Sut mae gwneud cwyn?
Gall meddwl am wneud cwyn am ofal cymdeithasol neu ofal iechyd meddwl fod yn anodd, yn ddryslyd ac yn ddigon i godi ofn arnoch.
Mae llawer o wahanol opsiynau ar gyfer sut a ble i wneud cwyn, sy’n gallu bod yn ddigon i’ch llorio ar adegau.
Efallai nad yw’n hawdd mynd drwy’r broses gwyno, ond rydyn ni yma i helpu.
Beth yw cwynion?
Dyma wybodaeth sylfaenol am wneud cwyn cyn i chi ddarllen am y broses ei hun.
Ddylai gwneud cwyn ddim bod yn dalcen caled na chodi gormod o ofn arnoch chi. Mae’n hollol bosibl! – Saffron
Beth fydd yn digwydd pan fydda i'n gwneud cwyn?
Gan ddibynnu ar ble rydych chi’n gwneud cwyn ac i bwy, mae’n bosibl y bydd y bobl fydd yn ei derbyn yn delio â’r gŵyn mewn ffyrdd gwahanol iawn. Mae rheolau arbennig ar sut i wneud cwyn ar gyfer:
- Gwasanaethau gofal cymdeithasol, fel gwasanaethau plant sy’n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol
- Gwasanaethau iechyd sy’n cael eu rhedeg gan y GIG neu y mae’r GIG yn talu amdanynt
Mae ein tudalen awgrymiadau ar gyfer y broses gwyno yn cynnwys canllawiau ar sut i gael gwybod ble i wneud eich cwyn.
Mae pob adran isod yn ymdrin â beth fydd yn digwydd nesaf pan fyddwch yn cwyno am y canlynol:
Gwneud cwyn am wasanaethau iechyd yn Lloegr
Yn yr achos hwn, rhaid bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn rhedeg y gwasanaeth rydych chi’n cwyno amdano neu'n talu am y gwasanaeth hwnnw. Ar ôl i chi wneud eich cwyn, dylai'r gwasanaeth gadarnhau ei fod wedi'i derbyn o fewn 3 diwrnod gwaith.
Dylai roi gwybod i chi:
- Sut y bydd yn ymchwilio i’ch cwyn
- Pryd y bydd yn anfon ymateb atoch
Os nad ydych chi’n teimlo’n ddigon cyfforddus i gael cyfarfod er mwyn siarad â’r gwasanaeth, gall anfon llythyr neu e-bost atoch chi. Dylai hyn esbonio sut y bydd yn ymchwilio a phryd y dylech gael ymateb.
Ar ôl i’r gwasanaeth orffen ymchwilio i’ch cwyn, bydd yn anfon ymateb ysgrifenedig atoch yn egluro:
- Sut mae wedi ymchwilio i’ch cwyn
- Beth yw’r penderfyniad
- Unrhyw gamau y bwriedir eu cymryd oherwydd eich cwyn
Os na chewch chi ymateb o fewn y cyfnod a addawyd, bydd angen i'r gwasanaeth anfon llythyr neu e-bost atoch yn egluro pam. Ar ddiwedd y broses gwyno, bydd y canlyniad terfynol yn ganlyniad neu'n gam gweithredu gwahanol yn dibynnu ar eich cwyn.

Pan wnes i adael yr ysgol, aeth fy mhroblemau gyda CAMHS yn waeth. Ond roeddwn i’n gwybod fy ngwerth ac yn gwybod beth roeddwn i'n ei haeddu. Fe wnes i gwyno a chael therapydd newydd heb ddim gwrthdaro o ran diwylliant.
Gwneud cwyn am ofal cymdeithasol yn Lloegr
Os byddwch yn cwyno am ofal cymdeithasol yn Lloegr, fel gwasanaethau plant, efallai y gwelwch hyd at 3 cham yn y broses.
Cam 1 y gŵyn
Dylai'r gwasanaeth rydych chi’n cwyno amdano drefnu i drafod eich cwyn gyda chi er mwyn ceisio datrys y broblem. Ar ôl y drafodaeth hon:
- Os caiff eich cwyn ei datrys, bydd y gwasanaeth yn ysgrifennu atoch yn nodi'r hyn rydych chi wedi cytuno arno gyda'ch gilydd.
- Os na chaiff eich cwyn ei datrys, bydd yn ysgrifennu atoch i ddweud beth sydd wedi cael ei wneud i geisio datrys eich problem. Dylech hefyd gael gwybod am eich hawl i symud i gam 2.
Dylai cam 1 bara hyd at 10 diwrnod gwaith (2 wythnos). Os yw eich cwyn yn gymhleth neu os hoffech gael cefnogaeth gan eiriolwr, byddai modd ymestyn y cam hwn am 10 diwrnod ychwanegol.

Cam 2 y gŵyn
Bydd y gwasanaeth yn ymchwilio i’ch cwyn, yna bydd person annibynnol yn edrych ar yr ymchwiliad.
Dylai cam 2 bara hyd at 25 diwrnod gwaith (5 wythnos) ond gallai bara hyd at 65 diwrnod gwaith (13 wythnos) ar y mwyaf. Os yw'n mynd i gymryd mwy na 25 diwrnod gwaith, dylai rhywun ddweud wrthych.
Pan fydd y gwasanaeth wedi cwblhau’r ymchwiliad, bydd yn ysgrifennu atoch yn egluro:
- Sut mae wedi ymchwilio i’ch cwyn
- Beth yw’r penderfyniad
- Unrhyw gamau y bwriedir eu cymryd oherwydd eich cwyn
Efallai y bydd hefyd yn ysgrifennu i egluro beth yw ei farn am yr ymchwiliad ac unrhyw gamau eraill ddylai gael eu cymryd. Dylech hefyd gael gwybod am eich hawl i symud i gam 3, os nad ydych chi’n hapus â’r ymateb.
Os ydych chi eisiau mynd i gam 3, rhaid i chi benderfynu o fewn 20 diwrnod gwaith (4 wythnos) ar ôl clywed am yr ymchwiliad.
Cam 3 y gŵyn
Bydd panel o 3 unigolyn annibynnol yn ystyried:
- Beth ddigwyddodd yng ngham 2 yr ymchwiliad
- A oedd yr ymchwiliad yn ddigon da
Y cam nesaf fel arfer yw ‘gwrandawiad wyneb yn wyneb’, a ddylai ddigwydd o fewn 30 diwrnod gwaith (6 wythnos). Mae hyn yn golygu y bydd y panel a phobl o’r tîm gofal cymdeithasol yn dod at ei gilydd i siarad. Byddwch chithau'n cael gwahoddiad hefyd, ond gallwch ddod â rhywun gyda chi i’ch cynorthwyo neu i siarad ar eich rhan, fel rhiant, gofalwr neu eiriolwr. Os nad ydych chi eisiau mynd i’r gwrandawiad wyneb yn wyneb, gallwch fel arfer ysgrifennu at y panel i egluro beth hoffech chi iddo ei wneud.
Bydd y panel yn penderfynu sut i ddatrys eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith. Bydd yn argymell beth ddylai gwasanaeth gofal cymdeithasol yr awdurdod lleol ei wneud.
Dylech gael ymateb gan y gwasanaeth 15 diwrnod gwaith ar ôl penderfyniad y panel. Ar ddiwedd y broses gwyno, bydd y canlyniad terfynol yn ganlyniad neu'n gam gweithredu gwahanol yn dibynnu ar eich cwyn. Os nad ydych chi'n hapus gyda'r canlyniad, gallwch gwyno wrth yr Ombwdsmon.

Gwneud cwyn am wasanaethau iechyd yng Nghymru
Rhaid bod GIG Cymru yn rhedeg y gwasanaeth rydych chi’n cwyno amdano neu’n talu am y gwasanaeth hwnnw. Dylai gadarnhau bod eich cwyn wedi cael ei derbyn o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Dylai roi gwybod i chi:
- Sut y bydd yn ymchwilio i’ch cwyn
- Pryd y bydd yn anfon ymateb atoch
- Pa fath o gymorth y gallwch chi ei gael, fel eiriolaeth
Efallai y bydd hefyd yn anfon llythyr neu e-bost atoch yn cadarnhau sut y bydd yn ymchwilio a phryd y byddwch yn cael ymateb.
Ar ôl i’r gwasanaeth orffen ymchwilio i’ch cwyn, bydd yn anfon ymateb ysgrifenedig atoch yn egluro:
- Sut mae wedi ymchwilio i’ch cwyn
- Beth yw’r penderfyniad
- Unrhyw gamau y bwriedir eu cymryd oherwydd eich cwyn
Dylai wneud hyn o fewn 30 diwrnod gwaith (6 wythnos). Os na chewch chi ymateb o fewn y cyfnod hwn, bydd angen i chi gael llythyr neu e-bost yn egluro pam. Rhaid i’r gwasanaeth anfon ymateb atoch cyn gynted â phosibl, ond gall gymryd hyd at 6 mis.
Ar ddiwedd y broses gwyno, bydd y canlyniad terfynol yn ganlyniad neu'n gam gweithredu gwahanol yn dibynnu ar eich cwyn.

Gwneud cwyn am ofal cymdeithasol yng Nghymru
Dylai'r gwasanaeth gofal cymdeithasol rydych chi’n cwyno amdano ymateb i chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Dylai’r ymateb gynnwys:
- Mwy o wybodaeth am y broses gwyno
- Cynnig help ac arweiniad ar gyfer eich cwyn, fel eiriolaeth
- Cynnig cwrdd â chi o fewn 10 diwrnod gwaith (2 wythnos) i weld a allwch gytuno ar sut i ddatrys eich cwyn
Os nad ydych chi eisiau cwrdd â’r gwasanaeth, gall anfon llythyr neu e-bost atoch chi yn cadarnhau sut bydd yn ymchwilio i’ch cwyn a phryd byddwch chi’n cael ymateb.
Os bydd cwrdd â’r gwasanaeth:
- Yn datrys eich cwyn, bydd yn cadarnhau’r hyn rydych chi wedi cytuno arno gyda’ch gilydd yn ysgrifenedig.
- Ddim yn datrys eich cwyn, bydd yn anfon ‘datganiad ysgrifenedig’ atoch yn egluro’ch cwyn er mwyn i chi allu gwneud yn siŵr bod popeth yn gywir ac yn wir.
Pan fydd y gwasanaeth wedi gorffen ymchwilio i’ch cwyn, bydd yn ysgrifennu atoch i egluro:
- Sut mae wedi ymchwilio i’ch cwyn
- Beth yw’r penderfyniad
- Unrhyw gamau y bwriedir eu cymryd oherwydd eich cwyn
Dylai wneud hyn o fewn 25 diwrnod gwaith (5 wythnos) ar ôl cytuno â’ch datganiad ysgrifenedig. Ar ddiwedd y broses gwyno, bydd y canlyniad terfynol yn ganlyniad neu'n gam gweithredu gwahanol yn dibynnu ar eich cwyn.

Gall gwneud cwyn fod yn broses anodd a blinedig iawn, sy'n rhoi llawer o straen arnoch chi. Mae'n anodd gorfod wynebu pethau sydd wedi digwydd yn y gorffennol unwaith eto – Saffron
Beth am y canlyniad neu’r camau gweithredu ar y diwedd?
Efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn cael eich llethu gan y broses hir a chymhleth o wneud cwyn am ofal iechyd neu ofal cymdeithasol.
Pan fydd unrhyw fath o broses gwyno y soniwyd amdani ar y dudalen hon wedi dod i ben, efallai y bydd 1 neu ragor o’r canlyniadau hyn yn berthnasol:
- Ymddiheuriad. Efallai y cewch ymddiheuriad ar lafar neu ar bapur gan y gwasanaeth i ddatrys y broblem a gwneud yn siŵr nad yw'n digwydd i chi eto.
- Argymhellion. Os yw panel annibynnol wedi cymryd rhan yn y broses gwyno, efallai y bydd yn gwneud argymhellion ynghylch sut mae angen i’r gwasanaeth newid.
- Iawndal ariannol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael rhywfaint o arian fel rhan o ymddiheuriad i'ch helpu gyda'r hyn rydych wedi bod drwyddo.
- Gwelliannau yn y dyfodol. Efallai y bydd eich cwyn yn gwneud y gwasanaeth yn ymwybodol o’i broblem, ac y bydd am sicrhau nad oes neb arall yn mynd drwy hyn yn y dyfodol. Bydd hyn wir yn helpu pobl eraill, er nad yw'n golygu llawer o foddhad i chi o bosibl.
- Ddim yn gallu ymchwilio. Gallai diffyg prawf neu wybodaeth olygu na fydd y gwasanaeth neu’r panel annibynnol yn gallu ymchwilio i’ch cwyn yn llawn. Fydd dim modd mynd â phethau ymhellach, sy’n gallu achosi gofid.
- Newid penderfyniad. Efallai fod eich cwyn yn ymwneud â phenderfyniad am ofal iechyd neu ofal cymdeithasol a arweiniodd at gamau a effeithiodd arnoch chi. Os felly, ac os yw’n cytuno, efallai mai’r canlyniad terfynol fydd mynd yn ôl ar y penderfyniad hwnnw i ddatrys eich cwyn.
Gall deall pob canlyniad posibl eich helpu i weld pob nod yn glir neu’ch atgoffa beth rydych chi am i’ch cwyn ei gyflawni.
Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud hefyd os nad ydych chi'n hapus gyda chanlyniad cwyn.
Hyd yn oed os nad ydych chi’n meddwl y gallwch chi wneud gwahaniaeth, fe allwch chi fel arfer – Kalia, 18 oed
Ble mae cwyno am rywbeth ddigwyddodd yn yr ysbyty?
Efallai y bydd angen i chi gwyno am sut y cawsoch eich trin gan rywun neu am eich gofal pan gawsoch eich cadw yn yr ysbyty ar gyfer eich iechyd meddwl.
Os digwyddodd rhywbeth pan oeddech chi wedi cael eich anfon i’r ysbyty neu ar Orchymyn Triniaeth Gymunedol, efallai y bydd modd i chi gwyno wrth y Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) yn Lloegr neu Arolygiaeth gofal Iechyd Cymru (AGIC) yng Nghymru.
Mae eu gwefannau’n cynnwys gwybodaeth am sut i wneud cwyn:
- Cwynion i’r Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) yn Lloegr
- Cwynion i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yng Nghymru
Fel arfer, bydd y CQC ac AGIC yn gofyn i chi wneud cwyn i’r ysbyty y cawsoch eich anfon iddo fel rhan o Orchymyn Triniaeth Gymunedol. Gall y broses hon deimlo’n gymhleth ac yn anodd, ond gallwch gael eiriolwr i’ch helpu.
Ni all y CQC nac AGIC ymchwilio i gwynion am bethau a ddigwyddodd pan oeddech chi’n glaf anffurfiol.
Beth mae cael eich anfon i ysbyty (section) yn ei olygu?
Dyma ragor o wybodaeth am beth mae’n ei olygu i gael eich cadw yn yr ysbyty ar gyfer eich iechyd meddwl.
Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod gen i dal hawl i leisio fy marn ar bethau fel triniaethau neu beth oedd yn digwydd i mi, hyd yn oed pan oedd hynny’n golygu mai meddygon oedd â’r gair olaf.
Gofyn i rywun eich helpu neu i wneud y gŵyn ar eich rhan
Gallai rhiant, gwarcheidwad, gofalwr neu oedolyn arall y gellir ymddiried ynddo wneud y canlynol:
- Eich cefnogi chi wrth i chi wneud eich cwyn
- Dod i gyfarfodydd am y gŵyn a chynnig cefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad
- Gwneud eich cwyn yn uniongyrchol ar eich rhan
Os bydd rhywun arall yn gwneud y gŵyn i chi, efallai y bydd y gwasanaeth am wneud yn siŵr eich bod yn fodlon i'r person hwn wneud hynny. Efallai na fydd rhai gwasanaethau'n caniatáu hyn, sy'n golygu y bydd angen i chi gyflwyno’r gŵyn eich hun, ond gallwch gael cefnogaeth rhywun o hyd.
Gofyn i eiriolwr eich helpu i wneud y gŵyn
Mae gennych hawl i gael cymorth gan eiriolwr proffesiynol. Gallwch hefyd ofyn i'r gwasanaeth rydych yn cwyno amdano am fanylion ynghylch sut i gael gafael ar eiriolwr.
Gall eiriolwyr helpu gyda chwynion mewn llawer o wahanol gyd-destunau, gan gynnwys cwynion am eich cyfnod yn yr ysbyty.
Cael help gan eiriolwr
Beth mae’n ei olygu i gael cymorth gan eiriolwr i helpu gyda’ch cwyn?
Gall cael cymorth gan rywun arall fod yn fuddiol iawn, hyd yn oed os nad yw’n eiriolwr proffesiynol.
Defnyddio’r Ombwdsmon
Person neu sefydliad annibynnol sy’n gallu ymchwilio i gwynion yw’r Ombwdsmon. Dim ond rhai cwynion y bydd yn ymchwilio iddynt, ac mae rheolau penodol ar gyfer gwneud hyn.
Efallai y gallwch ofyn i'r Ombwdsmon ymchwilio os nad ydych chi'n hapus gyda chanlyniad eich cwyn am naill ai:
- Gwasanaethau iechyd sy’n cael eu rhedeg gan y GIG neu y mae’r GIG yn talu amdanynt
- Gwasanaethau gofal cymdeithasol, fel gwasanaethau plant sy’n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol
Gellir defnyddio’r Ombwdsmon yn rhad ac am ddim. Os bydd yn cytuno â’ch cwyn, gall wneud argymhellion i helpu i unioni pethau i chi.
Byddwch yn cysylltu ag Ombwdsmon gwahanol, gan ddibynnu ar natur eich cwyn:
- Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr – Yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd
- Gwasanaethau gofal cymdeithasol yn Lloegr – Yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol a Gofal Cymdeithasol
- Gwasanaethau’r GIG neu wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru – Yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Dweud wrth reoleiddiwr
Corff sy’n monitro iechyd a gofal cymdeithasol yw rheoleiddiwr. Gallwch siarad â rheoleiddiwr yr un pryd ag y byddwch yn gwneud cwyn.
Ni fydd siarad â rheoleiddiwr yn datrys eich cwyn, ond gall helpu i sbarduno newidiadau a gwelliannau. Drwy ddweud wrth y rheoleiddiwr am broblemau gyda’r gwasanaeth, byddwch yn helpu pobl ifanc eraill a allai wynebu’r un broblem yn y dyfodol.
Byddwch yn cysylltu â rheoleiddiwr gwahanol, gan ddibynnu ar natur eich cwyn:
- Iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr – Y Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC)
- Gofal Iechyd yng Nghymru – Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)
- Gofal cymdeithasol yng Nghymru – Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn perthyn i reoleiddiwr sy’n gosod rheolau arbennig ar gyfer sut maen nhw’n gwneud eu gwaith. Er enghraifft, y Cyngor Meddygol Cyffredinol yw’r rheoleiddiwr ar gyfer meddygon.
Gallwch weld rhestr lawn o reoleiddwyr ar wefan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
Hyd yn oed os nad ydych chi’n cael y cymorth neu’r canlyniad roeddech chi wedi'i ddymuno, gall y ffaith eich bod wedi sôn am y peth fod yn fuddiol i chi ac i eraill – Kalia, 18 oed
Siarad â chyfreithiwr
Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar ein syniadau ac nad oes dim wedi helpu, efallai yr hoffech siarad â chyfreithiwr. Bydd cyfreithiwr yn gallu trafod eich opsiynau gyda chi a dweud wrthych a allech chi neu’ch teulu gymryd camau cyfreithiol.
Mae gan ein tudalen o gysylltiadau defnyddiol ar gyfer pobl ifanc adran ar gysylltiadau ar gyfer hawliau cyfreithiol a chymorth eiriolaeth.
Mae angen awgrymiadau arna i er mwyn delio gyda gwneud cwyn
Gall meddwl am wneud cwyn fod yn ddigon i godi ofn arnoch. Gall deimlo'n llethol a chymryd llawer o amser. Mae'n bwysig dod o hyd i ffyrdd o ofalu am eich lles eich hun.
Child services
This is a department of social services that looks after children and young people’s social care. They’re run by a local authority. You may also hear them called children and young people’s services.
Child services can:
- Review your care needs
- Support your parents or carers
- Support you if you have a disability or special educational needs
- Help protect you from harm, like domestic abuse
Local authority
This is the local government for where you live. They provide services such as health services, social services, schools, transport and housing.
Each local government decides how services are run. This means that some services in different areas may have different rules.
Visit our full treatment and support glossaryChild and Adolescent Mental Health Services (CAMHS)
These are services that can support you with your mental health.
You might see them called different names sometimes, but they offer the same thing:
- In Wales, they're called Specialist Child and Adolescent Mental Health Services (SCAMHS).
- In England and Wales, you might also hear them called Children and Young People’s Mental Health Services (CYPMHS).
Find out more in our CAMHS information hub.
Inpatient care
This is the care you get when you’re staying in hospital. You might be an informal patient or you might be sectioned. You might also be having treatment and support for your physical health.
See our pages on being an informal patient or being sectioned for more information.
Visit our full treatment and support glossaryCounsellor
Counsellors listen to you and give you a safe space to explore how you’re thinking, feeling and behaving.
They can help you talk through problems or situations that are affecting you, and help you find ways to cope.
You may hear the terms counsellor or therapist used, but they mean the same thing.
Visit our full treatment and support glossaryTherapist
This is a trained professional who runs or supervises your therapy. Therapists help you explore how you’re thinking, feeling and behaving, and what can help you in the future.
You may hear the terms therapist or counsellor used, but they mean the same thing.
Visit our full treatment and support glossaryRights
Rights generally exist to protect and help us. If you have a right or the rights to something in everyday life, it means you're entitled to have it or do it.
Our rights are often set out in laws, like the Equality Act 2010. Sometimes, rights might be set out in other policies and guidelines.
Some rights can never lawfully be taken away from us. However, sometimes another law can interfere with or restrict our rights. For example, if we are arrested or sectioned.
For more information, see our page on your rights.
Visit our full treatment and support glossaryAdvocate
Advocates can help you speak up about things that are important to you. And help make sure your voice is heard.
In some situations, you will have a legal right to have an advocate. This is called statutory advocacy.
Even if you don’t have a right to an advocate, there are other types of advocacy that can help you get your voice heard.
See our page on advocacy for more information.
Sectioned
Being sectioned means that you’re kept in hospital under the Mental Health Act 1983.
There are different types of sections, that have different rules to keep you safe.
The length of time that you can be kept in hospital depends on which section you are on.
See our page on being sectioned for more information.
Visit our full treatment and support glossaryCommunity Treatment Order (CTO)
This is when you’ve been discharged from hospital but you still need to follow certain rules. For example, taking medication or seeing your doctor. If you become unwell or don’t follow these rules, you could be brought back to hospital.
You can only be put on a CTO if you’ve been on certain sections, like 3 or 37.
See our page on being sectioned for information about the different sections.
Visit our full treatment and support glossaryInformal patient
You may also hear this being called voluntary patient. It means that you, or someone who looks after you, agree for you to stay in hospital to get treatment and support for your mental health.
See our page on being an informal patient for more information.
Visit our full treatment and support glossarySolicitor
A solicitor is a type of lawyer who can support and represent you and your family in a legal case. Solicitors can help you understand laws related to any problems you have.
For example, you might hire a solicitor if you're making a complaint or struggling to claim something you have a right to.
Some solicitors can cost a lot of money, while others don't charge at all .
Visit our full treatment and support glossaryPrivate (healthcare)
While most of us have the right to free NHS treatment for mental health in England and Wales, private healthcare is another option. This means it costs money.
For example, you can pay to see a private counsellor or therapist if you need extra support, or if you need to access support more quickly. You can pay for private services while you also have NHS support, or instead of it.
Private healthcare can cost a lot of money. But some private therapists offer a lower fee if you’re a student or on a low income.
Visit our full treatment and support glossary
Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2024
Adolygiad nesaf: Gorffennaf 2027
Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.
