Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut mae Ochr-yn-Ochr Cymru wedi fy nerthu fel arweinydd cymorth gan gymheiriaid

Dydd Gwener, 21 Mai 2021 Bethanie

Bethanie, o Bowys, yn blogio ynghylch ei phrofiadau wrth ddod yn arweinydd cymorth gan gymheiriaid drwy Ochr-yn-Ochr Cymru.

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Fy nghysylltiad cyntaf i gyda Mind oedd pan oeddwn i’n dioddef problemau iechyd meddwl ar ôl geni fy ail blentyn.  

Fe ymunais i â chwrs o’r enw Mums Matter, oedd yn canolbwyntio ar iechyd meddwl o amgylch geni, ac yna ymuno â grŵp cymorth gan gymheiriaid i gefnogi mamau oedd wedi bod ar y cwrs.  Dyna pryd roedden ni’n sylweddoli fod angen grŵp cefnogi arbenigol a phersonol, ar gyfer rhieni plant gydag anghenion ychwanegol (neu, fel rydw i'n eu galw nhw, Rhieni 2.0!) fel fi fy hunan – mae gen i blentyn gydag awstistiaeth ac anghenion eraill.

Mae yna lawer o broblemau a thrafferthion unigryw yn codi o fod yn rhiant plentyn gydag anghenion ychwanegol, dyna pam y penderfynais i ymuno ag Ochr-yn-Ochr Cymru.  Rhaglen oedd Ochr-yn-Ochr Cymru yn cael ei darparu gan Mind ledled Cymru, oedd yn rhoi mwy a gwell cefnogaeth gan gyfeillion cefnogol yn y gymuned.  Roedd yn nerthu aelodau i ddod yn arweinwyr a rheoli grwpiau cymorth gan gymheiriaid ac yn rhoi arian i wneud yn siŵr bod modd talu am gyflenwadau, llogi lle ac yn y blaen.  

Rhoddodd y cwrs yr hyder, yr arian a'r cysylltiadau i mi sefydlu a rhedeg grŵp ond hefyd rhoddodd i mi rwydwaith o bobl gydymdeimladol, pob un yn cefnogi'r naill a'r llall, fel nad oedd raid i mi ysgwyddo trafferthion pawb arall yn ogystal â'm rhai i fy hun.  Sicrhaodd Ochr-yn-Ochr fy mod yn ymwybodol o'r canllawiau proffesiynol ar gyfer creu lle diogel i mi fy hunan a phobl eraill, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch diogelu fel y gallwn gadw'r bobl roeddwn i'n eu cefnogi rhag cael niwed.  

Hefyd, roedd yr arian yn sylfaen gadarn i ni ganfod a thalu am le nes ein bod ni'n gallu codi arian ein hunain, ac roedd y cysylltiadau a'r rhwydwaith a ddaeth trwy Ochr-yn-Ochr yn fy helpu i gyfeirio pobl at gefnogaeth ychwanegol na allai’r grŵp ei roi iddyn nhw.  Mae hyn yn rhan hanfodol o’n gwaith, yn aml rydyn ni’n grŵp cefnogi ac yn adnodd ar gyfer gwybodaeth bellach.  

Heb Ochr-yn-Ochr, nid yn unig ni fyddai ein grŵp yn bodoli, ond fyddwn i ddim yn gallu ei arwain chwaith. 

Mae ein grŵp cymorth gan gymheiriaid yn cadw pobl yn iawn ac yn rhoi gwybodaeth a chefnogaeth werthfawr ynghylch magu plant gydag anghenion ychwanegol.  Yn sicr, fe fyddwn i’n dioddef heb y grŵp, mae’n achubiaeth i mi a’r bobl eraill sydd ynddo.  

Yn y maes hwn o iechyd meddwl, yn sicr mae yna ddiffyg cefnogaeth sy’n mynd ymhellach na phobl yn rhoi pentwr o daflenni i chi: mae’r rhain yn bobl go iawn gyda sefyllfaoedd bywyd go iawn i'w rhannu a’u dysgu, gydag enghreifftiau go iawn o sut i gadw’n iawn.  Pobl yw ein hasedau mwyaf gwerthfawr, ac mae canfod cymuned o bobl o’r un feddylfryd yn gwneud gwyrthiau i’n hiechyd meddwl, yn enwedig cyrraedd rhagor o bobl a chael gwared ar y stigma sydd o amgylch iechyd meddwl.  

 

Mae Bethanie yn fam brysur i ddau o blant sydd wrth ei bod yn cael paned o de poeth a chydig bach o lonydd.

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig