Straen bywyd bob dydd
Mae Stacie Mai yn blogio am straen, iechyd meddwl a’r gweithle, rhedeg a’i dau gi ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.
Mae fy iselder a fy ngorbryder wedi amrywio drwy gydol fy mywyd ers i fi fod yn fy arddegau. Bu fy nhad farw pan oeddwn i’n 12, a doeddwn i ddim yn gallu galaru’n iawn ar y pryd oherwydd sefyllfa deuluol anodd.
"Erbyn hyn, straen bywyd bob dydd sy’n cael yr effaith fwyaf ar fy iechyd meddwl."
Ddwy flynedd yn ôl, gwaethygodd fy iechyd meddwl yn ddifrifol. Roeddwn i newydd ddechrau swydd newydd gyda’r gwasanaeth ambiwlans, ond ces i afiechyd corfforol ychydig wythnosau ar ôl dechrau fy swydd newydd. Es i weld nyrs, ac wedyn meddyg, ac wedyn at wasanaethau meddyg teulu eraill, yn ceisio darganfod beth oedd yn bod arnaf.
Roedd fy meddyg teulu yn dweud fy mod i’n iawn, felly parheais i weithio ond yn y diwedd cefais wybod mai fy mhendics oedd y broblem. Roeddwn i’n teimlo’n drist, yn rwystredig ac mewn llawer o boen. Yn y diwedd, tynnwyd fy mhendics, ond bu effaith mawr ar fy llesiant fy hun oherwydd y straen a achoswyd gan y sefyllfa i gyd.
Cefais tua tri mis i ffwrdd o’r gwaith, ond roeddwn i ar ben fy hun heb gael unrhyw ymwelwyr – roedd fy ngwraig yn gweithio hefyd, felly doeddwn i ddim yn cael llawer o gyfle i’w gweld.
Roeddwn i eisiau gweithio, ond roedd rhaid i fi gymryd amser i ffwrdd er fy mwyn fy hun. Er i fi fynd yn ôl i’r gwaith yn y diwedd, roedd rhaid i fi gymryd mwy o amser i ffwrdd oherwydd straen. Roedd gwasanaeth cefnogaeth i bobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans ac rwy’ wir yn gwerthfawrogi cefnogaeth fy nghydweithwyr, ond yn anffodus does dim digon o help ar gael i bawb.
Tra’n gweithio yn yr ystafell reoli, roeddwn pobl yn gallu defnyddio iaith gas gyda fi. Yn aml, pobl yn mynegi consýrn ydyn nhw mewn sefyllfaoedd anodd, sy’n ddealladwy, ond gall geiriau greu cymaint o boen â thrais, yn enwedig pan rydych yn teimlo o dan straen neu’n arbennig o isel. Yn anffodus, oherwydd y straen, roedd rhaid i fi roi’r gorau i weithio i’r gwasanaethau brys ym mis Mehefin 2017 a dechreuais weithio fel mentor i gyfoedion (peer mentor) yn lle hynny.
"Weithiau, mae’n teimlo fel petai sefyllfa anodd arall yn codi yn syth wedi i chi fod i’r afael ag un yn barod."
Er fy mod wrth fy modd â fy swydd newydd, roedd raid i fi deithio 30 milltir y ddwy ffordd. Yn y dechrau, roeddwn i’n gallu derbyn hynny, ond yn ddigon buan dechreuais sylweddoli nad oeddwn yn cael amser i ymlacio ac roedd hyn yn fy effeithio. Rydw i wedi bod i ffwrdd o’r gwaith ers mis Rhagfyr, ond rwy’n gobeithio cael dychwelyd cyn bo hir.
Ym mis Ionawr, symudais i a fy ngwraig i dŷ oedd yn agos i’r gwaith. Mae’r broses o brynu tŷ yn un sy’n achosi straen i unrhyw un, ond roedd yn eithriadol o anodd cael morgais – pan fod fy ngorbryder ar ei waethaf, rwy’n mynd i’r arfer drwg o brynu pethau ar hap. Roeddwn i hefyd yn cael trafferth cael mynediad i wasanaethau iechyd meddwl yn fy ardal newydd, ac yn dioddef o straen o ganlyniad i hynny. Yn amlwg, mae bod i ffwrdd o’r gwaith wedi ychwanegu at y straen, gan fod fy ngwraig yn gorfod gweithio hyd yn oed yn galetach er mwyn talu biliau.
Pan rwy’n teimlo o dan bwysau go iawn, boed hynny yn y gwaith, yn astudio, neu gyda materion yn ymwneud â’r tŷ neu berthnasau, rwy’n dianc i fy myd bach fy hun gyda fy nau Chihuahua – dydw i ddim yn gwybod ble fyddwn i hebddyn nhw. Mae nhw’n sylweddoli bod fy iechyd meddwl yn wael ac maen nhw’n ymateb trwy fod yn serchus iawn.
"Ar adegau, rydw i wedi teimlo y byddai’n well petawn i ddim yma, ond doeddwn i ddim yn gallu gadael fy ngwraig na fy nghŵn. Maen nhw wedi achub fy mywyd."
Mae mynd allan i’r awyr agored wedi fy helpu i reoli fy iechyd meddwl yn well, ac rwy’n gwybod bod rhedeg yn llesol i fi, ond mae ysgogi fy hun i fynd allan i redeg yn gallu bod yn arbennig o anodd. Mae codi ac ymolchi’n gallu bod yn ddigon anodd, heb sôn am fynd allan i redeg.
Fodd bynnag, rydw i wedi gosod sialens i fy hun a byddaf yn rhedeg 10km Simplyhealth Manceinion ar y 20 o Fai. Dyma’r tro cyntaf i fi wneud unrhyw beth tebyg i hyn, ond pa ffordd well o orffen Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl nag ymroi i her a rhannu fy stori i helpu eraill i wynebu eu problemau iechyd meddwl? Mae gen i amcanion yn fy mywyd, rhestr o bethau yr hoffwn eu gwneud a chynllun ynghylch sut i gyrraedd yno. Byddai cyflawni’r rhain yn cael effaith gadarnhaol ar fy llesiant.
Information and support
When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.
Share your story with others
Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.