Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut yr helpodd rhagnodi cymdeithasol fi i ddod yn ôl yn fi fy hun

Dydd Llun, 15 Tachwedd 2021 David

 

Mae David o Ferthyr Tudful yn disgrifio sut y helpodd ei brofiad o ragnodi cymdeithasol iddo ennill persbectif a’i gael yn ôl ar drac.

 

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Y llynedd, roeddwn i mewn stad ofnadwy. Roeddwn i’n eithriadol o isel ac yn troi gymaint at alcohol nes ei fod yn dod yn broblem enfawr.  Bu bron iawn i mi orfod ysgaru a cholli fy nheulu bendigedig.

Yn 39 mlwydd oed, roeddwn i’n eithriadol o gyfforddus mewn perthynas gref. Roeddem yn dod at 10 mlynedd o briodas ac roedd gennym ddau blentyn hyfryd.  Roedd gen i swydd ddiogel oedd yn talu’n dda ac roedden ni newydd symud i gartref teuluol ein breuddwydion; roedd gen i bopeth roeddwn erioed wedi breuddwydio amdano. Yna, heb ddim rheswm amlwg, yn sydyn, roeddwn i ar goll yn llwyr. 

Nawr, rwy’n gwybod fy mod wedi cael ychydig o flynyddoedd eithaf trawmatig. Cafodd fy nhad ei ddiagnosio gyda, ac wedyn curo, cancr y prostad. Roedd fy mam, sef glud yn ein teulu hynod o glos, wedi bod yn dioddef o orbryder ac o ymosodiadau o banig yn ddiweddar. Cafodd fy chwaer 41 mlwydd oed waedlif ar yr ymennydd a  strôc a oedd bron iawn yn angheuol ac roedd fy ngwraig wedi’i diagnosio gyda syndrom blinder cronig.

Fi oedd y person oedd yn dal y teulu gyda’i gilydd ac oedd yn gwneud yr holl redeg o gwmpas. Fi oedd yr un cryf.

Doeddwn i ddim yn meddwl fod dim o hyn wedi effeithio arna i, ond fel yr oedd pawb o’m cwmpas yn gwella ac yn dod atyn eu hunain, roedd pethau’n cau i mewn amdanaf i. Roeddwn i’n colli gafael ar bethau. Roedd yn effeithio’n enfawr ar fy mherthynas gyda’m gwraig a’m plant, cymaint nes fy mod i’n gwaeddi arnyn nhw o hyd ac o hyd.  Doeddwn i ddim y tad da roeddwn i bob amser yn ymdrechu i fod. Yn berson hyderus fel arfer, roeddwn wedi cyrraedd man isel, wedi colli fy holl hunan hyder ac, a dweud y gwir, yn yfed y dyddiau i ffwrdd, yn amlwg yn ceisio cuddio rhywbeth. 

Fe gefais amser i ffwrdd o’r gwaith gyda stres a phroblemau gorbryder. Roeddwn i ar lethr llithrig iawn ac yn mynd ymhellach ac ymhellach i lawr y llethr, a hynny’n gyflym iawn. Roedd gen i ofn. Roeddwn ond ychydig gamau o golli’r cyfan.

Doeddwn i ddim y math o ddyn a oedd yn meddwl fy mod i angen help, felly cymerodd dipyn o amser ac ychydig o argyhoeddi, ond, yn y diwedd,  dyma ymestyn allan a chysylltu â Mind. Fe benderfynais brofi eu rhaglen rhagnodi cymdeithasol.

Mae rhagnodi cymdeithasol yn eich cysylltu â gweithiwr cyswllt, sy’n trafod sut ydych yn teimlo, beth ydych chi’n mynd trwyddo a beth allai fod o help i’ch llesiant. Wedyn, maen nhw’n canfod gwasanaethau a allai fod o help ac yn eich cefnogi i gychwyn arni.

Pan ddechreuais i siarad gyda’m gweithiwr cyswllt, Mike, gosodais y cyfan allan ac roeddwn yn onest iawn am fy mhroblemau. Roedd ychydig yn frawychus i ddechrau ond fe sylweddolais mai bod yn gwbl agored ac onest oedd yr unig ffordd i ddatrys fy mhroblemau. Roedd Mike yn ffantastig o’r dechrau un; roedd yn gwrando gyda chlust gyfeillgar a hynny heb fy marnu.

Ar unwaith, roedd fel siarad gyda hen ffrind, roedd yn gofyn yr holl gwestiynau iawn i fy nghael i agor i fyny.

Fe helpodd rhagnodi cymdeithasol fi i gael persbectif ar lawer o bethau. Dros gyfnod o fisoedd, a chyda sgyrsiau rheolaidd, fel helpodd Mike fi i ganfod fy hyder unwaith eto. Rhoddodd nodau i mi anelu amdanyn nhw a gwnaeth i mi deimlo fod bywyd normal a theimlo’n dda amdanaf fy hunan yn rhywbeth y gallwn ei gyrraedd eto. Fe helpodd fi i ganfod fy hunan. Fe gefais wybodaeth ynghylch y tîm cyffuriau ac alcohol lleol a hefyd ychydig o elusennau arbenigol lleol a allai gynnig rhagor o wybodaeth, sgiliau ymdopi a chefnogaeth ychwanegol. Trwy ein sgyrsiau, roeddwn i’n sylweddoli hefyd fy mod wedi esgeuluso fy iechyd corfforol, felly cyfeiriodd Mike fi at ddewisiadau lleisiant megis ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrio, hefyd pethau fel RED January a gwefannau ffitrwydd eraill er mwyn i mi gael ychydig o syniadau ac ysbrydoliaeth.

Rydyn ni’n dal i gael sgyrsiau ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr atyn nhw. Mae hynny’n fy helpu i aros yn y lle da y cefais fy hun ynddo ac mae'n fy nghadw'n bositif.

Fel rhywun a oedd wastad yn amheus o wasanaethau fel hyn, fe fyddwn yn annog unrhyw un, mewn sefyllfa debyg i mi, i ymestyn allan a siarad.

Yn aml mae rhannu problem yn ei haneru. Peidiwch â bod ofn bod yn agored. Mae'r peth mwyaf cymwynasgar y gallwch wneud i chi’ch hunan - ac yn fy achos i, fy nheulu.

 

Mae David yn byw ym Merthyr Tudful gyda’i wraig a'i blant. Yn ogystal â hyfforddi tîm pêl-droed ei fab, a bod yn gapten ar y tîm pŵl lleol, mae’n mwynhau coginio a gwylio unrhyw fath o chwaraeon.

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig