Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cefnogi eich hun wrth ofalu am rywun

Dysgwch sut i reoli eich lles eich hun wrth ofalu am rywun arall. Cewch wybodaeth ac awgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl a dod o hyd i gymorth.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Ble i ddod o hyd i gymorth i ofalwyr

Yn aml, ceisio help yw'r cam cyntaf tuag at wella ac aros yn iach. Ond weithiau gall fod yn anodd gwybod sut i ddechrau neu at bwy y gallwch chi droi.

Mae teimlo'n ansicr, ac ystyried a ddylech chi geisio ymdopi â phethau ar eich pen eich hun yn deimladau cyffredin. Fodd bynnag, mae sefydliadau ar gael a allai helpu i wneud pethau'n haws a chynnig cymorth ychwanegol i chi.

Ar y dudalen hon:

Cymorth ar gyfer eich iechyd meddwl eich hun

  • Eich meddyg teulu. Mae'n iawn gofyn am help bob amser - hyd yn oed os nad oes gennych chi broblem iechyd meddwl benodol. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen am siarad â'ch meddyg teulu. Mae'n esbonio sut y gall eich meddyg teulu helpu a beth allai ddigwydd mewn apwyntiad.
  • Triniaethau siarad. Mae triniaethau fel cwnsela yn rhoi amser i chi archwilio eich pryderon a'ch teimladau anodd gyda gweithiwr proffesiynol. Gallwch chi siarad am sut mae gofalu am rywun arall yn effeithio arnoch chi, heb orfod teimlo'n euog am fynegi eich rhwystredigaethau neu anawsterau. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar driniaethau siarad.
  • Llinellau cymorth a gwasanaethau gwrando iechyd meddwl. Mae llinellau cymorth yn cael eu staffio gan bobl hyfforddedig sy'n barod i wrando. Fyddan nhw ddim yn eich barnu, a gallan nhw eich helpu chi i wneud synnwyr o'r hyn rydych chi'n ei deimlo. Mae gennym restr o gysylltiadau a rhagor o wybodaeth ar ein tudalen am linellau cymorth.

Bues i'n gofalu am fy ffrind oedd yn cael teimladau hunanladdol am wythnosau, heb wybod beth i'w wneud i helpu. Pan aeth i'r pen arna i, ffoniais y Samariaid. Doeddwn i ddim yn sylweddoli eu bod nhw yno i'm helpu i hefyd. Ar ôl galwad ffôn gymharol fyr cefais fy nghyfeirio i gael help i fi ac i fy ffrind hefyd.

Mae gwybodaeth am gael help ar gyfer problemau iechyd meddwl penodol ar ein rhestr A-Y iechyd meddwl.

Help ymarferol i ofalwyr

  • Gofal a chymorth cymdeithasol. Gall y gwasanaethau cymdeithasol roi cymorth i chi a'r person rydych chi'n gofalu amdano. Bydd y math o gymorth a gynigir i chi yn dibynnu ar ei anghenion ef a'ch anghenion chi. Caiff hyn ei benderfynu drwy asesiad gofalwr. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen gyfreithiol ar hawliau gofal cymdeithasol gofalwyr sy'n oedolion. Mae mwy o fanylion am yr asesiad gofalwr gan Carers UK i ofalwyr sy'n oedolion ac i ofalwyr ifanc.
  • Cymorth ariannol. Efallai y gallwch chi gael arian i'ch helpu chi, fel y lwfans gofalwr a/neu Gredyd Cynhwysol. Efallai y bydd y person rydych yn gofalu amdano hefyd yn gymwys i gael budd-daliadau. Gall gwneud cais am fudd-daliadau a chymorth ariannol fod yn broses gymhleth. Mae'r elusen Turn2us yn cynnig cyngor a chyfrifiannell budd-daliadau i weld beth y gallech fod yn gymwys i'w gael. Mae Cyngor ar Bopeth yn wasanaeth defnyddiol arall a all eich helpu chi i ddeall budd-daliadau.
  • Gofal seibiant. Efallai y byddwch chi'n gymwys i gael cymorth i'ch helpu i gael seibiant. Dylai asesiad gofalwr gynnwys gwybodaeth am ofal seibiant. Mae rhai elusennau hefyd yn helpu i gynnig gwyliau gofal seibiant.

Bues i'n gofalu am fy ngŵr am sawl blwyddyn heb unrhyw gymorth. Mae'n drueni nad oeddwn i'n gwybod bod help ar gael a sut i gael gafael arno'n gynt. Byddwn i hefyd wedi rhoi blaenoriaeth i ofalu am fy lles fy hun ac wedi cynnal fy nghyfeillgarwch a'm perthynas ag aelodau o'r teulu.

  • Technoleg. Mae rhai technolegau ac apiau yn helpu i'w gwneud hi'n haws i ofalu am rywun arall. Mae gan Carers UK wybodaeth am dechnolegau i ofalwyr a sut y gallent eich helpu chi, fel Jointly – ap i'ch helpu i drefnu a rheoli. Mae hefyd yn cynnig Adnodd Digidol i Ofalwyr.
  • Cymorth yn y gwaith. Os ydych yn ei chael hi'n anodd cydbwyso gofalu â chyflogaeth â thâl, mae gennych yr hawl i holi eich cyflogwr am drefniadau gweithio hyblyg. Ond er mwyn gwneud y cais hwn, mae'n rhaid eich bod wedi gweithio i'r un cyflogwr ers o leiaf 26 o wythnosau. Gallai eich cais gweithio hyblyg gynnwys mynd yn rhan amser, newid eich patrwm gwaith neu rannu swydd. Rydych chi hefyd yn gymwys i gael amser rhesymol i ffwrdd o'r gwaith i ddelio ag achosion brys. Mae gan Carers UK wybodaeth am eich hawliau yn y gwaith.

Roedd fy ngwaith yn arbennig o gefnogol pan ddywedais i wrthyn nhw. Rwy'n ffodus bod fy swydd yn hyblyg. Er nad oedd angen i mi eu defnyddio, mae hawliau cyflogaeth ar gyfer gofalwyr.

Cymorth lleol a chymorth gan gymheiriaid i ofalwyr

  • Fforymau a chymunedau ar-lein. Gall cwrdd â phobl sydd wedi rhannu profiadau tebyg helpu. Gallwch chi sgwrsio â phobl ar Ochr yn Ochr gan Mind a fforwm Carers UK.
  • Grwpiau cymorth gan gymheiriaid i ofalwyr. Mae rhai elusennau yn rhedeg grwpiau cymorth wyneb yn wyneb neu dros fideo ar-lein. Mae gan Rethink adnodd i ofalwyr pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i chwilio am grwpiau cymorth yn eich ardal.
  • Gwasanaethau cymorth lleol. Ar wefan Carers UK, gallwch chi ddefnyddio ei hadnodd chwilio am wasanaeth lleol i chwilio gan ddefnyddio eich cod post. Mae Partneriaid Rhwydwaith y Carers Trust yn ymdrin â'r rhan fwyaf o ardaloedd. Os ydych chi'n cefnogi rhywun yn eich teulu, efallai y gallwch hefyd gael cymorth drwy wasanaethau lleol Family Lives.

Mae rhagor o wybodaeth gyffredinol ar ein tudalennau ar gymorth gan gymheiriaid.

Mae manylion am gymorth gan elusennau a gwasanaethau cyhoeddus ar ein tudalennau ar gysylltiadau defnyddiol ar gyfer gofalu amdanoch chi eich hun fel gofalwr.

Rwyf am i ofalwyr eraill wybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain. Cymerwch yr holl gymorth sydd ar gael, darllenwch yr erthyglau ar Mind a cheisiwch ddeall yr hyn rydych chi, eich teulu a'ch anwyliaid yn ei wynebu.

Cymorth i ofalwyr ifanc

Mae llawer o bobl ifanc yn gofalu am rywun arall yn eu teulu. Gall fod yn waith blinedig ac anodd, yn enwedig pan fydd yn rhaid i chi wneud hyn a mynd i'r ysgol neu i'r gwaith.

Mae cymorth ar gael i'ch helpu i wneud pethau ychydig yn haws i chi:

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Mai 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig