Beth yw'r arwyddion a'r symptomau cyffredin?
Sut y gallech fod yn teimlo
|
Sut y gallech fod yn ymddwyn
|
- yn gyffrous neu'n orfoleddus
- yn isel iawn
- newidiadau cyflym yn eich hwyliau
- yn ddryslyd neu'n ffwndrus
|
|
Beth yw rhithdybiaethau a rhithweledigaethau?
Agweddau ar seicosis yw rhithdybiaethau a rhithweledigaethau.
Fel arfer mae rhithdybiaeth yn gred anarferol o gryf nad yw pobl eraill yn ei rhannu. Er enghraifft, efallai eich bod yn credu eich bod yn perthyn i rywun enwog, er nad ydych yn rhannu'r un perthnasau, neu efallai eich bod yn credu y gallwch reoli'r tywydd. Gall rhai rhithdybiaethau fod yn ddychrynllyd iawn - er enghraifft, os byddwch yn credu bod rhywun yn ceisio eich rheoli neu eich lladd. Yn aml, gelwir y mathau hyn o rithdybiaethau yn feddyliau paranoiaidd neu baranoia. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar baranoia.
Rhithweledigaethau yw pan fyddwch yn gweld neu'n clywed pethau, neu'n blasu, yn arogli neu'n teimlo pethau, ond na all pobl o'ch cwmpas wneud hynny. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gweld gwrthrychau'n symud mewn ffyrdd na fyddent fel arfer, neu'n clywed lleisiau nad yw pobl eraill yn eu clywed. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar glywed lleisiau.
Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar seicosis.
Beth sy'n achosi seicosis ôl-enedigol?
Nid oes tystiolaeth glir ar beth sy'n achosi seicosis ôl-enedigol, ond mae rhai ffactorau risg. Rydych yn fwy tebygol o ddatblygu seicosis ôl-enedigol os yw'r canlynol yn wir:
- Mae gennych hanes teuluol o broblemau iechyd meddwl, yn benodol hanes teuluol o seicosis ôl-enedigol.
- Rydych wedi cael diagnosis o anhwylder deubegynol. Er bod seicosis ôl-enedigol yn digwydd gyda thua 1 o bob 1,000 o enedigaethau, ar gyfer merched sydd wedi cael diagnosis o anhwylder deubegynol, mae hyn yn codi i tua 1 o bob 4 genedigaeth.
- Rydych yn cael genedigaeth neu feichiogrwydd trawmatig.
Fodd bynnag, gallwch hefyd ddatblygu seicosis ôl-enedigol os nad oes gennych unrhyw hanes o broblemau iechyd meddwl.
Mae ychydig yn fwy cyffredin mewn beichiogrwydd cyntaf o gymharu â rhai dilynol.
Os ydych yn wynebu risg uwch o ddatblygu seicosis ôl-enedigol, mae'n bwysig trafod eich iechyd meddwl â'ch bydwraig neu feddyg, ac ystyried sut y gallwch gynllunio ymlaen llaw. Mae gan Action Postpartum Psychosis ganllaw ar gynllunio beichiogrwydd ar gyfer merched sy'n wynebu risg uwch o ddatblygu seicosis ôl-enedigol.
Beth yw'r triniaethau?
Rydych fwyaf tebygol o gael cynnig cyffur gwrth-seicotig er mwyn rheoli eich hwyliau a'ch symptomau seicotig. Ceir rhagor o wybodaeth am y cyffuriau hyn ar ein tudalennau ar gyffuriau gwrth-seicotig a'n rhestr antipsychotics A-Z. Efallai y cewch gynnig gyffur gwrth-seicotig hefyd.
Os yw eich symptomau'n ddifrifol iawn, ac nad ydynt yn ymateb i driniaethau eraill, gall eich meddyg gynnig therapi electroddirdynnol (ECT) i chi. Ceir rhagor o wybodaeth a nodir eich hawl i gael triniaeth ar ein tudalennau ar ECT.
A fydd yn rhaid i mi fynd i'r ysbyty?
Efallai y bydd eich meddyg yn penderfynu mai triniaeth yn yr ysbyty yw'r ffordd orau i chi gael yr help sydd ei angen arnoch. Os yw'n bosibl, dylech gael eich derbyn i uned mam a babi, lle gallwch aros gyda'ch babi tra byddwch yn cael triniaeth. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar gymorth a gwasanaethau.