Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Beth yw fy hawliau yn yr ysbyty? - ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed

Canllaw i bobl ifanc ar beth yw dy hawliau pan fyddi di yn yr ysbyty fel claf anffurfiol neu wedi cael dy sancsiynu.

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Pam mae angen hawliau arnaf yn yr ysbyty?

Mae ein hawliau yn yr ysbyty yn helpu i’n cadw ni a phobl eraill yn ddiogel. Gallwn ddefnyddio ein hawliau i wneud yn siŵr bod staff ysbyty yn ein trin yn deg ac yn darparu’r pethau sydd eu hangen arnom.

Mae gennym hawliau gwahanol yn yr ysbyty yn dibynnu ar p’un a ydym yn:

  • Claf anffurfiol. Mae hyn yn golygu ein bod wedi cytuno i aros yn yr ysbyty i gael triniaeth a chymorth. I gael rhagor o wybodaeth am beth mae hyn yn ei olygu, dos i’n tudalen ar gleifion anffurfiol.
  • Secsiynu. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni aros yn yr ysbyty am driniaeth a chymorth, hyd yn oed os nad ydyn ni eisiau bod yno. I gael rhagor o wybodaeth am beth mae hyn yn ei olygu, dos i’n tudalen ar gael dy secsiynu.

Ychydig iawn o wybodaeth a roddwyd i mi am fy hawliau, ‘ti’n mynd yma neu fe wnawn dy orfodi i fynd yma’ – Martha

decorative

Dylai staff ysbytai esbonio rhai pethau i ni am ein hawliau, ond efallai y bydd angen rhagor o fanylion arnom.

I wneud yn siŵr bod yr holl ffeithiau gen ti, gelli roi nod tudalen ar y dudalen hon ar-lein, neu ei llwytho i lawr fel dogfen Word i’w hargraffu neu ei darllen all-lein.

Lawrlwytho gwybodaeth ar hawliau yn yr ysbyty

Hawliau pob person ifanc mewn ysbyty

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer cleifion anffurfiol a phobl sydd wedi cael eu secsiynu.

Er y bydd y rhan fwyaf o hawliau sydd gennym fel cleifion anffurfiol yn aros yr un fath os ydyn ni wedi cael ein secsiynu, byddwn hefyd yn cael rhai hawliau ychwanegol, a bydd eraill yn newid rhywfaint. I gael gwybod mwy, dos i hawliau pobl sydd wedi cael eu secsiynu.

Doedd gen i ddim syniad pwy oedd yn anffurfiol a phwy oedd wedi’i secsiynu ar y ward gan nad oedd llawer o wahaniaeth. Roeddem i gyd yn cael ein trin yn union yr un fath – Martha

Dy hawl i barhau â dy astudiaethau

Efallai y bydd astudio yn helpu i bethau deimlo'n fwy normal neu'n helpu i dynnu eich sylw. Ond mae hefyd yn bwysig peidio â phoeni am waith ysgol neu goleg a chanolbwyntio ar wella.

Os wyt ti am barhau i astudio, siarada â dy dîm gofal neu eiriolwr i gael gwybod am opsiynau ar gyfer parhau â dy waith ysgol neu goleg. Dylet hefyd allu parhau â hyfforddiant yn hytrach nag addysg, os oeddet yn gwneud hyn cyn mynd i'r ysbyty.

Dy hawl i gadw mewn cysylltiad â theulu, ffrindiau a phartneriaid

Dylet allu cadw mewn cysylltiad â phobl mewn gwahanol ffyrdd, fel gallu:

  • Cael ymwelwyr
  • Gwneud galwadau
  • Anfon neges at bobl ar dy ffôn

Pan fydd ymwelwyr yn dod i dy weld, dylai’r ysbyty ddarparu lle i ti dreulio amser gyda nhw, fel ystafell i ymwelwyr. Mae’n debyg na fyddant yn cael ymweld â thi yn dy ystafell wely.

Efallai y bydd gan yr ysbyty oriau ymweld, felly mae'n well holi pryd mae'r rhain.

Mae gan y rhan fwyaf o ysbytai oriau ymweld a byddant yn annog teulu a ffrindiau i ymweld â thi gan eu bod yn gwybod pa mor bwysig ydyw i dy les meddyliol!

Dylet gael yr hawl hon o hyd os wyt ar ‘leoliad y tu allan i’r ardal’. Mae hyn yn digwydd pan fydd yn rhaid i ti aros mewn ysbyty yn bell o’r lle rwyt ti’n byw fel arfer, oherwydd does dim gwelyau yn dy ardal leol. 

Efallai na fydd gan rai pobl sy’n agos atat yr amser na’r arian i ymweld â thi mewn ysbyty yn bell i ffwrdd. Gall hyn deimlo’n anodd iawn i ti ac iddyn nhw. Os ydyn nhw’n cael trafferth gyda chostau teithio, gallan nhw ofyn am gymorth. Gelli gael rhagor o wybodaeth gan dy dîm gofal.

decorative

Cofia, does dim pwysau i gytuno i weld pobl, na chadw mewn cysylltiad os nad wyt ti’n teimlo fel gwneud hynny. Gall dweud na fod yn ddefnyddiol weithiau.

Efallai nad wyt ti bob amser eisiau gweld rhywun sy’n dod i ymweld â thi, ac mae hynny’n iawn – dylai staff ofyn i ti yn gyntaf bob amser.

Dy hawl i fod ar ward gyda phobl o dy oedran di

Dylet gael dy roi ar ward iechyd meddwl ar gyfer pobl dan 18 oed pan fyddi’n mynd i’r ysbyty. Ond mae rhai rhesymau pam y gallet gael dy roi ar ward oedolion fel claf anffurfiol neu os wyt ti wedi cael dy secsiynu.

Gall cwrdd â phobl newydd yn y ward deimlo’n frawychus, yn enwedig pan fyddi di mewn lle newydd a phan nad wyt yn teimlo’n dda. Ond gall siarad â phobl sy’n mynd drwy brofiadau tebyg dy helpu i deimlo’n llai unig.

Y peth gorau o’m cyfnod yn yr ysbyty oedd cwrdd â fy ffrind gorau. Roedd hi’n gwneud bywyd yn yr ysbyty ychydig yn llai brawychus a chynigiodd gyfeillgarwch i mi yn fy nghyfnodau mwyaf unig – Lucy

Dy hawl i breifatrwydd

Dylai staff roi rhywfaint o breifatrwydd i ti tra byddi di yn yr ysbyty. Dylet bob amser allu:

  • Golchi a gwisgo’n breifat
  • Gweld dy ymwelwyr yn breifat
  • Anfon negeseuon e-bost, negeseuon neu gael post heb i staff ei ddarllen

Ond os yw dy dîm gofal yn poeni am dy ddiogelwch neu ddiogelwch rhywun arall, efallai y bydd gen ti lai o breifatrwydd.

Gallai hyn olygu eu bod yn cadw llygaid arna ti yn amlach neu fod angen dy wylio drwy’r amser. Os bydd hyn yn digwydd, dylent ddal i dy drin â pharch a gwrando ar dy farn.

Efallai y bydd rhai ysbytai'n defnyddio camerâu i wneud yn siŵr dy fod yn ddiogel yn dy ystafell. Os nad wyt ti’n siŵr a yw hyn yn digwydd, neu os nad wyt ti eisiau cael dy ffilmio, gelli siarad â dy dîm gofal. Gall eiriolwr dy helpu i wneud hyn hefyd.

Sut gall eiriolaeth fy helpu?

Yng Nghymru, mae gan bob person ifanc sy'n aros yn yr ysbyty yr hawl i gael Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (IMHA).

Yn Lloegr, dim ond pobl ifanc sydd wedi cael eu hanfon i’r ysbyty sydd â hawl i gael IMHA.

Mynd i'r dudalen ar eiriolaeth

Mynd i'r dudalen ar hunaneiriolaeth

Mae ysbytai wedi’u cynllunio i fod yn lle diogel, felly er y gallai deimlo yn gaeedig ar adegau, cofia na fydd yn barhaol ac mae’r staff eisiau’r hyn sydd orau i ti.

Dy hawl i gael mynediad i’r rhyngrwyd a’r ffôn

Dylet allu cael mynediad at dy ffôn, y cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd tra byddi ar y ward. Ond efallai y bydd rhai llefydd yn yr ysbyty lle na chei di ddefnyddio dy ffôn.

Efallai y bydd adegau hefyd pan na chaniateir i ti ddefnyddio dy ffôn o gwbl. Er enghraifft, os yw dy dîm gofal yn poeni ei fod yn effeithio ar dy iechyd meddwl. Os byddan nhw’n mynd â dy ffôn oddi wrthyt, dim ond am gyfnod byr y gallan nhw wneud hyn a dylen nhw ei gadw yn rhywle diogel.

Roeddwn i wedi cael yr asesiad ond roedd y rheolau ffôn ar y ward yn golygu nad oeddwn i hyd yn oed yn gallu ffonio fy rhieni i ddweud wrthyn nhw – Martha

Dy hawl i gadw dy wybodaeth yn gyfrinachol

Pan fyddi di yn yr ysbyty, bydd popeth a ddywedi fel arfer yn cael ei gadw'n gyfrinachol rhyngot ti a dy dîm gofal.

Dylai fod gan dy ysbyty bolisi ynghylch y rheolau cyfrinachedd y mae’n rhaid iddynt eu dilyn. Fel arfer, byddant ond yn rhannu’r hyn rwyt ti wedi’i ddweud wrthyn nhw os:

  • Rwyt ti eisiau iddyn nhw ei rannu
  • Bydd yn dy helpu i gael gwell gofal
  • Maen nhw’n poeni y gallet ti neu rywun arall fod mewn perygl

Os oes angen iddynt ddweud wrth rywun arall beth yr wyt ti wedi'i ddweud wrthynt, dylent bob amser geisio dweud wrthyt ti yn gyntaf.

Mae’n gwneud i mi deimlo’n dawelach fy meddwl o wybod eu bod wir eisiau’r hyn sydd orau i ti a dim ond er mwyn diogelu dy hun ac eraill o dy gwmpas y byddant yn rhannu gwybodaeth.

Deall cyfrinachedd

Rhagor o wybodaeth am beth mae cadw gwybodaeth yn breifat yn ei olygu.

Dy hawl i gael seibiant o’r ward

Dylet ddisgwyl treulio’r rhan fwyaf o dy amser ar y ward, ond dylet hefyd allu treulio peth amser i ffwrdd. Yn yr ysbyty, byddi di’n clywed hyn yn cael ei alw’n ‘cael seibiant’, neu ‘mynd am seibiant’.

Os wyt ti wedi cael dy secsiynu, efallai y byddi hefyd yn clywed hyn yn cael ei alw'n seibiant adran 17.

Pan nad wyt yn cael seibiant, dylai fod gan dy ward ardal awyr agored fel arfer lle gelli gael awyr iach. Gall bod mewn man agored gyda golau naturiol wella dy hwyliau a gwneud i ti deimlo llai o straen neu’n llai dig. Gall hefyd roi rhywbeth arall i ti ganolbwyntio arno a dy helpu i deimlo’n fwy tawel.

Cael seibiant pan rwyt yn cael dy secsiynu

Er y dylai pob person ifanc yn yr ysbyty gael yr hawl i gael seibiant, mae rheolau ychwanegol ynghylch gadael os wyt ti wedi cael dy secsiynu.

Pan ofynnodd un o’r cleifion a oeddwn i wedi cael seibiant, a doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn ei olygu, roeddwn wedi mynd i banig gan fy mod i’n meddwl na allwn i fynd allan – Sarah

Sut mae mynd am seibiant o’r ysbyty?

Os wyt ti wedi cael dy secsiynu, edrycha ar ein gwybodaeth am fynd am seibiant pan rwyt wedi cael dy secsiynu.

Os wyt ti am fynd am seibiant fel claf anffurfiol, dylet ofyn i nyrs neu feddyg. Byddant yn penderfynu a yw'n ddiogel i ti ac efallai y bydd angen iddynt wirio gyda dy riant, gofalwr neu warcheidwad.

I ddechrau, efallai mai dim ond am gyfnod byr yn ystod y dydd y cei di seibiant. Efallai y byddan nhw hefyd yn gofyn i ti fynd am seibiant gyda rhywun. Dros amser, dylai dy amser seibiant gynyddu ac efallai y byddi'n gallu gadael y ward dros nos.

Os yw dy dîm gofal yn poeni amdanat ti, efallai y byddan nhw’n gofyn i ti roi’r gorau i fynd am seibiant am gyfnod. Mae'n bwysig cofio mai dim ond am gyfnod byr y gallant atal dy seibiant - ni ddylai fod yn barhaol.

Mae’r holl wybodaeth hon ar gyfer cleifion anffurfiol a phobl sydd wedi cael eu secsiynu.

Mae gwasanaethau plant yn rhan o awdurdodau lleol. Gall gwasanaethau plant ddarparu cymorth ychwanegol i ti tra byddi yn yr ysbyty os wyt ti'n byw:

  • Gyda rhieni maeth
  • Mewn cartref plant
  • Mewn uned ddiogel neu ysgol breswyl

Mae gorchymyn gofal yn golygu bod llys wedi rhoi’r pŵer i wasanaethau plant wneud penderfyniadau amdana ti. Mae hyn yn golygu y gall gwasanaethau plant gyfyngu ar allu dy riant, gofalwr neu warcheidwad i wneud y canlynol:

  • Cael cyswllt â thi yn yr ysbyty
  • Gwneud penderfyniadau ar dy ran tra byddi di yn yr ysbyty

Bydd gwasanaethau plant hefyd yn trefnu i rywun weithredu yn lle dy riant, gofalwr neu warcheidwad, ac ymweld â thi ar y ward.

Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am fy hawliau fy hun fel claf anffurfiol, doedden nhw heb egluro’n iawn i mi sut mae hynny i gyd yn gweithio - Lucy

Hawliau nad oes gen ti o bosibl yn yr ysbyty

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer cleifion anffurfiol a phobl sydd wedi cael eu secsiynu.

Pan fyddwn ni yn yr ysbyty ar gyfer ein hiechyd meddwl, efallai y bydd adegau pan fydd gennym lai o hawliau neu hawliau gwahanol i’r rhai sydd gennym mewn bywyd bob dydd.

Pan fyddi di yn yr ysbyty gyda rhai hawliau’n cael eu tynnu oddi wrthyt ti, mae’n anodd iawn – Lucy

Efallai y cei dy chwilio yn yr ysbyty

Mae gan bob ysbyty reolau ynghylch pryd y gall staff dy chwilio di, dy bethau neu'r bobl sy'n ymweld â thi.

Er enghraifft, os ydyn nhw’n meddwl bod ymwelydd wedi dod â rhywbeth i ti nad yw’n cael ei ganiatáu ar y ward, fel rhywbeth miniog neu alcohol. Os nad yw rhywun sy’n ymweld â thi eisiau cael ei chwilio, efallai na fydd staff yn eu caniatáu ar y ward.

Cyn chwilio unrhyw un neu eu pethau, dylai staff wirio a yw hynny’n iawn gyda nhw. Dylent hefyd egluro beth sy’n digwydd a pham, ac ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.

Os nad wyt ti eisiau i staff dy chwilio di, dylent siarad â thi a cheisio dod i gytundeb. Os wyt ti'n dal i beidio â chytuno i gael dy chwilio, ond eu bod yn meddwl bod gen ti rywbeth sy'n peri risg i ti dy hun neu eraill:

  • Os wyt ti’n glaf anffurfiol, efallai y byddan nhw’n gofyn i ti adael y ward yn barhaol.
  • Os wyt ti yn yr ysbyty wedi dy secsiynu, gall staff dy ffrwyno ac yna dy chwilio heb dy gydsyniad.

Fel arfer, gofynnais i fy nheulu ddod â phethau i mewn, ac yna byddai staff yn chwilio drwyddo – Lucy

decorative

Hyd yn oed os wyt ti’n teimlo na ddylet ti fod yn yr ysbyty, ceisia ymddiried yn y staff sy’n gofalu amdanat i wneud y peth iawn i ti.

Efallai y cei dy ffrwyno yn yr ysbyty

Mae'r gyfraith yn dweud bod dy dîm gofal yn cael defnyddio grym corfforol i dy stopio naill ai am 1 neu'r ddau o'r rhesymau hyn:

  • Rwyt ti'n brifo dy hun neu rywun arall
  • Mae risg ddifrifol y byddi di’n brifo dy hun neu rywun arall

Byddi’n clywed hyn yn cael ei alw’n ‘ataliaeth’ neu ‘cael dy ffrwyno’.

Dim ond os nad oes dim byd arall wedi helpu i dy dawelu y dylai dy dîm gofal ddefnyddio ataliaeth. Y naill ffordd neu’r llall, dylent bob amser geisio siarad â thi yn gyntaf. Ond os nad oes ganddynt ddewis arall heblaw ataliaeth, rhaid iddynt:

  • Ei wneud am y cyfnod byrraf posibl
  • Ei wneud gyda’r grym lleiaf posibl
  • Dy drin â chymaint o barch â phosibl wrth iddo ddigwydd
  • Cadwch gofnod ysgrifenedig o’r hyn sydd wedi digwydd a’i ychwanegu at dy nodiadau

Ni ddylai dy dîm gofal fyth ddefnyddio ataliaeth fel cosb, neu gyda'r nod o dy frifo.

Yn ogystal ag ataliaeth gorfforol, efallai y bydd angen i dy dîm gofal wneud pethau eraill i dy gadw’n ddiogel. Gelwir y rhain yn ymyriadau cyfyngol.

Dan rai adrannau, efallai y bydd yn rhaid i’r heddlu hefyd ddefnyddio ataliaeth i ddod â thi i’r ysbyty. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein rhestr o secsiynu dan wahanol fathau o adrannau.

Rhoddodd un ysbyty flanced â phwysau i mi yn hytrach na dim ond fy ffrwyno, ac roeddwn i’n teimlo’n well ar ôl hynny. Roedden nhw’n dal i wneud hynny yn y dyfodol – Sarah

Hawliau os wyt yn cael dy secsiynu

Dim ond ar gyfer pobl sydd wedi cael eu secsiynu y mae’r wybodaeth hon.

Os ydyn ni wedi cael ein secsiynu, dylen ni ddal i fod â llawer o’r un hawliau â chleifion anffurfiol. Ond yn dibynnu ar ba adran rydyn ni wedi cael ein secsiynu oddi tani, bydd rhai o’r hawliau hyn yn newid rhywfaint, a byddwn hefyd yn cael rhai hawliau ychwanegol.

Mae gwybod beth yw dy hawliau yn bwysig iawn er mwyn i ti allu dweud wrth rywun os nad wyt ti’n cael beth ddylet ti ei gael.

Dy hawl i gael eiriolwr

Mae eiriolwyr yn ein helpu i siarad am y pethau sy’n bwysig i ni. Maen nhw’n annibynnol, sy’n golygu nad ydyn nhw’n gweithio i’r GIG, i gynghorau lleol nac i’r gwasanaethau cymdeithasol.

Os ydym wedi cael ein secsiynu yng Nghymru neu Loegr, mae gennym yr hawl i gael eiriolwr. Mae gan gleifion anffurfiol yng Nghymru hefyd yr hawl i gael eiriolwr.

Yn yr ysbyty, mae hwn fel arfer yn fath arbennig o eiriolwr a elwir yn Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (IMHA). I gael gwybod mwy, holwch eich tîm gofal am y gwasanaethau eiriolaeth ar eich ward.

Sut gall eiriolwyr fy helpu?

Rhagor o wybodaeth am eiriolaeth.

Gall eiriolwyr dy helpu i ddeall mwy, esbonio beth mae geiriau a thermau’n ei olygu, beth yw dy hawliau, a bod gen ti bob hawl i gwyno...Pan ges i fy secsiynu eto, roedd gen i eiriolwr ac roeddwn i’n teimlo eu bod nhw ar fy ochr i – Lucy

Dy hawl i berthynas agosaf

O dan adran 2, adran 3 neu CTO, mae gennym hawl i ‘berthynas agosaf’.

Fel arfer, rhiant, gofalwr neu warcheidwad fydd ein perthynas agosaf. Ond gallai hefyd fod yn frawd neu’n chwaer os ydyn nhw dros 18 oed. Neu gallai fod yn aelod arall o’r teulu, fel nain neu daid, modryb neu ewythr.

Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn nodi pwy fydd ein perthynas agosaf. Efallai y bydd yn teimlo’n annheg na allwn ddewis yr unigolyn hwn, ond fel arfer mae’n rhywun sy’n agos atom ni.

Dylai meddygon ddweud wrth ein perthynas agosaf os ydyn ni’n mynd i gael ein secsiynu. Gall ein perthynas agosaf hefyd:

Os nad wyt ti eisiau i feddygon rannu gwybodaeth am dy driniaeth a chymorth gyda dy berthynas agosaf, rho wybod i dy dîm gofal.

Roeddwn i eisiau bod allan o’r ysbyty. Ond mae rhoi’r holl gyfrifoldeb ar rieni yn faich. Mae fy mherthynas â fy nhad dan straen – Polly

Cofia: dan adran 3, mae gen ti nifer gyfyngedig o gyfleoedd i herio yn y Tribiwnlys Iechyd Meddwl. Gelli di herio dy secsiynu unwaith yn ystod y 6 mis cyntaf, unwaith yn yr estyniad 6 mis, ac yna unwaith bob blwyddyn.

Ond os bydd dy berthynas agosaf yn gofyn i dy secsiynu ddod i ben, ni fydd hyn yn cyfrif tuag at dy heriau dy hun yn y Tribiwnlys Iechyd Meddwl.

Mae dy berthynas agosaf yn gofyn i dy secsiynu ddod i ben yn fath gwahanol o gais.

I gael mwy o wybodaeth, siarada â dy eiriolwr neu gyfreithiwr.

Dy hawl i gael gwybodaeth

Dylai dy dîm gofal roi gwybodaeth i ti am dy secsiynu, sy’n glir ac yn hawdd i ti ei deall. Dylai ymdrin â’r canlynol:

  • O dan pa adran yr wyt ti wedi cael dy secsiynu a pham rwyt ti wedi cael dy secsiynu
  • Pryd y gellir rhoi triniaeth i ti
  • Sut gelli di herio'r secsiynu, sy’n golygu gofyn iddo ddod i ben
  • Beth yw dy hawliau
  • Sut mae cael cymorth gan eiriolwr

Dylai rhywun yn dy dîm gofal egluro’r wybodaeth i ti a rhoi copi ffisegol i ti, fel taflen. Gelli ofyn am y wybodaeth mewn iaith arall neu mewn Braille.

Dylet hefyd gael copi o dy ‘bapurau secsiynu’. Mae’r ddogfen hon yn egluro canlyniad dy asesiad ac yn nodi’r rhesymau pam mae angen i ti fynd i’r ysbyty.

Os nad wyt ti wedi cael unrhyw wybodaeth, gofynna i rywun yn dy dîm gofal neu eiriolwr dy helpu i gael gafael arni. Os wyt ti’n dal i fethu cael y wybodaeth, gallwch wneud cwyn.

Pan oeddwn yn yr ysbyty, darllenais y gwaith papur am adran 2 ond roeddwn yn rhy sâl i’w ddeall – Polly

Dy hawl i gael seibiant pan wyt wedi cael dy secsiynu

Dylet ddisgwyl treulio’r rhan fwyaf o dy amser ar y ward, ond dylet hefyd allu treulio peth amser i ffwrdd. Yn yr ysbyty, byddi di’n clywed hyn yn cael ei alw’n ‘cael seibiant’, neu ‘mynd am seibiant’.

Mae’n rhaid i dy glinigydd cyfrifol (RC) roi caniatâd i ti adael y ward. Efallai y byddi yn clywed hyn yn cael ei alw’n seibiant adran 17.

Cyn i ti gael caniatâd ar gyfer seibiant adran 17, bydd angen i dy RC benderfynu a yw’n ddiogel i ti fynd allan o’r ward.

Ar wahanol adegau yn ystod dy gyfnod secisynu, efallai y byddi'n profi dy hawl i gael seibiant mewn gwahanol ffyrdd:

  • Ar ddechrau dy gyfnod secsiynu, efallai na fyddi di’n cael unrhyw seibiant o gwbl.
  • Y tro cyntaf y bydd dy RC yn caniatáu i ti gael seibiant, efallai y bydd yn gadael i ti dreulio ychydig o amser i ffwrdd o’r ward.
  • Efallai y bydd angen i ti fynd am seibiant gydag aelod o staff neu gydag oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo.
  • Dros amser, dylai dy gyfnod seibiant gynyddu. Ar ryw adeg efallai y byddi’n gallu gadael y ward dros nos.

Gelli siarad â dy feddyg am dy seibiant, neu ofyn i eiriolwr dy helpu. Os bydd angen i ti adael ar frys, gofynna i rywun yn dy dîm gofal gysylltu â dy feddyg.

Roedd yn sioc eu bod wedi cael gwared â fy seibiant pan gefais fy secsiynu. Doeddwn i ddim yn meddwl y gallent wneud hynny.

Roedden nhw’n esbonio y gallai fod angen gohirio'r seibiant am gyfnod, yn dibynnu ar sut ydych chi.

Sut ydw i’n sefyll dros fy hawliau yn yr ysbyty?

Mae’r cyngor hwn ar gyfer cleifion anffurfiol a phobl sydd wedi cael eu secsiynu.

Weithiau, efallai y byddwn yn teimlo nad yw staff yr ysbyty yn:

  • Parchu ein hawliau
  • Ein trin yn deg
  • Rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnom

Yn gyntaf, dylet siarad ag aelod o dy dîm gofal ac esbonio sut rwyt ti’n teimlo.

Os nad wyt ti’n teimlo y gelli wneud hyn ar dy ben dy hun, gallet i ofyn i oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo neu eiriolwr am help. Gall eiriolwr wrando arnat, helpu i sicrhau bod dy lais yn cael ei glywed a sefyll dros dy hawliau.

Maen nhw’n darllen llawer o wybodaeth i mi. Dydw i ddim yn gwybod a wnes i ei fethu, ond doedd gen i ddim syniad am yr eiriolwr. Roeddwn i mor sâl, doeddwn i ddim yn gallu prosesu’r wybodaeth – Polly

Eiriolwyr yn Lloegr

Yn Lloegr, dim ond pobl sydd wedi cael eu secsiynu sydd â hawl i gael Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (IMHA). Ond efallai y bydd gan rai wardiau eiriolwyr y gall cleifion anffurfiol siarad â nhw hefyd.

Os nad wyt ti’n siŵr a oes eiriolwr y medri di siarad ag ef, gofynna i rywun yn dy dîm gofal.

Eiriolwyr yng Nghymru

Yng Nghymru, mae gan bawb ar y ward yr hawl i gael eiriolwr, a elwir hefyd yn IMHA. Mae hyn yn cynnwys cleifion anffurfiol a phobl sydd wedi cael eu secsiynu.

Beth ydy eiriolaeth?

Rhagor o wybodaeth am sut y gallai eiriolwyr dy helpu.

Yn ystod fy wythnos gyntaf ar y ward, fe wnes i gwrdd ag eiriolwr a wnaeth egluro ei rôl i mi. Roedd yr eiriolwr hwn yn ymweld bob wythnos os oedd unrhyw un eisiau siarad â hi.

Gwneud cwyn

Os wyt ti’n teimlo bod staff wedi dy drin yn annheg, neu os wyt ti’n teimlo’n anhapus am rywbeth sydd wedi digwydd ar y ward, gelli wneud cwyn.

Gelli ofyn i'r ysbyty sut i wneud hyn - dylent ddweud wrthyt ble i wneud cwyn. Ceisia wneud cwyn cyn gynted â phosibl. Fel arfer, mae gen ti 12 mis o’r adeg pan ddigwyddodd rhywbeth neu pan ddechreuodd y broblem am y tro cyntaf.

Os digwyddodd rhywbeth tra’r oeddet wedi cael dy secsiynu neu ar CTO, efallai y gelli gwyno wrth reoleiddiwr. I ddysgu beth mae hyn yn ei olygu, dos i’n gwybodaeth am gwyno am yr hyn sydd wedi digwydd yn yr ysbyty.

Mwy am gwynion a hawliau

Yn ogystal â phan fyddwn ni yn yr ysbyty, gallwn hefyd wneud cwynion a chael hawliau sy’n gysylltiedig â phethau eraill yn ein bywydau.

Cer i'r hyb gwybodaeth am hawliau

Cer i'r canllawiau ar gwynion

Edrycha ar y cyngor ar gyfer cwyno

Gall gwneud cwyn fod yn broses anodd, yn enwedig os nad ydy ni’n teimlo’n dda. Efallai y byddi am ofyn i oedolyn dibynadwy neu eiriolwr dy helpu.

Rhannodd y bobl ifanc y buom yn siarad â nhw rai awgrymiadau ynghylch gwneud cwynion:

Mae’n rhaid i ti barhau i ymladd. Ti yw’r person gorau i frwydro drosta ti dy hun. Pan fyddi'n dechrau cael dy gryfder yn ôl, defnyddia dy lais gymaint ag y medri – Martha

Dylai pawb gael eu trin â charedigrwydd a thosturi. Os nad yw hynny yn digwydd, mae riportio hynny o fewn dy hawliau – Lucy

Mae pob person ifanc yn haeddu cael dweud ei ddweud. Os oes unrhyw broblemau, mae ganddyn nhw bob hawl i fynegi hyn, i roi gwybod am unrhyw beth sydd ddim yn iawn. Dim ond oherwydd dy fod yn sâl, dydy hynny ddim yn golygu bod dy lais yn golygu llai – Lucy

Cyhoeddwyd: Rhagfyr 2024
Adolygiad nesaf wedi'i gynllunio: Rhagfyr 2027

Gwnaethom siarad â phobl ifanc a gytunodd i roi dyfyniadau ar gyfer y dudalen hon. Nid yw eu profiadau yn gysylltiedig â'r bobl a ddangosir yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalennau caniatâd a thrwyddedu.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig