Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Datgysylltiad ac anhwylderau datgysylltiol

Mae'n egluro beth yw datgysylltiad ac anhwylderau datgysylltiol, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cynghorion i'ch helpu chi eich hun, a chyngor i ffrindiau a theulu.

Beth y gall ffrindiau a theulu ei wneud i helpu?

Mae'r dudalen hon i ffrindiau a theulu sydd am gefnogi rhywun â datgysylltiad neu anhwylder datgysylltiol.

Gall fod yn anodd gweld rhywun sy'n annwyl i chi yn profi datgysylltiad. Ond gall teulu a ffrindiau fod yn help mawr. Mae'r dudalen hon yn awgrymu ffyrdd y gallwch chi helpu'r
person sy'n annwyl i chi, gan ofalu am eich llesiant chi eich hun ar yr un pryd.

Ceisio bod yn amyneddgar ac yn ddeallgar mewn bywyd pob dydd

  • Os bydd rhywun sy'n annwyl i chi yn profi datgysylltiad, efallai na fydd bob amser yn ymateb i chi fel y byddech chi'n ei ddisgwyl.
  • Gofynnwch iddo beth fyddai'n helpu. Ond dylech fod yn ymwybodol efallai na fydd bob amser yn gwybod nac yn gallu dweud wrthych chi beth fydd yn helpu.
  • Os bydd am ddweud wrthych chi am ei brofiad, ceisiwch wrando arno mewn ffordd dderbyngar.
  • Gall cyffwrdd ac agosrwydd fod yn anodd i rai pobl. Gallai fod yn ddefnyddiol gofyn iddo beth sy'n iawn, a thrafod hyn â'ch gilydd.

Mae cael teulu a ffrindiau deallgar yn fy helpu.

Meddwl am ffyrdd o ddelio â newid hunaniaeth

  • Os bydd yn newid hunaniaeth, efallai y bydd yn rhaid i chi gyfathrebu â rhannau gwahanol o'i hunaniaeth ar adegau gwahanol.
  • Efallai y bydd angen i chi ddatblygu ffyrdd gwahanol o ymdopi pan fydd rhannau gwahanol o'i hunaniaeth yn cymryd drosodd. Gall fod yn fuddiol ceisio dod o hyd i ryw ffordd o uniaethu â phob rhan o'i hunaniaeth.
  • Ceisiwch beidio â chynhyrfu. Bydd yn helpu os gallwch chi fod yn bresenoldeb diogel sy'n rhoi tawelwch meddwl, hyd yn oed os yw'n ofidus, yn flin neu'n ofnus.

Helpu i ddod o hyd i'r cymorth cywir

Gallech chi:

  • Ei helpu i ddod o hyd i eiriolwr a'i helpu i gwrdd â therapyddion gwahanol
  • Cynnig cymorth a dealltwriaeth ychwanegol cyn ac ar ôl sesiynau therapi
  • Ei helpu i wneud cynllun argyfwng os bydd yn teimlo y byddai hynny'n fuddiol


Mae'n bosibl y bydd adegau pan na allwch chi gynnig y cymorth sydd ei angen arno. Ystyriwch pwy yw'r person gorau i gysylltu ag ef ar yr adegau hyn. Darllenwch ein gwybodaeth am gefnogi rhywun i ofyn am help.

Ystyriwch sut y gallech chi helpu i'w gadw'n ddiogel

  • Mae'n bosibl y bydd gan eich anwylyd sbardunau sy'n achosi symptomau datgysylltiol ac ôl-fflachiadau. Bydd deall ei sbardunau yn golygu y gallwch chi ei helpu i'w hosgoi neu deimlo'n fwy parod i ymdopi â symptomau datgysylltiol pan fyddan nhw'n codi.
  • Efallai y byddwch chi am gynnig cymorth iddo gyda gweithgareddau daearu. Gallech chi gynnig helpu'ch anwylyd i nodi'r hyn sy'n gweithio orau iddo, a'i atgoffa'n dyner i ddefnyddio'r technegau sydd o gymorth iddo.
  • Os bydd rhywun sy'n annwyl i chi yn brifo ei hun neu os bydd yn brwydro â meddyliau hunanladdol, gall deimlo'n frawychus iawn. Mae ein tudalennau ar gefnogi rhywun sy'n teimlo'n hunanladdol, ac ar gefnogi rhywun sy'n hunan-niweidio, yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
  • Mae'n bosibl y bydd adegau pan fydd angen help ychwanegol ar eich anwylyd i gadw'n ddiogel. Siaradwch ag ef am ba sefyllfaoedd y gallai fod angen cymorth ychwanegol arno i ymdopi â nhw, a'r hyn y gallwch chi ei wneud i helpu.

Gofalu amdanoch chi'ch hun

Mae'n bwysig gwneud yn siŵr eich bod chi'n gofalu amdanoch chi eich hun hefyd.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2023. Byddwn ni'n ei diwygio yn 2026.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Rhannu'r wybodaeth hon

arrow_upwardYn ôl i'r brig