Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Rwy’n rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i Mind ar ôl iddo achub fy mywyd

Dydd Iau, 29 Medi 2022 Tara

Rhybudd cynnwys: teimladau am hunan-laddiad

Mae Tara yn blogio am sut fu bron iddi roi diwedd ar ei bywyd. Ond gyda help gan Mind, mae’n dysgu sut i ymdopi ac mae hi’n awr yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd Wizz Air i godi arian.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Ddechrau 2020, roeddwn ar fy ngwaethaf a deuthum yn agos at wneud amdanaf fy hun. Arferwn ddod adre bob nos; eistedd yn dawel yn y tywyllwch, crio a theimlo wedi ymlâdd oherwydd mod i’n fi.

"Allwn i ddim gweld dim goleuni."

Roeddwn i’n faich i bawb o nghwmpas i – neu dyna oeddwn i’n ei feddwl. Rwy’n cofio cerdded adref mewn glaw trwm a ddim yn gwybod lle’r oeddwn i na sut i gyrraedd adref. Bûm yn cerdded am oriau gyda dagrau’n llifo i lawr fy ngruddiau.

Un noson, aeth pethau’n ormod. Doedd gen i ddim rheolaeth; roeddwn i’n boddi yng nghanol meddyliau negyddol ac allwn i ddim gweld dim goleuni; na dim ffordd ymlaen. Dwi ddim yn meddwl imi stopio crio’r noson honno.

"Roeddwn i’n delio (neu ddim yn delio) â galar."

Rwy’n meddwl fod fy nheimladau o orbryder ac iselder wedi deillio o’m profiadau yn yr ysgol. Cefais fy mwlio ddydd ar ôl dydd. Ac roedd y ffordd roeddwn i’n gwisgo yn gwneud imi sefyll allan. Doeddwn i’n bendant ddim yn debyg i bawb arall.

Roedd hi’n frwydr yn y brifysgol hefyd. Roedd yn gas gen i wneud unrhyw fath o gyflwyniad. Ac er imi wneud ffrindiau agos, doeddwn i byth eisiau mynd allan. Yn ystod fy nghwrs Meistr yn astudio animeiddio y gwnes i chwilio am help am y tro cyntaf drwy fynd at fy meddyg teulu.

Ac yna ddwy flynedd ar ôl graddio, penderfynais gysylltu â Mind i gael help. Roeddwn i wedi dechrau gweithio ond roedd fy hunan-hyder yn y gwaelod ac roeddwn i’n delio (neu ddim yn delio) â galar.

Roedd fy mam-gu wedi marw’n ddiweddar. Roedd dementia arni a dwi’n meddwl, pan gollwch chi rhywun i ddementia, rydych chi’n teimlo fel eich bod yn eu colli ddwywaith. Euthum i sesiynau grŵp Mind Caerdydd i bobl sy’n delio â galar a dwi’n cofio bod yn fy nagrau a theimlo cywilydd. Ond wrth edrych o’m cwmpas, roedd pawb arall hefyd. Roedd hwn yn dipyn o drobwynt i mi.

Mae pobl wastad yn dweud wrthyn ni fod menywod yn emosiynol a dwi’n meddwl, yn y gorffennol, y byddwn i’n arfer ymddiheuro am grio. Ond dim ond emosiwn yw e – fyddech chi ddim yn ymddiheuro am chwerthin!

"Mae cael rhywun i’ch helpu fel yna yn fendith."

Gan symud ymlaen i 2020, pan oeddwn i wir ar fy ngwaethaf, dechreuais sesiynau cwnsela un i un. Roeddwn i wedi bod i ffwrdd am gwpl o fisoedd – allwn i ddim bwyta, allwn i wneud dim byd.

Doeddwn i methu gweld pwynt cario ymlaen. Ac allwn i ddim gweld unrhyw ffordd allan o’m sefyllfa. Ond fe wnaeth fy nghwnselydd wrando. Wnaeth e erioed fy marnu. Mae cael rhywun i’ch helpu fel yna yn fendith. Fe wnaeth e newid fy mywyd ac fe wnes i siarad ag o flwyddyn yn ddiweddarach i ddweud wrtho ei fod ef, heb os, wedi achub fy mywyd. Byddaf yn ddiolchgar am byth i Mind.

Un o’r pethau rwyf fi’n cael trafferth gyda nhw yw edrych, ail-edrych ac edrych deirgwaith ar bethau fel cloeon a switsys. I fi, mae switsys yn broblem fawr. Ydw i wedi diffodd fy nghyfrifiadur oherwydd fe allai fynd ar dân yn y nos? Wnes i ddiffodd y popty?

Rwy’n dal i gael therapi gwybyddol ymddygiadol i ddelio â hynny ond un peth rwyf i yn ei wneud yw chwarae gemau fideo. Rwy’n dylunio gemau fideo fel bywoliaeth ac rwyf wastad wedi mwynhau eu chwarae nhw. Mae’n ffordd wych o ysgogi eich meddwl. Rwy’n anghofio am y pethau sy’n fy ngwneud i’n bryderus ac rwy’n dianc i fod yn gymeriad gwahanol y mae’n rhaid imi ei gadw’n fyw tan ddiwedd y gêm. Mae gennyn nhw enw drwg braidd ond fe allan nhw fod yn bositif iawn.

Bu farw fy Nain yn eithaf diweddar ac rwyf wedi delio’n llawer gwell gyda’r galar. Mae’r gefnogaeth rwyf wedi’i chael dros y blynyddoedd wedi dechrau gweithio ac mae wir wedi helpu.

A nawr, rwy’n paratoi i redeg Hanner Marathon Caerdydd. Dydw i’n dda i ddim am redeg ond mi wnaf ei gerdded e os oes raid imi. Mae’n debyg fy mod i’n ei wneud o i mi fy hun ond hefyd fel diolch i Mind. Rwy’n gobeithio y gallaf fi godi arian oherwydd bod Mind yn gwneud cymaint i gynifer o bobl.

 

Oherwydd pobl fel Tara, mae Hanner Marathon Cardiff ar y trywydd iawn i gynhyrchu £20 miliwn o bunnau i elusennau yn y 19eg digwyddiad eleni. Mae trefnwyr y ras yn annog y cyhoedd i gefnogi’r digwyddiad er mwyn helpu i gyrraedd y garreg filltir anhygoel hon. Caiff dros £3 miliwn ei godi bob blwyddyn drwy bartneriaethau â dros 90 o elusennau.

Roedd y ras yn llawn ddechrau’r haf, dri mis a hanner yn unig ar ôl i’r llefydd ddechrau cael eu gwerthu.

Mae nifer fwy nag erioed o redwyr o’r tu allan i Gymru – o’r Deyrnas Unedig ac o dramor – wedi’u cofrestru i gymryd rhan eleni. I ddathlu, bydd y trefnwyr yn defnyddio’r digwyddiad fel platfform i ddathlu Cymru; gan arddangos popeth sydd mor arbennig ac unigryw am Gymru a chynnig i’r ymwelwyr Groeso Cymreig.

 

Fe allwch roi cyfraniad i dudalen Justgiving Tara yma https://www.justgiving.com/fundraising/theonewheretaradoesanotherhalf-marathon

 

Os ydych chi eisoes wedi cael lle yn Hanner Marathon Caerdydd ac y byddech yn hoffi codi arian i Mind, ewch i https://www.mind.org.uk/get-involved/donate-or-fundraise/take-on-an-active-challenge/run-for-mind/cardiff-half-marathon-october-2022/

 

Os hoffech redeg Hanner Marathon Caerdydd yn 2023, gallwch gofrestru yma  https://www.mind.org.uk/get-involved/donate-or-fundraise/take-on-an-active-challenge/run-for-mind/cardiff-half-marathon-2023/

Get involved

There are lots of different ways that you can support us. We're a charity and we couldn't continue our work without your help.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig