Get help now Make a donation

Sut mae presgripsiynu cymdeithasol wedi fy helpu gyda fy ngorbryder

Monday, 18 November 2019 Diana

Roedd Diana o Bowys yn dioddef o orbryder wedi cyfnod o salwch, ond mae ein prosiect rhagnodi cymdeithasol wedi ei helpu i ddod at ei hun.

Cyn i fi ddechrau cymryd rhan mewn rhagnodi cymdeithasol, es i at fy meddyg yn gofyn am ateb rhwydd i fy mhroblemau. Roeddwn i wedi bod yn dioddef o orbryder ar ôl pwl o salwch iechyd niwrolegol a achosodd i fi deimlo’n sigledig ac ofn gadael y tŷ ar ben fy hun.   

Dywedodd fy meddyg nad oedd ateb hawdd ar gael, ond awgrymodd y gallai rhagnodi cymdeithasol fod o help. Mae rhagnodi cymdeithasol yn ffordd i’ch helpu i ddelio gyda’r pethau yn eich bywyd sy’n gallu gwneud i chi deimlo’n anhapus neu’n bryderus. Mae’n mynd i’r afael â’r pethau hyn yn gallu cymryd ychydig o amser a chefnogaeth ychwanegol, felly yn hytrach na chael presgripsiwn am foddion, mae rhagnodi cymdeithasol yn gallu eich helpu i ddod o hyd i amrywiaeth eang o weithgareddau a chefnogaeth yn eich cymuned leol all eich helpu i wella pethau.  

"Roeddwn yn ei chael yn anodd ymdopi ac roedd fy hunanhyder yn deilchion – roeddwn i’n poeni y byddai’r pwl o iechyd gwael yn digwydd eto."

Ers i fy ngŵr farw bum mlynedd yn ôl wedi brwydr yn erbyn dementia, roeddwn i wedi bod yn teimlo’n unig iawn, ac roedd y gorbryder yn gwneud i fi deimlo hyd yn oed yn waeth. Roeddwn yn ei chael yn anodd ymdopi ac roedd fy hunanhyder yn deilchion – roeddwn i’n poeni y byddai’r pwl o iechyd gwael yn digwydd eto.

Roedd hyn yn fy ngadael yn hynod o rwystredig, gan fy mod i’n gyfarwydd â bod yn annibynnol ond yn sydyn roeddwn i’n teimlo mor unig. Roeddwn yn rhy bryderus i fynd i siopa ar ben fy hun hyd yn oed.

Cefais gyfarfod â fy ngweithiwr cyswllt, Rhiannon o Mind Aberhonddu, i drafod sut roeddwn i’n teimlo a sut roeddwn i’n meddwl y gallwn i wella fy llesiant yn gyffredinol. Siaradais am fy niddordebau, sy’n cynnwys mynd i gyfarfodydd WI a’r clwb garddio, a dywedais y byddai’n braf cael cymdeithasu ychydig mwy. Sylweddolais fy mod i wedi bod yn teimlo’n eithriadol o unig, gan fy mod i wedi colli’r ymdeimlad o bartneriaeth oedd gen i gyda fy ngŵr cyn iddo farw.

"Rydw i wedi dysgu llawer ynglŷn â dod i ddeall fy emosiynau."

Cefais fy synnu gan yr holl opsiynau oedd ganddi ar fy nghyfer i! Mewn dim o bryd, roedd hi wedi fy nghyfeirio at brosiect ‘Fy Nghenhedlaeth’ Mind, sy’n rhaglen wyth wythnos o hyd i bobl hŷn i wella llesiant, adeiladu gwytnwch personol a lleihau unigrwydd. Drwy’r rhaglen, rydw i wedi dysgu llawer ynglŷn â dod i ddeall fy emosiynau. Rydyn ni wedi cael sesiynau ar sut mae adnabod teimladau fel ofn ac amheuaeth, a sut i ymdopi â nhw. Mae wedi bod yn arbennig clywed rhywun yn rhoi’r profiadau hyn mewn i eiriau a sylweddoli bod pobl eraill yn teimlo’r un ffordd. 

Yn ogystal â hyn, mae’r prosiect Fy Nghenhedlaeth yn cynnig sesiynau ar feddwl yn gadarnhaol ac yn negyddol, sydd wedi gwneud i fi deimlo’n fwy optimistaidd. Mae’r sesiynau ar ystyried colled, galar ac adnewyddu hefyd wedi bod o gymorth i fi. Rydw i wedi dysgu llawer am feddylgarwch a sut y gall hyn fy helpu i beidio â phoeni cymaint am bethau. Mae’n dda i wybod fy mod i’n gallu canolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd o fy amgylch ar y pryd, a gallu ymlacio a theimlo’n llonydd. 

"Gallwch gael sgwrs ac ymwneud yn iawn â phobl eraill yn hytrach na theimlo’n unig gyda’ch meddyliau eich hun."

Rydw i hefyd wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiynau crefft a mynd am dro gyda phobl eraill, sydd hefyd wedi bod yn hyfryd. Rydw i wedi cwrdd â rhywun sy’n dioddef o’r un cyflwr niwrolegol â fi sydd wedi cynnig gwir ymdeimlad o gyfeillgarwch. Mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth pan rydych chi’n cerdded gyda phobl eraill yn hytrach nag ar eich pen eich hun. Gallwch gael sgwrs ac ymwneud yn iawn â phobl eraill yn hytrach na theimlo’n unig gyda’ch meddyliau eich hun.

Diolch i ragnodi cymdeithasol, rydw i wedi cael fy nghyfeirio at nifer o grwpiau cymdeithasol gwahanol, yn cynnwys Neuro Café lle gallaf gwrdd â phobl eraill sydd wedi cael eu heffeithio gan gyflyrau niwrolegol, grŵp ‘gweu a chlonc’ lle gallaf siarad â phobl eraill, a Grave Talk sef cyfres o weithdai sy’n ceisio ateb cwestiynau ar farwolaeth. 

Mae Rhiannon wedi bod yn ffynhonnell o gadernid a chefnogaeth. Mae hi wedi gwrando arnaf i ac ar fy anghenion ac mae wedi gwneud i fi deimlo ei bod yn poeni amdanaf i a fy lles.

"Rydw i dros fy wyth deg, ac mae’r profiad hwn wedi fy synnu bod bywyd yn dal yn gallu bod mor dda."

Mae’r ffyrdd newydd hyn o wneud cysylltiadau wedi gwneud i fi feddwl yn fwy cadarnhaol, ac wedi fy ysbrydoli i wneud newidiadau cadarnhaol i fy mywyd. Rydw i dros fy wyth deg, ac mae’r profiad hwn wedi fy synnu bod bywyd yn dal yn gallu bod mor dda.

Mae’r cwrs wedi bod yn heriol ond yn llesol. Mae wedi fy helpu i rannu fy mhrofiadau gyda phob eraill a gweld pethau o bersbectif gwahanol. Heb os nac oni bai, byddwn i’n argymell rhagnodi cymdeithasol i bobl eraill. Mae pobl ar gael i’ch helpu chi, ac mae wedi bod o fudd mawr i fi.   

Related Topics

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardBack to Top