Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Gorbryder a phyliau o banig

Mae'n egluro gorbryder a phyliau o banig, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw symptomau gorbryder?

Mae gorbryder yn teimlo'n wahanol i bawb. Efallai y byddwch chi'n cael rhai o'r effeithiau corfforol a meddyliol a restrir ar y dudalen hon, yn ogystal ag effeithiau mewn meysydd eraill o'ch bywyd.

Efallai y byddwch hefyd yn cael profiadau neu anawsterau â gorbryder na chânt eu cydnabod yma.

Mae'r dudalen hon yn cwmpasu:

Effeithiau gorbryder ar eich corff

Gall y rhain gynnwys:

  • teimlad bod eich stumog yn troi
  • teimlo'n benysgafn neu deimlo pendro
  • pinnau bach
  • teimlo ar bigau'r drain neu'n methu eistedd yn llonydd
  • cur pen, poen yn y cefn neu boenau eraill
  • anadlu'n gyflymach
  • curiad calon sy'n gyflym, yn drwm neu'n afreolaidd
  • chwysu neu byliau o wres
  • problemau cysgu
  • rhincian eich dannedd, yn enwedig yn ystod y nos
  • cyfog (teimlo'n sâl)
  • angen mynd i'r toiled yn fwy aml, neu'n llai aml
  • newid yn eich awydd i gael rhyw
  • cael pyliau o banig.

Effeithiau corfforol gorbryder

Gwyliwch Alex yn trafod yr effaith gorfforol a gaiff gorbryder ar ei gorff yn y fideo hwn.

Effeithiau gorbryder ar eich meddwl

Gall y rhain gynnwys:

  • teimlo tensiwn, nerfau neu fethu ymlacio
  • teimlo arswyd, neu'n ofni'r gwaethaf
  • teimlo bod y byd yn mynd yn gyflymach neu'n arafach
  • teimlo y gall pobl eraill weld eich bod chi'n bryderus a'u bod yn edrych arnoch
  • teimlo na allwch chi roi'r gorau i boeni, neu y bydd pethau drwg yn digwydd os byddwch chi'n rhoi'r gorau i boeni
  • poeni am orbryder ei hun, er enghraifft, poeni ynghylch pa bryd y gallai pyliau o banig ddigwydd
  • bod eisiau llawer o sicrwydd arnoch gan bobl eraill neu boeni bod pobl yn grac neu'n flin â chi
  • poeni eich bod chi'n colli gafael ar realiti
  • hwyliau isel ac iselder
  • cnoi cil – meddwl llawer am brofiadau gwael, neu feddwl am sefyllfa drosodd a throsodd
  • dadbersonoli – math o ddatgysylltiad lle rydych yn teimlo nad ydych mewn cysylltiad â'ch meddwl na'ch corff, neu eich bod yn gymeriad rydych yn ei wylio mewn ffilm
  • dadwireddu – math arall o ddatgysylltiad lle rydych chi'n teimlo nad ydych mewn cysylltiad â'r byd o'ch cwmpas, neu nad yw'r byd yn real
  • poeni am lawer o bethau a allai ddigwydd yn y dyfodol – gallwch chi ddarllen mwy am y mathau hyn o bryderon ar wefan Anxiety UK.

Fe allwn deimlo'r holl symptomau corfforol hyn yn corddi y tu mewn, yn llythrennol yn llenwi pob rhan o fy nghorff nes i mi deimlo'n hollol benysgafn ac wedi fy natgysylltu oddi wrth fy nghorff.

Gorbryder a phroblemau iechyd corfforol

Mae rhai astudiaethau'n awgrymu y gallai gorbryder gynyddu'r risg o ddatblygu problemau iechyd corfforol hirdymor penodol, yn cynnwys diabetes, wlserau stumog a phroblemau ar y galon. Ond nid oes digon o dystiolaeth i ddweud yn union beth yw'r risgiau, na pha grwpiau o bobl y bydd fwyaf tebygol o effeithio arnyn nhw.

Gall salwch corfforol neu anabledd hefyd wneud i chi deimlo'n llawn straen ac yn bryderus, felly weithiau gallai deimlo fel bod eich problemau gorbryder a'ch problemau iechyd meddwl yn rhan o gylch dieflig.

Weithiau, gallai fod yn anodd gweithio allan a yw eich symptomau'n hollol gysylltiedig â gorbryder, neu a allent fod yn gysylltiedig â salwch gwahanol. Os ydych chi'n cael unrhyw symptomau corfforol, byddai'n werth i chi siarad â'ch meddyg teulu, fel y gall gadarnhau beth allai fod yn eu hachosi.

Roeddwn i'n meddwl drwy'r amser fy mod i'n marw o salwch nad oeddwn i wedi cael diagnosis ar ei gyfer, am fy mod i'n siŵr bod y symptomau corfforol yn rhy ddrwg i fod ‘yn ddim ond gorbryder’.

Effeithiau eraill gorbryder

Gall symptomau gorbryder bara am amser hir, neu gallant fynd a dod. Efallai y byddwch chi'n cael anhawster â rhannau o'ch bywyd o ddydd i ddydd, yn cynnwys:

  • gofalu amdanoch chi eich hun
  • cadw swydd
  • meithrin neu gynnal cydberthnasau
  • rhoi cynnig ar bethau newydd
  • mwynhau eich amser hamdden.

Mewn rhai achosion, gall gorbryder gael effaith ddifrifol ar eich gallu i weithio . Mae rhagor o wybodaeth am sut i ymdopi ar ein tudalennau ar sut i fod yn iach yn feddyliol yn y gwaith. Gall ein tudalennau cyfreithiol ar wahaniaethu yn y gwaith ddarparu gwybodaeth am eich hawliau yn y gweithle.

Os ydych chi'n gyrru, efallai y bydd yn rhaid i chi ddweud wrth y DVLA os oes gennych anhwylder gorbryder. Mae gwybodaeth am eich hawl i yrru, yn cynnwys pryd a sut i gysylltu â'r DVLA, ar ein tudalennau cyfreithiol ar ffitrwydd i yrru.

Wynebu fy ngorbryder cymdeithasol yn y brifysgol

...roeddwn i'n teimlo'n unig ac yn teimlo bod popeth yn ormod i mi ac, ar adegau, roeddwn i'n eithaf isel oherwydd fy niffyg sgiliau cymdeithasol.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig