byddai ffrind neu aelod o’r teulu yn ddiogel yn yr ysbyty pe baent yn cael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd eu hiechyd meddwl. Yn ogystal, teimlai 69% o'r rhai a holwyd y dylai'r llywodraeth fod yn gwneud mwy i amddiffyn cleifion mewn ysbytai iechyd meddwl rhag gofal anniogel a chamdriniaeth.

Mae Alex, 37, sy’n byw gyda sgitsoffrenia, yn disgrifio sut gall amgylchedd lle mae urddas a pharch yn cael eu blaenoriaethu gyfrannu'n bwerus at adferiad. Wrth fyfyrio ar ei phrofiadau diweddar o’i gymharu ag ysbytai blaenorol, dywedodd:

“Mewn cymhariaeth, mae diwylliant cyffredinol yr ysbyty hwn yn un o amynedd, caredigrwydd, empathi, tosturi ac urddas. Mae gan lawer o staff brofiad o broblemau iechyd meddwl ac maen nhw’n agored am y peth. Mae’n gwneud i fi deimlo ein bod ni i gyd yn gyfartal – y gallai’r hyn a ddigwyddodd i fi ddigwydd i unrhyw un. Byddan nhw’n aros tan yr eiliad olaf un i roi eu dwylo arna i. Mae’r ysbyty hwn wedi fy ngwella. Dywedodd fy mam ‘ei bod hi wedi cael ei merch yn ôl’.

Dywedodd Sue O'Leary, Cyfarwyddwr Mind Cymru:

“Mae gan Lywodraeth Cymru y cyfle i gymryd yr awenau wrth ofalu am bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl fel cleifion mewnol a’u hamddiffyn. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar leisiau pobl sydd wedi cael profiad uniongyrchol o’r ffyrdd y gall gofal cleifion mewnol helpu, ond sydd hefyd yn gallu bod yn beryglus o annigonol a heb urddas a pharch.

“Mae’r cynnydd yn yr anghenion iechyd meddwl yng Nghymru yn sylweddol, ond mae angen data mwy tryloyw arnom i ddeall profiadau gofal pobl, fel arall ni fyddwn byth yn gallu mynd i’r afael â’r problemau’n llawn. Bydd cynyddu staffio, diweddaru cod ymarfer y Ddeddf Iechyd Meddwl i Gymru, ac amddiffyn diogelwch a hawliau cleifion i gyd yn help mawr.

“Mae wedi bod yn bositif gweld bod y strategaeth iechyd meddwl ddrafft yn cynnwys ymrwymiad i GIG Cymru ddatblygu rhaglen diogelwch cleifion ac ni all hyn ddigwydd yn ddigon buan, a rhaid iddi gynnwys ystod amrywiol o bobl sydd â phrofiad o unedau cleifion mewnol yng Nghymru.”

Mae copi o’r Adroddiad Codi’r Safon ar gael ar wefan Mind.

Ways to get involved

arrow_upwardBack to Top