Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Ar y rhestr aros ar gyfer CAMHS – ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed

Gwybodaeth i bobl ifanc am restrau aros yn CAMHS a pha gefnogaeth y gallet ti ei chael tra bod ti'n aros.

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Aros am gefnogaeth CAMHS

Mae angen cymorth ar lawer ohonom o ran ein hiechyd meddwl. Mae hyn yn golygu y bydd rhestrau aros hir ar gyfer apwyntiad cyntaf o bosibl. Mae’n bosibl y bydd amseroedd aros hefyd ar gyfer unrhyw driniaeth a chymorth mae CAMHS yn gallu eu cynnig. 

Gall aros am gymorth gan CAMHS deimlo fel amser hir ac anodd. Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth am amseroedd aros a pha gymorth y gallet ti ei gael wrth i ti aros. 

Pa mor hir yw’r amser aros ar gyfer CAMHS?

Mae angen cymorth ar lawer ohonom o ran ein hiechyd meddwl. Mae hyn yn golygu y bydd rhestrau aros hir ar gyfer apwyntiad cyntaf o bosibl. Mae’n bosibl y bydd amseroedd aros hefyd ar gyfer unrhyw driniaeth a chymorth mae CAMHS yn gallu eu cynnig.

Gall pa mor hir y mae’n rhaid i ni aros ddibynnu ar ba gymorth sydd ei angen arnom a ble rydym yn byw.

Fel arfer, bydd dy CAMHS yn cysylltu â ti pan fyddi di’n cyrraedd brig y rhestr aros. Fe gei di llythyr apwyntiad gan weithiwr proffesiynol CAMHS, ac mae’n bosibl y byddant yn cysylltu â ti i wneud yn siŵr dy fod yn gallu bod yn bresennol.

Yn Lloegr, mae gan rai llwybrau CAMHS arbenigol reolau penodol o ran pa mor hir y dylech chi aros. Er enghraifft:

  • Ymyriadau cynnar mewn gwasanaethau seicosis. Dylet ti dechrau triniaeth o fewn pythefnos ar ôl i CAMHS gael dy atgyfeiriad. Mae’n bosibl y byddi di hefyd yn clywed y gwasanaeth hwn yn cael ei alw’n wasanaethau iechyd meddwl mewn perygl (ARMS).
  • Gwasanaethau anhwylderau bwyta. Mae targedau ar gyfer pa mor gyflym y dylai CAMHS dy weld ti. Dylent gynnig asesiad i ti o fewn 15 diwrnod i gael dy atgyfeiriad. A dylai’r driniaeth ddechrau o fewn 4 wythnos o ti'n derbyn atgyfeiriad. Ond gallai hyn ddigwydd yn gynt yn dibynnu ar dy sefyllfa.

Yng Nghymru, nid oes rheolau penodol ar gyfer amseroedd aros, ond dylent barhau i dy weld cyn gynted â phosibl.

Pan fydd CAMHS yn cael dy atgyfeiriad, mae’n iawn gofyn iddynt pa mor hir y gallai fod yn rhaid i ti aros. Mae gennym ragor o wybodaeth am sut mae atgyfeiriadau’n gweithio.

Mae’n bosibl ein bod ni’n meddwl bod angen i ni fod mewn argyfwng i gael help, ond nid yw hynny’n wir. Rwyt ti’n haeddu help a chefnogaeth ar unrhyw adeg.

Mae 2 fis wedi mynd heibio ers i mi gael fy asesiad CAMHS, ac o’r diwedd rydw i ar y rhestr aros am help. Mae 7 mis wedi mynd heibio ers i mi ofyn am help, ac mae disgwyl i mi aros sawl mis arall cyn i mi allu dechrau cael rhywfaint o gymorth - Jane, 16

Sut alla i ymdopi ag amseroedd aros hir?

Mae aros am help yn gallu bod yn brofiad gofidus a phryderus iawn, yn enwedig os wyt ti’n dechrau ei chael hi’n anoddach ymdopi. Rydym wedi cynnwys rhai awgrymiadau yma a allai fod yn ddefnyddiol i ti.

Cadw'n ddiogel

Os wyt ti'n teimlo fel bod ti wedi dy lethu, neu eisiau brifo dy hun, mae cymorth ar gael i ti trafod pethau. Rwyt ti'n haeddu cymorth cyn gynted ag y sydd ei angen.

I siarad â rhywun yn gyfrinachol am sut rwyt ti'n teimlo, gallet ti:


Os wyt ti'n teimlo y gallet ti ceisio lladd dy hun, neu os wyt ti wedi brifo dy hun yn ddifrifol, mae hwn yn argyfwng
. Gallet ti:

  • Ffonio 999 a gofyn am ambiwlans.
  • Dweud wrth oedolyn rwyt yn ymddiried ynddo a gofyn iddynt ffonio 999 am help.


Mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Nid wyt ti’n yn gwastraffu amser neb.

Siarad â gweithwyr proffesiynol eraill

  • Siarad â dy feddyg teulu. Mae’n bosibl y byddant yn gallu awgrymu ffyrdd eraill o gael help wrth i ti aros. Mae gennym ragor o wybodaeth am siarad â dy feddyg teulu.
  • Cysylltu â dy CAMHS lleol. Mae’n bosibl y gallant ddweud wrthyt ti pryd y dylet ti cael apwyntiad. Gallet ti hefyd ofyn iddynt a oes unrhyw beth y gallet ti ei wneud tra bod ti’n aros. Neu rho gwybod iddynt os wyt ti’n poeni bod pethau’n gwaethygu wrth i ti aros.
  • Edrycha ar ba help sydd ar gael yn dy ardal ti. Er enghraifft, gan dy ysgol, elusennau lleol a gwasanaethau cymunedol. Am wasanaethau ar-lein lle gallet ti chwilio am wybodaeth a chymorth lleol, rho cynnig ar Hub of Hope a Youth Access.
  • Ystyria chwilio am therapi preifat. Mae therapi preifat yn fath o opsiwn cymorth y gallet ti, neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo, ddewis talu amdano. Gallet ti chwilio drwy Gyfeiriadur Cwnsela BACP i ddod o hyd i therapydd neu gwnselydd. Neu gofynna i oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo i dy helpu. Mae therapi preifat yn gallu bod yn ddrud. Mae rhai therapyddion preifat yn cynnig gostyngiadau os wyt ti’n fyfyriwr neu ar incwm isel, a all helpu.

I gael mwy o wybodaeth,  at cer i'n tudalen ar ble i chwilio am gymorth ag iechyd meddwl.

Siarad â gwasanaethau eraill

Gallet ti ceisio siarad â rhywun sydd wedi ei hyfforddi i wrando. Mae llinellau cymorth, negeseuon testun a sgyrsiau ar y we yno i dy helpu.

Rydyn ni wedi rhestru rhai sefydliadau a allai dy helpu tra bod ti’n aros:

  • PAPYRUS. Cymorth a chyngor i unrhyw un o dan 35 oed sy’n meddwl am hunanladdiad neu sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi.
  • Childline. Mae ganddo fyrddau negeseuon lle gallet ti siarad â chwnselydd neu sgwrsio â phobl ifanc eraill.
  • The Mix. Gwe-sgwrs a llinell gymorth e-bost, llinell destun argyfwng, sgwrs a fideo un-i-un ar-lein, sgwrsio ar y we neu wasanaeth cwnsela dros y ffôn. Gallet ti hefyd ddefnyddio byrddau trafod i siarad â phobl ifanc eraill.
  • Alumina. Cymorth â materion hunan niweidio am ddim ar-lein i bobl ifanc 10 i 17 oed.
  • Self Injury Support. Gwybodaeth a chymorth, gan gynnwys llinell gymorth a gwasanaeth negeseuon testun.

Gallet ti dod o hyd i ragor o opsiynau ar ein tudalen o gysylltiadau defnyddiol.

Apiau ar gyfer iechyd meddwl

Gall rhai apiau ein helpu gyda phethau fel teimlo'n dawelach neu reoli symptomau anodd. Ond gyda chymaint o apiau, gall deimlo'n anodd gwybod ble i ddechrau.

I ddod o hyd i apiau diogel a dibynadwy i bobl ifanc, cer i lyfrgell apiau Mind.

Rwyt ti bob amser yn clywed bod y rhestr aros mor hir neu ei bod yn rhy rhagnodol - dim ond am fod CAMHS yn dweud nad yw hyn yn addas i ti neu nad yw’n gweithio, mae opsiynau eraill ar gael ac yn rhoi gobaith os nad yw pethau’n mynd yn dda i ti.

Cymryd gofal ohono ti dy hun

Mae’n bwysig iawn gofalu amdano ti dy hun wrth i ti aros am driniaeth. Dyma rai awgrymiadau:

  • Darllen, gwrando neu wylio pethau sy’n cynnwys syniadau am sut i ymdopi â sut rwyt ti’n teimlo. Gallet ti cael adnoddau ar-lein ar wefan getselfhelp.co.uk. Mae rhai o’r adnoddau hyn wedi eu cynllunio ar gyfer oedolion, ond mae’n bosibl y byddant yn ddefnyddiol i ti hefyd. 
  • Llenwi cynllun diogelwch ar dy gyfer ti dy hun neu gydag oedolyn dibynadwy er mwyn iddynt allu dy helpu di hefyd. Mae hyn yn ffordd o ysgrifennu pethau sy’n dy helpu i deimlo’n ddiogel. Mae gennym gynllun diogelwch y gallet ti ei lawrlwytho y gallech ei lenwi gyda’ch gilydd. Neu gallet ti llenwi cynllun sy’n arbennig i ti. Bydd pob un o’r cynlluniau diogelwch hyn yn agor fel PDF mewn tab newydd.
  • Creu blwch hunanofal. Llenwa blwch gyda phethau sy’n rhoi cysur i ti pan fyddi di’n teimlo’n isel neu’n cael trafferth gyda phethau. Gallet ti cynnwys pethau sy’n dy helpu i deimlo’n well neu bethau sy’n dy helpu i deimlo’n ddiogel.
  • Ysgrifennu, tynnu llun, paentio neu gerflunio sut rwyt ti’n teimlo. Mae rhai ohonom yn gweld bod hyn yn ein helpu i fynegi sut rydym yn teimlo heb siarad. Os wyt ti’n teimlo’n gyfforddus, gallet ti rhannu’r rhain â dy dîm CAMHS yn dy apwyntiad cyntaf.
  • Darllen blogiau a ysgrifennwyd gan bobl ifanc eraill sydd wedi bod drwy bethau tebyg. Gallet ti ddod o hyd i flogiau ar wefan YoungMinds.

Mae gennym hefyd lawer o ffyrdd eraill o ofalu am dy lesiant.

I mi, mae cadw dyddiadur ac ysgrifennu stwff ar dudalen mor ddefnyddiol. Os wyt ti fel fi yn cael trafferth gyda meddyliau ymwthiol, mae’n helpu i’w gweld yn wrthrychol ar dudalen, gan eu bod yn teimlo’n llawer llai brawychus.

Adeiladu dy rwydwaith cymorth

Gallet ti rhoi cynnig ar wahanol bethau i helpu i ddatblygu ac ehangu dy rwydwaith cymorth:

  • Mynd ati i siarad â rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo am sut rwyt ti’n teimlo. Gallet ti siarad â nhw wyneb yn wyneb neu recordio nodyn llais. Dyweda wrthynt pan rwyt ti’n cael diwrnod da, yn ogystal â phan fydd pethau'n anodd. Gofynna iddynt am ffyrdd y gallent edy helpu wrth i ti aros. Gallet ti dod o hyd i ragor o gyngor ar ein tudalen ar siarad yn agored.
  • Siarad â phobl ifanc eraill sy'n deall beth rwyt ti’n mynd drwyddo. Gallet ti gwneud hyn ar fyrddau negeseuon fel The Mix a Childline.
decorative

Os wyt ti’n chwilio am gymorth ar-lein, gwna'n siŵr dy fod yn cadw’n ddiogel. Meddylia bob amser am yr hyn rwyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn ei rannu a beth rwyt ti eisiau ei gadw’n breifat. I gael rhagor o wybodaeth, cer i wefan Childline.

Beth os ydw i’n troi’n 18 oed wrth aros am gymorth gan CAMHS?

Mae CAMHS fel arfer yn helpu pobl ifanc hyd at 18 oed. Ond mae’n bosibl y bydd rhai gwasanaethau CAMHS yn dy ryddhau neu’n dechrau dy symud i Wasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion (AMHS) cyn i ti troi’n 18 oed. Mae’n bosibl y bydd eraill yn dy helpu nes dy fod ti’n 25 oed neu’n hŷn. Bydd hyn yn dibynnu ar dy anghenion a ble rwyt ti’n byw. 

Fel arfer, os byddi di’n troi’n 18 oed cyn dy apwyntiad cyntaf neu cyn i ti dechrau triniaeth, ni fydd CAMHS yn gallu cynnig y cymorth priodol i ti.

Os na all CAMHS dy gefnogi oherwydd dy oedran, dylent siarad â ti am wasanaethau eraill a allai dy helpu’n well. Gallai hyn gynnwys sefydliadau neu wasanaethau lleol. 

Gallet ti cysylltu â CAMHS neu’r unigolyn a wnaeth dy atgyfeirio. Dylai fod gennyt ti rhif cyswllt ar y llythyr neu’r e-bost a anfonodd CAMHS ato ti. 

Mae gennym rai gwasanaethau yn Mind a allai fod o ddiddordeb i ti:

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau oedolion ac opsiynau eraill ar gael ar ein tudalen ar adael CAMHS.

Cyhoeddwyd: Mawrth 2026
Adolygiad nesaf: Mawrth 2029

Gwnaethom siarad â phobl ifanc a gytunodd i roi dyfyniadau ar gyfer y dudalen hon. Nid yw eu profiadau yn gysylltiedig â'r bobl a ddangosir yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalennau caniatâd a thrwyddedu.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth

Back To Top arrow_upward