Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Galwch ein llinell wybodaeth gyfrinachol ar 0300 123 3393

Wedi bod yn poeni ers tro am y ffordd rydych chi'n teimlo? Peidiwch ag aros i ofyn am help - rydyn ni yma i chi.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Galwch ein llinell wybodaeth gyfrinachol ar 0300 123 3393

Anfonwch neges destun dienw atom ar 86463

I gael sgwrs, galwch ni o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 6pm.

Siaradwch gyda ni, yn gyfrinachol, i gael gwybodaeth am iechyd meddwl y gallwch ymddiried ynddi.

Holwch am y canlynol:

  • problemau iechyd meddwl
  • ble i gael help yn lleol
  • opsiynau triniaeth
  • gwasanaethau eiriolaeth

Note: We do not provide information on welfare benefits, housing or clinical negligence.

 

"Ffoniais i pan roeddwn i'n isel iawn, ac rydw i bellach yn teimlo'n fwy hyderus yn delio gyda fy mhroblemau a'r sefyllfa yn gyffredinol."

Ynglŷn â'n llinellau wybodaeth

Mae llinell wybodaeth Mind yn wasanaeth cyfrinachol. Rydyn ni eisiau i chi deimlo'n sâff pan fyddwch chi'n siarad â ni. Fyddwn ni ddim yn rhannu beth fyddwch chi'n ei ddweud wrthym ni onibai:

  • Eich bod chi'n gofyn i ni gael help help i chi am na allwch chi wneud hynny eich hunan
  • Ein bod ni'n credu fod rhywun arall mewn perygl o niwed difrifol
  • Eich bod chi o dan 18 mlwydd oed a'n bod ni'n credu eich bod chi mewn perygl o niwed difrifol
  • Eich bod chi dros 18 mlwydd oed, wedi dweud wrthym ni eich enw a ble rydych chi, a'n bod ni'n credu eich bod chi mewn perygl o niwed difrifol

Rydyn ni eisiau rhoi cymaint o reolaeth ag sy'n bosib i chi bob amser. Byddwn yn egluro ein polisi wrthych chi, ac yn gadael i chi wybod os ydym ni'n teimlo y dylen ni gysylltu â'r gwasanaethau brys i'ch helpu i gael cymorth.

Bydd galwadau ffôn yn cael eu cofnodi ar gyfer sesiynau hyfforddi yn unig. Os byddwch chi'n cysylltu â ni dros y ffôn byddwn yn gallu gweld eich rhif ffôn, ac efallai y byddwn yn ei ddefnyddio os bydd un o'r sefyllfaoedd sy'n cael eu disgrifio uchod yn codi. Os yw'n well gennych chi aros yn hollol ddienw, gallwch gadw eich rhif yn ôl cyn ffonio.

Os ydych chi'n cysylltu â ni trwy e-bost byddwn ni'n gallu gweld eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfeiriad IP. Er y bydd eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfeiriad IP yn cael eu cadw'n gyfrinachol, gallwch aros yn hollol ddienw trwy sefydlu cyfrif e-bost arall.

Mae e-byst, llythyrau a recordiadau galwadau yn cael eu storio'n ddiogel, bydd y rhai ar linell gwybodaeth Mind yn cael eu dileu ar ôl tri mis a'r rhai ar linell gyfreithiol Mind ar ôl saith mlynedd.

Rydyn ni'n cadw manylion ymholiadau yn ddienw (megis oedran a phynciau'r ymholiadau) i'n helpu i ddatblygu'r gwasanaeth, ac i godi arian ar ei gyfer.

Codir tâl am alwadau ffôn o linellau dir DU ar brisiau galwadau lleol.

Mae prisiau galwadau o ffonau symudol yn amrywio'n sylweddol. Bydd pris eich galwad yn dibynnu ar y contract sydd gennych chi gyda'ch darparwr ffôn symudol.

Nid yw Mind yn gwneud unrhyw arian o alwadau ffôn.

Galwyr â nam ar eu clyw neu eu lleferydd

  • I alw ein llinell wybodaeth ffoniwch: 18001 0300 123 3393

Bydd gwasanaeth cyfnewid naill ai'n teipio neu'n ailadrodd y geiriau rydyn ni'n eu defnyddio fel y gallwn ni gael sgwrs.

Gallwch hefyd ddefnyddio'r ap NGT Lite am ddim.

Siarad â ni mewn iaith wahanol

Gallwn ddarparu cyfieithydd trwy Language Line. Mae'r gwasanaeth yn cynnig cyfieithu mewn dros 170 o ieithoedd.

  • I alw ein llinell wybodaeth ffoniwch: 0300 123 3393

Cofiwch ofyn am wasanaeth Language Line pan fyddwch chi'n ffonio.

Os byddwch chi angen gwybodaeth iechyd meddwl ac mae ein llinellau cymorth ar gau, ewch i’n mynegai iechyd meddwl ar-lein (tudalen Saesneg yn unig) neu cysylltwch â GIG 111.

Ar gyfer cymorth emosiynol, mae'r Samariaid ar agor 24 awr y dydd, 7 dydd yr wythnos. Gallwch eu galw ar 116 123 (am ddim) neu e-bostiwch [email protected].

Mae mwy o opsiynau ar ein tudalennau ar ymdopi â theimladau hunanladdol, hunan-niweidio a gwasanaethau argyfwng (tudalen Saesneg).

"Pe bawn i ond yn gwybod am y llinell wybodaeth ynghynt! Efallai na fyddai pethau wedi bod mor anodd pe bawn i wedi cael cefnogaeth yn gynt."

Darllenwch flog Kirsty.

"Mae’n bwysig eu bod nhw'n teimlo'n ddigon hyderus i gymryd y cam nesaf wrth glywed eich llais."

Darllenwch flog Graham

Mind Cymru 

We provide mental health support and campaign for change throughout Wales. Find out more about our work in Wales.

 

arrow_upwardYn ôl i'r brig