Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Y coronafeirws a dy les – ar gyfer pobl ifanc 

Gwybodaeth i bobl ifanc sy'n poeni am y coronafeirws ac sydd eisiau gwybod sut i ymdopi gyda newidiadau i'w bywydau.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Y coronafeirws a dy les

Efallai dy fod yn teimlo wedi llethu, yn drist, neu'n ddryslyd am y coronafeirws ac yn poeni amdanat ti dy hun, am dy deulu a dy ffrindiau.

Mae hyn yn gwbl normal – mae pethau'n cadw newid wrth i ni ddysgu mwy am y feirws. Mae ysgolion ar gau, ac mae pobl bellach yn hunan-ynysu i amddiffyn eu hunain ac eraill.

Beth yw'r coronafeirws?

Mae'r coronafeirws yn salwch newydd sy'n effeithio ar bobl ar draws y byd. Mae'n cael ei achosi gan feirws sy'n effeithio ar ysgyfaint a llwybrau gwynt pobl.

Fel arfer, y symptomau yw tymheredd uchel a thwymyn a pheswch newydd.

Mae The Mix yn rhoi esboniad da o beth yw'r coronafeirws, sut y gall ein heffeithio ni a sut i amddiffyn dy hun.

Rhai termau cyffredin a'u hystyr

Pan mae salwch yn lledu ar draws y byd.

Mae'r llywodraeth wedi gofyn i ni i gyd i aros adref a dod i gysylltiad wyneb yn wyneb â'r bobl rydyn ni'n byw gyda nhw yn unig.

Dim ond i brynu bwyd neu gasglu moddion, i dderbyn gofal meddygol, neu i ymarfer corff unwaith y dydd y dylen ni adael y tŷ.

Mae hyn yn golygu aros yn y tŷ a pheidio gadael am amser penodol.

Os ydy'r coronafeirws arnat ti neu os wyt ti'n credu ei fod arnat ti, rhaid i ti aros yn y tŷ am 7 diwrnod ar ôl i dy symptomau ddechrau.

Os wyt ti'n iach, ond mae'r feirws ar rywun sy'n byw gyda ti, rhaid i ti aros adref am 14 diwrnod ar ôl i'w symptomau ddechrau.

Mae hyn yn cynnwys peidio mynd allan i brynu nwyddau neu gasglu moddion. Ond gelli di adael y tŷ unwaith y dydd i wneud ychydig o ymarfer corff, cyn belled â dy fod yn aros 2 metr i ffwrdd oddi wrth bobl eraill.

Dylai pobl sy'n hunan-ynysu ddefnyddio gwasanaethau archebu ar-lein, ofyn i ffrindiau, deulu neu gymdogion am gefnogaeth, neu adael i'r llywodraeth wybod eu bod angen help i gael bwyd neu foddion.

Enw arall yw hyn am hunan-ynysu. Mae'n helpu atal salwch rhag lledaenu i bobl eraill os wyt ti'n dioddef ohono.

Beth allaf i wneud os ydw i'n poeni am fy iechyd?

Mae'n iawn i boeni, neu deimlo'n drist, yn bryderus, yn grac, neu'n flin am y coronafeirws, i deimlo nifer o emosiynau ar yr un pryd, neu hyd yn oed i deimlo wedi drysu'n llwyr.

Ond mae nifer o bethau y gelli di eu gwneud i ofalu am dy iechyd corfforol neu feddyliol i dy helpu i deimlo'n well:

Dilyna gyngor y GIG ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am aros adref, sut i olchi dy ddwylo a phethau eraill y gelli di eu gwneud i atal lledaenu'r feirws.

Bydd yn garedig i dy hun hefyd – os yw cyngor yr arbenigwyr yn gwneud i ti deimlo'n bryderus, neu efallai dy fod yn credu ei fod yn anodd dilyn y cyngor, siarada gyda rhywun rwyt ti'n ymddiried ynddynt, fel rhiant, gofalwr neu ddoctor.

Gelli di ymweld â'r BBC neu'r GIG (NHS). Os wyt ti'n derbyn gwybodaeth gan unigolion, fel ar y cyfryngau cymdeithasol, mae'n llai tebygol o fod yn gywir.

Mae cael dy atgoffa am y coronafeirws drwy'r amser yn gallu mynd yn ormod.

Bydd edrych ar y wybodaeth ddiweddaraf ar adegau penodol rwyt ti'n eu gosod dy hun yn cyfyngu ar faint rwyt ti'n ei weld, ac yn rhoi cyfle i ti feddwl ac ymlacio.

Mae hyn yn bwysig, yn enwedig os wyt ti'n poeni'n aml am y peth. Gelli di fod yn agored gyda ffrind neu siarad ag oedolyn rwyt ti'n ymddiried ynddyn nhw, fel rhiant neu ofalwr.

Os fyddai'n well gyda ti siarad â rhywun dwyt ti ddim yn ei adnabod, gelli di alw Childline gan ddefnyddio eu gwasanaeth cyfrinachol.

Gwna gynllun yn amlinellu sut y byddi di'n treulio dy amser adref – gelli di feddwl am bethau i wneud, pethau i astudio, pethau i wneud i ti deimlo'n well, a phobl i gysylltu â nhw ar lein.

Gall hyn helpu i wneud i ti deimlo'n llai pryderus ynghylch hunan-ynysu.

Gelli di hefyd drafod gydag oedolyn rwyt ti'n ymddiried ynddyn nhw am ffyrdd y gallan nhw dy helpu di, fel dy atgoffa am dy gynllun a gwirio'n rheolaidd i weld os wyt ti'n ei ddilyn.

Os ydy rhywbeth yn gwneud i ti deimlo'n well neu'n dy helpu i ymlacio, gosoda amser penodol i'w wneud – gall hyn fod yn rhywbeth creadigol, fel arlunio neu bobi, neu wrando ar gerddoriaeth.

Mae gwybod beth rwyt ti'n mynd i'w wneud bob dydd yn gallu bod o help, yn enwedig os wyt ti'n gorfod aros i ffwrdd o'r ysgol, o'r coleg neu'r gwaith.

Os oes rhywbeth gen ti sy'n dy helpu i godi o'r gwely a dy fod yn gwybod bod hyn yn mynd i ddigwydd ar amser penodol, efallai y byddi di'n teimlo mwy o reolaeth.

Mae cwsg yn bwysig iawn, yn enwedig os wyt ti wedi bod yn poeni. Mae bwyta ac yfed digon hefyd yn mynd i helpu cadw dy lefelau egni yn uchel a sicrhau bod gen ti ddigon o ddŵr yn y corff.

Bydd y pethau hyn i gyd yn dy helpu i ymladd y feirws. Darllena ein gwybodaeth am ofalu am dy lesiant am ragor o wybodaeth.

Beth fydd yn digwydd i fy nhriniaeth neu gefnogaeth?

Gyda phopeth sy'n digwydd ar hyn o bryd, efallai y byddi di'n poeni am sut i gael cefnogaeth, moddion neu driniaeth.

Mae'n dal i fod yn bosibl i siarad â phobl broffesiynol am dy iechyd, fel doctoriaid, gweithwyr gofal a fferyllwyr. Efallai ei bod nhw wedi newid y modd i gysylltu â nhw – er enghraifft, efallai bydd yn well gan dy ddoctor roi galwad ffôn i ti yn hytrach na dy weld yn y feddygfa.

Dyma beth gwybodaeth all fod o help:

Gelli di ystyried archebu dy bresgripsiwn rheolaidd ar lein, trwy ap neu dros y ffôn – efallai bydd rhaid i oedolyn dy helpu di i wneud hyn.

Os oes gen ti symptomau o'r coronafeirws, dylid di ofyn i rywun gasglu dy bresgripsiwn drosot ti, neu ofyn i dy fferyllfa am wasanaeth cludo i'r cartref.

Gelli di siarad â rhywun yn dy dîm iechyd meddwl i ddarganfod os yw'r gefnogaeth yn gallu parhau, neu os oes rhaid gwneud newidiadau iddi ar hyn o bryd.

Os yw'n briodol, gelli di ofyn am apwyntiadau dros y ffôn neu ar lein, neu ofyn i oedolyn i helpu edrych mewn i hyn i ti.

Gelli di siarad â dy weithiwr gofal i ddarganfod a yw'n bosib iddyn nhw ddiweddaru dy gynllun gofal i dy gynorthwyo wrth i ti aros adref, a sut bydd dy ofal yn cael ei asesu tra dy fod adref.

Efallai bydd dy ddatganiad yn cael ei effeithio gan newidiadau'r llywodraeth – bydd mwy o wybodaeth ar gael am hyn yn ystod yr wythnos sydd i ddod.

Os wyt ti'n poeni am hyn neu eisiau siarad gyda rhywun, gelli di siarad â dy gyngor lleol neu Gydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig dy ysgol (SENCO).

Mae'r llywodraeth yn gwneud newidiadau i'r ffyrdd y mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu. Gall y cynlluniau i ti symud i ofal cymdeithasol i oedolion a'r math o gefnogaeth rwyt ti'n debygol o'i derbyn unwaith i ti droi'n 18 gael eu heffeithio gan y newidiadau hynny.

Bydd mwy o wybodaeth ar gael am hyn yn ystod yr wythnos sydd i ddod. Yn y cyfamser, os wyt ti'n poeni am hyn neu eisiau rhagor o wybodaeth, gelli di siarad â dy weithiwr cymdeithasol.

Os yw dy gefnogaeth wedi newid, neu os nad wyt ti'n siŵr ynghylch beth sy'n digwydd, siarada â dy riant neu ofalwr i weld beth allwch chi ei wneud gyda'ch gilydd, fel eu bod nhw'n gallu dy gefnogi di nes i ti gael mwy o atebion.

Beth allaf i wneud os ydw i'n poeni am rywun arall?

Mae'n gyffredin teimlo'n drist neu'n euog am ymbellhau oddi wrth berson rwyt ti'n eu caru neu'n poeni amdano.

Efallai y byddi di'n poeni y bydd y person yn ei gael yn anodd ymdopi â llai o gyswllt wyneb yn wyneb, neu'n poeni am ei iechyd.

Ond cofia nad yw hyn yn mynd i bara am byth, ac mai amddiffyn y person a gofalu amdano yw'r nod, hyd yn oed o bellter.

Os wyt ti'n poeni am ffrindiau neu deulu sy'n fregus:

Gelli di anfon negeseuon testun neu luniau atyn nhw, a rhoi galwad ffôn yn rheolaidd. Gallwch chi hyd yn oed siarad dros fideo, os yw hynny'n bosib i chi.

Gelli di eu hannog nhw i lanhau'r tŷ neu ymarfer y corff yn ysgafn dan do.

Gallan nhw agor y ffenest, neu fynd mewn i'r ardd os oes un gyda nhw.

Gwranda arnyn nhw a chefnogwch eich gilydd. Gelli di hefyd rannu'r wefan hon gyda nhw, neu ein canllaw i oedolion.

Efallai byddan nhw'n deall, neu hyd yn oed deimlo'r un peth â ti. Efallai gei di gefnogaeth ganddyn nhw.

Rwy'n ofalwr ifanc

Efallai bydd yn rhaid i ti gymryd gofal ychwanegol gyda hylendid a gofalu am dy iechyd a dy lesiant dy hun, i leihau'r risg i'r person rwyt ti'n gofalu amdano.

Os wyt ti angen hunan-ynysu oherwydd bod gen ti'r coronafeirws, neu dy fod yn credu bod gen ti'r coronafeirws, dyweda wrth dy weithiwr cymdeithasol a'r cyngor er mwyn iddyn nhw allu trefnu cefnogaeth arall i'r person.

Os wyt ti ar fin troi'n 18 a bod gen ti gyfrifoldebau gofalu parhaus, gall y gefnogaeth rwyt ti'n ei derbyn wedi i ti droi'n 18 gael ei effeithio gan newidiadau'r llywodraeth.

Bydd mwy o wybodaeth ar gael am hyn yn ystod yr wythnos nesaf. Yn y cyfamser, os wyt ti'n poeni am hyn neu eisiau siarad â rhywun, gelli di siarad â dy weithiwr cymdeithasol.

Sut allaf i ymdopi ag aros adref?

Efallai nad yw aros adref yn teimlo'n llawer o hwyl, yn enwedig o ystyried nad dy ddewis di yw hyn. Efallai y byddi di'n ei gael yn anodd ymdopi ar ôl nifer o ddiwrnodau.

Ond mae nifer o bethau y gelli di roi tro arnyn nhw all wella dy allu i ymdopi a gwella dy lesiant.

Mae hyd yn oed agor y ffenest ac edrych allan, a chymryd golau dydd i mewn, yn gallu dy helpu i fod yn ymwybodol o'r gwagle o dy gwmpas. Bydd hyn hefyd o help os wyt ti'n teimlo wedi dy gau i mewn. Os wyt ti'n gweld eisiau mynd allan am ymarfer corff, gelli di gadw'n weithgar yn y tŷ – mae gan y GIG ragor o wybodaeth.

Danfona negeseuon, galwa neu wneud galwad fideo gyda theulu a ffrindiau, a chefnogwch eich gilydd.

Bydd yn dy helpu chi i deimlo mewn cyswllt ag eraill, a rhoi synnwyr o bethau'n parhau fel arfer. Os ydyn nhw'n dechrau siarad yn rhy aml am y coronafeirws, gelli di ofyn iddyn nhw newid y pwnc.

Os wyt ti'n gallu astudio yn ystod oriau ysgol neu goleg, neu siarad â ffrindiau ar yr un pryd ag arfer, gall hyn dy helpu i deimlo nad yw pethau wedi newid cymaint â hynny.

Efallai y gelli di wylio ffilm mewn parti gyda ffrindiau, neu ddod o hyd i grŵp canu ar lein.

Bydd yn ofalus ynghylch pwy wyt ti'n cysylltu â nhw, a phaid ag ymuno ag unrhyw grwpiau preifat neu sgyrsiau heb ganiatâd rhiant neu ofalwr.

Gelli di edrych arnyn nhw ar adegau penodol o'r diwrnod yn unig, neu ddiffodd dy ffôn am gyfnod o oriau, hyd yn oed.

Efallai y gelli di hyd yn oed atal rhai geiriau neu frawddegau rhag ymddangos ar dy ffrwd newyddion os wyt ti'n credu y bydd hyn yn helpu.

Dydy hyn ddim yn cynnwys cysgu na'r hyn rwyt ti'n ei yfed a'i fwyta yn unig. Mae hefyd yn cynnwys bod yn weithgar, bod yn garedig i bobl eraill (a dy hun!) a bod yn greadigol.

Mae'r holl bethau hyn yn effeithio ar y ffordd rydyn ni'n meddwl amdanom ni ein hunain, am bobl eraill a phethau sy'n digwydd o'n hamgylch ni. Gelli di ddarllen mwy am hyn ar ein tudalen ar lesiant.

Gall gofalu am dy hun dy helpu i reoli dy feddyliau a dy deimladau, a gall amddiffyn dy iechyd meddwl rhag gwaethygu.

Mae syniadau'n cynnwys ysgrifennu dyddiadur, chwarae gemau cyfrifiadur, gofyn am help os oes angen arnat ti, ymlacio, a gofalu am dy iechyd.

Gelli di ymweld â The Mix am ragor o syniadau am ofalu am dy hun.

Gall hyn fod yn ffrind, yn aelod o'r teulu, yn weithiwr gofal, neu'n wasanaeth llinell gymorth – unrhyw un rwyt ti'n teimlo y gall rhoi cefnogaeth i ti gyda sut rwyt ti'n teimlo.

Gelli di ddarllen ein gwybodaeth ar ddod o hyd i gefnogaeth am fwy o syniadau.

Rwy'n cael fy mwlio o achos fy ethnigrwydd

Efallai dy fod wedi clywed ffigyrau cyhoeddus yn galw enwau hiliol ar y feirws, wedi gweld pobl yn osgoi pobl eraill yn y stryd neu mewn siopau, neu wedi cael dy fwlio dy hun wyneb yn wyneb neu ar lein.

Ond does dim un ethnigrwydd na grŵp o bobl ar fai am y coronafeirws, ac os wyt ti neu rywun rwyt ti'n adnabod wedi cael eich bwlio neu eich cam-drin oherwydd hynny, mae hynny'n cael ei adnabod fel trosedd casineb (hate crime). Y peth gorau y gelli di wneud yw dweud wrth oedolyn rwyt ti'n ymddiried ynddyn nhw am beth sy'n digwydd.

Mae gan Childline ragor o wybodaeth am hiliaeth a bwlio hiliol os wyt ti eisiau darganfod mwy, a llinell gymorth gyfrinachol os wyt ti eisiau siarad am unrhyw beth.

Os wyt ti, neu riant neu ofalwr yn penderfynu gadael i'r Heddlu wybod am y drosedd, neu os hoffet ti ragor o wybodaeth neu gyngor, mae gan Gefnogaeth i Ddioddefwyr Linell Gymorth (Supportline) i bobl ifanc y gelli di alw am ddim.

Beth allaf i wneud os ydw i'n poeni am aros mewn gyda phobl eraill?

Os wyt ti'n byw gyda phobl eraill, boed yn deulu, yn bobl sy'n rhannu fflat gyda ti neu'n bartner, mae'n anochel y bydd ychydig o densiwn ar ryw bwynt wrth i chi aros adref gyda'ch gilydd.

Dyma gyngor ar sut i dynnu 'mlaen yn dda gyda'ch gilydd:

Gyda'ch gilydd, gallwch weld lle y gallwch alinio trefn eich diwrnod, fel bod neb yn dechrau cweryla dros bwy sy'n cael edrych ar y teledu, er enghraifft.

Os hoffet ti weld rhywbeth penodol yn digwydd, gall hyn fod yn amser da i gytuno arno.

Ceisia barchu preifatrwydd pawb – efallai na fydd pawb eisiau siarad am rywbeth, neu dreulio amser gydag eraill ar yr un pryd.

Treulia amser ar ben dy hun os wyt ti eisiau, yn ogystal â chysylltu â phobl eraill.

Os ydych chi i gyd adref gyda'ch gilydd, efallai bydd disgwyl i chi rannu tasgau'n deg. Ond os oes angen i rywun astudio neu weithio o adref, sicrhewch fod hyn yn cael ei gymryd i ystyriaeth, fel ei fod yn gytundeb teg lle mae pawb yn ymwybodol o beth i'w wneud, a phryd.

Ystyria nad yw rhieni a gofalwyr o reidrwydd yn gwybod sut i lenwi'r amser gyda ti yn y tŷ, na'n gwybod beth yw'r ffordd orau o dy gefnogi di.

Ond wrth dreulio'r amser hwn gyda nhw, gall fod yn gyfle newydd i glosio atyn nhw a dysgu mwy am eich gilydd. Gelli di wneud y canlynol:

Rhanna dy ddiddordebau a gyda nhw, neu ofyn iddyn nhw am eu rhai nhw (neu rywbeth oedd yn mynd â'u bryd pan oedden nhw'r un oedran â ti).

Gwna rhywbeth na fyddai amser gyda ti i'w wneud fel arfer – chwarae gemau, gwylio rhywbeth gyda'ch gilydd, neu aildrefnu ystafell.

Dechreua'r sgwrs ynghylch sut rwyt ti'n teimlo, os wyt ti'n gallu – mae gyda ni wybodaeth ynghylch bod yn agored â phobl eraill a rhannu dy deimladau i dy gefnogi di.

Efallai bydd dy riant neu dy ofalwr yn teimlo cymysgedd o emosiynau ar hyn o bryd hefyd.

Os wyt ti'n gallu, efallai y byddan nhw wir yn gwerthfawrogi cefnogaeth oddi wrthot ti hefyd – gall hyn fod ar ffurf cwtsh, neu wneud pethau ychwanegol o gwmpas y tŷ.

Os nad yw dy gartref yn ddiogel

Os wyt ti'n poeni ynghylch aros adref gyda rhywun gan ei fod ddim yn ddiogel i ti, boed hynny gyda phartner, aelod o'r teulu neu ffrind, y peth pwysicaf y gelli di ei wneud yw cadw dy hun yn ddiogel.

Mae gan Childline a the Hideout gymorth ar gam-drin yn y cartref, ac mae gan Refuge linell gymorth sy'n rhad ac am ddim y gelli di ei ffonio i gael cefnogaeth.

Sut allaf i ymdopi â newidiadau i'r ysgol neu goleg?

Nawr bod ysgolion wedi cau, efallai dy fod yn teimlo llawer o emosiynau cymysg am beth fydd yn digwydd yn yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod.

Dyma beth gwybodaeth gall fod o help:

Bydd dy athrawon a'r byrddau arholi yn edrych ar dy amcan raddau, dy waith cwrs, dy waith dosbarth a graddau ffug arholiad, a gweithio gyda'i gilydd i greu 'amcan radd' y maen nhw'n credu bydd yn gynrychioliad gonest o'r hyn y byddet ti'n ei gyflawni.

Os nad wyt ti'n hapus gyda dy radd, efallai y byddi di'n gallu sefyll dy arholiadau pan fydd ysgolion yn ailagor ac yn gallu eu cynnal, neu eu sefyll Haf nesaf (2021). Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn yr wythnosau sydd i ddod.

Mae'r llywodraeth eisiau i ti symud ymlaen i gam nesaf dy fywyd yn yr Hydref, beth bynnag fo hynny – addysg bellach, prentisiaeth neu addysg uwch. Mae hyn yn golygu y byddan nhw'n dy gefnogi di i wneud hyn cystal â phosib, gan newid rhai o'r rheolau.

Gelli di hefyd siarad â dy Swyddog Arholiadau, Cwnselydd yr Ysgol neu Gaplan, os wyt ti'n poeni neu os oes gen ti gwestiynau eraill.

Mae ysgolion a cholegau bellach ar gau i bob myfyriwr, heblaw os oes gen ti riant neu ofalwr sy'n 'weithiwr allweddol', neu os oes gen ti weithiwr cymdeithasol ac/neu gynllun gofal. Yn yr achosion hyn, efallai bydd rhaid i ti barhau i fynychu yn ystod gwyliau'r Pasg hefyd.

Efallai bydd amserlen wahanol i dy ddosbarthiadau nes y bydd ysgolion a cholegau'n ailagor yn llawn. A gan na fydd unrhyw arholiadau, efallai bydd ffocws gwahanol i dy ddosbarthiadau. Bydd dy athrawon yn gallu esbonio mwy i ti.

Bydd dy ysgol neu dy goleg yn trefnu ffyrdd i ti allu dechrau dysgu o adref, fel anfon gwaith dros e-bost neu drwy'r post, darparu gwersi ar-lein, a dod o hyd i ffyrdd o ddarparu cefnogaeth gan athrawon.

Gall dy rieni hefyd dderbyn gwybodaeth i dy helpu i astudio, neu efallai byddan nhw eisiau helpu dy addysgu di. Os wyt ti'n poeni am hyn, gelli di siarad â dy ysgol neu dy goleg.

Am gyngor sut i osod lle i astudio tra dy fod adref, gelli di ymweld â BBC Bitesize.

Dylai rhywun fod wedi cysylltu â ti i drafod beth fydd yn digwydd tra bod yr ysgol neu goleg ar gau.

Os nad ydyn nhw wedi cysylltu â ti, siarada â dy riant neu ofalwr os wyt ti'n teimlo dy fod yn gallu. Fel arall, cysyllta â dy Gwnselydd yn yr ysgol neu Gaplan.

Efallai bydd y misoedd nesaf yn anodd i ti os oes gen ti ffrindiau neu gariad na fyddi di'n gallu eu gweld wyneb yn wyneb.

Ond gelli di siarad â nhw ar lein, a'u galw nhw ac anfon negeseuon atyn nhw'n rheolaidd. Gwna amser i hyn ar dy amserlen fel bod rhywbeth gyda ti i edrych ymlaen ato.

A chofia – dydy hyn ddim yn mynd i bara am byth. Byddwch chi gyda'ch gilydd cyn hir.

Os wyt ti ym mlwyddyn 11 neu 13, mae'n debyg y bydd y digwyddiad gadael ysgol wedi cael ei ganslo.

Er na fyddi di'n gallu dathlu gyda dy ffrindiau gyda'ch gilydd am nawr, gallwch chi gyd drefnu rhywbeth ar eich cyfer pan fyddwch chi nôl gyda'ch gilydd. Gallech chi greu blwyddlyfr ar lein y gall pobl ychwanegu negeseuon a lluniau iddo, neu gynnal parti gadael ysgol ar lein a gwisgo i fyny yn y tŷ!

Ar hyn o bryd, mae'n anodd dweud beth sy'n mynd i ddigwydd.

Mae cynlluniau wedi cael eu gwneud i fyny at wyliau'r Pasg, ac maen nhw'n cael eu hadolygu bob dydd.

Cyn gynted ag y bydd rhagor o wybodaeth gennym ni, byddwn yn diweddaru'r wefan hon.

O ble arall allaf i gael cymorth?

Mae gan Gomisiynydd Plant Cymru a Meic wybodaeth ar gyfer pobl ifanc am y coronafeirws, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae gan y Sgowtiaid gasgliad o weithgareddau y gellir eu gwneud y tu mewn neu yn yr ardd, er mwyn mynd i'r afael â diflastod a chael hwyl ar dy ben dy hun neu gydag eraill.

Os wyt ti'n dal i deimlo'n bryderus, neu'n teimlo nad wyt ti'n gallu cadw dy hun yn ddiogel ar hyn o bryd, gelli di ffonio Childline neu anfon neges at wasanaeth negeseuon mewn argyfwng YoungMind. Bydd cwnselydd yno i siarad am bethau gyda ti.

Diweddarwyd y dudalen hon ar 27 o Fawrth 2020.

  • Mae cynnwys y dudalen yn adlewyrchu'r cyngor gorau sydd gennym ar hyn o bryd. Byddwn yn ei ddiweddaru yn ôl yr angen, yn enwedig os oes newidiadau i arweiniad ar iechyd cyhoeddus.
  • Os ydych chi'n ail-ddefnyddio'r cynnwys hwn rhywle arall, rhannwch y ddolen i'r dudalen yn uniongyrchol yn hytrach na dyfynnu neu roi crynodeb o'r wybodaeth, er mwy osgoi rhannu gwybodaeth sydd allan o ddyddiad.
  • Rydyn ni'n gwerthfawrogi unrhyw adborth ar yr hyn rydyn ni'n ei amlinellu yma, neu unrhyw beth hoffech chi i ni ei gynnwys. I adael sylwadau, cliciwch y bawd i fyny / i lawr uchod.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig