Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut y gwnaeth hunangymorth â chefnogaeth fy helpu i adennill fy hyder

Dydd Gwener, 08 Medi 2023 Lauren

Mae Lauren, o Aberhonddu, yn blogio am sut y gwnaeth hunangymorth â chefnogaeth ei galluogi i adennill ei hyder wrth astudio yn y brifysgol oddi cartref.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Pan gefais hunangymorth â chefnogaeth drwy Mind Aberhonddu i ddechrau, roedd fy iechyd meddwl ar ei waethaf ac roeddwn i’n ei chael hi’n anodd bod yn ddigon dewr i ofyn i rywun am gymorth, yn ogystal â siarad am fy mhroblemau.

Gan fy mod yn y brifysgol ar y pryd, roedd bod ymhell o gartref yn her ac roedd delio â chyfnod anodd o ran fy iechyd meddwl yn gwneud tasgau eraill fel astudio, cymdeithasu, a bod yn fi fy hun yn anodd.

Rwy’n ffodus o gael rhiant sy’n gweithio i Mind a oedd yn gallu fy nghyfeirio at yr opsiwn gorau i fi a fy iechyd ar y pryd. Roedd hyn yn gymorth mawr i fi gan nad ydw i’n hyderus yn gofyn am help gan ‘ddieithryn’ fy hun. Rydw i hefyd yn gwybod am wasanaethau hunangymorth drwy siarad â ffrindiau eraill, aelodau o’r teulu a ffynonellau gwybodaeth eraill.

Roeddwn i’n ansicr ai dyma’r llwybr gorau i fi ar y dechrau, ond yn fuan iawn fe wnes i ganfod y byddai meithrin ymddiriedaeth gyda fy ymarferydd a dilyn y camau tuag at well iechyd meddwl yn cymryd amser ac ymarfer. Fe wnes i oresgyn y teimlad cychwynnol hwn a sylweddoli fy mod yn teimlo rhyddhad a theimlo’n ysgafnach, gan wybod fy mod i’n gallu siarad yn gyfrinachol â rhywun.

"Roedd hunangymorth â chefnogaeth wedi helpu fy iechyd meddwl, ond roeddwn hefyd yn teimlo fy mod yn dod yn iachach yn gorfforol."

Roeddwn i’n cyd-dynnu’n dda iawn â fy ymarferydd. Roedd hi’n gyfeillgar, yn agos-atoch, yn garedig ac yn ofalgar – ac wedi llwyddo i gyfleu hynny dros y ffôn! Daeth hi’n fwy fel ffrind, a chefais gysur wrth siarad â hi bob wythnos.

Fe wnes i ddewis y llwybr gorbryder, ond gan droi at rai agweddau eraill hefyd.

Roedd hunangymorth â chefnogaeth wedi helpu fy iechyd meddwl, ond roeddwn hefyd yn teimlo fy mod yn dod yn iachach yn gorfforol. Roedd y camau nes i eu cymryd drwy’r sesiynau wedi helpu ar y pryd, ond rwyf hefyd wedi gallu eu haddasu a’u defnyddio yn fy mywyd bob dydd – hyd yn oed nawr, ddwy flynedd yn ddiweddarach. Mae’r technegau sy’n cael eu dysgu yn amlbwrpas ac yn cael eu darparu mewn ffordd galonogol.

Newidiodd fy mhrofiad yn y brifysgol yn sylweddol ar ôl cael hunangymorth â chefnogaeth. Cyn hynny, yn fy mlwyddyn gyntaf, roeddwn i’n unig, yn bryderus, yn ddigalon ac yn isel fy ysbryd. Prin oeddwn i’n gadael fy ystafell, roeddwn i’n osgoi’r rhan fwyaf o sefyllfaoedd cymdeithasol ac yn ymbellhau oddi wrth fy ffrindiau gartref oherwydd fy mod yn teimlo nad oedd croeso i mi ac fy mod yn cael fy ngadael allan. Ar ôl cael hunangymorth, fe ddes i’n fwy hyderus yn cwrdd â phobl newydd a hyd yn oed ymuno â’r pwyllgor ar Glwb Criced Merched y Brifysgol. Rydw i bellach yn gapten tîm ac yn is-lywydd eleni. Rwy’n credu bod hyn yn adlewyrchu’r manteision a roddodd hunangymorth â chefnogaeth i fi. Rydw i’n dal i ddefnyddio’r adnoddau, yn enwedig y pecyn cymorth Iechyd Meddwl – rhestr o bethau rydw i’n gwybod sydd am wneud i fi deimlo’n well.

"Byddwn yn argymell hunangymorth â chefnogaeth i unrhyw un sydd angen hyd yn oed ychydig bach o gefnogaeth neu sydd am siarad â rhywun."

Mae fy iechyd meddwl nawr llawer gwell, er mod i’n cael rhai diwrnodau neu wythnosau nad ydw i cystal, ond mae’r wybodaeth mae’r ymarferydd wedi’i rhoi i fi yn golygu y gallaf gamu’n ôl, edrych ar y sefyllfa a gweld beth ydy'r dechneg orau i fy helpu. Es i ar gyffuriau gwrthiselder ar yr un pryd â chael hunangymorth â chefnogaeth, ac er eu bod nhw wedi fy helpu yn y tymor byr, rwy’n siŵr y bydd y technegau a’r awgrymiadau’n aros gyda fi am byth. 

Byddwn yn argymell hunangymorth â chefnogaeth i unrhyw un sydd angen hyd yn oed ychydig bach o gefnogaeth neu sydd am siarad â rhywun.

Roedd y teimlad o gael bwrw fy mol, a chael safbwynt rhywun arall yn galonogol ac yn help mawr i fi. Rwy’n parhau i fod yn aelod ac yn wirfoddolwr gyda Mind Aberhonddu, ac ni fyddwn mor hyderus, dewr na chymdeithasol heb y rhaglen hon.

Rhaglen chwe wythnos dan arweiniad yw hunangymorth â chefnogaeth. Rydyn ni’n darparu adnoddau i’ch helpu chi i ddeall a rheoli eich teimladau. Rydyn ni hefyd yn eich ffonio chi’n rheolaidd i roi cefnogaeth i chi.

Rhagor o wybodaeth

Related Topics

Get involved

There are lots of different ways that you can support us. We're a charity and we couldn't continue our work without your help.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig