Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Y rheswm dwi'n codi arian ar gyfer Mind

Dydd Mercher, 18 Ionawr 2023 Abby

Mae Abby, o Lantrisant, yn esbonio pam y penderfynodd ymgymryd â her 22 milltir er mwyn ymuno â’r frwydr dros iechyd meddwl.

Rhybudd ynghylch y cynnwys: mae'r blog hwn yn sôn am hunanladdiad.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Dwi wedi dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl ers diwedd fy arddegau, wrth i mi ymrafael ag iselder, gorbryder, ac anhwylder bwyta. Yn dilyn sawl blwyddyn o fwlio, doedd gen i braidd dim hunan-barch, ro’n i’n poeni am sut oeddwn i’n edrych a'm pwysau, yn poeni am ddelio â'r pethau sy'n cael eu gwneud o ddydd i ddydd ac yn teimlo'n gwbl ddiwerth ar adegau.

"Roedd gorbryder yn fy nghaethiwo felly doedd dim modd i mi fwynhau unrhyw fywyd cymdeithasol ac roedd fy mywyd yn dywyll, yn ddiobaith ac yn unig oherwydd fy iselder."

Wrth ddechrau gweithio’n llawn amser yn y GIG yn 18 oed, dwi'n gallu cydnabod bod y problemau iechyd meddwl hynny a’r brwydrau hynny wedi parhau. Ro’n i'n unig, yn isel fy ysbryd ac yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r hyder i gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau.

Fe wnaeth hyn barhau am sawl blwyddyn, ac er i mi ddatblygu yn fy ngyrfa, ychydig o fywyd oedd gen i y tu allan i’r gwaith. Roedd gorbryder yn fy nghaethiwo felly doedd dim modd i mi fwynhau unrhyw fywyd cymdeithasol ac roedd fy mywyd yn dywyll, yn ddiobaith ac yn unig oherwydd fy iselder. Ro’n i’n gwneud esgusodion i osgoi digwyddiadau cymdeithasol gan fod fy ngorbryder yn gwneud i mi boeni, mynd i banig, a theimlo’n anghyfforddus mewn lleoliadau cymdeithasol, ond roedd yr iselder yn gwneud i mi deimlo’n drist ac yn unig, ac roedd yn frwydr gyson rhwng y gorbryder a'r iselder.

"Roedd fy iselder wedi mynd allan o reolaeth, ac ro’n i’n cael trafferth ymdopi â bywyd bob dydd."

Trwy gydol fy ugeiniau, bues i’n brwydro ar fy mhen fy hun ag iselder a gorbryder. Doeddwn i ddim yn gwybod sut i ofyn am help nac esbonio fy nheimladau. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai unrhyw un yn deall fy nheimladau ac ro’n i’n teimlo fy mod yn ddiwerth ac yn faich ar fy nheulu ac ychydig o ffrindiau.

Yn 2015, fe wnes i gael fy mhen-blwydd yn 30 oed ac ar ôl cwpl o flynyddoedd hir, caled, heriol mewn swydd llawn straen, roedd bywyd yn ymddangos yn ddibwrpas. Roedd fy iselder wedi mynd allan o reolaeth, ac ro’n i’n cael trafferth ymdopi â bywyd bob dydd. Es i at fy meddyg teulu, a ragnododd gyffuriau gwrth-iselder, ond ychydig o gymorth arall a gynigiwyd. Roedd gwaith yn straen, yn ddi-baid, ac yn llethol. Roedd fy mywyd yn teimlo’n dywyll, yn unig, ac yn anobeithiol. Ar ddiwedd 2015, ro’n i ar fy isaf ac fe wnes i geisio cymryd fy mywyd fy hun.

Treuliais gwpl o ddiwrnodau ofnadwy yn yr uned asesu meddygol yn yr ysbyty, ond ychydig o gymorth iechyd meddwl a gynigiwyd, a gwnaethant i mi deimlo fel niwsans. Ar ôl i mi dderbyn triniaeth feddygol ar gyfer y broblem ‘corfforol’, cefais fy anfon adref gyda fy rhieni, heb unrhyw asesiad seiciatrig, heb unrhyw gymorth, meddyginiaeth, camau dilynol na gwiriadau pellach. Roedd fy nheulu mewn sioc a doedden nhw ddim yn gwybod sut i ddelio â'r sefyllfa. Ro’n i wedi blino'n lân yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol, yn ddideimlad ac wedi torri.

"Trwy elusennau fel Mind, mae fy nheulu a minnau, a chymaint o bobl eraill fel ni, yn gallu derbyn y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnon ni yn ystod y cyfnodau anodd."

Yn anffodus, mae'r GIG dan gymaint o bwysau, nid yw'r cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar bobl bob amser ar gael. Y trueni yw, nid rhywbeth unigryw yw fy mhrofiad i. Mae llawer mwy o gleifion iechyd meddwl yn profi'r un peth gan nad oes gan y GIG ddigon o adnoddau i ymdrin â'r holl bobl sy'n cael trafferth â materion o'r fath. Dyma lle gall elusennau fel Mind gamu i'r adwy, oherwydd yn aml gallan nhw ddarparu mynediad at gymorth, cefnogaeth ac adnoddau y mae mawr eu hangen pan na all y GIG wneud hynny.

Trwy elusennau fel Mind, mae fy nheulu a minnau, a chymaint o bobl eraill fel ni, yn gallu derbyn y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnon ni yn ystod y cyfnodau anodd.

Mae Mind yn gweithio'n galed i ddarparu cyngor a chefnogaeth i bobl sy'n profi problemau iechyd meddwl. Maen nhw hefyd yn ymgyrchu i wella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth, a hybu dealltwriaeth.

Dwi'n ffodus fy mod yn dal yma i adrodd fy stori, gan fy mod wedi cael cefnogaeth a chymorth, ac yn parhau i reoli fy salwch yn ddyddiol. Ond yn anffodus, nid yw miloedd o bobl yma bellach, ac mae eu teuluoedd a'u ffrindiau wedi cael eu gadael ar ôl i ddelio â'r galar a'r trallod y mae hunanladdiad yn ei adael. Mae rhannu ein profiadau, cynnig cefnogaeth i eraill, a helpu i godi arian hanfodol ar gyfer elusennau fel Mind yn bwysig iawn i mi a dyna sy'n fy nghadw i'n benderfynol o frwydro ymlaen.

Mewn blynyddoedd blaenorol, rwyf wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau rhedeg i godi arian i elusennau, ond eleni, roedden ni am gynnal digwyddiad cynhwysol yn y gweithle i ddangos ein cefnogaeth i Mind. Fe benderfynon ni gerdded 22 milltir yn 2022 ar gyfer Mind, gan adael ein swyddfa yn Nantgarw, dilyn Taith Taf i Fae Caerdydd ac yn ôl. Cawson ni gymysgedd o dimau, ffrindiau, a phobl o bob gallu o bob rhan o'r sefydliad yn cymryd rhan. Trefnais fap digidol gan nodi pwyntiau allweddol a all fod o ddiddordeb, tri arweinydd tîm a bagiau gwobrau yn cynnwys medalau i'w dosbarthu ar y diwedd i bawb oedd yn cymryd rhan.

Roedd y digwyddiad yn wych, gwnaeth pawb yn arbennig o dda – fe wnaethon ni annog a chefnogi ein gilydd trwy bob cam o'r 22 milltir hynny, a chawson ni hwyl a sbri ar hyd y ffordd hefyd. Daeth rhai ffrindiau, aelodau o’r teulu a chydweithwyr eraill draw hefyd i’n cefnogi ar wahanol fannau o’r daith, a oedd yn gymhelliant gwych. Dwi mor falch o bawb a gymerodd ran, a hyd yn oed yn fwy balch o'r swm anhygoel o £2,304 a godwyd gennym ni i gyd!

 

 

Mae Abby yn 37 oed, yn byw ger Llantrisant, De Cymru gyda'i Cavapoo hyfryd tair oed o'r enw Chester. Mae Abby a Chester wrth eu bodd yn cerdded a rhedeg yng nghefn gwlad, yn ymweld â thafarndai clyd ac yn cwtsio lan ar y soffa gyda ffilm neu gomedi sefyllfa ddoniol.

 

Get involved

There are lots of different ways that you can support us. We're a charity and we couldn't continue our work without your help.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig