Get help now Make a donation

Ar ochr arall llinell gymorth Mind

Tuesday, 25 February 2020 Graham

Os ydych chi’n cysylltu â llinell wybodaeth Mind, efallai y byddwch yn siarad â Graham. Dyma Graham yn siarad am ei waith, a pha fath o brofiad yw bod ar ochr arall y llinell.

Rydw i wir yn credu ein bod yn gwneud gwahaniaeth mawr yn Mind. Rydyn ni oll yn angerddol am yr hyn rydyn ni’n ei wneud ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r gefnogaeth orau bosibl.
Rydw i wedi treulio fy ngyrfa yn gweithio ar brosiectau gyda phobl ifanc. Er nad oedd y swydd yn delio ag iechyd meddwl yn uniongyrchol, roedd nifer o’r grwpiau a’r teuluoedd roeddwn i’n gweithio gyda nhw yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl.
Roeddwn i eisiau cyfrannu ac roeddwn i’n teimlo y byddai fy sgiliau cyfathrebu yn ddefnyddiol. Rydw i wedi credu erioed fy mod i’n gallu cysylltu’n dda gyda phobl. Beth bynnag, fyddai dim llawer o siâp arnaf i fel adeiladwr neu fecanic!
Does dim o’r fath beth â diwrnod arferol – mae’r gwaith yn amrywio’n enfawr, ac yn amlwg, gall rhai galwadau fod yn anodd.

“Rydw i bob amser yn ceisio cofio bod rhywun wedi magu’r hyder i gysylltu â ni yn y lle cyntaf – dros e-bost, dros y ffôn, neges destun neu webchat – felly mae’r hyn maen nhw am ei ddweud yn bwysig.”

Mae’n bwysig eu bod nhw’n teimlo’n ddigon hyderus i gymryd y cam nesaf wrth glywed eich llais.
Hyd yn oed os mai aelod o’r teulu sy’n galw, yn poeni am berthynas, gallent fod yn teimlo’n bryderus, o dan bwysau, yn isel neu’n llawn ofn, a fy swydd i yw cysylltu â’r person.
Rydyn ni bob amser yn ceisio tawelu meddwl pob galwr. Efallai y bydd rhaid i ni eu hannog i siarad ychydig os ydyn nhw’n teimlo’n nerfus, ond rhaid hefyd sylweddoli bod rhaid iddyn nhw gael ychydig o amser a chyfle i ddweud beth sydd angen. Weithiau, maen nhw wedi bod yn aros i siarad â rhywun cyhyd fel eu bod yn dod allan â chymaint o bethau gwahanol. Ac mae hynny’n iawn, ond weithiau mae’n rhaid i ni fynd nôl a dad-bigo a thwrio trwy bethau ychydig.

“Er ein bod yn dangos empathi, dydyn ni ddim yn gwnselwyr, ac nid gwasanaeth cwnsela yw’r llinell wybodaeth. Dim meddygon na fferyllwyr ydyn ni chwaith, felly gallwn ni ddim cynghori pobl ar feddyginiaeth. Dim ond sicrhau bod pobl yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth cywir ar gyfer gwybodaeth a chefnogaeth ymarferol y gallwn ni wneud.”

Yn aml, rydyn ni’n cyfeirio pobl at ganghennau lleol Mind, sy’n cynnig gwasanaethau fel cwnsela, canolfannau galw heibio, a chyrsiau. Rydyn ni’n aml yn cynnig gwybodaeth benodol iawn. Os ydy rhywun yn teimlo y bydden nhw’n yn cael budd o dreulio mwy o amser tu allan, gallwn argymell prosiectau garddio neu gadwraeth iddyn nhw, er enghraifft. Mae’r ymholiadau’n amrywio’n fawr.
Rydyn ni’n cael galwadau oddi wrth bobl sydd wir yn ei chael hi’n anodd, yn ogystal â theulu a ffrindiau sy’n poeni am rywun. Rydyn ni hyd yn oed yn derbyn galwadau oddi wrth gymdogion.
Erbyn mis Chwefror yn unig, roedden ni’n barod wedi derbyn dros 100,000 o alwadau yn 2019. Mae iechyd meddwl yn sicr yn dod yn fwy amlwg. Mae pobl yn siarad amdano – mae hyn yn beth gwych – pobl sy’n cynnwys aelodau o’r teulu brenhinol, enwogion a chyflogwyr. Os oes darn am iechyd meddwl ar y teledu y bore hwnnw, rydyn ni’n gwybod y byddwn yn cael nifer uchel o alwadau, o e-byst, o sgyrsiau ar y we ac ati.

“Mae’n beth cadarnhaol iawn bod iechyd meddwl yn cael ei drafod yn agored, wrth i agweddau a stigma ddechrau newid.”

Yn ffodus iawn, fel gweithwyr, rydyn ni hefyd yn cael llawer o gefnogaeth. Ambell waith, rydych chi’n derbyn galwad anodd. Pan y mae hyn yn digwydd, rydyn ni’n siarad â’r arweinydd tîm i gael seibiant os oes rhaid, gan y bod rhaid i ni fod yn gryf ac yn hyderus i fod yn effeithiol gyda’r galwr nesaf.
Rwy’n mwynhau’r gwaith gan fod gymaint o amrywiaeth yn perthyn iddo, ac rwy’n gallu ymgysylltu â phobl. Gallwn ni wneud gwahaniaeth mawr i fywyd rhywun a dyna pam rydw i yma, yn gwneud hyn.

Galwch 0300 123 3393, e-bostiwch [email protected] neu anfonwch neges destun at 86463. Dysgwch fwy am ein llinellau gwybodaeth.

Related Topics

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardBack to Top