Effaith homoffobia ar fy iechyd meddwl
Yma, mae Lowri yn rhannu hanes ei beichiogrwydd a sut cafodd homoffobia effaith ar ei iechyd meddwl.
Mae Lowri yn byw yng Nghaerdydd gyda’i phartner, Laura a’i mab, Iestyn.
Mae gan bawb iechyd meddwl. Ond fel rydyn ni’n gwybod, dydy pawb ddim yn mwynhau iechyd meddwl heb anawsterau. Mae pobl LGBTIQ+ yn gyfarwydd ag anawsterau iechyd meddwl. Dydy fy siwrna’ i fel lesbiad yn sicr ddim wedi bod yn ddidrafferth. Ond doeddwn i ddim yn barod am yr effaith y byddai’r homoffobia wnes i ei brofi pan oeddwn i yn fy arddegau yn ei chael ar fy meichiogrwydd.
Roeddwn i’n 32 mlwydd oed ac yn teimlo’n lwcus iawn fod fy rownd gyntaf o i IVF wedi bod yn llwyddiannus. A diolch i gyfraith y DU, roeddwn i’n gallu ffrwythloni wy fy nghariad â sberm a gafodd ei roi am ddim elw, a hyd yn oed yn gallu cario’r babi fy hun! Pan oeddwn i yn fy arddegau, byddai wedi bod yn anodd iawn i mi ddychmygu y byddai hyn yn digwydd i mi. Fe wnes i dyfu i fyny yn y 90au, pan oedd homoffobia yn beth normal. Fe wnes i dyfu i fyny pan oedd nifer o bobl yn meddwl bod pobl queer yn anfoesol, yn rhyfedd a hyd yn oed yn ffiaidd. Oherwydd hynny, dechreuais gasáu fy hun. Roedd y ffordd roeddwn i’n teimlo am ferched eraill yn codi ofn arna’ i. Roedd arna’ i ofn y byddai rhywun yn darganfod fy nghyfrinach.
"A dyma ddechrau fy mrwydr hir â gorbryder. Doedd pobl queer ddim yn cael cefnogaeth bryd hynny, a doedd dim llawer o ymwybyddiaeth o iechyd meddwl bryd hynny chwaith."
Mae’n rhaid i ni ferched ymdopi â llawer iawn o newidiadau i’n hormonau yn ystod ein hoes. Dau un o'r newidiadau mwyaf yn ystod beichiogrwydd. Mae hormonau mor bwerus yn ystod beichiogrwydd, maen nhw’n gallu newid y ffordd mae’r ymennydd yn gweithio. Fydd pob menyw feichiog ddim yn cael problemau iechyd meddwl, ond oherwydd cyfuniad o dyfu i fyny yn ofni’r ffaith fy mod i’n hoffi merched eraill, a digwyddiadau anodd eraill yn fy mywyd, dirywiodd fy iechyd meddwl.
Y cyfnod pan oeddwn i’n feichiog oedd amser anoddaf fy mywyd. Roedd fy meddwl i’n aflonydd drwy’r amser. Prin oeddwn i’n cysgu ac roedd fy adrenalin wedi codi i'r entrychion. Doeddwn i ddim yn gallu canolbwyntio ar unrhyw beth oherwydd bod fy meddwl i’n rasio ac yn obsesiynol. Doedd gen i ddim rheolaeth dros fy nghorff, a doedd na ddim byd yn gallu tawelu fy meddwl i.
"O ganlyniad i flinder meddyliol a chorfforol, roedd realiti’n dechrau teimlo ymhell i ffwrdd a dechreuais deimlo’n llawn anobaith."
Cyfeiriodd fy nheulu i at y tîm iechyd meddwl amenedigol, a chefais dabledi gwrthiselyddion a oedd yn ddiogel i'w cymryd yn ystod beichiogrwydd. Cefais gynnig therapi hefyd, yn ogystal ag ymweliadau gan weithwyr iechyd proffesiynol i’r cartref. Ond, aeth pethau’n waeth fyth ar ôl rhoi genedigaeth.
Am ennyd fach hyfryd, doedd fy ngofid ddim yn bod wrth i’n mab tlws gael ei eni. Roeddwn i’n ei garu ar unwaith. Roedd ein teulu ni’n gyflawn.
Aeth ychydig wythnosau heibio, ac roedd fy nheulu’n tynnu at ei gilydd yn helpu i ofalu am ein plentyn newydd-anedig. Cefais dabledi cryfach fel rhan o driniaeth barhaus. Ond tra roedd ein mab yn dod yn ei flaen yn dda, roeddwn i’n dechrau colli gafael ar realiti eto, ac roedd fy iechyd meddwl i’n dirywio. Doedd fy nghorff i ddim yn ymlacio, a doeddwn i dal ddim yn cysgu’n dda o gwbl. Dyna pryd aeth fy nheulu â fi i’r ward seiciatrig leol.
Roedd fy noson gyntaf yn y ward seiciatrig yn llwm; roeddwn i’n gaeth yn fy meddwl fy hun, ac yn teimlo fel carcharor, er bod y staff yn ofalgar iawn yno. Newidiodd y meddygon fy meddyginiaeth a daeth arbenigwyr i’m gweld i, ond doedd dim byd yn helpu. Erbyn y drydedd noson, doeddwn i ddim yn gallu dioddef bod yno ddim mwy, a gofynnais am gael dod adref. Ond, unwaith y cyrhaeddais i adref y gwnes i roi’r gorau i obeithio.
Y tro hwn, aeth rhywun o’r ysbyty seiciatrig â fi’n ôl yno. Cefais wrthiselyddion, cyffuriau tawelu a chyffuriau gwrth-seicotig. Pan aeth hi i’r pen, cefais ECT (therapi electrogynhyrfol). Y syniad oedd y byddai'r ECT yn creu llwybrau newydd yn fy ymennydd i. A dyna’n union ddigwyddodd - rhoddodd ddechrau newydd i mi.
Dros yr ychydig wythnosau nesaf yn yr uned seiciatrig, cysgais yn iawn am y tro cyntaf mewn tua blwyddyn. Gyda help diflino’r tîm iechyd meddwl amenedigol, roeddwn i’n cryfhau bob dydd. Roedd fy ffrindiau a fy nheulu’n gefn mawr i mi, ac roedd fy nghariad yn dod â’n mab i fy ngweld i’n rheolaidd.
Roeddwn i’n barod i ddechrau byw unwaith eto erbyn i mi adael yr ysbyty. Roeddwn i hefyd wedi cael diagnosis o’r diwedd - Iselder Cythryblus. Roedd gorbryder yn derm eang iawn, ond roedd iselder cythryblus yn disgrifio fy mhrofiadau i’r dim. Roedd cael y label hwnnw’n fy helpu i ddeall fy salwch am y tro cyntaf erioed. Roedd yn rhaid i mi ganfod ffordd i atal y label hwnnw rhag fy niffinio i nawr.
Mae fy mab i’n chwe mis oed erbyn hyn, ac mae ein teulu’n mynd o nerth i nerth. Dw i wedi cael 13 rownd o ECT a dw i mewn lle llawer gwell erbyn hyn. Dw i’n dal i gael help gan y tîm iechyd meddwl cymunedol, a bydd hynny’n parhau am gyfnod eto. Mae gen i gynllun meddygol sydd wedi cael ei deilwra’n arbennig i mi, ac mae’n cynnwys defnyddio cyffuriau gwrth-seicotig.
Fe wnes i aros 17 mlynedd am ddiagnosis; iselder cythryblus a oedd yn deillio o orbryder ynghylch fy nheimladau pan oeddwn i yn fy arddegau, teimladau yr oedd pawb i fy nghwmpas i’n credu oedd yn ddrwg. Gall homoffobia gael effaith hirdymor ar bobl.
"Fy neges i bobl eraill yw, peidiwch â rhoi'r ffidil yn y to pan mae’n dod i’ch iechyd meddwl. Gall gymryd misoedd, neu hyd yn oed flynyddoedd, i gael diagnosis cywir a thriniaeth briodol. Dydy profiadau pawb o’r un salwch fyth yr un fath."
Yn yr un modd, mae pawb yn y gymuned LGBTIQ+ yn unigolion sy’n haeddu teimlo a charu yn eu ffordd unigryw eu hunain. Gall perthyn i’r teulu LGBTIQ+ eich helpu chi i ganfod pwy ydych chi; i fod yn falch o bwy ydych chi, yn hytrach nag yn ofnus. Gobeithio y gallaf helpu fy mab i ddeall y neges hon.
Information and support
When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.
Share your story with others
Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.