Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Maen nhw’n dweud wrth ferched duon fel fi ein bod ni’n ‘grac’

Dydd Llun, 25 Hydref 2021 Ruth

Mae Ruth yn blogio am yr hiliaeth mae hi wedi’i wynebu wrth geisio cefnogaeth ar gyfer ei hiechyd meddwl.

Fel merch Ddu ifanc, rwy’n gyfarwydd iawn gyda’r cysyniad cyffredinol o iechyd meddwl. Fodd bynnag, rwy’ hefyd yn gyfarwydd iawn â'r ffaith nad yw'n rhywbeth  sy'n cael ei drafod yn ddigon aml mewn teuluoedd Du. Rwy’n deall yn iawn fod heriau iechyd meddwl mewn cartrefi Du ac Asiaidd yn cael ei sgubo’n rheolaidd o dan y carped a bod yna stigma mewn brwydro gyda’ch iechyd meddwl eich hunan.

Ond, mae yna un broblem enfawr arall – y brwydrau mae pobl ifanc Du, fel fi fy hunan, yn eu hwynebu wrth geisio chwilio am gymorth gyda’n hiechyd meddwl. Mae llawer o hyn oherwydd y microymosodiadau rydyn ni’n eu hwynebu mewn cymdeithas heddiw.

Os yw merch Ddu yn cael ei dangos yn hapus ac yn hyderus, mae’n cael ei labelu fel 'gwraig Ddu gref'.

Mae yna gymaint o labeli sy’n cael eu rhoi i ddynion a merched duon heddiw oherwydd hiliaeth systemig. Yn aml, mae dynion duon yn cael eu labelu yn y cyfryngau fel ‘gwydn’, ‘crac’, ‘ymosodol’ a ‘throseddol’. Yn yr un modd, mae merched duon yn aml yn cael eu labelu fel ‘crac’, ‘swnllyd’, ‘sosi’ a ‘llac eu moesau’. Oherwydd y stereoteipiau negyddol y mae merched Duon yn eu hwynebu, os yw merch ddu yn cael ei dangos yn hapus ac yn hyderus, mae’n cael ei labelu’n ‘wraig Ddu gref’ neu’n ‘wraig Ddu annibynnol’.

O ganlyniad i’r stereoteipiau, rwyf i fy hunan wedi cael mwy o drafferth i fod yn agored ynghylch fy mrwydrau gyda'm hiechyd meddwl. Roedd rhai unigolion roeddwn i wedi bod yn agored iddyn nhw ar y pryd yn amlwg heb arfer â gweld person Du mor fregus. Pan oeddwn i’n bod yn agored gyda’m ffrindiau Du a rhai nad oedden nhw’n Ddu, roedd yr ymateb yn gymysg.

Roeddwn i’m teimlo eu bod yn meddwl mai fi oedd y broblem.

Yn aml, roeddwn i’m teimlo eu bod yn meddwl mai fi oedd y broblem. Roedden nhw’n dweud y dylwn i reoli fy nicter pan nad oeddwn i’n gwneud dim ond ceisio dangos sut roeddwn yn teimlo. Roedd y rhain yn dweud y dylwn i fynychu mwy o weithgareddau crefyddol ac i gadw’n gryf yn fy ffydd. Nid yn unig roedd yr ymatebion hyn yn gwneud fy nheimladau’n annilys ond roedd hefyd yn eu bychanu yn y tymor hir wrth i mi ddechrau chwilio am gymorth gyda’m brwydrau iechyd meddwl.

Roeddwn i’n brwydro gyda gor-bryder a phroblemau cysylltiedig â stres. Mae mynd i ysgol newydd, gwneud ffrindiau, problemau gartref a chael eich bwlio, yn gallu llenwi unrhyw berson ifanc â phryder. Fodd bynnag, i mi’n bersonol, rwy’n credu taw gwreiddyn fy mhryder a’m stres oedd hiliaeth. Roedd hynny’n cael ei gymhlethu gan y profiad o ficroymosodiadau yn yr ysgol a’r brifysgol.

Roeddwn i’n swil ac yn fewnblyg tan i mi gyrraedd tua deuddeg mlwydd oed. Yn ystod fy nghyfnod o’r ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd, rwy’n cofio'n  iawn athrawon Gwyn yr ysgol yn cyhuddo disgyblion Du fel fi o godi twrw, hyd yn oed pan nad oedden ni’n gwneud unrhyw beth o’i le. Cefais fy nghyhuddo o fod yn fwli gan rai o’r athrawon a myfyrwyr Gwyn oherwydd fy mod yn ymddangos yn 'grac' ac yn 'ddigywilydd' pan fyddwn i ond o dan straen neu wedi blino.

Er bod fy nghyfoedion yn y dosbarth yn pigo arna i o oedran cynnar, fi oedd yr un oedd yn cael ei labelu fel ‘codwr twrw' gan y myfyrwyr a’r athrawon Gwyn fel ei gilydd. Achosodd hynny i mi ddatblygu problemau methu ymddiried mewn ffigyrau mewn awdurdod.  Roeddwn i’n  teimlo na fyddwn i’n cael gwrandawiad gan yr union bobl a oedd i fod i'm hamddiffyn a'm gwarchod. Roedd yr anallu i ymddiried mewn eraill yn parhau wrth i mi fynd yn hŷn. Er gwaethaf tyfu o’m cragen a dod yn dawel hyderus yn fy arddegau, roedd y microymosoadiau yr oeddwn yn eu hwynebu yn yr ysgol yn achosi i'm pryder fynd yn waeth. Roedd yna raniad clir gydol fy amser yn yr ysgol o ran sut yr oeddwn yn cael fy ngweld gan rai athrawon Gwyn a rhai athrawon Du. Pe byddwn i’n perfformio’n dda mewn arholiad, byddwn yn derbyn clod ac yn cael fy annog gan athro Du tra byddai athro Gwyn yn ymateb gyda sioc a dryswch.

Roedd yr ymateb diwethaf hwnnw yn achosi mwy o stres, i mi weithiau gymaint fel y byddwn yn anghofio bwyta neu anadlu. Roeddwn i’n teimlo fel petawn i’n gorfod gweithio hyd yn oed yn galetach i gael fy nghydnabod fel myfyriwr da. Yn y pendraw, aeth fy mhryder yn ddigwyddiadau afreolus o lewygu, seicosis a phroblemau bwyta roeddwn i wedi bod yn eu dioddef cyn ac yn ystod fy amser yn y brifysgol. Yn ffodus, rwy'n credu fy mod i wedi gwella o'r rhan fwyaf o'r hiliaeth a microymosodiadau o’m plentyndod ac fel person ifanc yn ei harddegau. Erbyn hyn rwy’n fwy hyderus cymdeithasol ac egnïol ac yn berson sy’n gallu rheoli ei phryder. Oherwydd fy mhrofiadau gyda hiliaeth yn y gorffennol, rwy'n teimlo’r dyddiau hyn fod yn rhaid i mi ymateb pan wyf yn cael fy mychanu a galw allan unrhyw un sy'n hiliol tuag ataf, gan gynnwys y rhai mewn awdurdod.

Ers hynny, rwy’n teimlo tosturi dros y rhai nad ydyn nhw’n deall fy mhrofiadau'n iawn, na'r microymosodiadau a'r stigma rwyf wedi'u hwynebu. Rwy’n sylweddoli nad pawb sy’n deall nac yn gallu cael triniaeth iechyd meddwl ac nad pawb sydd wedi’u haddysgu’n llawn ynghylch y broblem o hiliaeth systemig oherwydd ei fod bron yn reddfol yn ein cymdeithas.  Rwyf hefyd mewn lle gwell yn feddyliol ac yn emosiynol oherwydd fy mod wedi canfod ffyrdd o ymdopi gyda rhai o’r caledi rwyf wedi’i brofi, fel gwraig o liw, gyda fy iechyd meddwl.

Gwella o’r trawma

Rwyf wedi cael therapydd Du i mi fy hun, sy’n deall y caledi mae pobl Dduon yn ei ddioddef o ddydd i ddydd. Bum mewn cyfarfod grŵp YPOC (Young People of Colour [Pobl Ifanc o Liw]) sy’n cynnig cefnogaeth cymdeithasol ac emosiynol ac sy’n siarad yn agored am eu profiadau o hiliaeth ac iechyd meddwl. Erbyn hyn, rwy’n ysgrifennu fy mlog fy hunan o’r enw ‘The Essence of Being Me’ ble rwy’n sôn am sut rwyf wedi gwella o’r trawma o dyfu i fyny fel person Du.

Rwyf hefyd yn siarad gyda ffrindiau Du a Gwyn sy’n deall y brwydrau ac sy’n fodlon addysgu eu hunain am hiliaeth systemig ac rwy'n ysgrifennu caneuon fel ffurf o ryddhad i drawsnewid fy mhrofiadau'n rhywbeth hardd.

Gallaf reoli sut i gymryd fy nerth yn ôl trwy amgylchynu fy hun gyda phobl rwy’n eu caru.

Rwyf wedi sylweddoli na allaf reoli beth sy’n mynd ymlaen yn y byd na sut mae pawb yn meddwl am broblemau iechyd meddwl Ond fe allaf reoli sut i gymryd fy nerth yn ôl trwy amgylchynu fy hun gyda phobl rwy’n eu caru ac wrth ddefnyddio fy noniau i ateb y problemau sy’n bwysig i mi mewn modd pendant a hardd.

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig