Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cefnogi llesiant eich arddegwr yn ystod argyfwng y coronafeirws

Gwybodaeth i rieni a gofalwyr pobl ifanc rhwng 11 a 18 sy'n poeni am lesiant eu plentyn, ac sydd eisiau gwybod sut i'w cefnogi.

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Cefnogi llesiant eich arddegwr yn ystod argyfwng y coronafeirws

Efallai eich bod yn poeni am eich plentyn yn ystod argyfwng y coronafeirws, ac eisiau gwybod mwy ynghylch sut i helpu gofalu am eu llesiant a'u hiechyd meddwl.

Mae'r dudalen hon yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth ynghylch sut i siarad â'ch arddegwr a chefnogi gwahanol agweddau ar eu llesiant. Am wybodaeth ynghylch gofalu am eich llesiant eich hun, ewch i'n hwb gwybodaeth ar y coronafeirws.

Rydyn ni yma i roi cefnogaeth i chi ac i'ch helpu chi a'ch teulu i ymdopi yn ystod y cyfnod hwn.

Mae gwybodaeth am y canlynol ar y dudalen hon:

Sut i siarad gyda fy arddegwr am y coronafeirws
Sut i gefnogi llesiant fy arddegwr
Sut i helpu fy arddegwr i aros yn ddiogel ar lein
Sut i gefnogi fy arddegwr gyda newidiadau i driniaeth neu gefnogaeth iechyd meddwl
Sut i gefnogi fy arddegwr gyda newidiadau i'r ysgol neu goleg
Sut i gefnogi fy arddegwr os ydyn ni ar wahân
Ble i gael cymorth neu gefnogaeth bellach

Sut i siarad gyda fy arddegwr am y coronafeirws

Mae'n bwysig mai eich arddegwr sy'n arwain y sgwrs – mae'n bosib y byddan nhw eisoes wedi clywed cryn dipyn am y coronafeirws gan eu ffrindiau neu ar lein, a byddan nhw'n gwybod am beth maen nhw eisiau siarad neu am beth nad ydyn nhw'n sicr iawn.

Cyn i chi gael sgwrs gyda nhw, dyma ambell bwynt i ystyried:

Efallai na fydd yr hyn sy'n swnio'n iawn i chi yn gweithio i'ch arddegwr. Gallwch chi wneud y canlynol:

  • Dewch o hyd i ffordd o gyfathrebu sy'n teimlo'n iawn i'r ddau ohonoch chi. Gall hyn fod ar ffurf sgwrs wyneb yn wyneb, sgwrsio wrth wneud gweithgaredd gyda'ch gilydd, neu ar ffurf negeseuon testun neu lythyrau.
  • Paratowch beth hoffech chi ei ddweud, neu beth rydych chi'n credu bydd eich arddegwr eisiau trafod.
  • Sicrhewch eu bod yn gwybod mai nhw yw eich ffocws. Ar gyfer hynny, gall eistedd mewn man tawel a chyfforddus fod o help – lle nad yw'n debygol y bydd rhywun arall na'ch ffôn yn tarfu arnoch.

Pan fyddwch chi'ch dau yn barod i siarad, ceisiwch wneud y canlynol:

  • Byddwch yn onest – esboniwch pam fod gofyn iddyn nhw wneud rhywbeth a sut y bydd hyn yn helpu. Peidiwch â bod ofn esbonio realiti'r sefyllfa os ydych chi'n credu y bydd yn eu helpu i ddeall beth mae gofyn iddyn nhw ei wneud.
  • Byddwch yn amyneddgar – rhowch amser iddyn nhw ystyried pethau a dod nôl i ofyn cwestiynau i chi yn hwyrach ymlaen. Efallai na fyddan nhw'n gwybod beth i ddweud yn syth.
  • Cymerwch nhw o ddifri – mae'r hyn maen nhw'n ei feddwl ac yn ei deimlo yn bwysig, a rhaid parchu hynny.
  • Byddwch yn gefnogol – mae'n adeg anodd i bobl ifanc. Mae'n bosib eu bod yn gweld eisiau eu ffrindiau a'u cariadon, neu'n poeni am y dyfodol.

Os oes mwy nag un arddegwr gyda chi, siaradwch gyda nhw ar wahân er mwyn addasu'r sgwrs i gyd-fynd a'u hanghenion.

Wrth sgwrsio, byddwch yn cael syniad faint o wybodaeth sydd angen arnyn nhw, a'r lefel o fanylion sydd angen i chi ei gynnig heb eu gwneud nhw'n bryderus.

Efallai bydd cwestiynau gyda nhw hefyd. Er enghraifft, efallai byddan nhw eisiau i chi esbonio beth yw'r coronafeirws, sut i ddilyn y canllawiau ar ymbellhau cymdeithasol a golchi dwylo, neu sicrhau bod pobl sy'n agos atoch yn ddiogel.

Atebwch eu cwestiynau cystal ag y gallwch chi, ac os nad ydych chi'n gwybod sut i ateb cwestiwn gallwch ddweud hynny, a chynnig chwilio am yr ateb gyda'ch gilydd.  

Gallwch sicrhau bod eich gwybodaeth yn dod o'r GIG a Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU. Neu gallwch gynnig gwylio ffynhonnell newyddion diduedd gyda'ch gilydd, fel Newyddion S4C neu'r BBC.

Bydd hyn yn eich helpu i osgoi gwybodaeth anghywir neu newyddion ffug sy'n bresennol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Efallai fydd eich arddegwr yn teimlo cymysgedd o emosiynau. Efallai eu bod yn teimlo'n bryderus, yn drist, yn ofnus, yn grac neu'n ddryslyd. Efallai eu bod nhw hefyd yn teimlo'n ansicr neu'n fflat.

Sut bynnag maen nhw'n teimlo, mae'n bwysig cydnabod eu hemosiynau. Dylech hefyd gymryd amser i wneud y canlynol:

  • Gofynnwch beth maen nhw wedi clywed am y coronafeirws a'r angen i aros gartref, gan wahaniaethu rhwng ffeithiau a ffuglen.
  • Darganfyddwch beth yw eu barn a'u pryderon, a gweithiwch gyda'ch gilydd i ffeindio ffyrdd iddyn nhw ymdopi.
  • Tawelwch eu meddwl os ydy eu pryderon yn annhebygol iawn o ddigwydd, nid trwy ddweud 'paid â phoeni' ond gyda ffeithiau.
  • Atgoffwch nhw nad yw pethau fel hyn yn digwydd yn aml, ac nad yw'n mynd i bara am byth.

Efallai eu bod nhw'n derbyn gwybodaeth trwy gymysgedd o sianelau newyddion traddodiadol, gwefannau, y cyfryngau cymdeithasol a'u ffrindiau.

Sicrhewch eu bod nhw'n teimlo'n iawn gyda faint maen nhw'n ei weld, a gwybod beth a phwy i ymddiried ynddyn nhw. Gall diweddariadau cyson ar y teledu ac ar lein fynd yn ormod a chodi ofn ar rywun, yn enwedig os nad ydyn nhw'n dod o ffynonellau dibynadwy neu'n mynegi barn eithafol.

Ceisiwch beidio eu gorfodi i ddarllen mwy neu lai, na rhwystro mynediad i wefannau penodol. Os ydych chi'n poeni, gallwch ofyn a ydyn nhw'n credu y byddai newid eu harferion o help, a thrafod gosod amseroedd penodol i wylio'r cyfryngau neu gael diwrnod i ffwrdd ohonyn nhw'n gyfan gwbl.

Mae eu hatgoffa eich bod yn eu caru a'u cefnogi yn gwneud iddyn nhw deimlo'n ddiogel, ac i wybod bod rhywun yno os ydyn nhw eisiau siarad neu'n teimlo'n sâl.

Sut i gefnogi llesiant fy arddegwr  

Efallai bydd eich arddegwr yn teimlo cymysgedd o emosiynau ynghylch argyfwng y coronafeirws, a gall hyn beri pryder neu straen i chi.

Rydyn ni'n byw trwy gyfnod o newid ac ansicrwydd, felly mae'n naturiol teimlo'n drist neu'n ansicr am yr hyn y dylech ei wneud.

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun ac mae nifer o bethau gallwch drio er mwyn cefnogi eich arddegwr:

Mae eu bywydau wedi newid cryn dipyn dros y mis diwethaf – mae arholiadau wedi cael eu gohirio, maen nhw'n bell o'u ffrindiau a'u cariadon, ac efallai eu bod nhw'n teimlo'n anniogel ac yn poeni eu bod yn mynd i ddal y coronafeirws.

Gall y canlynol fod o gymorth:

  • Anogwch nhw i wneud beth y gallan nhw i ofalu am eu hunain ac am bobl eraill.
  • Ystyriwch feddwlgarwch neu gadw dyddiadur fel ffordd iddyn nhw gael prosesu eu teimladau.
  • Rhowch gyfle iddyn nhw gyfrannu wrth sôn am ofalu am berthnasau hŷn a siopa am gynnyrch angenrheidiol – fel beth allwch brynu neu beidio, ac os gallan nhw helpu.
  • Anogwch nhw i ddod o hyd i ffyrdd o ymarfer corff yn ddiogel, naill ai ar eu pen eu hunain neu fel teulu, er budd eu llesiant corfforol a meddyliol.

Yn ystod y cyfnod hwn, gallech annog eich arddegwr i feddwl sut hoffen nhw gyfrannu at fywyd y cartref neu'r gymdeithas ehangach.

Os ydyn nhw'n dda gyda thechnoleg, gallan nhw helpu eu teulu i addasu i weithio a chymdeithasu o adref.

Bydd llawer o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael i'ch arddegwr, fel bod yn ffrind digidol neu wirfoddoli mewn banc bwyd. Gallwch ddod o hyd i'ch banc bwyd agosaf ar wefan y Trussell Trust.

Gall cynllunio trefn newydd i'ch diwrnod yn ystod y cyfnod hwn o newid helpu eich arddegwr i deimlo'n fwy sicr.

Lle bo hynny'n bosib, gall eich trefn newydd gynnwys gweithgareddau roeddech chi'n eu gwneud cyn argyfwng y coronafeirws. Er enghraifft, bwyta pryd o fwyd gyda'ch gilydd, gwylio rhaglen deledu yn y nos neu fynd am dro ar ôl cinio.

Gall aros adref wneud eich arddegwr deimlo eu bod wedi colli eu hannibyniaeth, a bydd hyn yn anodd iddyn nhw.

Ceisiwch ddod o hyd i ffyrdd o dreulio amser gyda'ch gilydd heb fod ar ben eich gilydd. Er enghraifft, gallwch chi eistedd gyda'ch gilydd wrth i chi'ch dau wneud gweithgareddau gwahanol.

Os yw eich arddegwr yn mynd i'r ysgol neu goleg, maen nhw siŵr o fod yn gyfarwydd â bod o amgylch pobl ifanc eraill am nifer o oriau bob dydd, ac efallai eu bod yn gweld eisiau'r fath awyrgylch.

Yn ystod y cyfnod hwn, dylech annog eich arddegwr i gysylltu â ffrindiau yn ddigidol. Gallwch hefyd geisio bod yn llai llym gyda'u defnydd o ffôn symudol a'r cyfryngau cymdeithasol.

Os oes gennych bryderon am ddefnydd ffôn symudol eich arddegwr, darllenwch ein gwybodaeth ar aros yn ddiogel ar lein.

Yn anffodus, yn ystod y cyfnod hwn efallai bydd eich arddegwr yn cael profedigaeth. Gall hyn fod o ganlyniad i'r coronafeirws neu beidio.

Mae argyfwng y coronafeirws hefyd yn golygu bod cyfyngiadau ar y ffordd rydyn ni'n galaru. Er enghraifft, efallai na fyddan nhw'n gallu mynychu'r angladd yn bersonol.

Am ragor o wybodaeth ynghylch cefnogi eich arddegwr gyda galar a phrofedigaeth, ewch i wefannau The Irish Hospice Foundation a Hope Again. 

Dydyn ni ddim yn gwybod am ba mor hir bydd argyfwng y coronafeirws yn effeithio ar ein bywydau, ond rydyn ni'n gwybod na fydd yn para am byth.

Sicrhewch eich bod yn tawelu meddwl eich arddegwr a'u hannog nhw i feddwl am y dyfodol – bydd cynllunio gweithgareddau i'w gwneud pan fydd hyn drosodd yn rhoi rhywbeth iddynt gael edrych ymlaen ato.

Bydd gan rai pobl ifanc gyfrifoldebau gofalu am oedolion, brodyr neu chwiorydd, neu aelodau eraill o'r teulu. Efallai y byddan nhw'n teimlo'n bryderus am beth fydd yn digwydd os yw'r person maen nhw'n gofalu amdano yn mynd yn sâl, neu os ydyn nhw'n mynd yn sâl ac yn gorfod hunan-ynysu.

I helpu rheoli eu pryder, mae'n syniad da gwneud cynllun ynghylch beth fydd yn digwydd os yw'r person maen nhw'n gofalu amdano yn mynd yn sâl, neu os ydych chi'n mynd yn sâl.  Gall y cynllun gynnwys manylion cyswllt unigolion a sefydliadau sy'n gallu cynnig cefnogaeth i'ch arddegwr, fel Carers UKCarers Trust a YACbook.

Sut i helpu fy arddegwr i aros yn ddiogel ar lein

Os ydych chi'n poeni am eich arddegwr yn aros yn ddiogel ar lein, dyma ambell beth i'w ystyried:

Gall annog eich arddegwr i gydbwyso'r amser maen nhw'n ei dreulio ar eu ffôn gyda gweithgareddau eraill fod yn anodd, yn enwedig wrth iddyn nhw dreulio llawer o amser gartref.

Gallai gosod rheolau eich hun gydag amser gyda sgriniau, fel ystyried pa mor aml rydych chi'n edrych ar y newyddion neu ar y cyfryngau cymdeithasol, eich helpu chi wrth annog agwedd iach at sgriniau.

Ceisiwch roi cyfle i'ch arddegwr leisio barn ynghylch treulio amser gyda sgriniau. Er enghraifft, gallwch ofyn sut maen nhw'n credu bod treulio llawer o amser gyda sgrin yn effeithio ar eu llesiant.


Gallwch hefyd chwilio am apiau sy'n cynorthwyo gyda sefydlu trefn i'ch diwrnod a gweithgareddau cynhyrchiol, fel dysgu iaith newydd.

Gall y cyfryngau cymdeithasol helpu eich arddegwr i gadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau neu gariad, ond gall hefyd eu hachosi i deimlo'n bryderus neu'n drist.

Os yw'r cyfryngau cymdeithasol yn gwneud iddyn nhw deimlo fel hyn, gallech awgrymu eu bod nhw'n cymryd egwyl neu gyfyngu ar eu defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol.

Gallech hefyd awgrymu eu bod yn newid yr hyn maen nhw'n edrych arno. Er enghraifft, gallan nhw benderfynu edrych ar grwpiau neu dudalennau penodol ond peidio â sgrolio trwy linellau amser neu ffrydiau newyddion.

Rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n anodd siarad am ddiogelwch ar-lein gyda'ch arddegwr.

Mae gan yr NSPCC lawer o wybodaeth a chyngor ynghylch siarad â phobl ifanc am ddiogelwch ar lein, i'ch cefnogi chi i gael sgyrsiau gyda'ch arddegwr. 

Sut i gefnogi fy arddegwr gyda newidiadau i driniaeth neu gefnogaeth iechyd meddwl

Gall fod yn adeg anodd iawn i'ch arddegwr os oes problem iechyd meddwl gyda nhw yn barod a bod eu cefnogaeth yn newid.

Dyma wybodaeth all fod o gymorth:

Os yw eich arddegwr yn dechrau arddangos ymddygiad sy'n peri pryder, efallai bydd angen cefnogaeth newydd arnyn nhw.

Gallwch drafod hyn gyda'ch arddegwr, a gallwch ofyn i'r tîm iechyd meddwl neu'r meddyg teulu os oes modd iddyn nhw gael gwasanaeth cwnsela neu gefnogaeth arall.

Gallwch ddangos ein gwybodaeth ar ddod o hyd i gefnogaeth i arddegwyr all fod angen cefnogaeth i chwilio am help am y tro cyntaf

Gallwch gysylltu â'r gwasanaeth roedd eich arddegwr yn mynd i'w weld, mynegi eich pryderon, a gofyn sut gall eich arddegwr fynychu apwyntiadau mewn ffordd wahanol, fel dros y ffôn neu ar lein.

Gallwch drafod sut y bydd eu triniaeth yn cael ei heffeithio os ydyn nhw'n dal y coronafeirws ac yn gorfod hunan-ynysu.

Gallwch roi cynnig ar y canlynol:

  • Cysylltwch â'u meddyg teulu a gofyn am gyngor
  • Cysylltwch â Llinell Gymorth YoungMinds am gyngor neu gwblhau eu ffurflen e-bost ar-lein – dylid nodi bod galw uchel am y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd ac efallai bydd rhaid aros cyn cael ymateb
  • Siaradwch â'ch arddegwr i weld sut y gallwch greu cynllun cefnogaeth dros-dro gyda'ch gilydd yn y cartref.

Gallwch ystyried archebu presgripsiwn rheolaidd eich arddegwr ar lein, dros ap, dros y ffôn – naill ai trwy eu meddygfa neu'n uniongyrchol drwy fferyllydd cofrestredig.

Os oes angen i chi gyfyngu ar y nifer o bobl sy'n dod i gyswllt â nhw ar y tu allan, neu os oes angen iddyn nhw hunan-ynysu, gallwch drafod â'u fferyllydd ynghylch gwasanaethau cludo, neu drefnu ei gasglu drostyn nhw.

Mae fy arddegwr yn mynd trwy argyfwng iechyd meddwl

Os oes gweithiwr cyswllt iechyd meddwl gan eich arddegwr, neu os ydyn nhw wedi derbyn rhif cyswllt argyfwng arall, cysylltwch â nhw. Dilynwch gynllun gofal argyfwng eich arddegwr, os oes un gyda nhw.

Dywedwch wrth eich arddegwr eu bod yn gallu cysylltu â gwasanaeth  Crisis Messenger YoungMind gan anfon neges 'YM' i 85258, neu wasanaeth cefnogaeth cyfrinachol Meic, dros y ffôn, e-bost, neges destun a negeseuo uniongyrchol, ar unrhyw adeg.

Os yw eich arddegwr wedi cael niwed, neu os ydych chi'n teimlo eu bod yn achosi perygl uniongyrchol i'w hunain neu i bobl eraill, mae hyn yn argyfwng, a dylech ffonio 999.

Sut i gefnogi fy arddegwr gyda newidiadau i'r ysgol neu goleg

Mae'r ysgol neu'r coleg yn chwarae rôl bwysig ym mywydau nifer o arddegwyr, a gall y newidiadau gael effaith sylweddol ar y ffordd maen nhw'n teimlo.

Dyma gyngor ar sut i gefnogi eich arddegwr trwy'r pryderon gwahanol gall y newidiadau hyn eu hachosi:

Bydd athrawon eich arddegwr yn pennu 'graddau disgwyliedig' a fydd, yn eu barn nhw, yn cynrychioli'r hyn roedd disgwyl iddyn nhw ei gyflawni. Os ydyn nhw'n anhapus neu'n bryderus am hyn, gallwch chi eu hannog nhw i siarad â Swyddog Arholiadau'r ysgol, Cwnselydd neu Gaplan yr ysgol. Efallai bydd modd iddyn nhw ailsefyll arholiadau yn y dyfodol.

Efallai eu bod nhw'n teimlo bod y gwaith adolygu ac astudio wedi bod yn dda i ddim, neu'n colli diddordeb mewn astudio yn y cartref. Gallwch roi amser iddyn nhw fynegi eu barn, a'u hatgoffa nhw mai dim ond dros dro fydd hyn yn para – bydd eu haddysg a'u gyrfa yn parhau ar ôl i'r cyfnod ynysu ddod i ben.

Os ydy'ch arddegwr yn gweld eisiau awyrgylch yr ysgol, awgrymwch ffyrdd iddynt gael cysylltu ag eraill. Er enghraifft, gallant gynnal sesiynau astudio ar-lein gyda'u ffrindiau neu e-bostio athrawon i dderbyn cefnogaeth.

Gallech hefyd ofyn os oes rhywbeth y gallwch chi ei wneud i'w helpu nhw.    

Efallai eu bod nhw'n teimlo'n drist eu bod nhw'n mynd i golli'r prom, diwrnod gadael neu seremoni raddio. Dylech geisio cydnabod eu bod yn teimlo colled, a dod o hyd i ffyrdd newydd iddyn nhw gael dathlu'r achlysur.

Gallwch hefyd sôn am y syniad mai dim ond cael eu gohirio tan ddyddiad yn y dyfodol mae'r digwyddiadau hyn. Gallwch hefyd awgrymu eu bod yn creu blwyddlyfr digidol i'w cymheiriaid neu ddathlu parti gadael ar lein.

Os oes rhaid i chi aros yn y gwaith, neu os nad oes unrhyw un ar gael i ofalu am eich arddegwr yn ystod y dydd, a bod gofyn iddyn nhw aros yn yr ysgol, gall fod yn adeg anodd iddyn nhw. Byddan nhw wedi'u gwahanu oddi wrth eu ffrindiau, mewn ystafelloedd dosbarth gwag, yn dilyn amserlenni cwbl wahanol ac yn bosib yn teimlo bod hyn yn annheg iawn. Mae'n bosib y byddan nhw hefyd yn poeni am eich iechyd chi wrth i chi weithio.

Yn y sefyllfa hon, gallwch wneud y canlynol:

  • Gwrandewch ar sut maen nhw'n teimlo a pheidiwch â'u hanwybyddu.
  • Dywedwch wrthyn nhw eich bod chi'n gofalu am eich iechyd yn y gwaith ac yn y cartref.
  • Rhannwch unrhyw brofiadau cadarnhaol rydych chi'n eu cael yn y gwaith.
  • Gofynnwch iddyn nhw sut brofiad yw bod yn yr ysgol, ac os oes rhywbeth y gallwch chi ei wneud gyda'ch gilydd i wneud y sefyllfa'n well iddyn nhw.

Gall y cyfnod hwn fod yn un ansicr iawn i'ch arddegwr – mae'n bosib bod eu hysgol neu goleg ar gau, efallai eu bod yn mynychu ysgol wahanol os ydych chi'n weithiwr rheng flaen, efallai nad ydynt yn derbyn gofal ar hyn o bryd, efallai bydd mwy neu lai o bobl yn y cartref, a bod trefn eu diwrnod yn wahanol.

Mae'n bosib eu bod yn cael anhawster deall pam fod rhaid dilyn rheolau newydd, i gyfathrebu eu teimladau, neu ddweud os ydyn nhw'n teimlo'n anhwylus. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd angen cefnogaeth a chysur ychwanegol arnyn nhw, a bydd angen i chi dawelu eu meddwl.  

Mae'r canlynol yn darparu cyngor a chefnogaeth:

  • Mae gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wybodaeth bellach ar sut i gefnogi eich arddegwr yn ystod y cyfnod hwn.
  • Mae gan Mencap hwb ar-lein i rieni a gofalwyr pobl ifanc ag anawsterau dysgu ac awtistiaeth.
  • Mae gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol gyngor i deuluoedd yn ystod argyfwng y coronafeirws, a Llinell Gymorth Awtistiaeth ar 0808 800 4104 am gyngor cyffredinol.
  • Os oes gan eich arddegwr Gydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (SENCO) yn eu hysgol neu goleg, gallwch geisio cysylltu â nhw, neu eich awdurdod lleol, ynghylch sut i barhau gyda'u cefnogaeth wrth iddyn nhw gartref.
  • Siaradwch gyda'u hysgol neu goleg os nad ydych chi wedi clywed ganddynt, holwch ynghylch dysgu digidol a pha dechnoleg sydd angen ar eich arddegwr. Mae'n bosib y byddan nhw'n gallu darparu taflenni gwaith a dolenni cyswllt i gyflwyno'r gwaith ar lein.
  • Chwiliwch am adnoddau ar-lein y gallan nhw eu defnyddio, fel Twinkl hwb adnoddau astudio ar-lein sy'n cynnwys CA3 (11-14 oed) ac adnoddau astudio'r BBC i arddegwyr oed 11-18 (mae nifer o'r tudalennau ar gael yn Gymraeg). I fyfyrwyr hŷn, mae gan FutureLearn gyrsiau ar-lein sy'n rhad ac am ddim ar amrywiaeth o bynciau.
  • Defnyddiwch ffynonellau gwahanol – os nad oes addysgu digidol ar gael i'ch arddegwr, anogwch eich arddegwr i ddewis llyfrau neu bodlediadau i'w defnyddio yn ystod eu hamser i ffwrdd o'r ysgol neu goleg, a meddyliwch am ffyrdd eraill o aros yn weithgar a bod yn greadigol.
  • Chwiliwch drwy wefan eich llyfrgell leol am weithgareddau neu adnoddau ar-lein y gallwch eu defnyddio.

Cofiwch gynnwys amser egwyl, cinio ac ymarfer corff.

Heblaw am bethau fel gemau bwrdd traddodiadol, noson ffilm a phobi torth fanana, dyma syniadau eraill i chi gael treulio amser gyda'ch arddegwr.

  • Mae gan y Scowtiaid gasgliad o weithgareddau dan do ac i'r ardd.
  • Mae hwb o adnoddau ar-lein gan Girlguiding hefyd, yn llawn gweithgareddau dan do i deuluoedd a phobl ifanc.
  • Mae gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol amrywiaeth o adnoddau o weithgareddau dan do i deuluoedd.

Sut i gefnogi fy arddegwr os ydyn ni ar wahân 

Yn anffodus, efallai bydd cyfnodau lle y byddwch chi a'ch arddegwr ar wahân yn ystod argyfwng y coronafeirws.  Yn ystod y cyfnodau hyn, ceisiwch ddod o hyd i ffyrdd o gadw mewn cysylltiad. Gall hyn fod dros y ffôn neu dros alwadau fideo.

Dyma wybodaeth all fod o gymorth:

Mae canllawiau cyfredol y llywodraeth yn nodi y gall plant o dan 18 oed symud rhwng cartrefi eu rhieni lle nad ydynt yn byw yn yr un cartref.

Mae gan CAFCASS wybodaeth ynghylch sut i sicrhau bod gofalu am blant ar y cyd yn gweithio yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Os ydych chi'n byw mewn cartref rhiant neu ofalwr sengl, mae'n syniad da gwneud cynllun gyda'ch arddegwr am beth fydd yn digwydd os ydych chi'n mynd yn sâl ac yn gorfod hunan-ynysu. Yn yr un modd, os ydych chi'n byw gyda phartner a'ch bod chi'ch dau yn mynd yn sâl, efallai bydd rhaid i'ch arddegwr gymryd gofal ohonoch.

Yn eich cynllun, gallwch gynnwys manylion pobl eraill neu sefydliadau all fod o gymorth os ydych chi'n mynd yn sâl. Er enghraifft, gall ffrindiau, teulu, neu gymdogion helpu gollwng bwyd neu foddion gyda chi.

Gall cynllunio ymlaen llaw helpu eich arddegwr i beidio â phryderu.

Os yw eich arddegwr ar ward i gleifion mewnol mewn uned iechyd meddwl, efallai eich bod yn poeni ynghylch sut y byddwch yn gallu gweld eich gilydd yn ystod y cyfnod hwn.

Os oes rhaid i chi aros adref, gofynnwch i'r staff am y polisi ynghylch defnydd o ffonau symudol. Gall hyn fod wedi newid o achos argyfwng y coronafeirws. Gallwch hefyd ofyn i'r uned os gallwch chi gysylltu â thîm iechyd meddwl eich arddegwr ar ffurf ddigidol.

Os oes rhaid i chi aros adref oherwydd eich bod chi'n hunan-ynysu, gall hyn atal eich arddegwr rhag cael dod adref. Mae'n syniad da i siarad gyda'ch arddegwr ynghylch beth all ddigwydd yn y sefyllfa hon.

Mae hefyd yn syniad da i siarad â thîm iechyd meddwl ynghylch beth fydd yn digwydd i'ch arddegwr os ydyn nhw'n cael diagnosis o'r coronafeirws, er bod hyn yn annhebygol.

stay at home because you are self-isolating, this could prevent your teen coming home on leave. It's a good idea to talk to your teen about what might happen in this situation.

It's also a good idea to talk to your teen's mental health team about what will happen to your teen if, in the unlikely situation, they are diagnosed with coronavirus.

Os nad yw eich cartref yn ddiogel

Os ydych chi'n byw gyda rhywun sy'n eich camdrin chi, eich arddegwr neu rywun arall yn eich cartref, neu os ydych chi'n meddwl mai dyna eich sefyllfa, dylech sicrhau eich bod chi'n cadw mor ddiogel â phosib.

Dyma wybodaeth all fod o gymorth:

  • Mae Women's Aid yn darparu cyngor diogelwch i fenywod sydd wedi goroesi camdriniaeth ac i bobl ifanc yn ystod y coronafeirws, yn ogystal â Refuge, hyd yn oed os nad ydych chi'n siŵr os ydych chi'n cael eich camdrin.
  • Mae gan Survivors UK linell gymorth i'r rheini sy'n ystyried eu hun i fod yn ddynion o bob oed, trwy neges destun, Whatsapp neu negeseuo ar-lein.
  • Mae'r llinell gymorth National Domestic Abuse Helpline ar gael ar 0808 2000 247, i ateb pob ymholiad, 24 awr y dydd.
  • Gall eich arddegwr hefyd gysylltu â'r elusennau hyn ar unrhyw adeg, yn ogystal â The Hideout, sy'n gweithio'n uniongyrchol â phobl ifanc.    


Os ydych chi neu eich arddegwr mewn perygl uniongyrchol, galwch 999.
Os ydych chi'n poeni bod eich arddegwr mewn perygl, gallwch siarad â thîm diogelu eich cyngor.

Ble i gael cymorth neu gefnogaeth bellach

  • Mae Llinell Wybodaeth Rhieni YoungMinds (0808 802 5544) ar gael dros y ffôn a dros e-bost os ydych chi eisiau cyngor am eich arddegwr.
  • Gall Llinell Wybodaeth Mind (0300 123 3393) gynnig gwybodaeth a chefnogaeth am broblemau iechyd meddwl ac opsiynau triniaeth, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
  • Mae gan Gomisiynydd Plant Cymru hwb ar gyfer teuluoedd am y coronafeirws, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
  • Mae Pooky Knightsmith yn siaradwr proffesiynol ac yn awdur ar iechyd meddwl pobl ifanc. Mae ei fideos yn cynnig cyngor a chefnogaeth i deuluoedd yn ystod argyfwng y coronafeirws.
  • Mae CAFCASS yn cynnig gwybodaeth ar fod yn rhieni ar y cyd a threfniadau gyda phlant.
  • Mae'r NSPCC yn cynnig cymorth gyda diogelu plant. Os ydych chi'n poeni am blentyn, gallwch gysylltu â nhw ar unrhyw adeg.

Diweddarwyd y dudalen hon ar 20 Ebrill 2020. 

  • Mae cynnwys y dudalen yn adlewyrchu'r cyngor gorau sydd gennym ar hyn o bryd. Byddwn yn ei ddiweddaru yn ôl yr angen, yn enwedig os oes newidiadau i arweiniad ar iechyd cyhoeddus.
  • Os ydych chi'n ail-ddefnyddio'r cynnwys hwn rhywle arall, rhannwch y ddolen i'r dudalen yn uniongyrchol yn hytrach na dyfynnu neu roi crynodeb o'r wybodaeth, er mwy osgoi rhannu gwybodaeth sydd allan o ddyddiad.
  • Rydyn ni'n gwerthfawrogi unrhyw adborth ar yr hyn rydyn ni'n ei amlinellu yma, neu unrhyw beth hoffech chi i ni ei gynnwys. I adael sylwadau, cliciwch y bawd i fyny / i lawr uchod.
arrow_upwardYn ôl i'r brig