Os yw hyn yn berthnasol i chi, siaradwch â ni.
Os ydych chi’n mynd trwy amser anodd neu’n brwydro gyda sut rydych chi’n teimlo, rydym ni yma i chi.
Mae pob un ohonom yn profi ac yn siarad yn wahanol am iechyd meddwl. Ond nid ydym bob amser yn cael gwrandawiad. Ac nid ydym bob amser yn cael ein cynrychioli.
Yn Mind, rydym ni eisiau newid hynny. Rydym ni yma i frwydro dros iechyd meddwl. Am gefnogaeth. Am barch. Drosoch chi.
Dwi’n deall yn iawn, anodd rheoli dy feddwl gorlawn
Sut allwn ni helpu
Siaradwch â ni
Chwilio am gefnogaeth iechyd meddwl? Galwch ein llinell wybodaeth gyfrinachol i siarad gydag ymgynghorydd cyfeillgar neu edrychwch ar ein tudalennau gwybodaeth.
Ein cymuned ar lein
Mae Side by Side yn gymuned ar lein gefnogol ble rydych yn gallu cysylltu â phobl sy’n deall beth rydych yn profi.
Cefnogaeth leol
Mae canghennau o Mind lleol yn elusennau annibynnol rydym yn gweithio gyda nhw ledled Cymru a Lloegr. Maen nhw’n teilwra'u gwasanaethau i’w cymuned leol.
Iselder fy hun yn eistedd mor drwm,
atgoffa fi o fywyd y cwm.
Mae storïau’n gallu newid sut rydym yn teimlo
Nid chi yw’r unig un. Mae cymaint ohonom yn brwydro gyda’n hiechyd meddwl. Mae darllen blog gan rywun sy’n mynd trwy brofiad cyfarwydd yn gallu cael effaith mawr. Darllenwch rai o’r blogs a’r storïau mae pobl wedi’u rhannu gyda ni.
Dwi yn fy nerth nawr, yn dymuno dy law
Ymunwch y frwydr dros iechyd meddwl.
Rydym ni yma i frwydro dros iechyd meddwl. Ond allwn ni ddim gwneud hynny ar ein pen ein hunain. Dyma sut y gallwch chi gymryd rhan.
Dod yn ymgyrchydd
Gweithiwch gyda ni i ymgyrchu dros chwarae teg i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl.
Codi arian
O rodd fisol i redeg marathon, mae yna gymaint o wahanol ffyrdd y gallwch wneud gwahaniaeth.
Cymerwch ran
Cofrestrwch am ein rhestr bost i glywed rhagor am y gwaith rydym yn ei wneud a ffyrdd y gallwch gymryd rhan.