Get help now Make a donation

Sut mae llinell wybodaeth Mind wedi helpu fi a fy mab

Tuesday, 25 February 2020 Kirsty

Dyma flog gan Kirsty sy'n sôn am y ffordd y gwnaeth y llinell wybodaeth ei helpu gyda'i hiselder, a chefnogi ei mab gyda'i broblemau iechyd meddwl hefyd.

Mae llinell wybodaeth a gwefan Mind wedi fy helpu i'n fawr.

Dechreuodd fy mhroblemau iechyd meddwl pan roedd gen i iselder ar ôl geni fy ail fab, ac yn ystod ac wedi fy nhrydydd beichiogrwydd. Effeithiodd y ddau arnaf mewn ffyrdd gwahanol. Er hynny, rydw i wedi bod yn byw gydag effeithiau'r cyfnodau hyn o iselder byth ers hynny. Bues i hefyd mewn perthynas lle gefais fy ngham-drin, ac mae wedi cymryd blynyddoedd i ddod dros hynny.

Mae fy mab, sydd yn ei arddegau, hefyd yn dioddef ag iselder a gorbyder ofnadwy. Yn aml mae'n cael pyliau o banig ac mae hyd yn oed wedi ceisio cyflawni hunanladdiad. Dydy hi ddim bob amser yn bosib i fi ffonio'r meddyg teulu neu ei gwnselydd CAMHS (Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc). Dydyn nhw ddim bob amser ar ochr arall y ffôn felly mae'n dda cael gwybod bod rhywun o Mind yno. Rwy'n galw'r llinell wybodaeth yn aml i'r ddau ohonom ni, ac mae'n meddwl cymaint i gael rhywun y gallaf siarad â nhw heb iddyn nhw fy marnu i. Mae'n golygu cymaint i gael rhywun i siarad â nhw heb gael fy marnu. Weithiau, rwy'n galw i gael rhywun i gadarnhau fy mod i'n dweud y peth cywir ac yn cefnogi fy mab yn y ffordd gywir. Pan mae'n dweud nad yw eisiau byw rhagor i wneud i'r boen ddiflannu, rwy'n poeni y byddaf yn dweud rhywbeth fyddai'n gwneud pethau'n waeth.


Mae Mind wedi rhoi cyngor ymarferol i mi ar bethau y gallaf wneud i helpu, fel graddio ei byliau o banig o un i bump fel ein bod ni'n dau yn gwybod pa mor wael mae'n teimlo. Gallaf basio'r cyngor a'r wybodaeth oddi wrth Mind ymlaen at fy mab.


Rydw i hefyd wedi defnyddio llinell wybodaeth a gwefan Mind fy hun i ymdopi gyda fy iselder. Yn amlwg, mae poeni am fy mab yn cael effaith ar y ffordd rydw i’n teimlo. Rwy’n gwybod na allaf adael fy iechyd meddwl i waethygu eto, gan fy mod i’n gorfod bod yno iddo beth bynnag ddaw. Os nad ydw i’n iach, dydw i ddim yn gallu gwneud hynny, felly rwy’n ddiolchgar bod y wefan a’r llinell wybodaeth yno i fi gael dibynnu arnynt.

Rwy’n credu ei fod mor bwysig bod mamau yn cael cefnogaeth iechyd meddwl, fel eu bod yn gallu cefnogi eu plant. Pe bawn i ond yn gwybod am y llinell wybodaeth ynghynt! Efallai na fyddai pethau wedi bod mor anodd pe bawn i wedi cael cefnogaeth ynghynt.

Read about Mind's telephone helplines

Related Topics

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardBack to Top