Gorbryder a phyliau o banig
Mae'n egluro gorbryder a phyliau o banig, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.
Beth sy'n achosi gorbryder?
Mae profiad pawb o orbryder yn wahanol, felly mae'n anodd gwybod yn union beth sy'n achosi problemau gorbryder. Mae'n debygol bod llawer o ffactorau dan sylw.
Mae'r dudalen hon yn cwmpasu rhai pethau a all ei gwneud yn fwy tebygol y bydd problemau gorbryder yn codi:
Profiadau blaenorol neu yn ystod plentyndod
Mae profiadau anodd yn ystod plentyndod, glaslencyndod neu fel oedolion yn sbardun cyffredin ar gyfer problemau gorbryder. Mae wynebu straen a thrawma pan fyddwch chi'n ifanc iawn yn debygol o gael effaith fawr iawn. Ymysg y profiadau a all sbarduno problemau gorbryder mae pethau fel:
- cam-drin corfforol neu emosiynol
- esgeulustod
- colli rhiant
- cael eich bwlio neu eich allgáu yn gymdeithasol.
Gall cael rhieni nad ydyn nhw'n eich trin chi'n annwyl neu sy'n orwarchodol hefyd fod yn ffactor.
Cefais i fy anfon i ysgol breswyl a chefais orbryder gwahanu difrifol, am fy mod i oddi cartref, a bu bron i mi golli fy mrawd pan oeddwn i'n 12 oed. Cafodd fy mam waeledd emosiynol difrifol am gyfnod o tua blwyddyn a bu'n rhaid iddi gael ei nyrsio gartref.
Sefyllfa eich bywyd ar y pryd
Gall problemau presennol yn eich bywyd sbarduno gorbryder hefyd. Er enghraifft:
- blinder eithafol neu straen yn cronni
- llawer o newid neu ansicrwydd
- teimlo dan bwysau wrth astudio neu yn y gwaith
- oriau gwaith hir
- bod allan o waith
- problemau ariannol
- problemau tai a digartrefedd
- poeni am yr amgylchedd neu drychinebau naturiol (sy'n cael ei alw weithiau yn orbryder hinsawdd neu'n eco-orbryder)
- colli rhywun agos atoch chi (sy'n cael ei alw weithiau yn brofedigaeth)
- teimlo'n unig neu'n ynysig
- bod rhywun yn eich cam-drin, eich bwlio neu'n aflonyddu arnoch chi.
Gall newidiadau mawr i'ch bywyd pob dydd sbarduno gorbryder yn benodol, felly efallai y byddwch chi'n gweld eich bod wedi cael problemau gorbryder yn ystod pandemig y Coronafeirws. I gael gwybodaeth am y ffordd y gallai'r Coronafeirws fod wedi effeithio ar eich iechyd meddwl a beth allai helpu, ewch i'n tudalennau ar y Coronafeirws ac iechyd meddwl.
Rwyf wedi sylweddoli'n ddiweddar fy mod i'n gwario arian pan fydda i'n bryderus, sydd, yn ei dro, yn gwneud i mi deimlo'n bryderus ynglŷn â faint o arian rwy'n ei wario.
Problemau iechyd corfforol neu feddyliol
Gall problemau iechyd eraill achosi gorbryder weithiau, neu ei wneud yn waeth. Er enghraifft:
- Problemau iechyd corfforol – gall byw gyda chyflwr iechyd corfforol difrifol, parhaus neu sy'n peryglu bywyd sbarduno gorbryder weithiau.
- Problemau iechyd meddwl eraill – mae hefyd yn gyffredin i rywun ddatblygu gorbryder wrth fyw gyda phroblemau iechyd meddwl eraill, fel iselder.
Cyffuriau a meddyginiaeth
Gall gorbryder weithiau fod yn sgil-effaith cymryd:
- rhai meddyginiaethau seiciatrig
- rhai meddyginiaethau ar gyfer problemau iechyd corfforol
- cyffuriau hamdden ac alcohol
I nodi sgil-effeithiau meddyginiaeth, ewch i wefan Cerdyn Melyn y llywodraeth.
Roeddwn i wedi rhoi'r gorau i yfed. Mae llawer yn credu bod yfed alcohol yn helpu o ran gorbryder, ond mae'n gwneud pethau'n waeth yn y pen draw.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.