Fy nhaith iechyd meddwl a sut rydw i wedi defnyddio fy mhrofiad i helpu eraill
Treuliodd Amy bedwar mis ar ward iechyd meddwl yn 216. Dyma flog am ei phrofiad, ac erbyn hyn mae hi’n helpu gwneud gwelliannau i ddefnyddwyr gwasanaethau eraill.
Mae Amy yn 32. Mae hi’n byw yng Nghaerfyrddin ac mae ganddi radd mewn gofal cymdeithasol.
Mae hanes o broblemau iechyd meddwl yn fy nheulu i - mae fy mam wedi dioddef o iselder ac roedd fy nhad-cu'r un peth.
Wythnosau’n unig cyn gorffen gradd nyrsio ychydig flynyddoedd yn ôl, cwympais a thorri fy nghlun. Ar ôl cael clun newydd a llu o anawsterau oherwydd hynny, bu’n rhaid i fi aros mewn ward orthopedig am 10 mis.
Rydw i bob amser wedi byw bywyd i’r eithaf. Roeddwn i wedi astudio dwy radd. Roeddwn i wedi byw a gweithio yng Ngwlad Groeg. Byddwn i’n gweithio 12 awr y dydd, yn gwneud dwy swydd. Yn sydyn, roedd rhaid i fi aros yn y gwely.
“Dyna pryd ddechreuodd fy mhroblemau iechyd meddwl. Am y tro cyntaf, dim arafu oedd rhaid i fi wneud - roedd rhaid i fi ddod i stop yn gyfan gwbl. Roedd gen i amser i feddwl - fel petai fi wedi agor Bocs Pandora yng ngwely fy ysbyty.”
Dechreuais weld ôl-fflachiadau o bethau oedd wedi digwydd i fi na ddylai unrhyw blentyn orfod gweld. Hoffwn bwysleisio nad oedd hyn yn fai ar fy mam o gwbl.
Gwnaeth hyn i fi deimlo’n wan. O edrych yn ôl, roeddwn i siŵr o fod yn cadw fy hun yn brysur i geisio anghofio am y teimladau.
Roedd yn rhyddhad pan gefais adael yr ysbyty, ond gwta fis yn ddiweddarach, roeddwn i nôl i mewn - y tro hwn, ar ward seiciatrig. Cefais lond twll o ofn. Roeddwn i wedi bod yno o’r blaen fel ymwelydd - i weld mam a dad-cu. Ond y tro hwn, fi oedd y claf. Roeddwn i wedi bod yn cael meddyliau tywyll.
Bythefnos yn ddiweddarach, cefais fy rhyddhau. Achosodd yr holl brofiad gymaint o drawma i fi. Es i adref, a cheisio cyflawni hunanladdiad.
Cefais fy anfon yn syth yn ôl i’r ysbyty. Roedd yr ysbyty yn lle oedd yn teimlo’n fwy cyfeillgar a llonydd.
Yn y diwedd, treuliais bedwar mis yno. I fynegi a rhyddhau fy emosiynau, ysgrifennais ganeuon a cherddi, a thynnais luniau.
Er fy mod i’n dal i gael ôl-fflachiadau ac yn dal i’w chael yn anodd, rydw i bellach yn gwneud ymdrech i chwilio am gymorth a chefnogaeth.
“Mae Llinell Wybodaeth Mind wedi bod yn wych. Rydw i wedi defnyddio tipyn arni yn ystod y chwe mis diwethaf. Byddwn i’n sicr o’i hargymell os ydych chi’n ei chael yn anodd. Mae’n ddefnyddiol iawn os oes angen gwybodaeth arnoch am feddyginiaeth wahanol, ble i ofyn am help, a chael gwybodaeth am eich diagnosis.”
Does dim angen bod â chywilydd. Mae’n werth dweud ar ddechrau’r alwad os ydych chi’n teimlo’n nerfus. Byddant yn cymryd amser i dawelu eich meddwl. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu popeth rydych chi am ei ofyn gan ei fod mor anodd anghofio pethau. Maen nhw hefyd yn gallu cynnig cyngor ar lesiant a ffordd o fyw sy’n gallu gwneud cymaint o wahaniaeth i’r ffordd rydych chi’n teimlo.
Mae fy nhîm gofal wedi bod yn arbennig. Diolch i fy Nyrs Seiciatrig Cymunedol a’r therapyddion yn y tîm, rydw i wedi gallu dysgu sut i ymdopi gyda phrofiadau fy ngorffennol a’r ôl-fflachiadau. Nhw sydd i ddiolch am y ffaith fy mod i wedi gallu dechrau ymroi fy hun i wirfoddoli gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac erbyn hyn rwy’n aelod o banel defnyddwyr gwasanaethau. Rwy’n cwrdd yn aml gyda’r Rheolwr Gwasanaethau i drafod syniadau a gwelliannau posibl, ac rydw i hyd yn oed wedi bod ar baneli cyfweld. Mae’n teimlo’n dda cael gwneud gwahaniaeth.
Yn fy ngwely yn yr ysbyty, ysgrifennais gerdd am fy mhrofiad o’r enw ‘You put on that uniform’, sy’n cynnig safbwynt y claf. Mae wedi cael ei gosod i gerddoriaeth, mae ar gael ar YouTube ac mae wedi cael ei chynnig y dylai’r gân gael ei defnyddio fel rhan o hyfforddiant staff y bwrdd iechyd. Mae hyd yn oed yn cael ei anfon i feddygfeydd ac i’r Coleg Brenhinol Nyrsio.
“Rydw i hefyd yn bencampwr Amser i Newid Cymru ac rwy’n cynnig hyfforddiant i grwpiau o amgylch Cymru. Bwriad hyn yw lleihau’r stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl.”
Rydw i hefyd yn cefnogi Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru (WWAMH) a’r hosbis leol, sydd wedi bod o fudd mawr i fi.
Fy mhrif gyngor i unrhyw un fyddai hyn: hyd yn oed os ydych chi wedi cael magwraeth anodd, neu hyd yn oed os ydych chi’n dioddef neu’n parhau i ddioddef, dydy hi ddim yn golygu na allwch chi fynd ymlaen a chyflawni pethau mawr. Mae’r cyngor a’r gefnogaeth yno - gwnewch y gorau ohono. Gallwch chi drechu hyn.
See what we're campaigning on
Related Topics
Our campaigns
We'll fight your corner. We believe everyone with a mental health problem should be able to access excellent care and services. We also believe you should be treated fairly, positively and with respect.
Share your story with others
Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.